Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
addewid erioed heb ymdrechu ei cbyflawni. Astudiaeth fy mywyd fu, o fewn ac allan i'r Senedd, gwneutbur daioni i'm cyd ddynion o bob gradd, yn ol mesur fy nerth a'm gallu. Nid wyf yn dymuno gwell gwaith yn y dyfodol, ac nid ewyllysiwn ddal eisteddle yn y Senedd am un awr, pe na thibiwn y byddai fy nghyd- wladwyr, ac yn enwedig chwi, fy nghyfeillion a'm cymydogion, yn well drwy hyny. Ydwyf, foneddigion, Eich ffyddlawn was, H. A. BRUCE. Hydref 3, 1868.
AT. ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.
AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN. FONEDDIGION,-Y mae y Mesur Diwyg- iadol mawreddog a ddygwyd i mewn mor hynod ac mor anghyson gan y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfod yn Gyfraith, ac fe'i dygir cyn hir i weithrediad. Bydded i ni fod yn ddiolchgar am y rhagorfreintiau ychwanegol a sicrhawyd drwyddo i bobl y wlad hon, gan adael y blaid Doriaidd i gysoni eu hymddyg- iadau oreu y gallont, gyda chywirdeb a chyd- wybodolrwydd gwleidyddol. Etholwyr Sir Gaerfyrddin! o dan yr hen gyfundrefn y mae y Toriaid hyd yn hyn wedi cadw iddynt eu hunain, mewn gorphwysdra tawel a digyffro, yr anrhydedd o'ch cynrych- ibli chwi yn y Senedd. Yr wyf fi yn awr yn dyfod yn mlaen yn y gobaith y bydd i chwi, o dan y gyfundrefn newydd, dori tiwy yr aT- feriad hynafol hon, ac ethol o leiaf un aelod Rhyddfrydol dros y Sir. Os bydd i mi lwyddo i gyrhaedd yr anrhydedd o'ch cyn- rychioli chwi, ymdrechaf brofi fy hun yn deilwng o'ch ymddiried, drwy fy ymlyniad diwyro wrth egwyddorion mawrion rhyddid gwladol a chrefyddol, pa rai ydynt wedi bod yn fywyd ac enaid derchafiad y deyrnas hon i'w mawredd presenol; a barnwyf fod ymar- feriad pellach o'r egwyddorion hyn, hyd nes byddo pob llyffethair ar grefydd wedi ei sy- mud, yn hanfodol i'n llwyddiant dyfodol. Braidd y mae yn angenrheidiol i mi eich adgofio y bydd i un pwne o bwysigrwydd neillduol lyncu i fyny sylw y Senedd ddyfod- ol, hyny yw-yr Eglwys Wyddelig. Ar y pwne hwnw, Foneddigion, gannad beth fyddo anhawsderau ymarferol y mater-a pha fesur pwysig sydd heb ei wrthwynebiadau i'w gorch- fygu?—er ei bod yn ofidus genymorfoddolur- io teimladau rhai o'n brodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon—y mae yn ymddangos i mi nas gall dyn cyfiawn goleddu ond un syniad, sef, nad oes gan eglwys y lleiafrif unhawl igynal- iaeth oddiwrth fwyafrif y bobl. Yr wyf gan hyny yn barod, er pob aberth, pa mor boenus bynag, i bleidleiso dros osod Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth yn yr Iwerddon ar dir hollol gydradd. w Y mae yr Ysgrif Ddiwygiadol newydd wedi gosod ar bwne mawr Addysgiaeth bwysig- rwydd anferthol ac arbenig. Y mae dosbarth- iadau newyddion o etholwyr wedi eu galw i fodolaeth. Pa fwyaf addysgedig y byddont, goreu oil y medrant gyflawni eu dyledswydd" bwysig, ac y deuant i ddeall y eyfrifoldeb mawr perthynol iddi. Ond yn ein holl ym- drechion i gefnogi Addysg y Werin, fy nghred gadarn I ydyw, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn i osgoi pob rhith o ymyraeth a chredoau cre- fyddol y gwahanol enwadau Cristionogol i ba rai y mae y wlad hon yn rhanedig. Nis gallaf fi ddeall egwyddorion "rhyddid crefyddol" mewn unrhyw ffordd arall. Wrth derfynu, goddefwch i mi ychwanegu, os caf fy ethol, y bydd i mi ymgyflwyno yn ddifrifol i ystyried llesiant y Sir ton, adnodd- au naturiol pa un nid ydynt yn gofyn ond dadblygiad llawn, er ei gwneud mewn amser dyfodol yn un o'r rhanau mwyaf llwyddianus yn y Deyrnas Gyfunol. Ydwyf, Foneddigion, Eich ffyddlonaf was, EDWARD JOHN SARTORIS. 9, Park Place, St. James's, Llundain, Gorph. 15fed, 1868.
Advertising
LEWIS THOMii, Cabinet Maker, Uphols- terer, Ac. 4, Canon Street, Aberdar. Addymuna hysbysu i'r cyhoedd yn gyffredinol el fod A. wedi agor. Yetorfa o Gelfl neu Ddodrefn Tai o bob m y lie uchod, Ue y gobeithia y bydd iddo dderbyn ovfran o gefnogaeth y cyheedd. Bydd stock helaeth o Gelfl, o wneuthuriad cartrefo bob amser ar law, a'r rhai hyny o'r defnyddiau ar gwneu- ^TARPETfTAND FLOOR CLOTHS OF THE BK8T QUALITIES. go- Cyflawnir pob archeb gyda'r gofal mwyaf. Cyfe-lr-iad, -Lewis Them aPt 4. Canon Street, Aberdar VT. -W- ATKINS, General Insurance Agent, Collector of Rents, &c. REPRESENTS the Royal Insurance Com- Ift pany, Fire & Life Capital £ 2,00G,000, Sterling. Insurances taken up to any amount on most advantageous terms. Farm Stock at 5s. per cent. He also effects Insurances in the following de- partments :-Annuities & Endowments for Accid- ental Deaths and all kinds of Accident, includ- ing Railway Accidents; Weekly Compensation in case of Personal Injury; or Weekly Allowance in case of Sickness and Death- Also a Funeral Fund for Children and Old Age. Plate Glass Insurance. Address :—W. WATKINS, 16, Commercial-street, Mountain Ash. Allan o'r Wasg, pris 6c., CAN A CHYDGAN, HEN GYMRU FYNYDDIG." riERDDORIAETH yn nghyd a Chwm- peiniant i'r Delyn a'r Perdoneg, gan Mr. W. F. Frost; y Farddoriaeth Gymraeg a Saeson. eg gan Mr. W. H. Dyer. Anfoner archebion at yr awdwr, Mr W. H. Dyer, (Mabonwyaon,) Quakers Yard, near Ponty- pridd. Manchester Provident Assu- rance Society (Limited.) CAPITAL—250,000. Chief Offices-41, Princess-street, Manchester. Industrial Department -A berdat-c District. BHtBCBD PWT8I6. PAWB personali sydd yn dal Policies o'r -t- Gymdeithas hon, Premiums pa rai sydd wedi eu talu yn flaenorol i Mr. Thomas Morgans, Aberdar. bydded hysbys iddynt fod ymrwymiad Mr. Morgans fel swyddwr y Gymdeithas yn di. weddu dydd Llun, y 5ed o Hydref. Pob Premiums fydd yn disgyn ar neu wedi y dyddiad uchod i'w talu i Mr. Titus Jones. Aber- dar, yr hwn sydd wedi ei apwyntio yn lie Mr. Morgans, ac a fydd yn galw am y cyfryw. Heb hyn, bydd yr holl fudd deilliedig o'r Gymdeithas yn cael ei golli. HUGH W. REEVES, Agency Superintendent. Manchester, Hydref 25, 1868. lW''}'YDDA..U BRA-D. SHA. WLS, DBZSSZS, WINCEYS, Sfc. R- EEWABDS, (Opposite the Vale of Neath Station, Merthyr,) BEGS to announce that he has received a LARGE STOCK of Goods suitable for the Winter season, comprising FRENCH MERINOES, Serges, Reps, Twilled Alpocas, Winceys and Fancy Dress Materials, Straw Bonnets, Hats, Feathers, Flowers, &c., Quilts, Counterpanes, BLANKETS SHEETINGS, &c., Woollen Cloth Pilots, Beavers, Witneys, Naps, Waterproof Tweeds for Mantles, &c., &c. Millinery and Mantle Making under Competent Management. Funerals completely furnished, and all or- ders executed with punctuality and despatch. 14. 34, High Street, After dare, ADDYMUNA hysbysu y cyhoedd fod ganddo eithaf cerbyd a cheflyl, yn barod bob amser at unrhyw Anghladd neu daith. Gellir eu cael am bris rhesymol ar Hir, ond rhoddi ychydig orlau o rybydd yn mlaen llaw. Yn awr yn barod, pris 6c. mewn Lliain, a Is. mewn Pocedlyfr hardd, Dyddiadur y Metliodistiaid Caliinaidd am 1SOO. YN cynwys Dyddiadur, Almanac, Sabboth- au 1870 a 1871, Taflen o'r Gwyliau, Prisiau Stampiau, &c.—Teyrn Ewrop TeuIu Breninol—Cynrychiolaeth Cymru, &c.—Sefydliad- au Dyngarol, Crefyddol, &c.—Rhestr o Weinidog- ion a Phregethwyr y Cyfundeb, yn nghyd a'u cyf- eiriad (address),Capelau a Theithiau Sabbothol, &c. —Athrofaau a Chenadaethau y Cyfundeb—Ystad- egau. &c. Cynwysa amryw o ychwanegiadau nad ydynt arferol o fod. Pob archebion i'w hanfon at Rev. P. J. WALTERS, Aberdare. Rhoddir yr elw arferol i lyfrwertnwyr. YR ALMANAC TRAGWYDDOL.—Dengys y rhyfeddod bychan hwn, yr hwn nad yw yn fwy na chwe chein- iog, ac alfurfia addurn prydferth i Oriadur, &c., y dydd o'r mis. y dydd o'r wythnos, rhifedi dyddiau y mis, codiad a machludiad yr haul-nid a un amser allan o ddyddiad. Trwy y Post yn rbad am 8 stamp, oddiwrth Tho3. Forrest, Pontypridd. Swyddwyr yn eisiau, a chyflog dda. "KI§T £ J>X)>FOD I XDEBOJL ItHYMI. j5T ADOLIG- 1868. PRIF DDARN CERDDOROL, « Y Ffrwd," -t- gan Owen Alaw, gwobr £ 8. Prif destyn barddonol, Marwnad i Mrs. Jenkins, diwedd- ar briod y Parch E. C. Jenkins, Moriah," gwobr X5. Beirniad y Farddoniaeth, &c., Islwyn. Beirniad y Ganiadaeth, W. Parry, Ysw., Liverpool. Programmes i'w cael ond anfon dau lythyr- nod at BRONLWYN DAVIES, Rhymney, (Mon.) GLOwYR YN EISIEU. YN eisieu o 40 i 50 o Lowyr da; rhaid iddynt fod yn ddynion sobr. Rhoddir iddynt waith cyson, lie y gallant enill o dri ugain i gant dolar y mis. Nid oes yma un math o strike, nac un math o anghytundeb rhwng y meistri a'r gweithwyr. Yr unif eisieu sydd yw helaethiad y gwaith. I arbed amser, os y bydd rhai yn barod i ymfudo, anfonent ataf gyda pha long y byddont yn dyfod, bydded iddynt ddyfod yma yn direct. An- foner yn union at MB. JAMES BEYNON, Aetna Iron & Coal Co., Cleveland, Ohio, North America- BWRDD Y GOLYGYDD. E. DA VIEs.-Caiffllythyr Morddal ymddangos yn y nesaf. UN O'CR DERBYNWYR.—Os ydych yn cyfeirio at dywysog cyntaf Cymru, cafodd ei eni yn Nghastell Caernarfon. Wedi dod i law, a chant ymddangos mor fuan ag y byddo modd, Gynt o Sir Forgan, Ap Jephuneh, Hirwaunwyson, D. Morgan, Morriston, Mwnwr, Merthyr, &c. YSGRIFAU DIENW.—P. Y. C., Hirwaunwr, Evan, Hwntw, &c. 0 herwydd cymaint o hysbysiadau etholiadol, y rhai sydd wedi dyfod i mewn ar yr awr ddiweddaf, yr ydym wedi gorfod gadael allan luaws o bethau ag oeddvnt wedi eu parotoi i'r wasg, ac yn mhlith pethau ereill, hanes agoriad capel Seisnig y Methodistiaid Calfinaidd Aberdar. SIOR CYNON.—Mae eich hysgrif werthfawr wedi dod i law yn ddiogel. Caiff weled goleuni dydd mor fuan ag y byddo modd. LLYTHYR MARY HorKiNS.—Dim yn dderbyn- iol. YR ydym wedi derbyn cais am i Tydfylyn gy- hoeddi ei feirniadaeth ar y don Mesur y 4ydd, yn Eisteddfod Rhydyfelen. E. D.-Nid ydym yn gallu gwneud allan eich llawysgrif. ERYR GLYN COTHI.-Mae ein gofod ar yr am- ser presenol yn rhy werthfawr i ganiatau lie i'ch sylwadau. Ar ol i'r etholiad fyned trosodd, hwyrach y gallwn roddi rhyw gongl i chwi. Dysgwyliwch yn ddystaw hyd hyny. TALIADAU. W. D., Pontardulais; H. H., Cwmgwrach; I. L., Pentyrch W. J., Ynysmudw J. T., Maestegj Mrs. M., Blaenllechau D. D., Stockton-on-Tees T. H., Morriston Mrs. R., Llandovery E. P., Blaenafon A. J. M., Merthyr W. D., Carmarthen R. G. D., Treforest; L. M., Ebbw Vale. Cyfeirier y Gohebiaethau, a'r Adoltgiadau —" To the Editor of the Gwladgarwr, Canon-street, Aberdare." Pob Archebion a Thaliadau i'w gwneud i "Walter Lloyd, GWLADGARWR Office, Aberdar."
EGLWYSWYR YN GYNRYCHIOLWYR.
EGLWYSWYR YN GYNRYCHIOLWYR. Y mae rhai yn synu atom pa fodd yr ydym, fel Anghydffurfwyr, mor wrthwynebus i Eglwyswyr ein cynrychioli: ond nid ydym yn fwy gwrthwynebus i Eglwyswr nag y byddem i drochwr neu Annibynwr i Wes- leyad neu Fethodist, os byddai eu heglwysi wedi eu cysylltu a'r Wladwriaeth, megys y mae yr Eglwys Sefydledig nid yn yr Eglwys, fel corff o bobl, y mae y drwg, ond yn y cy- sylltiad; hyny ydyw, yn yr uchafiaeth a roddir i un sect ragor y llall; pan y dylai pob sect fod yn gyfartal o ran ei manteision dan yr un goron, gan fod pob sect yn ddiwahan- iaeth yn barod i amddiffyn, ac yn amddiffyn y goron hono. Nid oes dim yn nghyfansoddiad naturiol, nac yn ngalluoedd eneidiol, nac yn nghy- mwysderau areithyddol, yr Eglwyswyr i'w dyrchafu goruwch eu brodyr o enwadau ereill, neu sectau ereill; ond hwynt hwy sydd wedi dygwydd cael yr awenau i'w dwylaw ac y maent am eu cadw yn eu dwylaw hyd y gall- out, gan edrych gyda dirmyg ar y sectau ereill; ond ni phery pethau fel hyn yn hir y mae y byd yn cyflymu at gyfnod pwysig. Nid ydyw y sefydliad presenol o grefydd yn gwneud cyfiawnder hyd yn nod a'i ddeiliaid ei hun ond ymddengys mai dyna yr arwydd- air, pob un am ei elw ei hun o'i gwr pa un bynag a fydd y cymwysderau gofynol yn y person ai peidio. Nid oes ond ychydig o gydymdeimlad Cristionogol yn mynwesau ei offeiriaid y naill tuag at y llall; yr egwyddor o eiddigeddu with eu gilydd sydd fwyaf grymus yn eu plith ac oddiar hono y maent yn gweithredu. Y naill yn ddig am fod y llall yn cael mwy nag ef o ysglyfaeth. Y mae yr Eglwys yn gyfoethog, y mae yn wir, ond y mae anwastadrwydd mawr yn nosbarthiad ei meddianau. Y mae ffordd bell iawn rhwng Aichesgob Caergrawnt a'i bymtheng mil c bunau yn y flwyddyn, a'r Curedyn cul gyda'i ddeugain punt yn y flwyddyn! Rhaid i'r Curad tlawd ymddangos fel y Periglor gyda'i ddwy fil o ran ei wisg, a dwyn i fyny deulu, mewn rhai amgylchiadau, ar gyflog, er ei fod yn sicr, y byddai yn ffiaidd gan gelfyddydwr parchus edrych arno. Y mae amryw Beri- gloriaid yn cael o fll i bedair mil o bunau yn y flwyddyn Nid oes ond ychydig iawn o amser wedi myned heibio er pan cafodd gwr Eglwysig oedd yn derbyn dwy fil a thri chant o bunau, ychwanegiad at ei gynog Y mae yn yr Eglwys ormod o fugeiliaid yn cael eu gorlenwi a phethau da y fuchedd hon, a gor- mod o Guradiaid culion yn goddef eisiau ie, rhai y mae cael par o hen ddillad wedi cael eu troi heibio yn dderbyniol ganddynt. Nid yw gweledigaeth y gwartheg tewion a'r gwartheg culion, yn mreuddwyd Pharaoh, yn anmhriodol gyda golwg ar yr Eglwys ond yn unig yna fod y gwartheg tewion yn liyncu y rhai culion. Pe cymerid yr ystrydfachau oddi dan draed yr Eglwys, a gwneud iddi gerdded ar ei thraed ei hun, byddai gwell siawns i rinwedd flodeuo, a thalent ynddi Iwyddo, nag a all fod yn awr. Byddai pob un wedi hyny yn cael ei wobrwyo yn ol ei deilyngdod, ac nid yn ol dylanwad arian, a theulu, a damwain a llu o bethau estronol o'r fath i wir grefydd. Byddai felly yn debyg fel y mae pethau yn mhlith yr Ymneilldu- wyr, a rhyddid i ddyn weithio ei ffordd goreu y gallo ei hun. Y mae Eglwys Loegr yn gwneud gyda'i hoffeiriaid fel y dywedir ar fater arall:— I'r rhai sy'n gweithio lleia' Y rhoes hi'r peth goreu i'w fwyta; A'r gwaca'i fol, fel mae gwaetha'r drefn, Yw'r Uuman a'r cefn llyma." Dadleua rhai yn y dyddiau hyn, nad ydyw gweinidogion ymneillduol yn cael digon o gyflog. Y mae yn wir iddi fod yn gyfyng ar rai brodyr teilwng yr amser a basiodd, oblegid prinder y cyflog gyda phob enwad oddigerth y Wesleyaid ond y mae pethau yn gwella yn gyflym yn yr olwg yma; ac y mae gan weinidog Ymneillduol hawl i symud o'r naill fan i'r Hall, os na fydd yn boddloni i'r cyflog, heb ofyn cenad neb, yr hyn nid all offeiriad wneuthur ac nid oes un ddeddf yn mhlith yr Ymneillduwyr i atal y dyn haner cant puntgael dau gant o bunau, os tery wrth Eglwys a rydd hyny iddo. Y mae lluaws o rai didaleht, diddysg, a diddylanwad, wedi ymwthio i'r weinidogaeth yn mhlith pob enwad o Ymneillduwyr, y mae yn wir ac ar y rhai hyny y mae yn troi yn ffaeledigaeth yn fwyaf mynych; ac o'r dosbarth hwnw, yn gyffredin, y mae yr Eglwys yn cael ei chy- foethogi oblegid anaml y mae dyn wedi myned i'r llan, er fod ambell un, o dalent a dawn, ac o ddysgeidiaeth ac o gymwysderau gweinidogaethol, os byddai ei gymeriad yn loew ac yn ddilwgr yn mhob ystyr o'r gair. Byddai yn waredigaeth fawr i Ymneilldu- aeth, pe'r elai lluaws eto i'r llan o'r rhai nad oes unrhyw argoel y llwyddant byth yn rhestrau yr Anghydffurfwyr ond dylai y cyf- ryw gofio talu yn ol yr arian a aeth i'w cynal am flyneddau i fwyta bara seguryd yn yr Athrofaoedd. Y mae drws y pulpud wedi bod yn rhy agored o lawer yn mhlith pob enwad o Ymneillduwyr yn Nghymru buasai yn well bod ar lai o'r haner o bregethwyr, a chael y rhai hyny yn dda, na cliael yr holl luaws sydd ar y maes, a nifer mor fawr o hon- ynt mor ddiamcan, ac mor ddiegni am wneu- thur daioni.
MR. HENRY RICHARD.
MR. HENRY RICHARD. Y mae yn debygol mai nid llawer o'r mil- oedd etholwyr yn Merthyr ac Aberdar sydd yn cael golwg ar y. Cambria Daily Leader; ond pe caent olwg arno, caent weled rhyw ddull rhyfedd iawn o geisio bwrw Mr. H. Richard o'r neilldu, gael lie i Mr. Bruce a Mr. Fother- gill. Nid ydym ni wedi dyweyd gair bach erioed am yr un o'r ddau ymgeisydd hyn yn ein herthyglau arweiniol o'r dechreu ac nid ydym yn bwriadu gwneuthur dim, ond dadleu cymwysderau Mr. Richard i fod yn gynrych- iolydd dros Ferthyr ac Aberdar a hyny oblegyd mai nid dyn un dosbarth, neu un meddylddrych (one idea) yw Mr. Richard nid dyn i gynrychioli rhyw un peth fel y mae llawer aelod nid yn unig y mae Mr. Richard yn Anghydifurnwr, yr hyn sydd yn gymwys- der na fedd yr un o'r ddau arall mo hono, ond y mae efe yn deall llywod-ddysg yn ei holl gangenau dyrys ac yn deall pa fodd y dylai lly wodraethau lywodraethu; ac fe fedd ddigon o wroldeb i fynegu hyny yn ddidderbyn wyneb, os anfonir ef; megys, y meddai Mr. R. Cobden o'i flaen, i'r hwn y mae Mr. Rich- ard yn proffesu ei hun yn ddysgybl. Dynion OY o'r argraff yma sydd yn arfer a myned at wraidd drygau gwladol sydd yn eisiau, sef, rhai nad oes ganddynt hwy neb i'w boddhau ond y cyhoedd na dysgwyliad am godiad i swydd am bleidio llywodraeth na dim o'r pethau sydd yn meddiant gweisione yr amser (time sewers). Eisiau dynion i edrych i ba le y mae yr arian yn myned sydd arnom yn y dyddiau hyn; a dynion a wnant eu goreu i gadw heddwch rhwng y deyrnas hon a'r holl fyd. Rhyfel, a thywallt gwaed, a chadw byddin a llynges yn amser heddwch, heb eu heisiau, sydd wedi ein handwyo ni fel teyrn- as dyna'r rhwd a'r cancr sydd wrth wraidd ein llwyddiant; oni bai y sefydliadau cost- fawr a diles hyn, gallai y deyrnas hon fod y gyfoethocaf a'r fwyaf dedwydd o holl deyrnas- oedd y byd. Ychydig iawn ydym yn glywed o gyfeirio at y pethau hyn ar ol marwolaeth Mr. Cobden. Y mae arnom angen am olyn- wyr iddo ac ni chawn byth wir olynwyr iddo ond o restrau yr Anghydffurfwyr; rhyw am- bell un a geir yn mhlith gwyr y Church & State, dros egwyddorion heddwch a chynildeb; nid ydynt ond eithriadau hollol, mor anaml a lloffion grawnwin y cynauaf gwin. Bu agos i ni ddyweyd yn ngeiriau y Bardd o'r N ant:- Y maent mor anaml yn yr ardal, A dal myharen du." Y mae y fyddin, a'r llynges, a'r Eglwys, yn rhoddi cynifer o fanteision i foneddigion ty- lodion i wneud boneddigion o'u meibion, ac i gael priodi eu merched, sydd heb ddim gwaddol, nes y maent yn gafael a'u hewinedd ac a'u danedd yn y tri pheth ac yn barod i gablu a melldithio pawb a ddywedont ddim yn eu herdyn. Hyderwn yn gryf na wrendy etholwyr Anghydffurfiol Merthyr ac Aberdar ar y ffiloreg a ysgrifenir yn erbyn Mr. Richard; ond y byddant yn bur i'w dyn o'u dewisiad eu hunain, ac y cariant efyn fuddugol i'r anrhyd- edd a deilynga. Y mae hen ddiareb pur gyff- redin yn cael ei harfer gyda golwg ar fater fel hyny-sef, y mae rhywbeth yn peri i'r gath lyfu'r pentan." Y mae y GWLADGARWR wedi pleidio achos Mr. Richard o'i ddechreu, heb ddysgwyl dim oddiwrth ei ddychweliad i'r Senedd ond a gaiff y wlad yn ddiwabaniaeth ei fwynhau. Y mae gwrthwynebwyr Mr. Richard yn cymeryd digon o ofal am gelu eu henwau fel gohebwyr yn y papurau. Os ydynt ar yr iawn, paham na ddeuant allan dan eu henwau priodol eu hunain, fel y gwelom pwy ydynt, a pha faint o berthynas a all fod rhyngddynt a'r pentan. Nid oes neb o'r grymialwyr an- foddog hyn a wna lawer am ddim dros neb yn enwedig lie y mae egwyddor mewn dadl. Y maent yn barod at wasanaeth yr uchaf ei geiniog.
[No title]
ABERDAR.—Cyfarfod Llenyddol.- Dymun- em alw sylw ein darllenwyr at y Cyfarfod Llenyddol sydd i'w gynal nos Lun nesaf, yn y Neuadd Ddirwestol, dan nawdd Meibion Dir- west. Nid oes amheuaeth na fydd yn gyfar- fod llewyrchus a llwyddianus, canys y mae bod Tydfylyn yn feirniad, a Mr. W. Morgan, Cliffton Cottage, Aberdar, yn gadeirydd, debygem yn rhoddi sicrwydd am hyny. Go- beithio mai felly y bydd.