Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

LLYTHYR O'R AMERICA.

News
Cite
Share

LLYTHYR O'R AMERICA. Anwyl WLADGARWR, Am unwaith eto yr wyf yn anturio dy gyfarch. Hawddamor i ti, WLADGARWR anwyL Yr ydym erbyn heddyw wedi cychwyn gweithio, wedi bod ar y strike am yn agos i bedwar mis. Methasom a chael yr hyn oedd yn ein bwriad pan yn dyfod allan ar y cyntaf. Yr oedd cryn an- fantais genym i enill y frwydr y tro yma, am fod cymaint o wahanol weithfaoedd ereill ar y strike fel ninau am hyny, yr oedd yn an- hawdd cael gwaith braidd yn un man, canys yr oedd pob lie wedi ei lanw gan bobl y strikes o'n blaen ni, ac felly cafwyd gafael arnom yn eingwendid. Y mae y flwyddyn hon wedi bod yn hynod am ei strikes drwy y wlad. Bu Schuylkill allan lawer mwy na ni, a bu po'bl y Summit Hill allan am chwech mis, os wyf ya cofio yn iawn. Ni chawsant hwythau ddim o'r hyn a fwiiad- ant gaeL Y maent hwythau a ninau a phobl Schuylkill wedi gorfod myned i fewn heb yr hyn a fwriadem gael ar y cyntaf. Y gwir yw, yr oedd gormod o heirns genym yn y tan ar un- waith i feddwl am gael brwydr fuddugolia.eth- us ond nid ydym yn hidio mo'r cregin, canys yr ydym yn edrych yn mlaen at adeg pryd y gallwn yn ddibetrus ddyfod i gyfarfod a'n gelynion eto. Nid diffyg gwroldeb oedd yr achos i ni golli y tro hwn. Na, yr oadd digon o hwnw i'w gael j ond adeg y meistri ydyw hi y tro hwn, a gwyddant hyny hefyd. Nid oes dim i'w glywed a'r glust braidd rhwng pob dau yn bresenol ond son am y rhyfel sydd yua. Mawr y dysgwyl sydd genym am y Drych ar nos Iau, a'r Faner nos Fercher. Nidydym wedi cael golwg ar un o bapyrau Cymru er's tro bellach. Carem yn fawr weled y GWLADGARWR yn traethu ei farn am y ihyfel bresenol. Diau ei fod ef fel arfer ar y maes yn dysgwyl ar y symudiadau o bob ochr. Yr oeddem wedi hen ddysgwyl gweled ychydig o fel melus y Oymro Gwyllt yn y Drych cyn hyn. Gymro anwyl, dyro air i ni o hanes symudiadau gwlad y bryniau i'r Drych. Bydd yn dda gan yr hen wr o'r Brynhyfryd weled dy wyneb siriol. Er pan yr ysgrifenais ddiweddaf nid oes ond "dyfr- oedd Mara" wedi fy nghylchynu hyd yn awr, ac nid oes cymaint ag un heulwen wedi sirioli arnaf o un man. Gorfu arnaf aros gartref drwy holl ystod y strike, am nad oedd iechyd y wraig yn caniatau i mi fyned oddicaxtref i weithio. Y mae yn sychder yma er's mwy na mis. Y mae y gweithfaoadd hyn yn sefyll o herwydd diffyg dwfr i'r peirianau. Hwn ydyw y pumed diwrnod i ni fod yn segur, ac nid oes yr un arwydd am wlaw yn ymddangos eto. Y mae y lie hwn erbyn hyn yn llwythog o bob math o ffrwythau. Ceir yma ddigonedd o bob math ag sydd yn tyfu ar goed am ddim. Dyma y lie mwyaf ffrwythion a welais yn America. Gyda llawar o briodoldeb y gellir ei alw yn winllan pob amrywiaeth. Rhaid terfynu gyda dymuno cofion fyrdd atoch chwi a'ai parthynasau oil, y Cymro Gwyllt, a'r Birchgiofiaid un ac oil. B. LAWRENCE, (Hirwaunwyson.)

AMERICA—MARWOLALTH DEWI MOELWYN.

CYMDEITHAS YR HEN GYMRY YNI…

Advertising

TAITH GYDA'R TREN-YR HYN A…

Advertising

MR. PUGH A BWRDD IECHYD ABSRDAR.

Advertising

LLYTHYR CYMANFA.

Advertising

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.