Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
Rhyw adeg hi wnaeth rhwydo,a'i chariad, Gwych wron a Chymro Yn ddedwydd i freuddwydio Rho'wd y dyn pan rliwydwyd o. Dygwyd i'w weledigaeth-y feinir Sy'n Fyfanwy'n tiLJaeth; hwn eilun o ddynoiiaeth, Hon i'w serch a'i fynwes aeth. Yr oedd yn falch o'i f-reuddwyd,—yn y man, Cawn mai Llinos Cynwyd Oedd y fun Ion ddanfonwyd Iroi y Cymro mewn rhwyd. Rhwyd cariad, ni rhaid cewri-o loewddawn G'wlyddio fyned iddi; Mae'n addurn gwlad, rhodd rhad Rhi, Hon ddeil i'n dedwyddoli. Llinos a'n gwiwgall lenydd,—dywyswyd I'w d'wisol stad newydd; Y briodas a'r ddau brydydd-folwn, A'u hanes ledwn trwy'n cynes aelwydydcL o law ing, gwarclieidiol angel-o hyd A'u ceidw'n ddiogel; Ac fe ddaw a'r ddau'n dawel Pob dydd i faesydd o fel. Dod iddynt pob dedwyddyd,-Ior anwyl, A llwydd c'rona'u bywyd, Ac anfon hedd a gwynfyd rr ddau bert fel moroedd byd. CJgaf Biyn Awen. CENINFAB. Am Noah, dyma newyddd,—os geirwir, E'i clydir er clodydd, Ynys hon-yr hanes sydd-- 1'1' oror tudraw i'r Werydd. Higiaist y gymydogaeth ;-oer yw clec Gwyr clwb "hen lancyddiaeth Yn delwi mae'r holl frawdoliaeth Am ei fod o, 'r "Gwyllt Gymro" 'n gaeth. Hawri caddug yw bro "llancyddiaeth,"—collwyd Y callaf fel penaeth Hen deml serch gadd deimlo saeth Y Llinos ddwysgall unwaith. Canoedd heb Llinos Cynwyd-efo'r Gwyllt, Fu ar gwe, ond msthwyd Nid hela mwy, ond daliwyd- Yr hen r6g geir yn y rhwyd. Ond Lizi David Iwyswedd-a gwympodd 'R hen gampwr o'r diwedd llinos vw alllanw sedd Enwogwr bro unigedd. o fodd serch edafedd swyn,—wnaeth y Gwyllt 'N eithaf gwar ac addfwyn Yn daer bu'r fun yn dirwyn Iddal y llanc ar ddaii y llwyn. Elawn o swyn yw'r Llinos,—llawn o serch Llinos syw oreurliardd Dyna beth sy'n denu bardd, Hoff rhyfedd yw o'i phrif-fardd. Y lienor didwyll unwyd-a'i Linos, Pun lanaf a fagwyd- Yn y llan, gwyr penau llwyd, "N lIon ganant glych "Llangynwyd." Ehedeg ar naill aden—cawn Noah Cyn newid ei wybren Trodd yn haf yn ei ffurfafen, • Ei Efa yw ei wynfa wen, "Napoleon y L'erpwliaid- a faeddwyd Gan fyddin o weiniaid Yn. ddible hwn dr0.ld o blaid Y gwir enwog weriniaid. Banllefau meibion I leifiad,—ceir cannoedd Drwy'n siroedo yu siarad, Mor o hedd fo a mawrhad I'n gwron Gwyllt a'i gariad. Yn 6leu b'och byd heb niwlach,-tri deg Fo'n troedio llinach Y'Llinos fo'n magu llonach Heidieu byw o Wvlltiaid bach. Tteoifci. DEWI ARAUL. Mae hen arferion fyrdd Yn mhlith y pethau fu, Ond daw priodas er yn hen Bob dydd yn fwy ei bri Braidd un uwch ugain geir Heb briod yn ei '?;ol;— Rhywambell un fd fi fy hun Sy'n dygwydd bod ar ol. Fe flinodd Cymro Gwyllt Ar rwyfo'i gwcli ei hun," Mae gwedi "penderfynu'r peth Fod dau yn well nag un Fe welodd eneth deg; Dechreuodd siarad serch, A'r diwedd fu i'r Cymro gael. Ei ddala gan y ferch Rhodd fodrwy cariad pur 0 gylch ei monwes fad, A modrwy aur o gylch ei bys Er cadw dull y wlad. Paham mae aur mor brin A gwerthfawr ? Mi, nis gwn, Os nad am fod cymaint o hono'n myn'd I wneud modrwyau crwn. Cymro a'i Gvmraes, Dymunaf einioes faith, A doed cysuron goreu byd I'w hebrwng hyd y daith:- Mor ddidwyll boed eu serch, Mor ddifyr boed eu hynt, > Nes' gwneud i'r ddau edifarhau Na wnaed hwy'n un ynghynt. A\\eølar. RHYS ETNA JONES. Llonwas can a Llinos Cynwyd-gan swyn Gwin serch a gvsylltwyd LIon eu grudd heb Iludd llwyd, Neu oer alar i'w liaelwyd. Cabolwyd, naddwyd yr hen No'—'n wych faen o iach fynor trwyddo; Yn adeilad cariad, er co' Y byw erys heb wyro. KWKCI. BRITHYLL RIIONDDA. Wyryfon, abeirdd afrifed Y byd crwn sy'n adnabod cred, Cyd-ddyrchwn gref lef i'r Ian rr awyr, gan orhoian Hwre enfawr fel taranfyllt Am i'r gorenwog "Gymro Gwyllt" I syrthio ar fro deg fras, A dyddan, Cynwyd addas, 0 haddef hen lancyddiaeth, I did hen Gupid yn gaeth. Ceinion ein Llinos Cynwyd Pan welodd, rhedodd i'r rhwyd; IV rhwyd aethant-ni chodant chwaith o honi 'r ol disgyn unwaith, Hyd nes y daw llaw angau llwm, Ac elawr i dori'r cwlwm. Rhyfedd! 'r ol hir arofyn-ymuno A meinwen deg ddillyn, O'i wirfodd deuodd i "Wir amod yr aur rwymyn. Qoniant fo i chwi a Llinos-enwog, Na ddoed cyni'n agos Na foed cwmwl nifwl nos. Na chorwynt yn eich aros. • Affordd heb ddod i gyffyrddiaÍl-a dim1, Fo i chwi yn wastad lor anwyl, ar eu huniad, O! rho dy fendithion rhad. BRYHFAB. MAMCTEG.—Yn Llangynwyd, dydd Linn, y ICKed cyfisol, cafodd cawr mawr ei gwympo, cref fod wedi ymladd llawer brwydr yn ystod fvngflla mlynedd diweddaf ac wedl ysgrifenu tbmm ar y rhai sydd wedi gorfod xko^i en hnfin I fyny ond bellach y mae yntetrwedi at oatchlygti gan yr un gwrthddrych ag sydd vedi en dal nwythau, aefy rhyw deg. Y mae yatdiaid cyfaddef nad oes modd dianc. Y mae yn wir fod yr hen lanciau yn bur gyfrwys, ond yn eu tro yn cael eu dal, ac felly y mae gwrthddrych yr ysgrif bellach wedi uno a'r gymdeithas ydwyf yn aelod o honi er's llawer blwyddyn, a gallaf ei sicrhau mai hi ydyw y gymdeithas enwocaf yn y byd. Bydded iddo a'i gydmares lwyddiant yn y byd priodasol. Rhyfeddwch pan y dywedaf pwy ydyw y gwr uchod. Neb llai na'r Cymro Gwyllt-y gwron mawr oedd yn herio holl rhianod y byd wedi syrthio cyn deuddeg o'r gloch y lOfed o Hydref, 1870 Wel, dyna o'r diwedd, fe ddeuodd y pryd I tithau 'r hen Iencln gyfnewid dy fyd: Di fuost am dymor yn llercian gerllaw, O'r diwedd, d'est drosodd rhwng ofn a braw. *R o'em ni 'r ochr hon yn dy erfyn, fy ffrynd, A llawer yn dweyd "bod yn bryd i ti fyn'd A syndod yw hefy.d sut sefaist cyhyd Yn erbyn cymhellion boreuol dy fryd. Dangosaist wroldeb, a daliaist dy dir 0 blaid hen lancyddiaeth am amser hir-hir; Ond wele o'r diwedd rho'st arfau i lawr, Napoleon a thithau 'ych gaethion yn awr. Mae ef yn garcharor mewn palas cryf derch, A thitliau'n garcharor yn nghalon hardd ferch Gobeithio na ddeui o'th garchar nes bydd I angau ddod yna i'th ollwng yn rhydd. Ond goddef im' dynu fy ngeiriau yn ol, Nid ydwyt yn gaethwas, pam d'wedais mor ffol; Yn awr y'th waredwytl o'th wiail yn rhydd, Cei bellach ehedeg a chanu bob dydd. Disgleiried dy fywyd, rho brofion i'r byd Mai hyfryd yw uno dwy galon yn nghyd Boed wresog dy awen-tanbeidrwydd dy sel Dros Gymru fo'n amlwg i'r oesau a ddel. G. C.
[No title]
Y Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfleld, dymunir ar iddynt wneui un prawf o hono, a bod yn ofalus am ganlyn y cyfar wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneud na starches ereill, end pan y denir dros yr anhawsdra, dy- wedir fel (Jolchwragedd y Frenines, mai y Starch goreu a ddefnyddiwyd ydyw.
TERFYNIAD Y STIKE YN AMERICA.
TERFYNIAD Y STIKE YN AMERICA. St. Clair, Pa., America. Mr. Gol.)-Dymunaf am i amynedd gael ei pherffaith waith ^enych y tro hwn yn unig. Dichon fod eich gofod yn brin y dyddiau hyn yn herwydd y rhyfel waedlyd sydd yn bodoli y dyddiau presenol rhwng Ffrainc a Prwsia. Hyn hefyd ydyw prif destyn y dydd yn holl bapyrau y wlad hon. Ond yn gymaint ag i mi ysgrifenu hanes y strike i un o'ch rhifynau diweddaf, beroais mai teg fyddai i mi eto gy- hoeddi ei gorpheniad. Gall yr hyn a ganlyn fod yn falm i glwyf canoedd o ddarllenwyr y GwLADGARWR; ac yn gysur i lawer un yn ei drallod. Yr ydym gyda llawenydd yn eich hysbysu fod y cwmwl dudew fu yn gordoi Scuylkill County, a'r swyddi cylchynol, wedi clirio i ffwrdd, a gwawr oleu yn gwenu arnom un- waith yn rhagor. Yr ydym wedi colli tua 7 mis, "heb fawr o waith wedi ei wneud gan neb, oddieithr ychydig yma ac acw gan hwn a'r llall, ar y repairs; ond erbyn heddyw y mae y rhwystrau wedi eu symud, yr holl genfigen a'r anghydwelediad oedd yn ffynu rhwng y meistr a'r gweithiwr wedi diflanu fel mwg, pob olwyn a berthyn i bob gwaith yn troi mor hwylus ag erioed, y gweithwyr (y rhai fu gynt yn elynion i'w gilydd) yn awr fel Jonathan a Dafydd, yn gymaint cyfeillion ag y buont er- ioed, a'r naill blaid fel y llall wedi claddu eu beiau y tu ol iddynt, gan weithio yn un ac yn gytun, heb neb yn tynu'n groes. Cychwynodd y gweithiau y laf o Awst, ar y telerau a ganlyn :—Fod y gweithwyr i gael eu tri doler basis, hyny yw, pe byddai y glo yn gwerthu am 3 doler y dynell yn y farchnad, fod iddynt hwy-y mwnwyr—gael 14 doler yr wythnos pan fyddent yn gweithio ar hur, yr hyn hefyd oeddynt yn ofyn; a phe dygwyddai i'r glo fyned i fyny i 4 doler, fod y gweithwyr i gael 35 cent o godiad ar bob doler a enillant. Tebyg i hynyna yr oedd pethau yn sefyll cyn y strike. Y mae y drefn wedi newid ychydig yn awr, a diameu genym y bydd yn sicr o ateb y dyben yn well i'r meistr yn gystal a'r gweith- wyr, na'r hen -drefn. Y mae y drefn newydd yma, sef y sliding scale, yn myned i fyny ac i lawr. Os bydd y glo yn ddau ddoler a haner y dynell yn y farchnad, y mae y gweithwyr i ostwng i 12 yn lie 14 doler yr wythnos; a phe dygwyddai-ddyfod i lawr i 2 ddoler y dynell, fod y gweithwyr i gael eu talu yn ol 10 yn lie 12 doler yr wythnos, a dim yn Is. Pasiwyd penderfyniad gan y Grand Council, os byddai i'r glo fyned islaw 2 ddoler y dynell, fod i'r mwnwyr gael suspension hyd nes y byddai i'r prynwyr diras weled mwy o angen tynell o lo, a gweled hefyd fod yr hwn sydd yn ei dori yn deilwng o ryw gydnabyddiaeth am ei lafur- waitha'i anturiaethau peryglus. O'r braidd y credwn fod tynell o lo, allan o'r miloedd tyaelli sydd yn caeleu hanfon bob dydd i wahanol fanau o'r wlad yma, nad yw gwaed y mwnwr tlawd wedi ei dywallt arni, a hyny o herwydd llymder y glo sydd yn y rhanau hyn o'r wlad-y mae ei swn yn union fel camedd o hen boteli gwydr wedi eu tori pan deflir hwy ar eu gilydd. Gwn fod rhai o ddarllenwyr y GWLADGARWR, y rhai a adwaenwyf yn dda, a wyddant trwy brofiad fod yr hyn a ddywedals yn wirionedd. Nid ydym mewn un modd yn pleidio strike, os bydd yn bosibl bod hebddi; ond yn ddiddadl, gwna strike yma. ddaioni i'r naill blaid fel y llall. Cafwyd gweled faint oedd ei gallu bob ochr, a maint ei chyfoeth. Llorlwyd llawer gwr cyfoethog with geisio ymladd i enill y dydd, ac yn y diwedd yn troi yn fethiant. Dichon y gwna y cynllun new- ydd, sef y sliding scale, ateb y dyben yn well i'r meistr a'r gweithwyr na'r hen drefn. O'r blaen, ni wnai dim y too ond y tri doler basis, pe bai byd yn bebyfi. Lawer pryd, byddai y meistr yn ymdrechu cadw ei waith yn mlaen, gan feddwl y byddai i'r glo godi; ond pan adeuai y mis i ben, byddai y glo wedi dyfod 1 lawr 10 neu 15 cent y dynell, ac er hyny yn gorfodtalugofyniony mwnwyr, neu wneud ei hun yn fethdalwr, a thrueni o'r mwyaf yw hyny. Nid oes daioni fyth o weled perchenog gwaith yn gwaethygu yn ei sefyllfa. Gellir dysgwyl y canlyna y gweithiwr ef ar fyr. Yr ydym yn caru diareb y Sais bob amser, sef "Live and let live." Y gweithwyr yw y buddugwyr y tro hwn mewn rhyw ystyr. Cawsant yr hyn oeddynt yn ymofyn, ond eu bod i fyned i fyny ac i lawr, yn ol fel y byddo y marchnadoedd. Ceir gweithio yn fwy cyson o hyn allan, a chaiff y meistr yn gystal a'r gweithiwr ran o'r fasnach fydd yn pasio trwy y wlad, a gall y perchenog yn awr werthu ei lo i gystadlu ag ereill. Yr oeddwn yn meddwl dyweyd gair pa fodd y gallwyd sefyll yr holl amser, heb fod llawer o ddynion yn newynu. Diameu genym fod llawer yn synu pa fodd yr oadd dynion yn gallu byw cyhyd heb enill dim i'w cynal. Y mae llawer hen weddw wedi holi yn fynych sut yr oedd ei hanwyl fachgen. Nid ydym yn credu fod neb wedi gweled eisiau pryd o fwyd yn ystod y saith mis y buwyd yn sefyll allan. Dim ond dau ddarfu i mi weled yn cardota, ie, a Dau hen Wyddel du, anaddap, -oeddynt Yn eiddil a drewgas; Dau anwvr iawn dinas, A'n H.iw brwnt-wedd hyll heb ras. Nid oes raid i ti, ddarllenydd, wrth hanes y Gwyddel-yr ydwyt yn gwybod fel finau pa fath genedl ydynt; ond teg fyddai dywedyd nad yw pawb o honynt yn afiach. Y mae yn rhaid iddynt wrth eu whisci cyn y credant y gall eu peirianau coed weithio. Gwleddant, ae yna ymgladdu Yn hyll eu dawn mewn llaid du. Rhaid i mi derfynu yn nghanol fy nghyf- eillach felus a thi, ddarllenydd. D. GRIFFITHS, Gynt o Gwmafon.
AMRYWION 0 YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.
AMRYWION 0 YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG. Mr Gol. Y mae llawer o bethau yn dy- gwydd i ddyn nas gall eu hegluro, na rhoddi un eyfrif am danynt, Felly minau, gyda golwg ar y cystudd yr wyf ynddo er ys llawer blwyddyn nis gallaf ei esbonio, ei egluro, na rhoddi un cyfrif am dano. Y mae Dr. Traddodiad, yr hwn sydd wedi llanw y byd a chymaint o gamsyniadau a chwedlau anwireddus, yn ceisio fy narbwyllo i gredu fod pob afiechyd yn dyfod oddiwrth y diafol; ond y mae Dr. Rheswm, a'i frawd Dr. Profiad, yn nghyd a geiriau yr Hwn a greodd y crwnfyd, ac a hardd luniodd y Zebra, yn fy nysgu fod y duwiolaf o ddynion wedi cael ei eni i flinder a thrallod, fel yr eheda y gwreich- ionen i fyny. Clywais Nhw & Co. yn dyweyd ar hyd a lied y byd nad yw cystuddiau a thrallodion yn ddim amgen nac anfoddlon- rwydd y Brenin Mawr tuag at ei ddeiliaid ar y ddaear; ond y mae Bardd o Israel yn dweyd mai "ami drallodion a gaiffy cyfiawn," ac y mae loan, y divine, yn dweyd ei fod yn argyhoeddi ac yn ceryddu y sawl y mae yn ei garu am hyny, nis gallaf lai (os yw yn fai) na chredu nad oes un afiechyd yn dygwydd i ddyn heb fod gan y Crewr Mawr law ynddo, er ein galw i ystyried pwy ydym, o ba le y daethom, pa le yr ydym. ac i ba le yr awn yn y diwedd. 0 ganlyniad, ym- ddengys i mi mai dyledswydd pob dyn yw bod yn foddlon a dirwgnach o dan y cystudd- iau trymaf, a'r profedigaethau llymaf a gyfar- fyddwn yn y byd helbulus hwn. Ynfydrwydd a ffolineb o'r mwyaf ydyw grwgnach ac an- foddloni yn ngwyneh ein sefyllfaoedd yn y byd; oblegyd ni wna y weithred o rwgnach ddim ond ychwanegu trueni. at y truenus- rwydd yr ydym ynddo yn barod. Rhyfedd y grwgnachrwydd sydd yn perthyn i ambell i ddynsawd-nid oes dim na neb wrth ei fodd y mae ganddo feiau ar bawb a phobpeth. Y mae ei dy yn rhy fach, ei wely yn rhy galed, ei aelwyd yn rhy oer, ei fara yn rhy sych, ei ymenyn yn rhy hallt, ei gymyd- ogion yn rhy sarug, ei arian yn rhy brin, a'r byd yn rhy ddrwg iddo ef i fyw ynddo. Y mae dynion o'r natur yna yn ddynion tylawd fynychaf oblegyd pe caffent y byd yn grwn o benbwygilydd iddynt eu hunain, ni chaffent ddigon. Y maent yn barod i yfed y mor i frecwast, bwyta'r haul i giniaw, a llyncu y greadigaeth i swper a phe byddai yn bosibl iddynt gael eu dymuniad, grwgnach a wnelent wedi'r cwbl. Y mae yn anhawdd lawn ewrdd a dyn y dyddiau presenol heb fod yn grwg- nach am rhywbeth neu gilydd. Clywais yn ddiweddar am ddyn yn cyntachu a'i hun am nad oedd yn gymaint o gorffolaeth a'i gymydog, ac am ferch a dorodd. y drych am na buasai llun ei gwyneb ynddo i'w weled yn llawer iawn mwy prydferth nag ydoedd. Clyw- ais hefyd am wraig gyfoethog hynod o wen- wynig, anfoddog, ac arianfalch, yr hon a fynai o herwydd ei bod yn gyfoethog, eistedd yn yr eisteddle uchaf yn yr eglwys, yr hon a naca. wyd iddi, ac o herwydd hyny hi a aeth i gyfraith a boneddiges gyfoethog, arianfalch, grwgnachllyd fel hi ei hunan ac fel y gellir dysgwyl, bu y canlyniad yn ofid mawr i'r eglwys hono, heblaw i'r diwedd fod yn waeth na'r dechreuad. Fel yna y mae'r byd wedi myned i'r fath rwgnachrwydd fel y mae'n anhawdd iawn trin a thrafod rhai mathau o ddynion. Anwyl gyfeillion, meithrinwch frawdgar- wch, a pheidiwch bod yn rhy barod i feddwl yn fawr am danoch eich hunain: y mae'n well goddef camwri na chwympo maes a'n gilydd. Na fydded fod eich gwynebpryd yn cyxinddo eich calon. Prynwch yr amser, a byddweh yn heddych- lawn a phawb hyd eich bedd, a chwi a gewch ddyrchafiad. Ydwyf, yr eiddoch yn gystuddiol, Alltwen. Eos WYN.
GAIR AT YMGEISYDD.
GAIR AT YMGEISYDD. Mr. Gol.Pan ar wibdaith yn Nghaerodor, galwyd fy sylw gan y cyfaill Llwydwedd at eich nodiad golygyddol parthed mesur can fawr anfarwol y diweddar GIasynys. Wele engraifft o honi, a chyda llaw, bydded i'r ym- geiswyr gofio na thelir y wobr os na chenir ar y mesur. O'm ogof greigiawg yn Wyddfa, Y lie gysegrwyd yn gyfrinol guddfa, Ymwibiaf ar fy hynt un boreu tawel, Yn nghwmni difyr y sibrydol awel. Gwasanaethed y padair liinell yna, gan nad yw y gyfrol wrth law, a minau oddicartref. Wele engraifft arall ar yr uu mesur, i brofi y gellir yn hawdd canu arno, os cymer gwir awenydd afael yn y testyn :— Mewn llanerch dawel o dan fryniau cribawg, Yn llathraidd ymddolenai ffrwd risialawg; Yn swn y murmur yr eisteddaf finau, Gan syllu ar yr anferth ryfeddodau. Y creigiau serth lawnoda anfeidroledd, Ac ar y bryniau certh y gwelir mawredd, Dadblygir enw Duw drwy'r greadigaeth, A cheir cyfrolau byw ar len dynoliaeth. Rhoddais destyn o'r blaen, sef can' Ilinell. i'r "Gormeswr" ar y mesur uchod, a rhoddwyd y wobr am ddernyn ar y mesur diodl, yr hyn oedd yn anghyfiawn; felly, dealled y brodyr yn Mountaicash fod yr amodau i s&fyll yn ddigyfnewid. Mae pwyllgor y Rhos yn haeddu canmol- iaeth am ddewisiad y gwahanol destynau newydd a chwaethus. Nid ots yno alarnadu ar ol y diaod, na chanu clodydd corachod gor- mesol, ac nid yw yn debyg y bydd i neb gael gwobrwy am englynion i bwyswr. Y mae angen am chwyldroad yn nhestynau y man Eisteddfodau lleol. Bydd genyf nifer o lyth- yrau ar hyn yn fuan i ddalenau y GWLADGAR- WR. Hyd hyny, gorphwysaf yr eiddoch, yn rhwymau awen a chan, CYMRO GWYLLT.
LLOFFION 0 LLANELLI.
LLOFFION 0 LLANELLI. Mr. GwLAD&ARWR,—HenSych well i chwi a'ch hiliogaeth am fil o genedlaethau. Hen- ffych well hefyd a phriodas dda i'r Cymro Gwyllt; ie, priodas dda, a da dros ben, i'r di- ragrithiol Gymro. Nid oes yn ein hynys Gymro mwy trylwyr, mwy calon agored. Yn wir, y m&e ei fron yn galon i gyd. Bydd genyf air ag af yr wythnos nes vf mewn ffordd arall. Y mae genyf linell farddonol neu ddwy ar y blocks, ond nid oes modd eu gorphen erbyn y pott hwn. Cawsom Doswaith odiaethol dda gyda Mr. Powell Thomas, o Lanymddyfri, neithiwr yn yr athmeum yn y dref hon. Na fydded i chwi, ddewrion Aberdar, orphwys nes ei gael i'r Temperance Hall. Gwn na fydd edifar genych. Cymro glan, gloew, o hil a gwehelyth yw efe, ac fel y cyfryw dylem ei gefnogi. Ei broffes ydyw darllen, aieithio, adrodd, a chwareu y miwsig mwyaf melodaidd, dylanwadol, a grymus a wrandawsom erioed. Y mae natur a chelfyddyd wedi cydgyfarfod yn mherson ein harwr. Medr ddarllen a chwareu ei grwth gyda'r peth effeithiolaf a wrandawsom erioed. Y mae gartddo allu i weithio allan wahanol gymeriadau mewn barddoniaeth, megys y prudd-chwareu, neu'r tyuer a'r swynol, yn y dull mwyaf effaithiol. Y mae yn medru gosod bywyd yn mhob cymeriad, y tuhwnt felly 1 neb a wrandawsom erioed. Y mae yn deall teithi eyfrinol barddoniaeth a cherddoriaeth, fel y medr osod ei law ar danau y galon ddynol pryd y myno. Yr ydym yn falch o'n cydwladwr dewr a doniol. Caffed dderbyniad helaeth drwy Gymru benbaladr. Mr. Gol.-Byddwch gystal a'm cofio filwaith. at yr enwog, yr athrylithgar, y dewr a'r gwrol, Dafydd Morganwg. Y mae Dafydd megys coeden ar fynydd Libanus wedi cael tyfiant anarferol o dda, nes y mae yn uwch o gryn lawer na nemawr o'r coed ereill. Dywedwch wrtho hefyd fod Alaw Ddu yn byw yn yr un ystryd a'i gyfaill, a hono yr ystryd fwyaf aris- tocrataidd yn Llanelli. Y mae Alaw a minau gyda'r blaenaf o'r aristocrats, ac os byth y daw ein cyfaill Dafydd i dalu ymweliad a ni, lef- einir ynteu i'r un clamp toes. Heddwch i Dafydd ddyddiau ei oes, a heddwch bythol iddo wedi i'w oes ddirwyn i'r terfyn. HEN LOFFWR.
[No title]
ABERDAR.-Symudiad Cyfrinfa Alfftedaidd, -Nos Iau diweddaf, y 6ed cyfisol, cafwyd cyfarfod dyddorol ac adeiladol yn y Royal Exchange Inn, Cardiff Street, Aberdar, ar yr achlysur o symudiad Cyfrinfa a el wir y Gwron," o'r urdd uchod. Yr achlysur o'r symudiad oedd fod y diweddar westywr Mr Thomas Rosser, yn ymadael am ardal arall; felly, cytunwyd symud y Gyfrinfa i le mwy cyfleus, sef gwesty Mr Wiiliam Nicholas, ar- wydd y Royal Exchange, lie y cynaliwyd y cyfarfod. Yn apsenoldeb y llywydd apwynt- iedig, Mr Evan Thomas, Haiarn- werthydd, llanwyd y gadair gan y cyn-swyddog parchus- a diwyd gyda'r Odyddion a'r Alffrediaid, Mr. David Williams. Yr oedd yr ystafell eang a chyfleus hon wedi ei gorlenwi ag ymwelwyr— yr-- eyfeillion a chyfeillesau prydferth a pharchus., Yn ei anerchiad agorladol, dywedodd y llywydd ei fod yn flin amanalluawgrwydd Mr E. Thomas i fod yn eu plith y prydnawn, hwnw; ond am yr achlysur hwnw, y gwnai ef ei oreu i gario y gwaith allan drwy fynorthwy ei gydswyddog, sef yr is-lywydd. 'elly, galwodd ar y cor i roddi ton, yr hyn a wnaeth yn fedrus a meistrolgar. Yr oedd dan gor yn wyddfodol, sef Cor yr Eglwys < Gymreig a Chor y Bedyddwyr. Difyrwyd y cyfarfod gan wahanol gyfeiluon & chaneuon ac adroddiadau yn wir hapus. Yr oedd y cyfarfod yn teimlo yn ddwys y o apsen- oldeb Mr Mills, y GWLADGARWR, wrth weled ei enw ar y programme. Yr oedd llawer yn Mraethu am ei weled a'i glywed. Cyn y diwedd, yn ol el addewid, cawsom ychydig o- gyfeillach y boneddwr a'r Cymro twymgahm y Parch Canon Jenkins, Aberdar. Yn mhlith goruchwylion y nos, rhoddodd Mr Henry