Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

,AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN. FONEDDIGION,-Y mae y Mesur Diwyg- iadol mawreddog a ddygwyd i mewn mor hynod ae mor anghyson gan y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfodyn Gyfraith, ac fe'i dygir cyn hir i weithrediad. Bydded i ni fod yn ddiolchgar am y rhagorfreintiau ychwanegol a sicrhawyd drwyddo i bobl y wlad hon, gan adael y blaid Doriaidd i gysoni eu hymddyg- iadau oreu y gallont, gyda chywirdeb a chyd- wybodolrwydd gwleidyddol. Etholwyr Sir Gaerfyrddin! o dan yr hen gyfundrefn y mae y Toriaid Hyd yn hyn wedi cadw iddynt eu hunain, mewn gorphwysdra tawel a digyffro, yr anrhydedd o'ch cynrych- ioli chwi yn y Senedd. Yr wyf fi yn awr yn dyfod yn mlaen yn y gobaith y bydd i chwi, o dan y gyfundrefn newydd, dori trwy yr ar- feriad hynafol hon, ac ethol o leiaf un aelod Rhyddfrydol dros y Sir. Os bydd i mi lwyddo i gyrhaedd yr anrhydedd o'cb cyn- rycbioli chwi, ymdrecbaf brofi fy hun yn deilwng o'ch ymddiried, drwy fy ymlyniad diwyro wrth egwyddorion mawrion rhyddid gwladol a chrefyddol, pa rai ydynt wedi bod yn fywyd ac enaid derchafiad y deyrnas hon i'w mawredd presenol; a barn wyf fod ymar- feriad pellach o'r egwyddorion hyn, hyd nes byddo pob llyffethair ar grefydd wedi ei sy- mud, yn hanfodol i'n llwyddiant dyfodol. Braidd y mae yn angenrheidiol i mi eich adgofio y bydd i un pwne o bwysigrwydd neillduol lyncu i fyny sylw y Senedd ddyfod- ol, hyny yw-yr Eglwys Wyddelig. AT y pwnc hwnw, Foneddigion, gan nad beth fyddo anhawsderau ymarferol y mater-a pha fesur pwysig sydd heb ei wrthwynebiadau i'w gorch- fygu ?—er ei bod yn ofidus genym orfod dolur- io teimladau rhai o'n brodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon—y mae yn ymddangos i mi nas gall dyn cyfiawn goleddu ond un syniad, sef, nad oes gan eglwys y lleiafrif un hawl i gynal- iaeth oddiwrth fwyafrif y bobl. Yr wyf gan hyny yn barod, er pob aberth, pa mor boeuns bynag, i bleidleisio dros osod Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth yn yr Iwerddon ar dir hollol 11 gydradd. Y mae yr Y sgrif Ddiwygiadol newydd wedi gosod ar bwne mawr Addysgiaeth bwysig- rwydd anferthol ac arbenig. Y mae dosbarth- iadau newyddion o etholwyr wedi eu galw i fodolaeth. Pa fwyaf addysgedig y byddont, goreu oil y medrant gyflawni ei dyledswydd bwysig, ac a deuant i ddeall y cyfrifoldeb mawr perthynol iddi. Ond yn ein holl ym- drechion i gefnogi Addysg y Werin, fy nghred gadarn I ydyw, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn i osgoi pob rhith o ymyraeth. a cliredoau cre- fyddol y gwabanol enwadau Cristionogol i ba rai y mae y wlad hon yn rhanedig. Ni gallaf fi ddeall egwyddorion "rhyddid crefyddol" mewn unrhyw ffordd arall. Wrth derfynu, goddefwch i mi ychwanegu, os caf fy ethol, y bydd i mi ymgyflwyno yn ddifrifol i ystyried llesianty Sir hon, adnodd- au naturiol pa un nid ydynt yn gofyn ond dadblygiad llawn, er ei gwneud mewn amser dyfodol yn un o'r rhanau mwyaf llwyddianus yn y Deyrnas Gyfunol. Ydwyf, Foneddigion, Eich ffyddlonaf was, EDWARD JOHN SARTORIS. 9, Park Place, St. James's, Llundain, Gorph. 15fed, 1868.

Advertising

TALI AD A U.

BWRDD Y GOLYGYDD.

Advertising

CAM DYB Y TORIAID. J

ANERCHIAD SYR JOHN HANMER.…

[No title]

ESGORODD,—

[No title]