Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

,AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.

Advertising

TALI AD A U.

BWRDD Y GOLYGYDD.

Advertising

CAM DYB Y TORIAID. J

ANERCHIAD SYR JOHN HANMER.…

News
Cite
Share

ANERCHIAD SYR JOHN HANMER. O'r holl anerchiadau a draddodwyd gan Aelodau Seneddol, ac ymgeiswyr am aelod- iaeth, nid ydym ni wedi cael neb, ag eithradu Mr H. Richard, yn dyfod i'r byw gyda golwg ar ddyledswyddau Aelodau Seneddol, fel Syr John Hanmer. Y mae yn ddigon naturiol i'r rhan fwyaf o'r rhai a broffesant egwyddorion rhyddfrydig son am y daioni a gafwyd o ddyddiau y Reform Bill cyntaf hyd yn bre- senol; ond ychydig iawn sydd wedi meddu y gwrolder i son am garthu y llygredigaeth sydd yn gorwedd wrth wraidd ein llywodi- raethau, ac sy fel rhwd yn ysu rhanau by wyd- ol ein teyrnas. Y mae Syr John Hanmer, yr aelod dros Fflint, yn cyfhwrdd a gwraidd y drwgar un waith. 'Ar ol son am anfuddiol- deb Eglwys yr Iwerddon, yr hon na feddai ddim mwy i'w wneud a'r bobl, mewn llawer o fanau, nag oedd gan Samaria i wneud a Jeru- salem, y mae efe yn mynegu ei farn ar gostau anferthol y deyrnas gyda'r fyddin a'r llynges. Y mae yn dyweyd, Mewn llyfrglas bychan, pris 8 ceiniog, yr hwn a all y neb a fyno o honoch ei gael, drwy anfon at y Queen's Prin- ter, fe'i gelwir Statistical Abstract for the United Kingdom, o'r flwyddyn 1853 i 1867, cewch yn hwnw rai ffugurau fel arwyddluniau (hieroglyphics) yr Aifft sydd yn cynwys llawer iawn. Er engraff, swm arferol y draul at y fyddin a'r llynges, am y flwyddyn, heb son am swllt tuag at Abyssinia, yw ugain a chwech o filiynau, pum cant a saith a phedwar ugain o filoedd o bunau, a throsodd. Yr holl gost ar yfunded a'r unfunded debt yw un mil ar bym- theg o dan y swm hwn. Hyny ydyw, yr oedd ein noil ryfeloedd, a'n hymdrechion cyhoedd- us, gwastraffiadau, camsyniadau, anifodion, ac unrhyw beth oedd yn peri traul a dyled mewn Hog, yn costio llai mewn llog blyneddol a threuliau ereill, na'r gost arferol gyda'r fyddin a'r llynges mewn un flwyddyn o heddwch, gydag Arglwydd Stanley, yr Ysgrifenydd Tramor, Gweinidog sydd, yn ddiameu, mor heddychol a Syr Robert Walpole. Pa beth a fuasai cost rhyfel gydag Amerig, a'r wasgfa ar eiddo a llafur, nid allai efe ddim mynegu. Yr unig sicrwydd rhag cael rhyfel gyda'r Werin-lywodraeth wrthnysig hono, yw tawel- wch Canada, a thawelwch Iwerddon." Dyma ddangos y peth fel y mae yn bod, ac nid ceisio troi y mater draw, a cheisio llechu yn nghysgod rhyw orchestion mawrion a wnaethwyd. nad oedd llogell neb yn llawnach ar ol eu cyflawni. Aelodau annibynol fel Syr John Hanmer sydd ar y wlad eisiau, ac nid dynion am gripio i sylw drwy farchogaeth ar ysgwyddau y wlad. Nid rhyw lawer o flas sy genym ni ar swyddogion milwrol na llyngesolar gyfreithwyr na dadleuwyr, fel ymgeiswyr, gan nad beth fyddo eu rhagor- iaethau, os bydd rhywrai ereill rhyddfrydig i'w cael. Y maent yn ymddangos i ni fel Esgobion yn Nhy yr Arglwyddi, yn gofalu mwy am eu lies a'u dyrchafiad eu hunain, nag am y wlad a'u hamgylchiadau. Dalier y naw a dimai o bob swllt, yr un swllt ar bymtheg o bob punt, neu y can gini a werir bob mynyd, ddydd a nos, at gynal y filwriaeth o flaen pob ymgeisiwr, a gofyner iddo a ydyw efe am fyned i'r Senedd i leihau y costau hyny sydd yn mron a llethu y deymas i ddinystr a cholledigaeth. Y mae gwledydd ereill yn son am leihau eu byddinoedd, ai nid ydyw yn llawn bryd i Brydain Fawr ddilyn eu hesiampl ?

[No title]

ESGORODD,—

[No title]