Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
PRYDEINIWR YN RHYFEL SPAIN.I
PRYDEINIWR YN RHYFEL SPAIN. Yr ydym yn ddyledus i Ohebydd y Times am banes y gwasanaeth gwerthfawr a gyf- lawnwyd gan Brydeiniwr yn mrwydr Al- colea. John Routledge oedd ei enw, ac yn swyddog ar y reilffordd Andalusiaidd. Temtiwyd ef gan y son am ryfel oddiwrth ei waith yn Cordova i lanerch y frwydr rhwng Novaliches a Serrano. Yr oedd y rhan a gymerodd yn y frwydr ynun hynod. Ni chyfododd efe yr un arf, ac ni anelai yr un magnel, ond anturiodd rhwng y ddwy fyddin, ac yn agored i dan y ddau ochr, i bigo i fyny y clwyfedigion a'r rhai yn marw, ac i'w cario ymaith i gysgod a dio- gelwch o'r tu ol i Serrano. Bu wrth y gorchwyl hwn yn ddiwyd drwy y dydd, a hyny yn y perygl mwyaf, a phan oedd y perygl drosodd, aeth at ei waith arferol er cael y gerbydres yn barod i gario y clwyf- edigion i glafdy Cordova. Anrhegwyd ef ar y maes gan Serrano ag Urdd Isabella y Catholic, yr hwn a roddodd y gwron yn dawel yn ei logell. A oes yr un anrheg i John Routledge yn y wlad a ddylai fod yn falch o hono ?
INDIA.
INDIA. Yr ydym yn cael o'r wlad hon fod y cnwd rice wedi methu mewn rhai parthau o honi eleni eto, a bod lie i ofni, os na chy- merir gofal prydlawn, y bydd i newyn eto ganlyn. Yn Bengal Isaf, y mae y cnydau wedi dyoddef o herwydd gormod o wlaw ond yn Behar y maent yn dyoddef o herwydd rhy fach. Modd bynag, y mae yn ymddangos mai sychder ydyw yr achos cyffredin, canys fe ddywedir wrthym fod y "triugain miliwn o fodau dynolsydd yn byw rhwng yr Indus ar y gogledd, y Chumbul, os nad Nerbudda ar y Deau, a'r Dammodah ar y dwyrain, yn gweddio am wlaw, mewn teml a mosque, trwy offeiriad a delw." Y mae yr hysbysiad yn dywedyd yn mhell- ach y bydd yr angen yn fawr yn y rhan fawr hono o'r wlad, os na chlywid am wlaw cyn derbyn yr hanes hwn.
SPAIN.
SPAIN. Yn y newyddion o Ffraine am yr wyth- nos hon, yr ydym yn cael fod llysgenadydd yr Unol Dalaethiau wedi talu ymweliad a Marshal Serrano, ac wedi ei hysbysu yn ffurfiol fod ei lywodraeth ef yn cydnabod gwrthryfel Spain, a'i fod yn cymeryd y cyfleusdra cyntaf i ad-dalu i Spain, am mai hi oedd y wlad gyntaf a gydnabyddodd yr Unol Dalaethiau yn Weriniaeth wedi idd- ynt enill eu hannibyniaeth. Cydnabyddodd y Marshal y eydnabyddiaeth gyda boddhad mawr, a dymunai ar y gweinidog i sicrhau ei lywodraeth y byddai i Spain barhau yn yr un undeb cyfeillgar a'r Unol Dalaethau rhagllaw. Y mae y Cadfridog Prim, mewn llythyr i'r Gantois, wedi hysbysu mai y ffurf o lywodraeth sydd yn meddwl y wlad hono ydyw "Constitutional Monarchy wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion mwyaf rhyddfrydig. Y mae yr heddwch a'r undeb sydd yn bodoli yn Spain yn cael ei ddangos yn y ffaith fod y badau a anfonwyd er dy- cgelwch y trigolion Ffrengig wedi dych- welyd. Y mae arddangosiad pwysig wedi ei wneud yn Madrid yn erbyn y 'concordat' rhwng Yspaen a Rhufain. Llosgwyd y concordat' yn ffrynt palasdy cenhadwr y Babaeth. Fel math o brotest en erbyn y fath ymddygiad, darfu i lysgenhadwr Ffrainc ofyni Marshal Serrano, pa un a allai cynrychiolwyr gallu- oedd tramor gyfrif ar fod i'w diogelwch personol gael ei barchu. Atebodd llywydd y 'Junta' yn gadarnhaol, ac hysbysodd nad oedd y dygwyddiad yn ddim amgen na dad- ganiad o blaid rhyddid crefyddol. Dywedir nad yw Napoleon yn ymyraeth dim yn achos Spain; ac nad ydyw yn ym- ddangos fod un perygl i deimladau yr Am- erawdwr gael eu haflonyddu drwy i dy- wysog o'r llinach Orleanaidd ddyfod yn ym- geisydd am yr orsedd wag, oblegyd y mae y Spainiaid wedi ymlid ymaith o'r wlad Dduges Montpensier, yn gystal a'i chwaer. Y mae y chwyldroad hefyd wedi rhoddi diwedd ar y clefyd rhyfelgar yn Ffrainc. Edrychid ar y Frenhines Isabella fel un dra thebygol i roddi cynorthwy i Napoleon pe y dygwyddai iddo fyned i ryfel a Phrw- sia ond pwy bynag ddaw i'r orsedd dra- chefn, gellir penderfynu na fydd y duedd leiaf ynddo i roddi cynorthwy i Ffrainc Amerodrol i atygu gorsedd a dylanwad y Pab. Gellir dysgwyl cael tawelwch yn awr am beth amser oddiwrth y glebar ddi- ddiwedd sydd am ryfel ar y Cyfandir, gan y bydd llygad Ewrop am beth amser yn edrych yn sefydlog ar ysgogiadau Spain. C5
[No title]
BETHEL, CAERFFILI.—Cynaliwyd Cyfarfod Blynyddol yn y He uchod, dyddiau Sul, Llun, a Mawrth, yr lleg, y 12fed, a'r 13eg o'r mis hwn. Y pregethwyr oeddynt, W. C. Williams, Groes Wen W. J. Morris, Ponty- pridd J. B. Jones, B.A., Penybont; T. M. Evans, Caerdydd; J. Jones, Pentyrch Hum- phreys, Patagonia, ac Ellis Hughes, Penmain. Dechreuwyd yr oedfaon gan T. L. Jones, Ma- chen B. Davies, Glandwr; Jones a Richard?, Pontypridd Y capel yn llawn o fobl. Caf- wyd casgliad da er dileu dyled y capel hardd.
Advertising
MRS. T. A. PRYOE, 7, Cwnmercial Place, ABERDAIIE, BEGS sincerely to thank the inhabitants of Aberdare and its vicinity for their past patronage, and respectfully informs them that she has just returned from London with the latest novelties in Millinery, Bonnets, Fancy Hats, Dress ¡ Caps, Lady's Under Clothing, Tupons, Quilted and Over Skirts, Velvets, Ribbons, Flowers, Feathers, Ornaments, Trimmings, Children's I Jackets, Pelisses, Frocks, Pinafores, Hats, Hoods, and various other goods too numerous to mention, suitable for the Autumn Season, and will .be pre- pared to show on SATURDAY and MONDAY, the 17th and 19th jOcTOBEE, and following days, when the favour of a call will oblige. Neivydcl ei Chyhoecldi, "SEE Y 3sT O S (CANIG I S.A.T.B.) GAN D. EMLYN EVANS, Pris 4c. I'w chael oddiwrth y Cyfansoddwr,— 4, Warwick Place, Cheltenham. EISTEDDFOD 1JNDEBOL j5T-^ZDOl7xO 1868. PRlF DDARN CERDDOROL, Y Ffrwd," gan Owen Alaw, gwobr 98. Prif destyn barddonol, Marwnad i Mrs. Jenkins, diwedd- ar briod y Parch E. C. Jenkins, Moriah," gwobr X5. Beirniad y Farddoniaeth, &c., Islwyn. Beirniad y Ganiadaeth, W. Parry, Ysw., Liverpool. Programmer i'w cael ond anfon dau lythyr- nod at BRONLWYN DAVIES, Rhymney, (Mon.) EISTIMOFOI# UWDJESLTOJL NEW TRCBEGAB. DHAGFYR 21, 1868. Gellir cael y Pro- gramme, yn cynwys yr holl destynau, ond anfon dau stamp at yr Ysgrifenydd, J. H. Jones, (loan Ddewr,) Post Office, New Trede- gar, Newport, (Mon.) VR ALMANAC THAGWYDDOL.—Dengys y rhyfaddod bychan hwn, yr hwn nad yw yn fvry na chwe chein- og, ao a ffurfia addurn prydferth i Oriadur, &c., y dydd o'r mis, y dydd o'r wythnos, rhifedi dyddiau y mis, codiad a machludiad yr haul—nid a un amser allan o ddyddiad. Trwy y Post yn rhad am 8 stamp, oddiwrth Thog. Forrest, Pontypridd. Swyddwyr yn eisiau, a chyflog dda. SWYDD FYNWY. A R OSOD, TTNGHYD a meddiant Nadolig nesaf 1688. Y ¡ Tyddyn dymunol a elwir HENDREF ISAF, yn cynwys o 80 i 99 o erwau o dir rhagorol, ynghyd a Thy cyfleus, a phob adeiladau angen- rheidioL Saif yn mlwyf Llanover, o fewn pedair milldir i'r Fenni, ac o fewn dwy filldir i orsaf y Rheilffordd.. Ceir pob hysbysiad pellach, trwy ymofyn a Mr. E. Jones Griffiths, Abercarn, ger Casnewydd, (Newport, Mon.) Rhaid i'r ymgeisydd fod yn Gymro, ac yn arfer siarad yr iaith. A Safe, Certain, and Speedy Cure for riles and Gravel. PILES Sf GRA ( PILLS. A NEW VEGETABLE REMEDY; ) Sold in Boxes UAjtd.8f28.9d. each By Post, 18.4d. & 38. each. I Y\ Prepared only by It I. E. 6IOBOE, /y Pharmaceutical Chemist, HIRWAIN. J mae y peleni hyn yn feddyginiaeth sicr, buau, a diogel i'r Piles a'r Gravel. Byddant yn gatfaeliad mawr i bawb sydd yn gweithio mewn lleoedd gwlybion, ac yn anadlu awyr anmhur, neu yn dilyn gorchwylion sydd yn eu gorfodi ieisteddllawer. Tystia pawb ac a wnaethant brawf o hOBynt eu bod yn rhagori ar unrhyw feddyginiaeth sydd eto wedi ei chynyg 'r cyhoedd at y doluriau hyn. Gan eu bod yn feddyginiaeth hollol LYSIEUOL, gellir eu cymeryd gyda'r dyogelwch mwyaf unrhyw amser, acni ofynant gyfnewidiad mewn ymborth. Y mae eu rhinweddau gwellhaol mor amlwg ar ol eu defnyddio am ychydig, fel y gellir yn briodol eu hystyried yn ANGHYDMAROL. Gan nad yw yr un person bob amser yn dioddef oddi- wrth y ddau anhwylder hyn yr un piyd, y mae y peleni achod i'w cael yn y dulliau canlynol, i gyfarfod a phawb ag a allant fod yn dioddef oddiwrth un o honynt neu bob un o'r ddau. No. 1. GEORGE'S PILES & GRAVEL PILLS. No. 2. GEORGE'S GRAVEL PILLS. No. 3. GEORGE'S PILLS for the PILES. Gellir eu cael oddiwrth y Gwneuthurwr, ae oddiwrtb y Druggists canlynol ABERDARE, MB. THOMAS. MERTHYR, MR. DANIEL. CARDIGAN, MR. DAVIES. TREFORIS, SWANSEA-MR. BEVAN. NEATH. MR. A. HAYMAN. SWANSEA, MR. J. DAVIES. LLANELLY, MR. JONES. MAESTEG, MR. W. R. WILLIAMS. PONTYPRIDD, MR. J. JAMES. PENYDARRAN, MR. EVANS. DOWLAIS, MR. EVANS. ABERAVON, MR, EVANS. A chan bob Fferyllydd parchus yn y Dywysogaeth. WHOLESALE AGENT.-Messrs. Collins & Rosser, 114, 240091ic& axiat"L O.S.- Y mae cryn arbediad trwy brynu y blychau mwyaf. JGISIEBDIOD CYMBOOOBIOIT DIRWE»TOL MEHTHYH. N ADOLIG 1868. Y prif ddarn cystadleuol, "Rhosynyi 'Haf," gan J. Parry. Gwobr £15, a Metronome gwerth 2 gini. Y cor i fod o'r un gynnlleidfa. Beirniad, J. Parry, Ysw., (Pencerdd Amer- ica.) Bydd y Programmes yn barod yn mhen ychydig ddyddiau—trwy'r post, dau lythymod ceiniog. JOHN BEYNON, Ysgrifenydd, 43, Twynyrodyn, Merthyr. neuadd y Jttret", Castellnedd, CYNELIR EISTEDDFOD YN Y LLE UCHOD, DYDD IRISOLIE, I868, A CHYNGHERDD YN YR HWYR. PRIV DESTYNAU. 1'r Cor o'r un gynulleidfa, ddim dan 45 o rif, a gano yn oreu Marwolaeth y Cyfiawn," o'r Gyf- res Gerddorol, gan J. A. Lloyd. 10 0 0 I'r Cor ddim dan 30 o rif, a gano yn oreu Hunting Song," (Benedicts) 3 0 0 I'r Cor o'r un gynulleidfa a gano yn oreu "CroeshoeJiad." gwel Rhif 141, Llyfr Tonau Cynulleidfaol Stephens a Jones. 1 0 0 Beirniad y Gerddoriaeth, Mr Silas Evans, Abertawy. Caniateir i'r Corau ddewis Arweinydd. Y Programme yn cynwys yr holl destynau, amodau, a'r darnau adroddiadol, i'w gnel am ddau stamp gan yr Ysgrifenydd. WILLIAM REES, Old Market Street, Neath. PHOTOGItAPHM. DYMUNA DAVID PHILLIPS hysbysu JLIF y gymydogaeth a'r wlad ei fod wedi ei anrhydeddu ag eisteddiad o Mr. Henry Rich- ard, Llundain, ein bwriadedig Aelod Senedd- ol, fel y mae darlun cywir o hono i'w gael ar gardiau mewn frames am swllt yr un, gyda David Phillips, Photographer, 33 Commercial Street, Aberdare. Yn awr yn barod, pris 6c. mewn Lliavn, a Is. mewn Pocedlyfr hardd, Byddladnr y mcthortiiitiald Calfinatdd am 1§09. YN cynwys Dyddiadur, Almanac, Sabboth- au 1870 a 1871, Taflen o'r Gwyliau, Prisiau Stampiau, &c.-Teyrn Ewrop Teulu Breninol-Cynrychiolaeth Cymru, &c.—Sefydliad- au Dyngarol, Crefyddol, &c.—Rhestr o Weinidog- ion a Phregethwyr y Cyfundeb, yn nghyd a'u cyf- eiriad(addrus),Capelau a Theithiau Sabbothol, &c. -Athrofaau a Chenadaethau y Cyfundeb-YFitad- egau. &c. Cynwysa amryw o ychwanegiadau nad ydynt arferol o fod. Pob archebion i'w hanfon at Rev. P. J WALTERS, Aberdare. Rhoddir yr elw arferol i lyfrwertnwyr. Y gwir yn erbyn y j i A gair Duw yn I I ichaf." EISTEDDFOD SIBION, WAURABKWrOD, CYNELIR Eisteddfod y capel uchod yn y MUSIC HALL, Abertawe, DYDD NADOLIG nesaf, 1868, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr teilwng a llwyddianus ar y te»- tynau canlynol:— £ 8« c 1. I'r Cor, ddim dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu The Heavens are Telling, (gwel Haydn's Creation.) 14 0 0 2, I'r bemdorf Preg (Brass Band) achwaieuo yn oreu "We nwr will bew down," (gwel Judas Maccabeus, gan Handel). 9 0 0 3. 1'r Cor, ddim dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu. Glee When Winds Breathe Soft," (irwel rhif 14 a 15 o'r Musical Times.) 5 0 0 4. I'r Cor, ddim dan 30 mewn rhif! a gano yn oreu Gethsfmine," (gwel rhif 205 Llyfr oreu Gethsfmine," (gwel rhif 205 Llyfr Tonau leuan Gvyllt.) 2 0 0 5. 1'r 8 mewn rhif a gano yn oreu "Mail" (gwel y Cerddor Cymreig.) 0 12 0 6. Unrhyw Dduett, i fechgyn. 0 8 0 7. Unrhyw Dduett, i ferched 0 8 0 8. Solo, i fechgyn, Every Valley," ewei Messiah.) 0 5 0 Bydd Cyngherdd ardderchog yn yr hwyr. Yr elw at leihau dyled yr addoldy. AMODAU. 1. Rhaid i bob cor fod yn perthyn i'r un gynulleidfa. 2. Caniateir i bob cor ddewis arweinydd. Y Beirniaid,-Mr. D. Johns, Professor of Music, Birmingham, a Mr. W. T. Rees, (Alaw Ddu.) Abercarn, Newport, (Mon.) Alltwen Cottage. HENRY DAVIM. T VT. JONES BEGS respectfully to announce to the in- habitants of Aberdare that he has com- menced business as AUCTIONEER, HOUSE, and GENERAL COMMISSION AGENT, and trusts that by careful attention to all favours with which he may be entrusted to merit a share of patronage and support. Advances made on all descriptions of Furniture consigned for sale, Rents collected, Accounts promptly settled. 20, Commercial-street, Aberdare. The Cheapest Souse for Iron Bedsteads, Palliasses, Beds, Sfc. Hall's Furniture Warehouse, Wtaltcomlie-st., Aberdare. GILT AND ROSEWOOD PICTURE. FRAME MOULDINGS. SPRING MATTRESSES TO ORDER. REPAIRING, ON THE PREMISES. DYCHWELIAD Y PARCH. DAVID PRICE I AMERICA. BYDDED HYSBYS i bawb a fwriadant gael cyfeillach y PARCH DAVID PRICE Newark, Ohio, i fyned dros y mor, ei fod yn cych- wyn ddydd Mawrth, Hydref 20fed, yn yr agerlong ardderchog "Manhattan," perthynol i'r Liverpool and Great Western Ocean Company. Y mae pob trefniadau yn nghylch ei ddychwel- iad wedi eu trosglwyddo i ofal Elias J. Jones, ar N. M. Jones, (Cymro Gwyllt). Am fanylion a chyfarwyddyd pellach o barthed y fordaith, cyfeirier pob llythyr ac archeb at ELIAS J. JONES & Co., Passenger Brokers. 14, Galton-st LIVERPOOL. D.D.—Gofalir am ystafelloedd i'r Cymry gyda'n gilydd, a gwneir pob peth yn deilwng o sylw a chefnogaeth y genedl. Allan o'r Wasg, 64 tudalen, pris 6c., ELIEKAIJ ^RAHAWEG At wasanaeth Bechgyn Ysgolion Llenyddol. GAN Y PARCH. J. LL. HUGHES, DOWLAIS (TTALL y„1Iy^ fod 0 wasanaeth nid bychan i ddechreu- wyr." CALKDFEYN. Cyfarwyddwr syml, eglur, a rhwydd. y)ai pob dra ieuanc, ac yn enwedig y rhai a garant ysgrifenu i'r waL fynu ei gael.Parch. W. REKS, D.D., (Hiraethog.) Cawsom ein mawr foddloni yn ei gynwysiad. Buasa; yn dda genym gael ei fath pan yn ieuanc."—Parch R THOMAS, (Ap Vychan), Bangor. Yn ol ei faint, nis gwn am ei well i hyfforddi ieuenctrri mewn ysgolion nos."—Parch. M D. JONES, Athraw rv, „ y Bala. ^°les Gellid tybied fod meddylddrych yr awdwr i cryfan Eoddi y gramadeg hwn yn un hynod ddestlus, a'i fod wedi dwyn allan ei feddylddrych mewn modd goleu rhwvdd un eSeithiol.Parch. D. HUGHES, B.A., Tredegar. Y mae medr neillduol yn yr holl gyflawniad.Y Beirniad. Os astudiweh ef, gellwch ei ddeall mor esmwyth a chwareu, a byddweh yn fwy meistriaid mewn gramadar na chant am bob un o'n cyfansoddwyr Cymreig." Cronic 1.- Gellwch ei gael ond anfon Saith Stamp i'r awdwr. Cyfeirier fel hyn-Rev. J. LL. HUGHES, Dowlais, Glamorganshire. PELENI HOLLOWAY ydynt y feddyginiaeth oreu ar gyfer anhwylderau a ymosodant ar ddynion pan y bydd tywyidd hafaidd yn cael ei ganlyn gan dywydd gwlyb, oerllyd, ac afiach. Yn wir. y mae y peleni hyn yn rhoddi cryn ym- wared, pan na fydd yn ihoddi hollol wellhad oddiwrth ddiffyg treuliad, a'r anhwylderau mewnol sydd yn blino llawer o'r boblogaeth. Dan effeithiau cryfhaol, pureidvi- iol, a iachaol y peleni hyn, y mae y tafod yn dyfod yn lan yr archwaeth yn gwella, a'r treuliad yn cryfhau. Y mae y peleni yn meddu y priodoledd oreu er glanhau y gwaed yn gyfangwbl, trwy yi hyn y daw hoenusrwySd a chrvfder i bob rhan o'r cor?.