Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

,AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.

Advertising

TALI AD A U.

BWRDD Y GOLYGYDD.

Advertising

CAM DYB Y TORIAID. J

News
Cite
Share

CAM DYB Y TORIAID. J Y mae yr hen dyb wriogaethol (feudal,) sef } mai dibynwyr ar eu meistri tiroedd yw yr ( amaethwyr, ac nid cwsmeriaid iddynt, yn aros yn nghopa llawer o'r Toriaid hyd y dydd hwn; pryd mewn gwirionedd mai ffaelu a dyfod i ben a thrin eu tiroedd eu hunain sydd yn peri iddynt eu gosod, neu eu benthyca i ereill am daliad penodol. Yr un peth, yn ein barn ni, fyddai i berchenogion y tren, ar un o ffyrdd Llundain, ddyweyd, Ni chewch chwi ddim trafaelu ar ein ffordd ni, os na roddweh eich pleidlais i'r Tori sydd yn eich cymydog- aeth f pa beth a wnelai perchenogiony ffyrdd haiarn a'r cerbydau, oni bai iddynt gael dyn- on i drafaelu ynddynt ? a pha beth a wnelai y meistri tiroedd a'u tiroedd heb gael rhywrai i'w trin ? Ie, pa beth a wnelai perchenogion gweithfaoedd, a'r glo a'r haiarn yn y ddaiar, heb gael rhywrai i'w codi oddiyno ? Y mae y naill yn ymddibynu ar y llall yn hollol; ac nid all y naill symud cam heb y llall. Y maent fel y gefeilliaid Siamiawl a ddangosid yn Llundain yn 1830; nid oes dim modd eu gwahanu oddiwrth eu gilydd heb berygl. Pe cymerid pethau yn amser etholiad yn y goleu yma, ni fyddai unrhyw Ie i ofni y gwesgid neb i roddi ei bleidlais yn groes i'w ewyllys.. Pa beth a wnelai Arglwydd Penrhyn a'i gloddfa fawr heb gael dynion profedig i dynu y creigiau oddiwrth eu gilydd 1 Wel, os rhaid i'w Arglwyddiaeth wrthynt, onid ydyw efe dan gynifer o rwymau i'r gweithwyr ag y mae y gweithwyr iddo yntau 1 Onid gwerth am werth yw y fargain sy rhyngddynt; ac nid Arglwydd Penrhyn yn talu cyflogau i'r gweithwyr am wneuthur dim ? Pa fodd yr hoffai y meistri tiroedd, a pherchenogion y gweithfaoedd, glywed eu gweithwyr yn gotyn am eupleidleisiau hwy, yn groes i'w hewyllys, i'w rhoddi i'r neb fyddo da yn eu golwg? Synent dipyn at haerllugrwydd a digywilydd- dra y gweithwyr ac nid heb achos. Onid yw y syndod yn llawn cymaint yr ochr arall ? Pa beth sydd a wnelo y meistr a'r gweithiwr wedi y gorpheno efe ei waith a pha beth sydd a wnelo y gweithiwr a'r meistr wedi ei dalu? Peth tu allan yn hollol i'r fargain bach ay rhwng meistr a gweithiwr, a rhwng gweith- iwr a meistr, yw pleidlais. Braint ydyw hon sydd wedi ei chyfleu iddo gan Lywodraeth ei wlad i wneuthur arferiad cydwybodol o honi er ei les ei hun fel deiliad, ac er lies y wlad- wriaeth yn gyffredinol. Dichon fod rhai yn barod i ofyn pa beth a ddeuai o'r gweithwyr heb eu meistri ? Gofynwn ninau, pa beth a ddeuai o'r meistri heb y gweithwyr ? Ar adeg fel hon, pan y mae cymaint o ym- gais am gael myned yn Aelodau Seneddol yn mhlith dynion, ni fyddai yn ofyniad anmhri- odol i'r ymgeiswyr a ydynt hwy am wneud eu goreu i leihau costau anferthol y fyddin a'r llynges, y rhai sydd yn difa mer esgyrn y deyrnas hon 1 Y mae y pwnc pwysig hwn yn cael ei gadw yn ormod o'r neilldu, tra y mae pethau ereill, llawer llai eu pwys, yn cael eu cadw yn y golwg yn barhaus. Peth digrif iawn yn nghlustiau Anghydffurfiwr yw clywed ymgeisydd yn son am ei Eglwysyddiaeth. Gwell genym ni gael ei farn ef ar bwnc fel hyn. Beiir yr Ymneillduwyr gan Eglwyswyr, yn enwedig eu pregethwyr, os soniant ddim am lywod-ddysg meddyliem ni ei fod yn llawn bryd iddynt droi at eu pregethwyr eu hunain; sef yr Esgobion. Y maent hwy, nid yn unig yn son am lywod-ddysg, ond y maent hwy yn ngweithdy llywod-ddysg (politics,) yn lie bed yn edrych ar ol y praidd i'r hyn y cawsant eu hordeinio. Ni chlywsom am neb o weinidog- ion yr Ymneillduwyr yn esgeuluso eu swydd weinidogaethol wrth ymhel a llywod-ddysg ond y maent mor gyson ag y buont erioed yn y cyflawniad o'u gorchwylion ysbrydol. Y mae yn dda genym weled yr hyn ydym yn ei wel- ed, a chlywed yr hyn ydym yn glywed yn nghylch yr ymdrech a wneir yn y dyddiau hyn dros egwyddorion rhyddid. Y mae gobaith y dihuna Cymru o'i chwsg yn bre- senol; ac na chaiff y Saeson ddim llawer o destyn chwerthin am ei phen eto. Y mae mwy o arwydd y gwelir dynion rhyddfrydig yn cael eu hanfon o'r Dywysogaeth nag a fu ond nid oes dim digon eto. Dywedir yn gryf fod dychweliad Mr H. Richard uwchlaw amheuaeth.

ANERCHIAD SYR JOHN HANMER.…

[No title]

ESGORODD,—

[No title]