Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MIDDLESBRO' A STOCKTON AR…

News
Cite
Share

MIDDLESBRO' A STOCKTON AR Y TEES AC URDDIAD GWEINIDOG. Middlesbro' a Stockton ydynt ddwy dref eang ar lanau ar afon Tees. a hynodir gan gy- nydd eu poblogaeth, a bywiawgrwydd eu mas- nach. Gwneir eu trigolion i fyny o Saeson, Cymry, Ysgotiaid, Gwyddelod, a Germaniaid, pa rai a ymddibynant am eu bywioliaeth gan mwyaf ar y gweithiau haiarn cylchynol. Er fod Cymry y ddwy dref yn rhifo eu miloedd. ychydig o honynt mewn cydmariaeth sydd yn mynychu lleoedd o addoliad. Urddwyd Mr. Morgan, o Goleg Aberhonddu, yn weinidog ar eglwysi Annibynol, School Croft, Middlesbro', a Barnard-street, Stockton. Nos Sadwrn, Medi 19eg, yn Middlesbro', dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. W. R. Pierce, (T.C.), o Goleg Trefecca, a phregethwyd gan ProfF. Roberts, Aberhonddu. Yr un nos, yn Stockton, dechreuwyd gan y Parch. J. James, Walker, a phregethwyd gan y Parch. H. Rees, Ystradgynlais. Sul, Medi 20fed, yn Stockton, am 10, dechreuwyd gan y Parch. Mr. Wil- liams, (B.), Stockton, a phregethwyd gan Proff. Roberts a'r Parch. H. Rees. Am ddau, yn yr un lie, dechreuwyd a phregethwyd yn Saes- neg gan Proff. Roberts. Am chwech, yn yr un lie eto, dechreuwyd gan Mr. Bowen, (W.), Stockton, a phregethwyd gan y Parch. J. James, Walker, a P. M. Williams, Ysw., Man- chester. Dydd Llun, Medi 21ain, yn y Town Hall, Middlesbro', am 10, cymerodd yr urdd- iad le. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. S. Morgan, Stsckton. Pregethodd Proff. Roberts ar Natur Eglwys." Holwyd y gofyniadau gan y Parch. J. Davies, Witton Park. Gwedd- iwyd yr urdd weddi gau y Parch. J. James, Walker, a phregethwyd i'r gweinidog gan y Parch. H. Rees, ei weinidog. Am ddau, yn yr un lie, dechreuwyd gan y Parcb. H. Rees, a phregethwyd gan y Parchn. J. Davies, Wit- ton Park, ac E Price, Branch End-yr olaf i'r eglwys. Am chwecb, yn yr un lie eto, dech- reuwyd gan Mr. W. Aubrey, (W.), Middles- bro', a phrethwyd gan Mr. W. R. Pierce a'r Parch. H. Rees. Pasicdd yr oil yn dra dymunol. Cafwyd oedfaon gwlithog. Arosodd y Parch. H. Rees, Ystradgynlais, wythnos yma wedi yr urddiad, a chafwyd amryw o bregethau grymus ganddo yn ystod ei arosiad. Cafodd y bregeth ar grefydd gwely angeu efFaith annileadwy ar y thai a'i clywsant. Yr oedd yr eglwysi a nod- wyd mewn gwir angen am weinidog. Go- beithio bydd y yr uniad dan arddeliad y nef- oedd. GOHEBYDD.

HIRWAUN.

CYMANFA YR ANNIBYNWYR CYMREIG,…

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]