Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-SEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWXEIDYDDOL…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

SEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWXEIDYDDOL CYMJKT. GAN HENRY RICHARD, YSW., LLUNDAIN. At Olygydd y "Morning Star." (Parhad.) Gyda golwg ar bwnc y Dreth Eglwys, wyth mlynedd yn ol, ni phleidleisiodd ond wyth o aelodau Cymreig dros ddiddymiad y dreth. Ond ar y cwestiwn hwn, y mae gwelliant graddol a chynyddol yn cymcryd lie; oblegyd ar y rhaniad diweddaf, yr hwn sydd newydd gymeryd lie, yr oedd un ar bymtheg dros, a dim oijd chwech yn ei erbyn. Ond y rhy- feddod yw, pan y mae mwyafrif annhraethol y boblogaeth yn dal y fath syniadau ag y maent, fod neb o'r aelodau dros Gymru yn pleidleisio dros ragorfreintiau gwahaniaethol i'r Eglwys. Er mwyn dangos yn amlycach anghysonderau dirfawr cynrychiolaeth Cymru gyda golwg ar hyn, gadewch i ni alw sylw y darllenydd at y daflen panlynol, yn yr hon y gosodir ger ei fron gyda manyldeb yr hyn y cyfemwyd ato o'r blaen yn gyflxedinol, gyda golwg ar nifer cyfartal yr addolwyr mewn eglwysi a chapeli Ymneillduol ar Sul y cen- sus :— Nifer y gynnlleidfa yn y cyfarfod lluosocaf ar ddydd Sul y Census. Siroedd. Eglwyswyr. Anghydffurfwyr. Mon 2,374 16,604 Brycheiniog 6,234 19,375 Aberteifi 10,517 34,571 Caerfyrddin 8,685 31,918 Caernarfon 7,328 41,781 Dinbych 9,138 29,153 Fflint 4,931 13,046 Morganwg 11,997 81,141 Meirionydd 2.360 20,168 Mynwy 16,026 48,201 Trefaldwyn 8,370 22,441 Penfro 8,989 31,839 Maesyfed 4,259 3,958 Yma, gwelir fod yn mhob un o'r siroedd Cymreig uchod, oddieithr Maesyfed, nid yn unig Ymneillduwyr yn lluosocach, ond y maent felly i'r fath raddau fel ag y mae cym- hariaeth yn ymddangos yn ffwlbri. Ac eto, y mae un ar ddeg allan o'r dynion sydd yn cyn- rychioli y siroedd hyn yn Doriaid. Cymer- wch ddwy fel enghraifft, un o Ogledd Cymru a'rllall o Ddeheudir Cymru. Yn sir Gaer- narfon y mae nifer yr Eglwyswyr mewn cym- hariaeth i'r Ymneillduwyr, megys 7,328 wrth 31,918. Ac eto, y mae y Milwriad Pennant a Mr. David Jones gydag ystyfnigrwydd yn pleidleisio yn erbyn pob mesur ffafriol i'r Ym- neillduwyr a ddygir i mewn i'r Senedd. Maent yn pleidleisio o du gosod treth barhaus ar y mwyafrif dirfawr o'u hehtolwyr er mwyn cynal eglwysi y lleiafrif, er y gwyddant fod y dosbarth cyntaf a grybwyllwyd yn cynal ar eu cost eu hunain ugeiniau os nad canoedd o leoedd addoliad, oddiwrth y rhai, fel ag y gwyddant hefyd, mae'n debygol, y llifa y dy- lanwadau a wnaethant gymaint tuag at oleuo gwareiddio, a choethi y bobl. Pleidleisiant er amddifadu plant tair rhan o bedair o'r rhai y proffesent eu cynrychioli, oddiwrth bob cyf- ran o'r addysg a roddir yn y prif ysgolion cen- hedlaethol. Pleidleisiant yn erbyn rhoddi esmwythad mor fychan i gydwybodau eu hetholwyr Ymneillduol ag sydd yn cael ei olygu mewn diddymu dadganiad, yr hwn, fel yr addefir yn gyhoeddus, sydd yn hollol ddi- werth iddynt, ond fel moddion i'w darostwng a'u tramgwyddo. Pleidleisiant yn erbyn rhoddi caniatad i deuluoedd galarus, tra y mae eu calonau yn glwyfedig o dan ddyrnodiau angeu, i gael ychydig o eiriau cysurlawn uwch ben bedd eu hanwyliaid ymadawedig o enau eu gweinidogion eu hunain. Pleidleisiant dros fytholi gorfaeliaeth gyda golwg ar ysgol- ion gramadegol gwaddoledig, effaith yr hyn, yn mysg pethau ereill, ydyw gwarthruddo pob dyn yn mhlith y degau o filoedd o Ymneill- duwyr ag y maent hwy yn cymeryd arnynt eu cynrychioli, fel person nas gellir ei olvgu yn ngolwg y gyfraith fel dyn gonest a synwyr- ol." Oni ddywedais i yn fy lie, ynte, pan ddywedais nad oedd cynrychiolaeth mewn rhai parthau o Gymru ddim amgen na gwawdiaith ar y meddylddrych o gynrychiolaeth? Cymerwch eto, sir Ddinbych. lie y mae Eglwyswyr mewn cymheriaeth, i Ymneilldu- wyr megys 9,130 wrth 29,153 ac eto, y mae y boneddwr sydd mewn enw yn cynrychioli y sir hon yn un o'r Toriaid mwyaf rhagfarnllvd a chulaf ei ysbryd a ellir gael. Mae efe a'i deulu, a'u holl egni, wedi gwrthwynebu pob un o'r diwygiadau mawrion a gymerasant le yn y wlad hon am y deugain mlynedd di- y ll weddaf. A byth er pan y mae efe yn y sen- edd, y mae wedi gwrthwynebu hyd yn oed v ceisiadau lleiaf o eiddo y dosbarth ag sydd yn gwneud i fyny y nifer luosocaf o lawer o'r bobl ag y mae etc yn cymcryd arno eu cyn- rychioli. Gofynaf eto, A ydyw hyn rywbeth amgen na gwawdiaith ar y meddylddrych o gynrychiolaeth ? Gall Syr Watkin Williams Wvnn gynrychioli yr aceri llydain ag v mae y dygwyddiad o'i enedigaeth wedi ei wneud yn feddianol arnynt, ond ffolineb hollol fyddai dyweyd ei fod yn cynrychioli pobl sir Ddin- bych, gyda golwg ar eu hegwyddorion, argy- hoeddiadau, a'u dymuniadau. Dichoa y gofynir i mi, os fel hyn y mae pethau yn bod gyda golwg ar gynrychioliad y Dywysogaeth, pa fodd y mae felly ? Paham na bai y bobl yn anfon dynion gwahauol i'r senedd? Y rhai hyn ydynt y cwestiynau ag y gwnaf fy ngoreu i'w hateb yn fy llythyrau nesaf. Yr eiddoch yn barchus, HENRY RICHARD.

MADOG LLWYD.

YR YSGOL FARDDOL.

LLOFFION 0 LANELLI.