Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

PRYDEINIWR YN RHYFEL SPAIN.I

News
Cite
Share

PRYDEINIWR YN RHYFEL SPAIN. Yr ydym yn ddyledus i Ohebydd y Times am banes y gwasanaeth gwerthfawr a gyf- lawnwyd gan Brydeiniwr yn mrwydr Al- colea. John Routledge oedd ei enw, ac yn swyddog ar y reilffordd Andalusiaidd. Temtiwyd ef gan y son am ryfel oddiwrth ei waith yn Cordova i lanerch y frwydr rhwng Novaliches a Serrano. Yr oedd y rhan a gymerodd yn y frwydr ynun hynod. Ni chyfododd efe yr un arf, ac ni anelai yr un magnel, ond anturiodd rhwng y ddwy fyddin, ac yn agored i dan y ddau ochr, i bigo i fyny y clwyfedigion a'r rhai yn marw, ac i'w cario ymaith i gysgod a dio- gelwch o'r tu ol i Serrano. Bu wrth y gorchwyl hwn yn ddiwyd drwy y dydd, a hyny yn y perygl mwyaf, a phan oedd y perygl drosodd, aeth at ei waith arferol er cael y gerbydres yn barod i gario y clwyf- edigion i glafdy Cordova. Anrhegwyd ef ar y maes gan Serrano ag Urdd Isabella y Catholic, yr hwn a roddodd y gwron yn dawel yn ei logell. A oes yr un anrheg i John Routledge yn y wlad a ddylai fod yn falch o hono ?

INDIA.

SPAIN.

[No title]

Advertising