Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
AT Y PAROH. D. DAVIES, ONLLWYN.
AT Y PAROH. D. DAVIES, ONLLWYN. Svr,—Qalwodd un o'ch diaconiaid, os da y cofiwyf, yn gynar yn y gwanwyn diwedd- af, i ofyn fv ewyllys da tuag at ddileu dyled y capel. Rhoddais i'r drysorfa, ac addawodd yntau y cawewn weled fy enw a'r swm ar y GWLADGARWB. Ni chyflawnodd ei addewid. Pa beth ywr achos? Bu ereill yn casglu at yr un capel, ac yn addaw i'r enwau gael ym- ddangos yn y GWLADGARWR. Gair o eglur- had, os gwelwch yn dda. YSTRADFELLTWR.
Llofruddiaeth Cwmaman
Llofruddiaeth Cwmaman Dydd Mawrth diweddaf dygwyd ypump person oedd wedi cael eu cymeryd i fyny ar y cyhudddiad o fod a llaw yn llofrudd- iaeth Richard Ellis, yn Cwmaman, ar y 18fed o'r mis diweddaf, o flaen yr yrtadon, a'r tro hwn am v tro olaf. Eu henwau oeddynt Morgan Davies (Mockin o'r Felin), Morgan Richards (Mockin v Cart), John Lewis, Thomas Jenkins, a William Evans. Cafodd cryn lawer o dystion eu holi, ond ni thaflwyd ond ychydig mwy o oleuni ar y pwnc. Modd bynag, cafodd y carcharor "William Evans ei ryddhau, a throsglwydd- wyd y pedwar eraill i sefyll eu prawf dan y cyhuddiad o lofruddiaeth wirfoddol yn y Sesiwn nesaf.
TANCHWA YN ABERDAP.
TANCHWA YN ABERDAP. PEDWAR 0 BERSONAU WEDI EU LLADD. Am oddeutu dau o'r gloch boreu dydd Sadwrn diweddaf, yn nglofa Abercwmboy, perthynol i Mri Davis, yr hon lofa sydd ar y ffordd rhwng Aberdar a Mountain Ash, cymer- odd tanchwa Ie, trwy yr hou y collodd pedwar eu bywydau.. Y mae yn ymddangos fod tanwr y nos ac ereill wrth y gorchwyl o geisio gwar- edu y lofa o'r nwy ymgasgledig, y rhai hefyd a anfon&sant am gynoithwy un neu ddau ereill ag oedd yn eu cartrefi, y rhai a gollasant eu bywydau mewn ychydig fynydau wedi myned i'r lofa. Cymerodd y danchwa le yn No. 2 heading, yn y glo pedair. Trwy fod eymaint o wahanol chwedleuon yn cael eu taenu, y mae yn anh&wdd deall gyda sicrwydd pa fodd y cymerodd Ie, ac feallai y bydd iddo barhau i raddau yn dywyllwch, fel damweini&u blaen- orol o'r un natur, a hyny am fod y personau hollol hysbys o'r achos wedi eu lladd. Y mae jn sicr fod lluaws o'r damweiniau hyn yn cymeryd lie trwy esgeulusdra a diffyg gofal piiodol ar ran y gweithwyr. Enwau y rhai a gollasant eu bywydau oeddynt James Davies, 31 oed, yn gadael gweddw a phedwaro am- ddifaid ar ei ol; John Howells, 33 oed, gweddw a dau o blant; Thomas Evans, 25 oed, gweddw a dau o blant; a John Lloyd, dyn ieuanc. Prydcawn dydd Sadwrn diweddaf, agorwyd y cvdchwil o flaen Mr. George Overton, yn y Boot Hotel, Aberdar. Wedi gwneud yehydig sylwadau eglurhaol ar natur yr ymchwiliad, aethpwyd i Capcoch, lie yr oedd tri o'r cyrff. Yr oedd y cyiff wedi eu llcsgi a'u darnio i'r fath raddau fel yr oeddid yn gorfod eu rhwymo mewn sachau i'w cadw yn nghyd, ac nis gellid eu hadnabod ond wrth ranau o'u gwisgoedd. Wedi dychwelyd gohiriwyd y cydchwil hyd ddydd Meicher, y 26ain cyfisol, er cyfleusdra Mr. Waks, Inspector y Llywodraeth. Cafodd pedwar ereill eu niweidio, ond y mae gobeithion da am adferiad tri o honynt, tra y mae cryn amheuaeth o baithed y ped- werydd, sef Henry Ginger Jones, Cwmaman.
TANCHWA ANGEUOL ARALL.
TANCHWA ANGEUOL ARALL. Cymerodd tanchwa arall hefyd le ddydd Sadwrn, mewn glofa yn Howebrldge, ger Bolton, yr hon a berthyna i Mri. Fletcher. Lladdwyd un drwy v danchwa hon, a niweid- iwyd dau ereill yn fawr. Bernir fod y dan- chwa hon wedi cymeryd lie o herwydd diffyg awyziad.
UNDEB Y GLOWYR.
UNDEB Y GLOWYR. Yn y New York, Americafach, Poith, Medi 26, daeth yn nghyd gynrychiolwyr o bob cyf- rinfa, er ymdrafod a materion yr undeb, a chafwyd un o'r eyfarfodydd goreu, ac ystyried ei rif, ag y bum ynddo erioed—pob un yn ymdrechu ar ei eithaf am y ffordd oren er cael ei gydweithwyr i'r umdeb. Yr ydym yn belchlo fod eymaint wedi uno yn barod, ac y mae yn cynyddu mewn rhif bob mis; ond nid yw y nifer yr hyn ag y dylai fod o lawer, eithr ihaid arfer doethineb a phwyll, a dylanwadu ac ymresymu yn deg, a thrwy ddangos natur undeb a'r lies deilliedig o fod- yn undebwyr. Nid ydym yn foddlawn gweled gweithiau mawrion fel y Great Weatem yn cadw draw oddiwrth beth mor llesioL Cofied y cyfryw fiodyr nad yn y gweithiau y maent yn awr y byddant byth, ond y bydd yn rhaid iddynt did yn mysg gweithwyr mewn manau ereill. Mm Uawer o honynt hefyd yn codi plant; St** y cyfryw adael y byd yn well I>yna y eyfatfod mawr afu ar Donypandy 1—mid oedd an o honynt yn breeenol, a diofier *jfod alarad mawr yn irawydd eu hymddygiad. Shaid eyfaddef fod eystal bechgyn yn r lle- ^edd hyii ag a fix mewn nn man erioed'; ond lvs.i± i. y mae yna rai o ddosbarth arall, nad oes dim i'w wneud o honynt ond eu gadael ar ol. Cofier am y pendeifyniad, nad ydym fel un- debwyr i glirio cwympiadau, tori pwcins, &c., am ddim. Gormod o waith am ddim sydd wedi bod o lawer gyda ni fel glowyr. Cofiwn mai y meistri sydd i lanhau ein heolydd, ac nid y glowyr am ddim. Terfynaf yn awr, gan ddymuno llwyddiant i'r undeb yn y dyfodol. GOHEBYDD.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. PARIS A'I HAMGYLCHOEDD. Y mae y Germatiiaid yn slarad yn awr yn gyffredin am dreulio y Nadolig yn nghymyd- ogaeth Paris, ac i adael i arnser ymladd drcstynt. Y maent hefyd yn parhau i gryf- hau eu hunain o amgylch y dddnas, 89 y mae pob math o ynau yn parhau i gyraedd yno y naill ddiwrnod ar ol y llalL Yn Tours, ddydd Sadwm diweddaf, mewn cyhoeddiad o eiddo M. Gambetta, Gweinidog yr Interior, dywedai fod yn Paris 400,000 o National Guards, 100,000 o Mobiles, a 60,000 o gatrodau rheolaidd, a'r rhai hyny oil dan arfau. Fod yr haiarn-weithfeydd yn brysur gwneud magnelau, a'r menywod yn gwneud coAtridges yn ol miliwn y dydd. Fod gan y National Guards ddau mitrailleuses am bob adran-neu 1,500 yn yr oil. Dywed hefyd fod tin yr amddiffynfeydd wedi atal y gelyn hyd yn hyn i sefydlu y gwrthsaflo lleiaf. Fod o amgylch y ddinas yn awr 3,800 o fag- nelau, a 1,420,000 o ergydion wedi eu parotol iddynt, a'i bod yn anorchfygol. Ni fydd i'r hysbysiadau hyn effeithio unrhyw rhyfeddod yn ngolwg neb, canss y mae eu ey&lyb wedi eii cael amryw droion o'r blae'n. Deallir yn gyffredin fod M. Gambetta wedi gadael Paris er trefnu moidion i ryddhau y ddinas, er nad ellir gweled yn iawn pa fodd y mae yr hyn a hysbysa efe yn rheewm dros ffurfio gallu milwroL Yn ol yr hyn a ddengys ef, y mae byddin Paris—500,000 o wyr-yn gymaint arall o rif ag eiddo y gwarchaewyr, a'r gallu hwnw hefyd wedi eu gosod yn ganolog, fel y gall daraw ar unrhyw ran o allu y gwarchae- wyr, y rhai sydd wedi eu gwasgaru dros ddeu- gain milldir o amgylchedd. Pa eisiau cynoithwy allanol sydd ar fyddin o'r fath hon ?
BRWYDR YN NGHYMYDOGAETH PARIS.
BRWYDR YN NGHYMYDOGAETH PARIS. Yr ydym yn cael fod gwrthdarawiad wedi cymeryd lie rhwng y Prwsiaid a milwyr rhe- olaidd Ffrainc yn y Vosges ddydd Iau diwedd af. ychydig filldiroedd yn ddwyreiniol i Epi- naL Parhaodd yr ymladd drwy y dydd. Dywedir gan y carcharorion Ffrengig a gy- merwyd fod nifer y gallu ymosodol yn oddeutu 14,000, tra nad oedd y GermaDiaid ond rhyw 7,000. Yr oedd y Ffrancod dan y Cadfridog Ptthevin, yr hwn oedd wedi dyfod i fyny o'r deau; y Germaniaid oeddynt Badeniaid. Y mae yn ymddangos i'r Ffrancod ymladd a'u hen wroldeb, ond terfynodd o du y German- iaid, y rhai a gymerasant 60 o swyddogion a 600 o gaTcharorion anghlwyfedig. Colled y Germaniaid oeddynt 20 0 swyddogion, 410 0 ddynion rhwng lladd a chlwyfo, tra yr oedd eiddo y Ffrancod yn gymaint dair gwaith.
YSTORFA YMBORTH PARIS.
YSTORFA YMBORTH PARIS. Dywedai y Llywodraeth ryw dair wythnos yn ol fod yn Paris y pryd hwnw ddigon o ymborth am ddau fis i boblogaeth o ddwy fil- iwn. Cyfrifir, nad oes yno dros 1,500,000 o gegau i'w porthi, ac felly, gyda gofal, dichon y gall yr ymborth bara am dri mis. Modd bynag, yr ydym yn cael fod prisoedd ymborth yn dechreu codi eisioes. Y mae yn wir fod "pris gwerthu" bara a chig wedi cael ei nodi, ond er gorfodi y gweithydd i gadw at y pris hwnw, y mae yn angenrheidiol i ddyn fyned bob amser a rhyw swyddog gwladol gydag ef at y masnachwr, yr hyn fyddai yn gryn dra- fferth. Y mae rhai o'r newyddiaduron yn cyhoeddi y pris ag y mae cig ceffylau i'w werthu am dano, a dywed un gohebydd, os bydd i'r gwarchaeaeth barhau yn ddigon hir y rhoddir pris ar gig cwn, cathod a Uygod.
COUNT BISMARCK A DYFODOL .PARIS.
COUNT BISMARCK A DYFODOL PARIS. Y mae Count Bismarck, yn rhagweled syrthiad Paris, yn ymddangos yn awyddus iawn i ymryddhau o gyfrifoldeb tynged y boblogaeth ar ddiwedd y gwarchaeaeth. Mewn cylchlythyr sydd weci cael ei anfon at amryw Lywodraethau, y mae yn cael ei gymeryd fel ffaith ddiamheuol y bydd i bxifddinas Ffraine, :vn hwyr neu hwyrach, syrthio i ddwylaw y fyddin Germanaidd, ac y mae yr yetyriaeth yn cael ei ddirwasgu, os bydd i adeg ei syrth- iad gael ei ohirio hyd nes y byddo y ddinas wedi cael ei newynu i fyny, fod yn rhaid y bydd y canlyniadau yn druenus. Mewn am- gylchiad o'r fath, byddai yn anmhosibl i'r Cadfridogion Germanaidd barotoi ymborth digonol i boblogaeth o ddwy filiwn am un diwraod. Hefyd, nls gellir eyfrlf am ymborth yn nghymydogaeth Parts, am fod y ewbl yno yn cael ei gasglu all ddefnyddio gan y byddin- oedd Gennanaidd. Yn ngwyneb hyn, pan na fydd ymborth i'w gael mewn. diwrnodau o daith i Paris, y mae yn rhaid y bydd i ganoedd o filoedd farw o newyn. Yr hyn y myn y cyichlythyr eiddysgudebygid, ydyw, gan nad oes dim i'w wneud gan y Cadfridogion Ger- manaidd ond cario y rhyfel yn JJflaeD, y bydd y cyfrifoldeb yn gyfangwbl ar y rhai hyny mewn llywodraeth yn Paris os bydd i rywbeth o'r fath gymeryd lie. i.Kr,
BYDDIN LYONS. : * '
BYDDIN LYONS. Yn Lyons yr ydym yn cael fod j fyddin sydd i ryddhau Bazalne o Metz, a'r hon wedi hyny sydd i fyned rhagddi gydag ef i rydd- hau Paris. Ondymaeyrhaihynganmwyaf yn ieuanc ac anmhrofiadol o fywyd milwrol, T ¡;
YMLADDFA 0 FLAEN METZ.
YMLADDFA 0 FLAEN METZ. Rhydd llythyr o Ars-sur-Moselle, dyddiedig y 7fed, hanes brwydr a gymerodd le o flaen Metz ar y diwrnod hwn. Bu ymdrechfa galed rhwng y Ffrancod ar Germaniaid am J hai oriau. Oymerwyd amryw garcharorion Ffrengig yn ystod y dydd, y rhai a dystiant yn ucfrydol fod byddin Bazaine wedi myned mor anfoddog yn eu sefyllfa fel yr oedd yn anmhosibl bron eu llywodraethu. Y mae y rhuthrgyrch hwn yn cael ei ddes- grifio fel wedi c&el ei wneud gan holl allu yr amddiffynlu, fel y rhaid fod y gwarchaewyr wedi effeithio enciliad rhyw 70,000 neu 80,000 o wyr. Ni wnawd ymosodiad cyffelyb er yr 31ain o Awet, pryd y gwnaeth Bazaine ei ym- drech fawreddog i dori trwodd, tra yr oedd MacMahon yn brysur gyda'r Tywysog Coronog o flaen Sedan. Gwnawd y rhuthrgyrch hwn fel arfer ar yr ochr ogleddol, yr hon ochr y barna Bazaine fydd yn fwyaf manteisiol iddo, yn y gobaith o allu ymgysylltu a Thionville, a chael angen- rheidiau oddiyno. Dywed un gohebydd fod Bazaine ar yr amgylchiad hwn wedi colli 2,500 o wyr, a'r Germaniaid oddeutu 600.
Y BYWYD MILWROL 0 FLAEN METZ.
Y BYWYD MILWROL 0 FLAEN METZ. Y canlyniad sydd ddyfyniad o lythyr cyfrin- achol oddiwrth Cadben Prwsiaidd o flaen Metz:—"Hydref 4ydd, yr ydwyf yn eithaf iach, er fod fy arcsiad yma ar ddaear laith yn fy adgoffa yn fynych o boen y rheumatism. Pa hyd y mae genym i aros yma, y nef ei hun a wyr. Y mae Goeben yn meddwl nad ydyw yn annhebyg na chawn dreulio ein Nadolig yma. Modd bynag. y mae y bywyd hwh yn hynod o ddyddorol, er y gall fod yn dra blinderus. Er gwatthaf yr holl saethu yr ydym wedi bod yn agored iddo, nid oes ond un o'm dynion i wedi ei glwyfo. Pointer prydferth (lulu) ydyw cymdeithydd ff/ddlonaf fy ngheffyl a minau. Yr ydym wedi ein ffafrio a thywydd rhagorol, cylla rhagorol ac ychydig i'w fwyta, syched mawr ac ychydig i'w yfed, dwylaw aflan a dim dwfr nac amser i ymolch, dim cwsg y nos a chysglyd y dydd, ond bob amser yn yr ysbryd goreu. Yr eiddoch byth, T. SP."
TAITH AWYRAWL ETO.
TAITH AWYRAWL ETO. Yr ydym yn cael fod M. Gambetta, Gwein- idog yr Interior, wedi dianc o Paris mewn awyren, yr hyn, y mae yn ymddangos, a gy- merodd le prydnawn dydd Gwener diweddaf, neu yn foreu dydd Sadwrn. Ymddangosodd yn gyntsf yn nghymydogaeth Amiens ar toreu dydd Sadwrn, a chyrhaeddodd i Rouen-yn y prydnawn, lie y cafodd dderbyniad brwdfryd- ig gan y boblogaeth a'r National Guard. Gwnaeth anerchiad yno, yn yr hon y ceisiai efe gan y dinasyddion i gymeryd llw i orchfygu y gelyn neu farw.
Y PRWSIAID YN ROUEN A VERNON.
Y PRWSIAID YN ROUEN A VERNON. Yr wythnos ddiweddaf, medd un goheb- ydd, yr oedd y Prwsiaid yn myned rhagddynt tua Rouen, yn dair adran, sef trwy Gisors, Gournay, a Vernon. Tua Gisors, bu ychydig o wrthdarawiad rhyngddynt a'r Mobiles a'r National Guards, ond ar yr ochr aswy i'r Seine, cawsant y cwbl eu ffordd eu hunain. Ar ddynesiad y Prwsiaid, anfonodd y Nation- al Guard cymydogaethol eu drylliau yn ol i Rouen. Anfonwyd catrodau yuo, ond gomedd- odd y trlgolion eu derbyn. Nid oes arnom eisiau y lie hwn wedi ei losgi i lawr, ac nid ydych yn allu digonol i yru y gelyn yn ol." Penderfynodd y swyddog milwrol llywyddol i chwythu y boat i fyny, ond erliaiwyd ei wyr gan y trigoliou, a phan y gwnawd y paro- toadau angeniheidiol er ei chwythu i fyny, aeth maer y dref ac oddeutu dwy fil o'r trigol- ion ar y bont, a beiddiasant ef i'w chwythu i fyny. 0 ganlyniad, enciliodd y catrodau yn ol i Gaillon, a chymerodd y Prwaiaid feddiant o Vernon heb danio ergyd. Pe buasai y llyw- odraeth wedi anfon gallu milwrol digonol er amddiffyniad i Vernon, nid oes amheuaeth na fuasai y bobl hyn yn profi eu hunain llawn mor wladgarol ag y buont o ddoeth.
GARIBALDI YN FFRAINC.
GARIBALDI YN FFRAINC. Y mae Garibaldi wedi llwyddo i gyrhaedd Ff. ainc. Cafodd yntau dderbyniad croesaw- gar yn Tours. Mae yn bygwth, nid yn unig yru y Germaniaid allan, ond hefyd erledig- aeth ryfelgar yn erbyn egwyddorion unben- aethol yn mhob man. Y mae ei hen glwyf, a dderbyniodd yn Aspromonte, yn ei analluogi i deithio. Y mae yn fwy na thebyg y bydd i'w bresenoldeb gynhyrfu y Ffrancod i fwy o frwdfrydedd gwladgarol. Pe buasai Garibaldi mor alluog i arwain byddinoedd rheolaidd ac y mae i gynhyrfu heidiau afreolaidd, buasai yn debyg o fod o ddefnydd mawr i Ffrainc yn y cyfnod presenoL Mewn anerchiad a dra- ddododd yn Tours, llefarai yn ddiamheuol am warediad y wlad o afael y gelyn Germanaidd. Dywedai hefyd mai efe oedd i fod yn brif ar- weinydd y llengoedd gwirfoddol. Y mae ychwaneg o ymladd yn cael ei hys- bysu. Dywed hysbysiad o Versailles, fod y Prwsiaid wedi enill buddugoliaeth drwyadl yn agos i Orleans. Ymosododd adran gy- mysgedig o fyddin Tywysog Coron Prwsia, ar adran o fyddin y Loire dydd Linn. Cymer- wyd mil o garcharorion a thri gwn, ac encil- iodd y Ffrancod yn nghanol yr annhrefn mwyaf. Y mae yn cael ei hysbysn fod y Prwsiaid wedi llosgi pentref Ablis, a hyny oherwydd fod y trigolion wedi rhoddi rhyw gynorthwy i'r Ffrancod. Pan y cafodd y Prwsiaid fedd- iant o'r pentref, cymerasant afael yn, a hf- gythiasant saethu yr awdurdodau trefoL Yr atebiad a gawsant ydoedd pe bnasent yn carlo en bygythlad allan, y saethasid nifer cyffelyb o garcharorion Prwsiaidd gan yr awdurdodau Ffrengig.
Advertising
KAYE'S WORSDELL'S PillS. A RE the most gentle, yet most effective aperients, and therefore better calculated for a family medicine than any other preparation, They always set the stooi aoh right, rouse the ilvsr, stimulate the kidneys, and thoroughly cleanse the whole system. Theae pilla are found very nsoful In chronic weakness of the stomach, Induced by lnruioue living, sedentary habits, or other causes. They have restored the emaciated to health after every other means had failed. While they are purifying, they are strengthening; while regu- lating they arc increasing nervoas and maseoias power. These Fills do net excite any violent aciioa in the body; hence they &re specially salted to the young and feeble, whose constitution may be ir- retrievably injured by more powerful mediclaok Sold by all Chemists and other D*alere in Patent Medi- nlnee, at Is, lid., 28. 9d., and 4a. 6d. WAoleaale Dtpot. 22. Broad-streot, London. Meddyginiaeth Newydd i Lynger PELENAU LLYNGYROL LLYSIEUOL KERNICK. I mae y Uythyr canlynol newydd gael ei dderbyn:— Pentrer Nelson, Pontypridd, EbriU 19, IS39. Anwyl Syr,-Daeth menyw i fy shop dvdd Meroher (11- weddaf, ao a brynodd beth o'r Peleniu Llyajyrol 1 ua o'r phl&nt, i'r hwn y rhoddodd ddau o'r; Peleni am y pum, boreu diweddaf, trwy yr hyn y cafodd y plentyn wared o dtlira llai na Phedwar Ug-ain o Lynger I Y mae at all hefyd olr maiut eyffredin; ne heblaw j rhat hyn, f mae wedi cael gwared o ddegau o Lynger man nad ydyat Tedi cael eu eyfrif, Y maent yn agos a Uanw i fyny botel 12 mudfedd o hyd a 15 modfedd o Mmgylahcdd. Y mae y petn mor hynod fel y meddyliais ei fod ya well eieh hysbysu o hoco. Enw tad y plentyn ydyw Edward Andrews, giowr o'r pentrff. Yr eidnoch, dbc., DANIEL MORGAN. Mr. Kernick. Dyfyniad o Lythyr oddiwrth Mr. Price, Grocer, Cefn, ger Merthyr, Medi 21), 1869. Cafodd plentyn W. Harris, Cefneoed, wared o 140 o Lynger mewn wythnos, tra yn cymeryd Blyohsid o'ch Pelenau Llyngyrol ohwi, ao y mae wedi (wella yn fitr o ran ti iechyd er hyny. Y mae Pelenau Llyngyrol Llysieuol Kentish yn cael eu gwerthu gan bob Ooruchwyliwr a wertkm Bdenau, mewn Blychau, Saith a Dimai, a Tair ve ddeg a Dimai yr un. IL-EWIN TMOMJJS, luphole- terer, &e. 4. Canon Street, Aberdar, A ddymuna hysbysn i'r cyhoedd yn gyffiredinol ei fo4 wedi agor. Tstorfa o Gelfi neu Ddodrefn Tai o bok aaath yn y lie nchod, He y gobeithia y bydd iddo dderbya syfran o gefnogaeth y cyheedd. Bydd stock helaeth o Gelil, o wneuthrriad cartrefo bob amser ar law, a'r rhai hyny o'r defnyddiau a'r gwmw thuriad goren. GXAKPETS AND FLOOR CLOTHS OF THK B*8* QUALITIES. Cyflawnir pob archeb gydalrgofalmwyaf. Cyfeiriad, —Le-wis Themas, 4, Canon Street, Aberdar. fiorncliwyliryr Trwyddedilr YlDfll.dlae&h. J. RICHARDS A W. LEWIS, (CYMRY,) (DIWBDDAR DAVID RICHARDS), Sefydkdig er'e trot ugain mlynedd. TY Y CYMRY. 85, UNION-STREE, GER YR EXCHANGE, LIVERPOOL. |3UM' mvnyd o lwybr o Orsaf yr Afon ac o Orsafau y Rheilffyrdd, lle y ceir Accom- modfttlon rhagorol 1 ymdeithwyr, ac yn enwedig i ymtadwyr, gyda'u bwrdd neu heb ea bwrdd, ar yr t atodm mwyaf rhesymol. Anogir y rhai fyddont am ymfudo i unrhyw barth .v'r byd, i ymholi a'r goruohwylwyr uchod cyn gadael eti c&rt1-el, a chant bob hyabysrwydd I¡,ofyn- edig gyda golwg ar bils y fordaith^ a dydillad cycSiwyniad yr ager-longan a'r hwyl longan, a'r reilffyrdd a'r agerfadaa, gyda dychwellad y Post, and Iddynt anfon stamp ceiniog yu en llythyr i'r address nchod. YSTOBVA BAD I'W HOLL GLUD. "D.3.,—Y mae J. Richards wrth dala dfiolch am y ddlrfavnr gefnogaeth a gafodd yn pk)d yr cgain mlynedd uchod, am hysbvau el bod wedi cytuno & Mr. Lewis, yr hwn sydd wedi bod am lawer o flynyddau yn America, ac felly yn gymwys i roddi pob cyfarwyddiadau aaghenrheidiol er roddi yr ymfudwyr ar y ffordd nesaf a rhataf i drafaeiu y wlad hono. Faroh. T. John, Ebenezer, Llanddelmiolea,. John Evans, Eglwys-Bach. D. OUver, Llanberis. « M. D. Jones, Bala. H. E. Thomas, Birkenhead. J. Thomas, Liverpool. «CUNARD ^ROYAL MAIL STEAMERS- 0 LIVERPOOL A QUEENSTOWN, I New York yn unionsyth, ac i Boston yn uniomyth, ao yn trosglwycldo Ymfudwyr i Portland a Quebec ar delerau New York. OOTI A CHINA TRIPOLI CUBA SIBERIA ABYSSINIA SAMARIA TARIFA ALGERIA ALEPPO JAVA BATAVIA PALMYRA HECLA NEMESIS RUSSIA MALTA PARTHIA Am brls y Clndlad, Jro., ymofyner a D. A G. Mac Iver, 1, Rumford-street, Liverpool; Wm Oaunt, Aberdar; E. C. Hurley, PorthcawL neu a E. C. HURLEY, 9, Bute Crescent, Docks, CARDIFF. D. S.—Gall Ymfudwyr, yn bookio gyda E. G. Hurley, a Chyf., neu D. Richards, 2, Ferry Side, Swansea, gael eu trosglwyddo a Gaedydd neu Newport i Queenstown am 88.. ate. i rai mewn oed. Plant, haner priø" Babanod yn rhydd. YN EISIAU. YN Swyddfa y QWLADGARWR, Aberdar. A EGWYDDORWAS at y gelfyddyd o Argraffa. Ymofyner yn nghylch yr amodau a T&. W. Lloyd, QWLADGARWR, Aberdar.
[No title]
-Davies, Ysarifenydd v Gyfrinfa, gyfrifon cywir a mtaicl o'i sefyllfa arianol, yr hon a fu unwaith bron a marw ond yn nghorff y flwyddyn 1866 7, a ail ymaflodd yn ei gwaith, nes y mae yn awr yn nn o'r Cyfrinfaoedd $»&liuoe*f yn nhalaeth Merthyr. Wrth ym- alael, cynygiwyd diolchgarwch v cyfarfod i'r swyddofiion, i'r cantoiion, yr adroddwyr, ac i'r Ficer. Ymadawodd pftwh yn brydlawn wedi eu Ilwyr foddloni-Mab Mis Mawrth.