Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
MIDDLESBRO' A STOCKTON AR…
MIDDLESBRO' A STOCKTON AR Y TEES AC URDDIAD GWEINIDOG. Middlesbro' a Stockton ydynt ddwy dref eang ar lanau ar afon Tees. a hynodir gan gy- nydd eu poblogaeth, a bywiawgrwydd eu mas- nach. Gwneir eu trigolion i fyny o Saeson, Cymry, Ysgotiaid, Gwyddelod, a Germaniaid, pa rai a ymddibynant am eu bywioliaeth gan mwyaf ar y gweithiau haiarn cylchynol. Er fod Cymry y ddwy dref yn rhifo eu miloedd. ychydig o honynt mewn cydmariaeth sydd yn mynychu lleoedd o addoliad. Urddwyd Mr. Morgan, o Goleg Aberhonddu, yn weinidog ar eglwysi Annibynol, School Croft, Middlesbro', a Barnard-street, Stockton. Nos Sadwrn, Medi 19eg, yn Middlesbro', dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. W. R. Pierce, (T.C.), o Goleg Trefecca, a phregethwyd gan ProfF. Roberts, Aberhonddu. Yr un nos, yn Stockton, dechreuwyd gan y Parch. J. James, Walker, a phregethwyd gan y Parch. H. Rees, Ystradgynlais. Sul, Medi 20fed, yn Stockton, am 10, dechreuwyd gan y Parch. Mr. Wil- liams, (B.), Stockton, a phregethwyd gan Proff. Roberts a'r Parch. H. Rees. Am ddau, yn yr un lie, dechreuwyd a phregethwyd yn Saes- neg gan Proff. Roberts. Am chwech, yn yr un lie eto, dechreuwyd gan Mr. Bowen, (W.), Stockton, a phregethwyd gan y Parch. J. James, Walker, a P. M. Williams, Ysw., Man- chester. Dydd Llun, Medi 21ain, yn y Town Hall, Middlesbro', am 10, cymerodd yr urdd- iad le. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. S. Morgan, Stsckton. Pregethodd Proff. Roberts ar Natur Eglwys." Holwyd y gofyniadau gan y Parch. J. Davies, Witton Park. Gwedd- iwyd yr urdd weddi gau y Parch. J. James, Walker, a phregethwyd i'r gweinidog gan y Parch. H. Rees, ei weinidog. Am ddau, yn yr un lie, dechreuwyd gan y Parcb. H. Rees, a phregethwyd gan y Parchn. J. Davies, Wit- ton Park, ac E Price, Branch End-yr olaf i'r eglwys. Am chwecb, yn yr un lie eto, dech- reuwyd gan Mr. W. Aubrey, (W.), Middles- bro', a phrethwyd gan Mr. W. R. Pierce a'r Parch. H. Rees. Pasicdd yr oil yn dra dymunol. Cafwyd oedfaon gwlithog. Arosodd y Parch. H. Rees, Ystradgynlais, wythnos yma wedi yr urddiad, a chafwyd amryw o bregethau grymus ganddo yn ystod ei arosiad. Cafodd y bregeth ar grefydd gwely angeu efFaith annileadwy ar y thai a'i clywsant. Yr oedd yr eglwysi a nod- wyd mewn gwir angen am weinidog. Go- beithio bydd y yr uniad dan arddeliad y nef- oedd. GOHEBYDD.
HIRWAUN.
HIRWAUN. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol y lie hwn yn Ysgoldy Brytanaidd y lie uchod, nos Fercher, Medi 30ain, 1868. Wedi ethol W. Williams, Ysw., i'r gadair, aethpwyd yn mlaen yn y drefn ganlynol:—Canwyd Trio, Bywyd yr Unig;" dau barti yn cystadlu—goreu, Mr. John Thomas a'i gyfeillion. Canu deuawd, <c Damon and Clora dau barti yn cystadlu -goreu, Mr. John Thomas a'i wraig. Beirn- iadaeth y Llythyrau Caru Saesonaeg wvth a ddaeth i law-goreu, Mr. John James, London House, Hirwaun. Canu y Solo Bass, Onid ti yw yr hwn, &c. o Anthem Deffro, gan J. A. Lloyd chwech yn cystadlu—goreu, Mr. Thomas Richards. Beirniadaeth y traethawd ar "Ddefnyddioldeb yr Ysgol Sabbothol; pump yn cynyg—goreu, Mr. John Thos. Lloyd. Canu Morfa Rhuddlan dau gor yn cys- tadlu—goreu, Cor Bethel. Canu y Solo Tenor, "Dafyddy Gareg Wen;" pedwar yn cystadlu -goreu, Mr. Samuel Jones. Adrodd Morfa Rhuddlan un yn cynyg, ac yn deilwng o'r wobr, sef Mr. Wm. James. Canu y Trio, The Red Cross Knights dau baiti yn cys- tadlu—goreu, Mr. Daniel T. Roderick a'i gyf- eillion. Beirniadaeth y Llythyrau Caru Cy- mraeg deg ddaeth i law-goreu, Mr. G. Davies ail oreu, Mr. John James, London House. Canu y deuawd, "Mae'n hiaith yn fyw tri parti yn cystadlu—goreu, Mr. Ben- jamin Davies a'i gyfaill. Beirniadaeth y traethawd ar "Eisteddfodau Cartrefol," sef ys- tyriaeth o'n programmes, mewn modd cyffred- inol, o berthynas i'w tueddiadau i ddyrchafu neu i wellhau safle cyfeillachol y gweithiwr." Ni ddaeth ond un i law, ac yr oedd yn deil- wng o'r wobr, sef Mr. John James, London House. Canu y Trio, "0 Lord our Governor; dau barti yn cystadlu—goreu, Mr. Benjamin Davies a'i gyfeillion. Canu "From Oberon in Fairy Land tri cor yn cystadlu—goreu, Cor Wesleyaid Hirwaun. Rhoddodd Top- ping, Ysw., wobr o 5s. i barti o wyth mewn nifer a ganasai oreu Llwyn Onn" heb un llyfr. Daeth tri parti yn mlaen, ond y goreu ydoedd Minstrels, sef Mr. Miles a'i gyfeillion. Boneddwr cymwynasgar ydyw W. Topping, Y sw., a'i hoff fryd yw gwneud daioni, ac y mae Hirwaun dan rwymau i roddi diolch- garwch iddo am lawer cynorthwy ag ydynt wedi ei dderbyn oddiwrtho y dyddiau pre- senol. Beirniad y traethodau a'r adroddiadau, Parch. W. J. Williams, (T.C.) y llythyrau caru, Mr. S. Picton y ganiadaeth, Mr. M. G. Johnson. Da genyf hysbysu fod pawb o'r cy s- tadleuwyr wedi eu llwyr foddloni yn y gwa- hanol feirniaid, ac yr ydwyf yn credu na fuom mewn gwell cyfarfod erioed, a dymuniad fy ughalon yw cael un o'r fath heb fod yn hir. GWILYM Towy.
CYMANFA YR ANNIBYNWYR CYMREIG,…
CYMANFA YR ANNIBYNWYR CY- MREIG, TALAETH IOWA, AMERICA. Mr. Gol.—Dichon na fyddai yn annerbyniol gau ddarllenwyr lluosog y GWLADGARWR gael Sanies y gymanfa uchod, gan fod cymaint o'i gyfeillion yn America. Dechreuodd Medi yr ail, 1868, am chwech oftr gloch, yn Williamsburgh, pryd y pregethodd y Parch. O. Owens, Long Creek, Iowa (gynt Brynmenyn, Deheudir Cymrti.) Dranoeth, am Parcb. W. Watkins, M.A., Rucine, Wiscon- sin, a'r Parch. C. D. Jones, Oldman's Creek. Am ddau, y Parch. 0. Owens. Am chwech, Mr. W. B. Williams, Yele College, a'r Parch. W. Watkins, M.A. Boreu yr ail ddydd, pre- gethodd y Parch. W. Watkins. Am ddau, y Parch. E. Slosbrey, (T.C.), Walsh Peseri, Iowa, a'r Parch. C. D. Jones. Am chwech, Parchn. 0. Owens a W. Watkins, M.A. Medi 5ed, dechreuwyd yn Oldman's Creek, pryd y pregethodd y Parch. T. Thomas, (C.W.) Remson, New York. Boreu Sabboth, am 10, Parchn. 0. Owens, Long Creek, a W. Wat- kins, M.A., Racine. Am ddau, Parch. D. Thomas, Georgetown, Iowa, a T. Thomas, Remson. Am chwech, Mr. W. B. Williams, a'r Parch. W. Watkins, M.A. Am 10 dran- oeth, Parchn. T. W. Evans, Flint's Creek, Iowa, a W. Watkins, M.A. Am ddau, Parch. 0. Owens. Am chwech, Mr. W. B. Williams, a'r Parch. W. Watkins, M.A. Medi, 8fed, dechreuwyd am saith o'r gloch yn Long Creek, pryd y pregethodd y Parch. C. D. Jones, Oldman's Creek. Dranoeth, am 10, pregethodd y Parchn. T. W. Evans, Flint's Creek, a W. Watkins, M.A. Am ddau, Parclm. D. Thomas, Georgetown, a T. Thomas, Rem- son. Am chwech, Parchn. W. Watkins, M.A., a C. D. Jones. Yr ail ddydd, am 10, Parchn. D. Thomas a T. Thomas. Am ddau, Parch. W. Watkins, M.A. Am chwech, Parchn. D. Thomas a T. Thomas. Medi 11 eg, dechreuwyd yn Flint's Creek am saith o'r gloch, pryd y pregethodd y Parch. O. Owens, Long Creek. Am 10 dranoeth, Parchn. D. Thomas, Georgetown, a W. Watkins, M.A. Am ddau, Parch. C. D. Jones, Oldman's Creek. Am chwech, Parchn. T. Thomas a W. Wat- kins. Am 10 dranoeth, Parchn. O. Owens a T. Thomas. Am ddau, Parchn. W. Watkins a C. D. Jones. Am chwecb, Parch. T. Tho- mas. Bu cynadledd yn Oldman's Creek. Yr oedd yn bresenol o weinidogion y dalaethy Parchn. C. D. Jones, E. J. Evans, Williamsburgh T. W. Evans, Flint's Creek O. Owens, Long Ceek; D. Thomas, Georgetown, achenadon o'r gwalianol eglwysi, pryd y penderfynwyd 1. Fod y Parch. 0. Owens, Long Creek, i fod yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol, ac E. Tudor, Ysw., Oldman's Creek, yn ysgrifen- vdd. J 2. Rhoddwyd caniatad i'r Parchn. W. B. Williams, Yele College; T. Thomas, Remson; a W. Watkins, M.A., Racine, i gydweithredu yn y gynadledd. 3. Fed y gymanfa flynyddol nesaf i fod yr ail wythnos yn Medi, a bod y cyfarfod 10 o'r gloch y dydd cyntaf i gael ei gadw yn gyfeill- acli crefyddol yn mhob lie, er meithrin cref- ydd yn yn yr eglwysi. 4. Fod y gynadledd yn dymuno ar yr holl eglwysi fod yn llafurus dros ryddid yn yr etholiad sydd ar y drws. Ymddiddanwyd hefyd am y pwys i ni fel gweinidogion i wneud sylw o'r manau y mae y Cymry yn dechreu sefydlu trwy fyned yno i bregethu, gan fod llawer o'r Cymry yn ym- fudo i'r dalaeth hon, a bod yma wlad hyfryd, a thir da i amaethwyr i ddyfod yma. Cafwyd pregethau da yn y gymanfa, ac arwyddion fod Duw gyda ei weision. 0. OWENS.
[No title]
EBENEZER, LLWYNBRWYDRAU.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol pregethu yn y lie uchod dyddiau Sul a Llun, y 27ain a'r 28ain cyfisol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. canlynol: -D. Howells, Abertawe T. Levi, Treforris M. Thomas, Glandwr; W. Thomas, (Islwyn); W. James, M.A., Castellnedd; T. H. Jones, Llansamlet; J. Rowlands, Maesteg; Mr. Jen- kins, (gynt o Lanfairmuallt), gweinidog y lie uchod. Pregethwyd yn ardderchog, ac yr oedd Islwyn yn ei lawn hwyliau. Yr oedd yno "I 0 gynulleidfa luosog iawn, ac yr oedd yno gyfar- fodydd o'r fath oreu a gynaliwyd gan y Methodistiaid erioed, ac yr wyf yn hyderus y bydd o les i lawer o eneidiau. Er mai lie bychan a gwledig ydyw, casglwyd rhwngX60 a i$0-yn mhell uwchlaw pob dysgwyliad.— DEWI O'R LLWYN. Y SGOLDY PENTRE Y STRAD. Cafwyd te parti poblogaidd yn y lie uchod dydd Llun, Medi yr 28ain, ac ar ei ol, cafwyd cyngherdd ddymunol iawn. Canwyd amryw ddarnau yn rhagorol gan barti yn cael ei arwain gan D. Treharne. Y rhai a ganasant y solos oeddynt Eos Hafod, David Jones, Eos Glan Ceri, D. Treharne, a Miss Evans, Aberdar: Cafodd Eos Hafod dderbyniad gwresog gan y cantor- ion, ac yr oedd y gymeradwyaeth a roddasant i'w ddadganiad, yn brawf fod y cyfaill ieuanc hwn yn ymgodi yn gyflym i fryn enwogrwydd cerddorol. Aed rhagddo yw dymuniad-E. RHYMNI.—Dydd Llun, Medi 28, cynaliodd y Wesleyaid yn y lie uchod eu cyfarfod te. Daeth lluaws yn nghyd, ac yr oedd yr elw i fyned at ddyled y capel. TwYNCARNO.-Nos Fawrth, Medi y 29ain, traddodwyd darlith yn ysgoldy Twyncarno, gan y Parch. J. Thomas, Moriah, Dowlais. Y testyn ydoedd "Rhyfeddodau Natur." Dyn ieuanc yw Mr. Thomas, yn dechreu ar ei yrfa ddarlithyddol. Y mae yn ddyn galluog, yn meddu cymhwysderau neillduol fel darlith- ydd, ac yr oedd ei ddarlith yn wir ddyddorol ac yn llawn o'r pethau mwyaf prydferth; a rhoddodd foddlonrwydd cyffredinol i'r gynull- eidfa. Amcan neillduol y ddarlith oedd cy- northwyo brawd ieuanc parchus yn y gymyd- ogaeth, sef W. Jones, Glanafan, Carno, pa un sydd wedi colli ei iechyd er ys llawer o fisoedd bellach. Rhoddodd y darlithydd ei wasanaeth yn rhad, a chafwyd cynulleidfa ardderchog, trwy yr hyn y gwelir fod cariad a chydym- deimlad wedi ei ddangos tuag at y brawd.- DAFYDD 0 WENT. LLWYDCOED.—Nos Lun, Medi yr 28ain, cynaliwyd pwyllgor yn yr ardal uchod, mewn perthynas i adeiladu Ysgoldy Brytanaidd. Mae llawer o siarad o bryd i bryd wedi bod yn nghylch ei adeiladu, ac y mae yn dda genyf eu bod wedi penderfynu adeiladu un yma, ac wedi ei ddechreu y boreu canlynol, yr hon a wna les yn y gymydogaeth. Yr oedd yma ysgol ddyddiol o'r blaen, yr hon oedd yn cael ei chynal mewn ysgoldy perthynol i'r Anni- bynwyr, ond nid oedd lie ynddi i gynal un- rhyw achlysur mewn llenyddiaeth, neu un- rhyw beth arall er adeiladaeth pobl ieuainc yr ardal, o herwydd fod yr enwad uchod yn cynal ei chyfarfodydd wythnosol ynddi; ac hefyd, y mae yr ardal wedi cynyddu fel pob ardal arall, nes y mae'r lie wedi myned yn rhy fach i gynal holl blant yr ardal yn bresenol. Ymwelodd Mr D. Williams, Arol- ygydd yr Ysgolion Brytanaidd, a'r lie yma oddeutu tair wythnos yn ol, ac yr oedd yn rhyfeddu yn fawr weled y plant gystal eu golwg a'u hiechyd o herwydd fod oddeutu deugain yn ormod i ateb y lie. Y mae rhif yr ysgol yn bresenol tua saith ugaiu, ac felly chwi welwch fod angen am un newydd. Y mae yn dda genym eich hysbysu ein bod yn cael y tir yn rhad iawn gan R. Fothergill, Ysw., trwy dalu swllt y flwyddyn am 99 o flynyddoedd. Y mae y pwyllgor yn hynod drefnus trwy ddewis dynion o wahanol enwadau er mwyn myned a'r gwaith yn mlaen. Cafwyd dros £51 o addewidion y noson gyn- taf. Lied dda, onide, yn mysg ychydig o weithwyr, eri dri boneddwr rhoddi 95 yr un, sef R. H. Rhys, Ysw., Mri John Howells, Corner House Inn, a D. Williams, Arolygydd gwaith tanddaearol Llwydcoed. Byddai yn dda genyf weled yr ardal yn gyffredinol yn ymdrechu fel y gwnaeth y boneddwyr uchod at y fath symudiad daionus. DOWLAIS.—Medi 28ain, yn nghapel yr An- nibynwyr, yn y lie uchod, cynaliwyd gwyl de ardderchog, pryd y darfu i ryw naw cant o bobl fwynhau eu liunain ar de a bara brith. Er nad oedd yr hiu yn ddymunol, fel ag y gallesid dysgwyl llawer o bell ffordd, eto i gyd gwnaeth llawer eu hymddaugosiad o wahanol fanau, megys Rhumni, Fochrhiw, &c., a phawb ar eu goreu i'w gwneud yn hapus a chysurus. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus, er rhoddi tipyn bach i'r meddwl, pryd yr ad- roddwyd rhai darnau, ac y cafwyd anerchiadau pwrpanol gan y rarenn. Mr. avails, -uetiiaiiia, a Mr. James, Hebron, ac ereill. Can odd y cor hefyd amryw ddarnau da er gwasanaeth y cyf- arfod. Wrth ymadael, cyflawnwyd y ddefod o dalu diolcbgarwch, ae ymadawsom dan y gobaitli na fydd yr amser yn faith cyn y cawn gyfarfod a'n gilydd mewn modd cyffelyb eto. -R. LL. SALEM, ABERDAR.—Hydref y 24ain, am 2 o'r gloch yn y prydnawn, cynaliodcl Ysgol Sabbothol y capel uchod ei chyfarfod chwar- terol, pryd y dangoswyd fFrwyth yr ysgol a llafur yr athrawon yn dadblygu talentau y plant, y rhai oedd o dan eu gofal. Cymer- wyd rhan yn y cyfarfod gan y personau can- lynol :-Enoeh Jones, Richard Hopkins, David Davies, David Jones, James Thomas, Theo-. philus James, David Hopkins, John Harrison, a chan y Band of Hope. Rhoddodd James Thomas lyfr i bob un ag oedd yn ei ddosbarth. Ein dymuniad yw i'r ysgol fyned rhagddi yn ei gwaith da, a llwyddiant iddi fyned ar ei chynydd.—G. AB. H. CARMEL, CENDL.—Y mae gan broffeswyr y wir grefydd yn mhob oes o'r byd eu gwyliau arbenig. Yr oedd gan yr Hebreaid eu gwyl- iau misol a blynyddol-rhai misol, y newydd loer a rhai blynyddol y Pasc, Bara. Croew, y Penticost, yr Udgyrn, Gwyl Cyfamod, Gwyl y Pebyll, y Flwyddyn Sabbothaidd o Rydd- had, a Blwyddyn y Jubili; ac y mae genym ni yn bresenol ein cyrddau misol, chwarterol, a blynyddol. Ar ddyddiau Sul a Llun, Medi 27ain a'r 28ain, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol, pryd y pregethodd y Parchn. canlynol:—R. Williams, (Hwfa Mon), Llundain Dr. Davies, Ross E. C. Jenkins, Rhumni J. Jenkins, Pontypool; W. Tho- mas, Cwmafon. Cawsom bregethau da a rhag- orol, ac er fod yr bin yn auffafriol, cawsom gyfarfodydd lluosog anghyffredin. Yr oedd casgliad ar ddiwedd pob oedfa tuag at leiliau dyled ein capel newydd, ac ar y Sul a'r Llun casglwyd dros £60, yr hyn oedd yn gwneud i fyny ein casgliadau am y flwyddyn ddi- weddaf yn agos i £290. Tuag at ein cynorth- wyo i wneuthur y swm uchod i fyny, derbyn- iasom XIO oddiwrth un Mr. William Jones, o British Columbia (gynt Cendl), brawd Mr. Ll. P. Jones, fferyllydd, Beaufort. Dyna i chwi esiampl gwerth ei hefelychu, onide ? Bydded i Dduw ei fendithio am ei haelfrydigrwydd a'i esiampl dda, trwy goroni ei lafur a llwyddiant mawr. Bydded bendith Duw ar ein cyfarfod blynyddol, ac ar holl ymdrechion y bobl yn Cannel, Cendl, a gwawried y dydd pan y bydd yr eglwys hon yn rhydd o'r rbwymau y mae ynddi yn bresenol.-Ap SEPHORAH. GLANDWR, ABERTAWY. — Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, cafodd hen wr o'r enw Henry Williams, ei ladd trwy i gerbydau train yr arsaf uchod fyned drosto. Nid oedd yn enedigol o'r ardal hon. Yr oedd wedi cyr- haedd oedran mawr, sef 81 mlwydd oed. Rhwng Glandwr ac Abertawy, yn yr un wyth- nos, cyfarfyddodd dau arall a'u diwedd. Dyn yn ei faint a'i oedran cyflawn oedd un, a bach- genyn deuddeg oed oedd y llall. Yr oeddynt yn anadnabyddus i mi, ac ni chefais wybod pa le y claddwyd hwynt. Eto, yn yr Hafod Coal Yard, Sadwrn diweddaf, anafwyd Mr Griffith Thomas, Glandwr, gymaint fel y bu farw mewn ychydig oriau. Yr oedd ef yn enedigol o ardal Crwys, Browyr. Claddwyd ef yn mynwent y Crwys. Disgynai o deulu parchus, ac yr oedd yr angladd yn lluosog a boneddigaidd. Yr oedd yn 26 oed, a gadawodd ar ei ol, i deimlo eu hamddifadrwydd cynar a thrist, weddw a phlentyn.
[No title]
Y FARCHNAD.—Yn rhai o'n marchnadoedd yr wythnos ddiweddaf, tueddai yr yd i ostwng ond yn Mark-Lane ddydd Llun diweddaf, daliodd y farchnad i fyny i brisoedd y dydd Llun blaenorol. Yr oedd marchnad y glo yn fywiog, a gwerthai glo Elliot a chyf. am 18 y dynell yn Llundain. AWSTRALIA DDEHEUOL. — Oddiwrth yr hanesion diweddaraf sydd wedi eu derbyn oddiyno, yr ydym yn cael fod y cnydau yn bell yn ol o herwydd y sychder mawr sydd wedi cymeryd lie yno. Yr ydym yn cael hefyd fod darpariadau helaeth yn cael eu gwneud yno tuag at barotoi i allforio cig i'r wlad hon. Yr ydys wedi prynu holl hen gerig pavio Paris, i'w cymeryd drosodd mewn llongau i bavio prif ystrydoedd Buenos Ayres a Monte Video. FFRWYDRIAD BERWEDYDD.—Oddeutu pump o'r gloch boreu dydd Sadwrn diweddaf, cy- merodd ffrwydriad berwedydd le yn ngweith- feydd haiarn Mri Dawes, oddeutu pum mill- dir o Barnsley, trwy yr hyn y lladdwyd dau ddyn. MENYWOD YN PLEIDLEISIO.-Y r ydym yn cael mai nid yn Aberdar yn unig y mae enw menyw wedi cael aros ar restr yr etholiad dy- fodol. Y mae y barrister yn Cockermouth, wedi gosod ar y rhestr enw un Mrs Rachel Parsons, ac wedi hysbysu hefyd fod gan y rhyw deg berffaith hawl i bleidleisio. Y mae naw o fenywod hefyd wedi cael yr un rhydd- id ar restr East Cumberland. Yn Ormskirk, y mae Mr Foard wedi gadael enwau un-a- deugain ar y rhestr mewn rhan o Lancashire. Yn Finsbury hefyd, y mae y barrister wedi gosod ar y rhestr enwau yr holl fenywod a hawliasant y bleidlais, yr hyn a ddengys fod ganddynt berffaith hawl yn ol deddf 1867. ANGLADD FFENIAD YN DUBLIN. — Dydd Sul diweddaf, cymerodd angladd Ffeniad le yn Dublin. Yr oedd y trancedig wedi bod yn y carchar, ond nid oedd wedi cael ei brawf. Yr oedd oddeutu 3,000 o bersonau yn canlyn y corff, y rhai a wisgent gadechyn gwyrdd am eu gyddfau, ac ysnoden o'r un lliw. Nos Fercher diweddaf, derbyniodd un Miss Slater, merch Mr John Slater, boneddwr yn Carlisle, gymaint o niwaid oddiwrth dan a gymerodd le wrth iddi ddarllen yn ei hystafell wely, fel y bu farw y boreu canlynol mewn poenau mawr. Yr oedd yn 35 oed. GWR BRENHINES Sr AIN.- Y mae y person hwn, o herwydd ei ddystawrwydd mewn pethau gwleidyddol, bron yn anadnabyddus i'r rhan fwyaf or byd. Y mae Francois d' Assise Marie Ferdinand—gwr y Frenhines Isabella, yn fab i'w hewythr y Due o Cadix. Ganwyd ef yn 1822, a chymerodd y briodas le yn 1846. CYFARTHFA.—Dcmwain.— Dydd Mawrth diweddaf, yn mhwll Phillip Rees, perthynol i Cyfarthfa, cyfarfyddodd un Joshua Morgan a'i ddiwedd trwy i gwymp ddyfod arno. Yr oedd yn ddyn oedranus, ac wedi gweithio am amryw flynyddoedd heb gyfarfod a damwain. Boreu dydd Mawrth diweddaf, cafwyd corff dyn ieuanc, ei enw yn anadnabyddus, wedi marw ar un o tips Dowlais. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi syrthio, efallai yn feddw, yn agos i dip ag y mae llawer o sulpher yn esgyn o hono, ac yno mygwyd ef yn fuan i farwolaeth. Dydd Sadwrn diweddaf, yn mhwll llifio yn Aberdar, syrthiodd dyn o'r eaw Cornelius Butler, tra wrth rhyw orchwyl, i'r pwll, rhyw dair troedfedd o ddyfnder. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw, er na dderbyniodd unrhyw glwyf o bwys, iddo farw yn fuan wedi hyny. Haner bwsiel o bytatws yw pris y myned- iad i mewn i chwareudy dinas y Salt Lake, yn nhiriogaeth Utah. Mae y nodwydd-wn wedi ei ddwyn i ddefn- yddiad yn myddinoedd Denmark, Sweden, Holland, Switzerland, a'r Talaethau Rhuf- einig. Mae Syr Robert Murchison, Syr John Her- schel, a Syr Henry James yn fwrdd a ym- ddiriedolwyr trysorfa i archwilio a mesur gorynys Mynyda Sinai, er mwyn penderfynu llinell gywir taith yr Israeliaid, &r mynydd gwirioneddol y rhoddwyd y gyfraith arno.
[No title]
A SUCCESSFUL ExpEMMEKT.—The Civil Service Gazettee has the followingThere are very few simple articles of food which can boast so many valuable and important dietary properties as cocoa. Woile acting on the nerves as a gentle stimulant, it provides the body with some of the purest elements of nutrition, and at the same time corrects and invigorates the action of the digestive organs. These beneficial effects depend in a great measure upon the manner of its preparation, but of late years such close attention has been given to the growth and treatment of cocoa, that there is no difficulty in securing it with every useful quality fully developed. The siogular success which Mr. Epps attained by his homoeopathic preparation of cocoa has never been surpassed by any experimentalist. Far and wide the reputation of Epps's Cocoa has spread by the simple force of its own extraordinary merits. Medical men of all shades of opinion have agreed in re- commending it as the safest and most beneficial article of diet for persons of weak constitutions. This superiority of a particular mode of preparation over all others is a re- markable proof of the great results to be obtained from little causes. By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of digestion and nutri- tion, and by a careful application of the tine properties of well-eelected cocoa, Mr. Epps has provided our breakfast tables with a delicately flavoured beverage which may save us many heavy doctors bills. It is by the judicious use of such articles of diet that a constitution may be gradually built up until strong enough to resist every tendency to disease. Hundreds of subtle maladies are floating around us ready to attack wherever there is a weak point. We may escape many a fatal shaft by keep- ing ourselves well fortified with pure blood and a properly nourished frame." I
[No title]
PELENI HOLLOWAY ydynt y feddyginiaeth oreu ar gyfer anhwylderau a ymosodant ar ddynion pan y bydd tywydd hafaiad yn cael ei ganlyn gan dywyad gwlyb, oerllvd, ac afiacJ. Yn wir, y mae y peleni hyn yn rhoddi cryn ym- wared, pan na fydd yn i hoddi hollol wellhad oddiwrth dditfyg treuliad, a'r anhwylderau mewnol sydd yn blino llawer o'r boblogaeth. Dan effeithiau cryfhaol, pureidd- iol, a iachaol y peleni hyn, y mae y tafod yn dyfod yn lan, yr archwaeth yn gwella, a'r treullad yn cryfhau. Y mae y peleni yu meddu y priodoledd oreu er glaohau y gwaed yn gyfangwbl, trwy yi hyn y daw hoenusrwydd a chryfder i boo rhan o'r corff.