Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Bydded i'n cyfeillion y Beirdd o hyn allan gyfeirio eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— REV. W. CALEDFRTK WILLIAMS, Groes Wen, GWLADGABWR] Near Pontypridd.
[No title]
Brwynog.—Nid ydym yn deall Englyn y ffon. Ni wyddir yn iawn pa un ai rboddwr y ffon, ynte y ffon ei hun sydd yn meddu pen eur- awg. Nid ydyw yr Englynion o gydym- deimlad yn ein taraw ni. Y mae amryw wallau ynddynt, megis Ter ac enwog er ei gan, Nanaddas iawn yn ddiau, Ow mae'r dyn dan flotyn du." W. Williams.—Yr ydych wedi newid y mesur yn y penill diweddaf. Yr oedd rhai o'r llinellau yn rhy hirion, ac un brifodl yn ddrwg. Yr oedd genych "fedd" yn ateb iddo "ef." NewidLasom amryw bethau ynddo er ei gael ar lan penill. Nathan Wyn.—Gair iael yw gwylltu," rhy isel i fod mewn can bert. Nid priodol yw y losg- nwyy llosgnwy y dylai fod. Ni thai ocheneidiau mae'n rhwygo." Gwilym Nedd.-Parham y dywoJweh" cyn af," yn He cyn yr af, ac araf wyt yn lie yn araf 'rwyt ? Nid ydyw bydd rai yn rhoi," yn briodol. Nid yw berchenogu" yn gywir. Nid ydym yn hoffi cyfarfod a'r gair cwidd." Yr ydym wedi newid y linell er mwyn osgoi ei wyneb hagr. Nid oes angen dyweyd I'r Pen Tywysog hedd." Y mae i Ben Tywysog hedd yn fwy ystwyth. Gwilym Ddu o Went.—Buasai yn dda genym weled mwy o addfedrwydd, ac o ofal yn y gan; y mae rhyw ymadroddion fel "hawdd- amor o'r bron, ragorol a syw, yn gaeth yn ddilai, eu gwasgu eu cau, fel hen amser gynt, gael rediad i'n iaith, i'n cwrdd," yn seinio yn Uedchwith mewn can. Dylai can rydd fod yn hollol rydd oddiwrth bob peth o'r fath. B. T. Davies.—Peidiwch a dyweyd byth 11 wrth ei hun." Y mae eisiau sillgoll mewn a'i, pan arferir fel hyn a'i baradwys." Nid oes dim angen oedd ac ydoedd yn y ddwy linell ganlynol:— Ei ddymuniad a'i baradwys Ydoedd ar y ddaiar hon; Oedd cydgymdeithasu'n wastad Gyda'r eneth siriolhon." Buasai yn well Cael cydgymdeithasu'n wastad, ond nid ydyw yn ystwyth iawn wedi'r cwbl. Disgybl y Groes Wen.-Nid oes dim cynganedd yn y linell— Am gan e ga glod gan i." Yr ydym yn anfon B. T. Davies, Gwilym Nedd, William Williams, Dyfedfab, Brwynog, a Nathan Wyn, i'r Swyddfa. g-U n o'r gwersi anhawsaf ei dysgu i amryw o'n gohebwyr yw yn nghylch maintioli y sheet o bapur ydym yn ddymuno gael; sef un tua saith modfedd wrth bedair a haner; hyny ydyw, saith modfedd o hyd, a phedair mod- fedd a haner o led.
MAWREDD Y MEDDWL DYNOL.
MAWREDD Y MEDDWL DYNOL. Pan byddwyf yn edrych o'm hamgylch Ar holl weithrediadau y dyn, A'r gallu meddyliol sydd ynddo, Mae'n ddarlun o'i grewr ei hun Gwna weithio pob peth wrth ei gynllun, Mae'r ager yn was iddo e', Er gyru peirianau mawreddog Yn llwythog o amgylch y He. Gwna ffrwyno elfenau y fellten, A'u gwneuthur yn ufydd fel gwas, Er gyru ei feddwl yn gyflym I diroedd America fras; Esgyna i blith y planedau, A ser yr wybrenau uwchben, A geilw rhai hyn wrth eu henwau, Fel pe bai wneuthurwr y nen. Ei feddwl a yrir ar aden Y fellten, dros diroedd yn chwim; Ac hefyd trwy ganol y weilgi, A'i donau cynddeiriog a llym Peth syn ydyw gweled y llongau Mawreddog ddyfeisiwyd gan ddyn, Yn marchog y tonau brigwynion, Fel dinas yn brydferth eu llun. Mae'n syndod i wel'd y peirianan Galluog gynlluniwyd gan ddyn, Mor gelfydd mae olwyn mewn olwyn Yn troi, heb ddrych methiant ar un; Mae gweled y mawrwych balasau Mor brydferth a chelfydd bob un, Yn peri i mi dd'wedyd yn groew, Fod mawredd yn meddwl y dyn. Os edrych ar ol llaw celfyddyd A wnawn yn y dref lie 'r wy'n byw, Cawn weled y mawrwych binaclau, Sef temlau i foli ein Duw; A'r cyfryw oil wedi eu haddurno Yn gywrain a phrydferth bob un, A'r cwbl yn datgan yn uchel Fod mawredd yn meddwl y dyn. Ac yna gwnawn droi ein golygon At orwych adeilad ein tre', Lie gwelir y werin yn cyrchu Mewn syndod, gofynant pa le Y cafodd y celfydd ddychymyg I feddwl cynllunio'r fath un ? A'r ateb a roddir yn union, Mae mawredd yn meddwl y dyn." Mae yno bob peth wedi ei osod Yn brydferth, yn drefnus, a hardd Celfyddyd a fu ar ei goreu Wrth destyn rhyfeddol y bardd; Y meini oil wedi eu caboli, A'u gosod fel pe baent yr un, A'r cwbl sydd yno yn datgan Fod mawredd yn meddwl y dyn. Er cymaint yw mawredd dynoliaeth, 'Rwy'n gweled fod mawredd sydd fwy Yn galw y dyn i fodolaeth, Yr hwn na ddifodir byth mwy; A'i osod yn nghanol gardd Eden, A phob peth oedd yno'n gytun, Yn datgan uchelder urddasol, A mawredd meddyliol y dyn. Treforis. Hu ab R.
RHAGORIAETH CASTELLNEDD,
RHAGORIAETH CASTELLNEDD, Sef testyn a roddwvd allan gan Gymdeithas Gymreigyddol y lie, i'r beirdd ieuainc. 0 fy awen fach, bydd barod, Trina'th bwnc gan wir gydnabod Castellnedd fel pwnc dyddorol I'r Gymdeithas Gymreigyddol. Castellnedd sy'n meddu breintiau Er dwyn allan y meddyliau Oedd fel perlau yn guddiedig Yn y meddwl annyggedig. Castellnedd trwy ei Chymdeithas Gymreigyddol, sydd yn addas I ddwyn perlau gwych i'r amlwg, Oedd guddiedig yn Morganwg. Castellnedd sydd yn dyrchafu laith y Cymry, gan ei dysgu Hen iaith enwog ei dylanwad, Ar y dyn wrth son am Geidwad. Castellnedd sydd enwog hefyd Yn ei masnach a'i chelfyddyd; Yn ei hymdrech am wybodaeth, Mae'n teilyngu cael canmoliaeth. Yma mae talentau mawrion, Beirdd, areithwyr, a cherddorion, Ac ni synwn i ddim tipyn Na ddaw yma ryw Galedfryn. Castellnedd. LLEW O'B LLWTN.
! BETH SY'N HARDD ?
BETH SY'N HARDD ? Beth sy'n hardd ? nid 'strydoedd llydain, P lasau gwychion Paris dre', Ond hen Feibl anwyl Iesu, Yn iaith Gomer* yn y lie Gwel'd y Ffrancwr, coegfalch uchel, Derbyn hwn yn awr i'w law, Yn cydnabod gyda hyny. Mai hwn a'i barna dydd a ddaw. Beth sy'n hardd ? nid addurniadau Costfawr, drudfawr, daiar lawr, Ond pechadur ar ei ddwy lin, 0 flaen mainc y Brenin mawr Yno'n dadleu am ei wrandaw, Am ei dderbyn gan y Tad, Am faddeuant o'i bechodau, 'Nawr yn haeddiant Crist a'i waed. Hyn a wna i engyl gwynion Adael Gwynfa Nefoedd fry Dod i lawr i wlad y ddaear, Gwrandaw ar ein ochain ni 'Hedeg adref mewn llawenydd, Taro tant y delyn fawr Dechreu canmol a chlodfori'r Gwr ogwyddai ben i lawr. MORGRUGYN CALLESTE. Y Beibl Cymreig yn Arddangosfa Ffrainc, 1867.
UNIGRWYDD.
UNIGRWYDD. Unigrwydd, unigrwydd,-hoff fartgre tawelwch, Llyth'renau dy enw a swynant fy mryd Fy meddwl eheda yn ngherbyd hyfrydwch, I'th freichiau i orphwys o olwg y byd Lie teimla fy nghalon yn mro y dystawrwydd, Hyawdledd digymysg a nerthol mudanrwydd, Yn traethu ar fawredd Anfeidrol fy Arglwydd, Gan ddatgan ei allu a'i olud i gyd. Unigrwydd, unigrwydd,—y deml wych lanwedd, Lie sieryd dystawrwydd mor rymus a choeth; Prif destyn y bregeth yw gallu a mawredd, Yr Hwn a fu'n llunio y bydoedd mor ddoeth Fe dystia mudanrwydd pob planed ar unwaith, I hanfod ei Hawdwr a'i creodd mor berffaith; A'i fod yn bwriadu amddiffyn ei gyfraith, A chleddyf cyfiawnder, llymfiniog a noeth. Unigrwydd, unigrwydd,—rhyw noson ddigwmwl, Tra'r awel yn suo lleddf alaw o hedd Ar wibdaith i'r fynwent diangodd fy meddwl I dawel gymdeithas trigolion y bedd Uwch beddrod y teulu anturiais i floeddio Yn nerth adgyfodiad ar iddynt ddihuno, Ond angau'n watwarllyd ddechreuodd fy ngwawdio A dweyd na chawn weled byth mwyach eu gwedd. Unigrwydd, unigrwydd,—prif heol y ddinas, Lie gwelir plant dynion blith drafflith yn gwau, Gan gyfarch eu gilydd 'nol arfer cymdeithas, Tra minau'n ddisylw, a phawb yn pellhau; Och deimlad o brudd-derl-oeriasau unigrwydd A dreiddia trwy'm hysbryd mewn Hawnion heolydd, Nes llethu fy nghalon gan dristwch, o herwydd Unigrwydd fy meddwl o hyd sy'n parhau. Unigrwydd, unigrwydd,—ar draethell tywodlyd, Rhyw ynys bellenig, anghysbell, ddinod Bachgenyn o forwr trwy dymestl ddychrynllyd, A daflwyd i lanerch nas gwybu ei bod Ond Ow y fath Biomiant, 'doedd yno ddim dyn- ion I'w serchog roesawu o'i ddirfawr beryglon Fe wylodd o'r herwydd nes torodd ei galon, Tra'n ofer dysgwyliodd ymwared i ddod. Unigrwydd, unigrwydd,—y dyfnaf a deimlwyd Oedd tiddo yr Iesu yn I ymdrech yr ardd Ar gopa Golgotha yn greulon fe'i hoeliwyd Ar groesbren gan filwyr Rhufeinig diw'ardd Heb neb ond ei hunan i ddyodde'r di'styrwch, Y diafol orchfygodd a gallu'r tywyllwch, A dyn a gymododd a'r Duwdod mewn heddwch, Tra bywyd ar orsedd gref angau a chwardd. Aberdar. NATHAN WYN.
PENILLION
PENILLION Er coffadwriaeth am James Clee. Cydfuddugol yn Panteg, Nadolig 1867. Cloddir gemau tlysaf natur 0 gudd gellau'r ddaear hon, Hyd anhygyrch greigiau Cymru, Gwelir rhai yn gwenu'n lion Felly ceir mewn cymoedd dinod, Rhwng clogwyni uchel serth, Flodau teg yn nghyfri'r nefoedd Nad adnabu'r byd eu gwerth. Pan ymwelodd gras a'i gyflwr, Chwarddai ie'nctyd yn ei rudd; Cafodd le yn ngwinllan Iesu Ar y drydydd awr o'r dydd; | Byw a wnaeth i ogoneddu 'R Hwn fa farw yn ei le Troes ei gylchoedd mor reolaidd Ag un haul sydd yn y ne'. Dyn caredig, llawn haelioni, A rhinweddau o bob rhyw, Ydoedd Iago gu, ragorol, A defnyddiol tra fa by w; Crefydd Iesu Grist a garai Am ddau ddeg o flwyddi llawn H on oedd ei hyfrydwch penaf, Pan fachludai'i haul brydnawn. Ymhyfrydai'n cyfaill beunydd Gyda chrefydd yn mhob rhan 'Mysg y brodyr a'r chwiorydd Teimlai'n ddedwydd yn mhob man; Pan yn gwrando gair y bywyd, Byddai'n wastad wrth ei fodd, Fel yn teimlo diolch gwresog Am y fath ardderchog rodd. Gwelai'r eglwys ef yn gymwys I gyflawni swydd o bwya A dewiswyd ef i'w llanw Megys aelod duwiol dwys; Am ryw lawer o flynyddau, Bu'n ddiacon ffyddlon iawn, Yn gweinyddu yn yr eglwys, Er ei llwyr foddlonrwydd llawn. Colled ddirfawr ydoedd colli Un mo? ffyddlon dros y gwir; Colled fawr i'r byd a'r eglwys, Colled d-imlir amser hir; Ei gynghorion, ei rinweddau, A'i weddiau is y rhod, Fydd mewn coffa gan ugeiniau Am flynyddau eto i ddod. Ei gyfeillion a'i berth'nasau, Peidiwch wylo, megys rhai, Heb un gobaith, daw i fyny 'N iach o'i wely oer o glau, Wedi gwisgo anfarwoldeb Yn gyffelyb iddo ef, Ac yn addas i breawylio Gyda'r saint yn nef y nef. Tra yn teithio trwy'r anialwch, Ymofynwn am y rhan A ddewisodd James Clee anwyl, Hyn fydd melus yn y man; Rhown ein bryd ar bethau crefydd, Byddwn beunydd ar ddihun, Yna cawn gyfarfod eto Pan y delo Mab y Dyn. Ystalyfera. AB DANIEL.
Advertising
ELISHA ESLICK, Auctioneer, Appraiser, Accountant, House, Estate, General, Commission and Insurance Agent, It ESPECTFULL Y informs his friends and -*— the public of Aberdare, that all Business Matters entrusted to him will receive his per- sonal and prompt attention, and all accounts will be settled without delay. E. E. is also prepared to purchase any quan- tity of Second-hand Furniture, and has always a stock of Second-Hand goods for sale. Offices, 19, Whitcombe-street, Aberdare. Y FEDDYGINIAETH HYNOTAF. LLYSIEUAETtUGALFANAETH PRIF ADFERYDDION NATUR. Gellir ymgynghori a MR. ALFRED ALLEN, M.B., (Goruchwyliwr y byd-enwog Dr. COFFIN, am 14 o flynyddau), yn ddyddiol, o 9 hyd 8 o'r gloch, ac ar ddyddiau Sul o 9 hyd 11, yn y Sefydliad Llysieuol a Galfan- iaethol, 2, Market Street, Aberdare. Mae Mr. Allen yn gwella pob anhwylderau trwy ddarpariaethau LlysiCUOl cartrefol a thra- mor, a gallu Galftintaketit pan y bydd yr achos yn galw. Dymunir ar y cleifion na fedrant ddyfod yn bersonol am anfon potelaid bychan o'u dwfr, yr hwn a daflwyd ganddynt wedi codi y boreu, fel y gellir ei ddosranu a'i roddi dan adchwillad chwyddwydrol Anhwylderau y croen, a'r rhai hyny y deuwyd i'w gafael ar fynydau anwyliadwras, &c., yn cael eu gwella gyda'r cyflymdra mwyaf, Mae digon o dystiolaethau i'w cael-497 wedi eu gwella, a 347 wedi derbyn lleshad rhanol yn ystod y flwyddyn ddiweddaf a'r rhyfeddod yw fod cymaint o hon- ynt wedi eu gwella wedi i bod moddion ereill fethu. Cyfeirier,- Bolanic A Cralvanic Institute, 2, Market Street, Aberdare. JOIOi IiHWIS Mew Yorlk Hotel, neu y Welsh Harp, 28, UNION-STREET, LIVERPOOL. A DDYMUNA. hysbysu ei gydwladwyr ei fod wee *■ dodrefnu Ty helaeth uchod yn y modd mwyaf cyfleai tuag at lettya ymwelwyr, ar y telerau mwyaf rhesymol Tua thri munyd gerdded o'r man y glania y gwahaao agerlestri Cymreig. Gofaled y Cymro dihoced i ymofyn am dý Mr. Lewte Welsh Harp; ac hefyd, ei fod yn anfon allan ymfcuhrjn i'r America, British Columbia, Awstralia, neu unrhtv barth arall, gyda hwyl neu agerlongau, a y prisiat mwyaf rhesymol Ymr-wyma J. L. hefyd ns chaiff neb a ymddiriedo e. hunain i'w ofal achos i edifarhau, gan ei fod yn broilade yn y Bwyd Attebir pob ymofyniad ac anfonir pob hyfforddiaBt ond anfon postage stamp. T W. JONES "OEGS respectfully to announce to the in- habitants of Aberdare that he has com- menced business as AUCTIONEER, HousE, and GENERAL COMMISSION AGENT, and trusts that by careful attention to all favours with which he may be entrusted to merit a share of patronage and support. Advances made on all descriptions of Furniture consigned for sale, Rents collected, Accounts promptly settled. 20, Commercial-street, Aberdare. uEBDDORIAETH ALAW DOU. "Oeinciau' Gerdd." Rhan laf, pris Is. 6c. yn cynwys 14 o ddarnau. Yn awr yn barod yr AIL RHAN 0 "Geinciøtir Gerdd," yn cyuwys 14 o ddarnau, pris Is. 6c. AN A CHYDGAN,—" 0 rhowch i mi Fwt k" (0 give me a Got.) Ail argraffiad, pris 6ch. Y geiriau Cymraeg gan Ieuan ap Iago, a'r geiriau Saesonaeg gan Titus Lewis, Esq. CARIADGAN, Nans o'r Glyn," (Fair Ami of Glyn), pris 6ch. Y geiriau Oymraeg gan G. ap Dafydd, a'r geiriau Saesonaeg gan De- heufardd. Yr oil gyda chyfeiliant i'r piano, neu'r delyn. D.S.—Lie na byddo Llyfrwerthwr yn gyfleus, anfoner at yr awdwr gyda blaendaL Rheddir commission da. Cyfeirir,-W. T. REES, (Alaw Ddu,) Aber- carn, Newport, Mon. 5WYDOAU ITHAI)! A MANTAIS FAWR I BAWB. D YMUN A E. H. EVANS, Cloth Hall, Aberdar, hysbysu i'r cyhoedd fod ganddo ar werth yn bresenol luaws mawr o Shawb Gwlenyn, a hyny am brisoedd hynod o rad. Ceh Shawls a arferid eu gwerthu am jEl 10s., yn awt am I Pa.; rhai a werthid am .£1, am 14s. 6d.; rhai a werthid am 12s., am 8s. 6.; rhai a werthid aID 10s., am 6s. 9d., ac ereill yn gyffelyb. Hefyd y mae ganddo y Stock oreu o wlaneai c wneuthuriad cartrefol a fedd Cymru, am brisoedd rhad iawn. CLOTH HALL, 8, Commercial St., Aberdart, JLIHKJRICAL. SWTDDFA. YMFHDOL GTHRKLA. "T^ 8JtM OW J AM .528 Union Liverpool, A DDYMUNA ddatgan ei deimlad diolohgar aai y aeth y mae wedi ei gael, hefyd a ddymana iraeitimi yn hysbys ei fod yn parhau i Fookio grd,r Ager tilt IIwyl-longau i America, Awstralia, &c., am y priaoeU iselaf yn Liverpool. Gellir oael pob hysbysrwydd am y Clud-dal, amser hwylio, ymborth, &o., trwy ddanfon llythyy yn cynwys un stamp i'r cyfeiriad uchod. Bydd i'r sawl a ewyllysio le cyfleus i drin ymhorth en hunain, yn nghyd a Uetyaeth cysurus, am y prisoedfl iselaf yn Liverpool, ynghyd a lie i gadw eu Luggage yu rhad. Yr ydym ni, y rhai y mae ein henvuu isod, yn dymnno cymeradwyo Mr. James yn galonog i sylw ymfudwr. gan gwbl gredu, y bydd iddo roddi pob boddlonrwydd l'r cyhoedd: Parohedigion, W. THOMAS, Liverpool; REES EVAMIL Liverpool; T. E. JAMES, Glrn-nedd; W. ROBERTS. Blaenau; W. HARRIS, Heolyfelin, Aberdar; J. a OWEN, Rhyl; J. EMLYN JONES, M.A., LL. D., )("J'.o thyr; W. MORGAN, D.D., Caergybi; E. EVANS, Dow. lais; D. PRICE, Blaenffos; J. LLOYD, Merthvr; B JAMEs, Pyle: E. THOMAS, Casnewydd; J. JONES. (Mathetes,) Rhymni; W. ROBERTS, Penyparo; R. A. JONES, Abertawe.—G weinidogion y Bedydilwyr. Oddiar fy adnabyddiaeth o'r gweinidogion uchod, yn gystal a llythyrau cymeradwyaeth i dy tawel a gweddoa S. JAMES, y mae genyf yr hyfrydwch o'i gymeradwyo sylw ymfudwyr o Gymru. THOMAS PRICE, M.A., PH.D., Aberdar. • Ymofyner yn Aberdar a'i chylchoedd a Mr HOIT!« Morris, 11, Ynyscynon Street, Cwmbach, Aberdar, a Mr. Henry Daviea, 5, Upper Regent-street, Aberdar. lECHYD I BAWB A HYNY YN RHAD Teml Iechyd neu Turklsli Baths, Merthyr. Dan Lywyddiaeth Mr. T. ATKINS. PRISOEDD. 1st. Class, o 8 a.m. hyd 2 p.m., 2s. 2nd. o 2 p.m. hyd 6 p.m., Is. 3rd. o 6 p.m. hyd 8 p.m., 9c. Gwrywod—Dyddiau Llun, Mercher, Iau, a Sadwrn. Menywod—Dyddiau Mawrth a Gwener. Plunge and Shower Baths, comfortable fitted, 6d. each. Hot Water Baths—1st. Class, la. 2nd. Class, 6d. Children to all the Baths at half price. WIst. Class Baths may be had also from 8 £ p.m. until 9 p.m., for the convenience of Tradesmen, Travellers and others, every night excepting Tuesday. Cyn fy nyfod i'r Bath, blinid fi. gan y Gymhalwst (Rheumatism) er's ameer maitU, ac yr oeddwn weithiau mor ddrwg hyd onid oeddwn bron yn methu a symud; ond wedi bod amryw weithiau yn y Bath, da genyf ddwyn fy nhystiolaeih fy mod wedi fy llwyr wellhau trwy effeith- iolrwydd y baddau, dan driniaeth fedrus Mr Atkins, i ba un nis gallaf ad-dalu digon i am ei gy mwynasgaigvch. Hefyd, yr oedd rhywbeth wedi effeithio ar fy ngolygon; ond er yr amser ag y daethum i'r Bath, yr wyf yn gweled yn llawer gwell.—THOMAS THOMAS, Twyn-yr-odyn, Mer- thyr Tydfil. CYMDEITHAS YMFUDOL CYPFRED". INOL CYMRU, Wedi ei sefydlu er cynorthwyo Gweithwyr o bob dosbarth i Ymfudo i.America. Ymddiriedolwyr,—Parch. P. Howell, Gweinidog yr Annibynwyr, Merthyr; Parch. D. Jones Gweinidog y Methodistiaid, Merthyr. Prif Swyddfa—26, Castle Street, Merthyr. Sefydlir Canghenau yn fuan trwy Gymru. T\YMUNA y pwyllgor alw yn ddifrifol ar eu cydweith- wyr i beidio colli dim amser cyn ymuno a'r Gym- deithas uchod, a thrwy hyny gydweithredu yn nghyd e7 ceisio effeithio ar farchnad llafur y wlad hon, a chodi evflog y gweithiwr. W Y ihai a ymrestrant yn aelodau yn awr, bydd gan ddynt siawna yn y tyniad cyntaf o'r lots. Cyfeillion yn chwenych gwella sefyllfa y gweithwyr, taer ddymunir arnynt i gynorthwyo yn y gwaith trwy ddyfod yn Aelod Anrhydeddus. Gellir cael amodau aelodaeth trwy ymofyn a'r ysgTifen- ydd. J. MORGAN, 26, Castle Street, Merthyr. T CHOLELTA MEWN canlyniad i ail ymddangosiad y -"— Dianhsea a'r English Cholera, dylai pob person gadw yn ei feddiant botelaid o foddion cymysgedig y Dr. Price at wella y Cholera, yr hwn a brofwyd mor effeithiol yn ystod yr ymwel- iadau yn 1846 a 1866. T. EVANS, Druggist, Sfc., 22. Commercial Place, ger y Boot Hotel, Aberdar. Anogir pawb i gadw y feddyginiaeth hwn wrth law, er cymeryd dogn o hono os dygwydd yr afiechyd ymosod, trwy yr hyn y gellir ei rwystro i ddyfod yn mlaen. Pris y moddion ydyw Is. 6c. y botelaid. TYSTIOLAETH.—AT MR. T. EVANS. Anwyl Syr,— Wedi i mi wneud prawf ar Dr. Prices Cholera Mixture fel meddyginiaeth rhag y gwaew a rhyddni, dymunwyf i'r cyhoedd gael gwybod am danynt, a derbyn yr un daion oddiwrthynt a minau, yn ngwyneb yr unrhyw amgylch- iadau. Hefyd, y maent yn rhad ao yn hawdd i'w def- nyddio. Yr«iddoch, THOMAS ROW £ ANM, Gweinidog v Methodistiaid Calflnaidd. Gorph. 19,1866. 9, Pembroke Street, AbCTdar.*