Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
Tuag at gyrhaedd hyn, byddai rhyw gynllun tebyg i hyn, feallai, yn llawn cystal a dim Y raae Mr. Bruce ya dirfeddianwr, ac felly yn bendefigwr. Y mae y cyfenw o dirfeddian- wr treftadol wedi ac yn cael ei ystyried yr un ystyr a phendefigion (aristocrat) y bendefigaeth yn allu ormesol y wlad hon. Saif yn yr un berthynas a Phrydain Fawr ag a safai caeth- wasiaeth yn Neheudir America cyn dilead caethwasiaeth yn y wlad hono. Y mae llwydd- iant a nerth y naill fel y Hall yn ymddibynu ar gadw yr hyn a elwir yn ddosbarth isaf, neu y bobl yn isel mewn tylodi ac anwybodaeth. Gwaith a swydd y bendefigaeth yw creu a phasio cyfreithiau fyddo yn gyfangwbl er lies y dosbarth hwnw. Nid ydyw llesiant y ddau ddosbarth arall, sef y dosbarth canol a'r isaf, yn ddim pwys ganddynt, yn enwedig yr olaf. Ie, y bendefigaeth abasiodddeddfymrwymiad tiroedd wrth y mab hynaf, trwy yr hyn yr amddifadir y plant ereill o etifeddiaeth eu rhieni. Ond nid ydyw hyny yn gymaint pwys iddynt, gan y cant eu taflu i fyw ar gyllid y wlad yn y cymeriad o offeiriadau, es- gobion, swyddogion yn y fyddin a'r llynges, &c. Creuir ar eu cyfer bob math o swyddi segur, ac amddiffynir y cyfreithiau hvny a'r cyfreithiau mwyaf gormesol ac anghyfiawn, a thelir y rhai a'i llanwant yn dda, y rhai yn y mwyfrif sydd vn perthyn i'r bendefigaeth. Y mae ein cysylltiad ni a chyllid y wlad yn agos, yn gyfryw fel mai gweithwyr sydd yn ei gyflenwi fwyaf, yn y ffurf o drethi ar biif angenrheidiau bywyd, megys te, coffi, siwgr, &c. Dywedaf yn mhellach, tra y parheir i ddan- fon aelodau-pendefigol i'r Senedd, nad oes fawr obaith y torir byth y cysylltiad ag sydd rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, yr hyn beth sydd yn gwasgu mor drwm ac anghyfiawn arnom fel gweithwyr, am y gorfodir ni i gy- northwyo tuag at gadw a chynal y sefydliad hwnw. Torer i fyny y cysylltiad anghyfiawn hwn, yna ni a gawn Eglwys rydd a chynyddol i godi a blodeuo oddiar yr adfeilion, a cheir gwared trwm o drethi oddiar ysgwyddau y wladwriaeth. Heblaw hyn, gwaith y bendefigaeth oedd creu yr hyn a elwir yn brynu hawl yn y fyddin a'r llynges, trwy yr hyn y cedwir y milwr cyffredin, gan nad faint ei dalent a'i allu milwrol, yn ddim amgen na milwr cyff- redin am ei oes. Edrycher i'r cyfeiriad a fyner, a cheir fod y bendefigaeth, er ei dech- reuad, a'i sail mewn gormes ac anghyfiawnder. Ac yn awr, pa fodd y gallwn ni, weithwyr, erfyn i Mr. Bruce, yr hwn sydd yn aelod o'r bendefigaeth, i droi yn erbyn y sefydliad sydd yn asgwrn cefn iddo ? Pendefigwr yw Mr. Bruce, dyweder a ddyweder ac fel y cyfryw, nis gall wneuthur llawer o ddaioni i ni yn y cymeriad o aelod seneddol. Y mae gormod o'r fath genym yn barod, a phan y daw diwygiad- au o bwys o flaen y Ty, ni a gawn deimlo hyny. Y mae lleihad y fyddin ar llynges, yn hwyr neu yn hwyrach, yn sicr o ddyfod yn bwnc cenedlaethol; ac efe, o neb yn y cymeriad o bendefigwr, yw y mwyaf anaddas i gydeistedd a Mr. Richard pan y daw hyny yn mlaen. Anwyl gydweithwyr, astudiwch natur, dech- reuad, neu hanes y bendefigaeth, a bydd y gwaith o ethol cydymaith i Mr. Richard yn orchwyl hawdd. O'r tu arall Mae Mr. Fothergill yn gyflogydd llafur (capi- talist); o ganlyniad, yn dwyn perthynas agos- ach a ni fel gweithwyr. Fel rheol, nid cy- meradwy codi unrhyw ddyn ar draul darost- wng arall; ond lie y byddo egwyddorion i'w hamddiffyn, y mae eithriad i'r rheol yn oddef- ol. Defnyddir hyn yn fynych mewn cysyllt- iadau crefyddol, a phaham lai mewn cysyllt- iadau etholiadol? Diamheu genyf fod eg- wyddorion yn y cysylltiadau hyn yn werth eu dadlenu. Nid ydyw fod aelod seneddol yn gyflogydd llafur bob amser yn ei gymhwyso i fod yn aelod addas o Dy y Cyffredin. Na byddai yn dda genyf fi weled rhes dda o weithwyr yn cael eu danfon yno i ddadleu ein Tiawliau fel gweriniaeth o lafurwyr. Y mae gwir angen am ddosbarth o'r fath hyn; ond nid yw gwiw son am y fath beth yn y fwrdeis- dref hon am gyfnod da eto, fodd bynag. Nid oes gan weithwyr Merthyr ac Aberdar yr un cyfundeb llafur (trade union) i'w ddadleu, ac hefyd y mae meistriaid a gweithwyr yn myned vn mlaen yma yn lied heddychol; felly, gan ei fod yn beth anmhosibl danfon gweithiwr ymarferol yn awr i'r Senedd, dylid edrych am y nesaf ato mewn cymhwysder. Yr un hwnw, debygwn i, ydyw yr un ag a fyddo yn gyfiog- ydd llafur, os yn ddyn o egwyddorion rhydd- fiydig cyffredinol, fel ag y mae Mr. Fother- Y mae y nodwedd arbenig hon yn perthyn yn neillduol i gyflogydd llarar. Y mae efe yn gadael ei oil eiddoyn rhanedig rhwng eiblant, ac nid gwthio un i'r offeiriadaeth, y llall i'r fyddin a'r llynges, &c. Na; ei nod ef fy- nychaf yw dwyn ei blant i'r un alwedigaeth ag ef ei hun, mor bell ag y byddo hynv yn bosibl. Nid ydyw Eglwysyddiaeth, y fyddin, &c., yn dwyn fawr elw iddo ef, os dim. Ei elw ef a gynwysir mewn rhyddfasnach a llwyddiant y gweithiwr. Y gweithiwr sobr, diwyd, a deallus, yw asgwrn ei gefn ef. Y mae yn dwyn agosach perthynas a'r gweith- wyr nad yw yn ddichonadwy i'r tirfeddianwr treftadol. Treulia ran fawr o'i amser yn mysg gweithwyr gwyr eu teimladau, a dealla eu hangenion. Heblaw hyn, y mae y mwyafrif ojgyflogwyr llafur yn codi o'r dosbarth gweith- ioL yn nghyd a'r dosbarth canol, sef dosbarth ein masnachwyr ac fel y cyfryw, y maent yn rhydd o'r hen ragfarnau (prejudices) ag a dros- glwyddir o dad i fab, ac o oes i oes, yn mysg y dosbarth aristocrataidd, neu bendefigaidd, o'n gwlad. Rhai o'r rhagfamau hyn ydynt a ganlyn :— Mai dosbarth israddol ydym ni y gweithwyr, wedi ein bwriadu i wasanaethu ein huwchaf- iaid, ac nad oes genym yr un hawl i'w galw mwy i gyfrif am ddim a ymddygont tuag atom. Tyb arall o'r eiddynt yw:—Mai iddynt hwy yr ymddiriedwyd yr bawl o lyw- odraethu arnom, ymenydd neu beidio, a bod yr hawl hon wedi ei ymddiried iddynt gan Dduw. I'r dosbarth hwn y perthyn Mr. Bruce, ac ni faidd amheu hyny, a barned y darllenydd i ba raddau y mae hyny yn ei gymhwyso i gynddrychioli teimladau ac angenion Ymneill- duwyr a gweithwyr goleuedig Merthyr Tydfil, Aberdar, a'r Faenor. 0 GWEITHIWR. (I'w barhau.)
TAITH 0 ABERDAR I BELLE VUE,…
TAITH 0 ABERDAR I BELLE VUE, HYDE PARK, PA., AMERICA. Gadawsom Aberdar boreu dydd Llun, Gor. 27ain, a chyrliaeddasom L'erpwl rhwng pump a chwech o'r gloch yn y prydnawn. Buom yma ran o ddau ddiwrnod. Cawsom y Oymro Gwyllt yn bob peth a ddymunasom iddo fod, a rhoddodd i ni bob cyfarwyddyd oedd eisieu arnom gael, ac v mae Mr. L. S. Jones a'i briod mor serchus a chyfeillgar ag y gallasent fod. Gobeithio y rhydd pob Cymro y gefnogaeth lwyraf i'r ddau Gymro uchod, o herwydd y maent yn wir deilwng o hyny. Ond i ni gael myned yn y blaen. Cychwynasom o dy y Cymro rhwng naw a deg o'r gloch tua y land- ing stage, ac mewn gwirionedd, y mae yn rhaid i bob un feindio ei fusnes ei hun yma, ac onide fe fydd ar ol. Aethom i fewn i'r bad ryw fodd, a ffwrdd a ni i'r Hong, ac yno y buom am rai oriau yn rhoddi ein hunain yn drefnus, a rhwng tri a phedwar o'r gloch cod- r, wyd yr angor, a dechreuasom fordwyo. Yr ydym yn 390 a deithwyr, a 63 o ddwylaw. Gorphenaf 30ain. Boreu hyfryd, a'r gwynt. i raddau yn ein herbyn. Cyrhaeddasom Queen's Town rhwng pump a chwech o'r gloch yn y prydnawn, a daeth bagad o Wyddelod a rhai Cornish i mewn yma, a ffwrdd a ni yn mhen rhyw haner awr. Gorphenaf 31ain. Y gwynt yn ein herbyn yn y boreu, ac o'n tu yn y prydnawn. Gwel- som lawer o bysgod oddeutu dwy droedfedd o hyd yn codi i fyny i wyneb y dwfr, ac yn dis- gyn yn syrth ar eu penau yn ol. Awst Slain. Y gwynt o'n tu yn y boreu, cryfhaodd yn y prydnawn, a chawsam gawod- ydd o wlaw, ac aeth y mor yn arw iawn tua y prydnawn. Awst 2il. Gwynt cryf yn chwychu ar ein hochr ddeheu, a llawer ton yn cael ei thaflu i'r bwrdd. Yr oeddem yn dysgwyl boreu heddyw y cawsem wasanaeth crefyddol; ond cawsom ein siomi. Nid oedd un o un math i'w chael. Awst 3ydd. Llai o wynt heddyw, ond yn ein herbyn drwy y dydd. Awst 4ydd. Diwrnod niwlog iawn, a'r gwynt yn ein herbyn. Gwelsom ddwy long yn myned heibio. Awst 5ed. Y gwynt yn ein herbyn, a gweled dwy long yii. myned heibio. Awst 6fed. Diwrnod hyfryd, y gwynt o'n tu, ond ychydig sydd o hono yn yr hwyr. Awst 7fed. Bwrw gwlaw drwy y dydd, a'r gwynt o bob cyfeiriad ar ei dro. Awst 8fed. Dyma ddiwrnod hyfryd ar y mor mae ei wyneb yn hollol wastad. Gwel- som lawer o bysgod mawrion yn nofio-race gallasem feddwl; ond dyna, nid oes un cre- adur direswm mor ffoled a dyn; ond beth bynag, y maent yn debyg iawn i geffylau races yn neidio cloddiau ac afonydd. Yr oeddent yn cyfodi i wyneb y dwfr, naw neu ddeg o honynt ochr yn ochr, ac yna yn disgyn yn eu holau yn heidiau ar ol heidiau. Yr oeddynt o faintioli eidion blwydd, a ryw gnapau ar eu cefnau o faintioli dau ddwrn cyffredin. Awst 9fed. Sabboth yw hi heddyw, a'r di- wrnod mwyaf anghysurus o bob diwrnod yw y Sabboth ar y mor i ni sydd wedi arfer a moddion crefyddol. Awst lOfed. Boreu hyfryd a dymunol, ond prydnawn gwyntog, a chawodydd trymion. Awst 11 eg. Boreu dymunol eto, a gwyneb y mor can lyfned a'r gwydr ond erbyn haner dydd y mae y mor mor dwmpathog amynydd- dir Morganwg. Bu cryn ifwdan i gael yc hwyliau i lawr. Yr oedd y gwynt yn chwyl- droi, nes clapian yr hwyliau yn chwylfiiw, ac yn mhen tua dwy awr gallasem feddwl na fu ton ar wyneb y mor erioed. Awst 12fed. Boreu gwlawiog iawn, ac am- bell i awel gref o wynt; ond prydnawn teg a dymunol. Daeth y pilot i fwrdd y Hong am pump o'r gloch y prydnawn. Awst 13eg. Boreu hyfryd, y tir yn dyfod i'r golwg rhwng wyth a naw o'r gloch. Y mae golyfeydd prydferth iawn bob ochr i'r afon yma o New Jersey i New York. Y mae glanau yr afon yn brydferth a swynol. Glan- iasom yn New York am 8 o'r gloch y nos ac wedi myned drwy y Castle Garden, cawsom waggon Gwilym Medi yn ein cyfarfod. Aros- asom yn nhy Gwilym noswaith. Awst Meg. Cymerasom y tren am bump o'r gloch yn y prydnawn er myned i Scranton, a chyrhaeddasom y lie hwn am 12 o'r gloch y nos ganlynol, ac yn yr orsaf yr oedd un Tho- mas Jones, tafarnwr yn ymyl yr orsaf, yn ein haros i mewn, ac aeth a ni i'w dy i gael bwyd a lie i gysgu. Awst 15ied. Ar ol boreufwyd, cychwynas- om gyda y waggon tua Belle Vue. Wedi i ni gyrhaedd yno, cawsom fod pob un o'n perthyn- asau yn iach. Wedi i ni gael tipyn o lun- iaeth, aethom gyda ein brodyr i Hyde Park. Gwelsom lawer iawn o Gymry adnabyddus i ni, neb llai na Mary Ainon, Robert James, (gynt o Ferthyr), a dau fab Hopkin Williams, William Jenkins, a llawer ereill allasem eu henwi oni b'ai ofn eich blino a meithder. Dymunaf gyflwyno fy nghofion gwresocaf at Mr. Price, Siloah, a'r eglwys oil, yn enwedig y cor, ac at lowyr No. 9. Ydwyf, yr eiddoch yn gywir, D. B. DAVIES, (Darfylyn.) O.Y.-Ysgrifenais ar ddymuniad taer llawer o weithwyr No. 9, ac hefyd brodyr o Siloah,
GWEITHWYR MERTHYR AC ABERDAR…
GWEITHWYR MERTHYR AC ABER- DAR A'R SCREW. MR. GOL.—Yr wyf yn synu yn faw;r fod neb o berchenogion gweithfeydd Merthyr ac Aberdar, y rhai a alwant eu hunain yn rydd- frvdwyr, yn ymddwyn mor Doryaidd a gor- fodi eu gweithwyr i bleidleisio yn erbyn eu cydwybodau. Offeryn Toriaidd yw y 'screw' o'r dechreuad, ac hyderwyf na fydd i rydd- frydwyr Aberdar ymddwyn mor Doriaidd a mabwysiadu y 'screw' beth bynag a fabwys- iadant, fel offeryn perthynol iddynt hwy. Da genyf weled gwroldeb Mr. Jenkins, Briton Ferry, yn cynyg cynorthwyo y rhai a gollant eu gwaith oherwydd pleidleisio dros Mr. Fothergill a Mr. Richard. Diau y bydd i hysbysiad Mr. Jenkins yn y GWLADGARWR diweddaf loni meddwl pob gweithiwr cydwy- bodol. Y mae Mr. Jenkins mor sicr o gyf- lawni ei addewid a'i fod wedi ei gwneud. Bydd ei ugain swllt yr wythnos i bob un a gollo ei waith oherwydd pleidleisio dros Mr. Fothergill neu Mr. Richard. Hen weithiwr yw Mr. Jenkins ei hun, a diau mai teimlad dros y gweithiwr barodd iddo wneud y fath gynyg pendefigaidd. Bydd y cynygiad yn gynorthwy i'r gweithiwr gael chwareuteg i ddefnyddio y bleidlais hono y mae y llywodraeth wedi roddi iddo, heb ofni gwg ei feistr. Y mae Mr. Jenkins yn rhydd- frydwr trwyadl, ac Ymneillduwr egwyddorol. Nid oes nemawr o amser er pan welais ei enw ar gyfres Coleg Trefecca am £50, ac nid oes capel gan un enwad am filldiroedd lawer o gwmpas Britton Ferry nad yw efe wedi tanys- grifio ato. Y mae ymddygiad Mr. Jenkins mewn cysylltiad ag etholiad Merthyr yn deil- wng o efelychiad. Hyderwyf y bydd i gy- nygiad Mr. Jenkins atal y meistri rhag defn- yddio y Screw." Yr eiddoch yn gywir, GELYN Y SCREW.
AT EDMYGWYR A FFRYNDIAU MR…
AT EDMYGWYR A FFRYNDIAU MR G. JONES, (CARADOG.) Bwriada Cor Undebol Aberdar gyflwyno tysteb idd ei arweinydd—Mr Jones, am ei lafur mewn cysylltiad a chanu, y cor, a'r lie yn gyffredinol. Os oes rai o'i gyfeilion a gar- ant gyfranu at yr achos, gallant wneud hyny trwy ddanfon eu tanysgrifiadau i Mri T. Davies, (Eos Rhondda,) Hirwaun, a W. Lloyd, (Gwladgarwr,) Aberdar. Ceir hysbysiad eto am yr amser a'r lie y cyflwynir y dysteb. Dros y pwyllgor, Aberdar, Hyd. 6. D. P. DAVIES.
NEW YORK, AMERICA.
NEW YORK, AMERICA. 83, East Railroad-street, Saracuse, July 20th, 1868. A Welshman, who had arrived at the above place a day previous to my arrival, was sun stricken when unloading hay, and died in 15 minntes afterwards. He had only worked on the farm three days. I visited the farm to- day for the purpose of making enquiries con- cerning him, but he has left no news of him- self, only some boarding cards from Liverpool and New York. There remains after him 15 dollars in money and two or three suits of clothes, which are with the coroner. His name is James Jones, about 40 years of age, short and stout, and a blacksmith by trade. He was in the habit of shoeing horses at some of the coal pits, and has a family in Wales, whom he intended to send for as soon as possible. He has also a son 18 years of age working as a puddler in some of the large iron works. I should think he might have come from Monmouth, as he was unable to speak the Welsh language. HOPKIN WILLIAMS. [D.S.—Daeth yr uchod i law, ac yr ydym yn ei osod i mewn fel y derbyniasom ef.— GOL.]
L'ERPWL.
L'ERPWL. TANCHWA YN RHUABON. Hydref 5. Bore dydd Mercher diweddaf cymerodd tanchwa Ie, pryd y collodd deg o ddynion a bechgyn eu bywydau. Llanerch y trychineb ydoead Rhiwabon, ac adnabyddir y gloddfa wrth yr enw Pwll Green. Dywed adroddiad fod tua chwech cant o ddynion a bechgyn yn y pwll ar foreu y drycin, a lied gry Dwylla yr adroddwr fod y bai yn gorphwys ar y gweithwyr. Wele rhestr o'r lladdedigion—Henry Davies, gwr priod, gwraig a phlentyn ar ei ol, Mesach Jones, gwr priod gwraig a phedwar o blant ar ei ol, Edward Davies, gwr priod, gwraig a saith o blant, Thomas Ward, bachgenyn bych- an, John Lloyd, gwr priod heb ddim plant ar ei ol, James Davies, gwr priod gwraig a thri o blant ar ei ol, Hugh Edwards, gwr priod, gwraig a phlentyn ar ei ol, David Rolberts, dyn sengl, John Brown, bachgenyn. Bwriad- wn ddal sylw manwl ar weithrediadau y trengholiad, a chaiff darllenwyr y GWLAD- GARWR wybod bam y Rheithwyr. Mynych y dywedir y dylai glowyr a mwn- wyr Cymru godi Trysorfa tuag at gynal gweddwon ac amddifaid, ond ystyriwn y fath geisiadau yn Libel gyhoeddus ar werth llafur a bywyd y glowr. Nid trysorfa i gynal gweddwon ac amddi- faid sydd yn eisiau, ond trysorfa i orfodi perchenogion gweithfeydd glo a mwn i'w cadw mewn trefn briodol, fel na byddo achos i'r fath drychinebau ar fywydau i gymeryd lie. Pe bai cyfraith i orfodi perchenogion gweith- feydd i gadw gweddwon ac amddifaid y cyf- ryw ag a gollant eu bywydau yn y gwahanol ddamweiniau, mae yn eithaf sicr y telid mwy o sylw i'r awyrffyrdd, a byddai llawer llai o'r Erthylod hyny a elwir Safety Lamps mewn ymarferiad. Weithwyr Aberdar a Merthyr, mynwch gael gair Henry Richard y gwnaiff amddiffyn hawliau y glowr yn Senedd y wlad, oblegyd gobaith gwall sydd y ceir neb arall i wneud. Mynegir fod 120 o filoedd o awyr bob mynud yn tramwy y disgynbwll yn adeg y trychineb, ond a chaniatai fod hyny yn wir- ionedd, beth gwell oedd y gweithwyr o hono os nad oedd yn cael ei iawn drefnu yn rheol- aidd drwy y gwahanol fanau yn y loddfa. Cyn byth y ceir gwelliant, rhaid cael Ex- tpnsion yn y Mine Inspection Act, a chael hefyd Is-arolygwyr i ddarn-chwilio pob cougl a chell, a mynu cael yr hyn sydd yn briodol i amddiffyn a diogelu bywyd y glowr, drwy awdurdod o Senedd y wlad. 7 Ymadawodd y Great Eastern ar porthladd bore dydd Saclwrn, yn rhwym i Sheerness, porthladd ar lanau Ffrainc. Bydd yn gauafu yno, a gwneir y darpariadau arni i gychwyn allan i osod i lawr raff bellebrol rhwng Ffrainc ac America. Aeth i lawr yr afon yn araf a thawel rhag ofn damwain o herwydd y 0 niwl tew oedd yn gorchuddio yr afon. Daeth miloedd i lan yr afon i weled ei hymadawiad, ond braidd y gellid gweled dim mwy na rhyw arlun o balas mawr nofiadwy yn ymsymud drwy y niwl. Llwyddiant iddi yn yr antur- iaeth, a diolch fod hyn yn gosod terfyn ar ym- holiadau yn ei chylch o fyned ar Excursion Trip i America. Chwythwyd llong i fyny o'r enw Tom Volkes, yr oedd yn llwytkog o 770 o Naptha ac yn rhwym i St. Petersburgh, perthynai i'r porthladd hwn. Mae yr hanes yn dorealonu- i'r eithaf, yr hyn a adroddir gan y Cadben ag un o'r dwylaw, sef yr unig ddau gafodd ddiangfa. Pan cymerodd y ffrwydriad le, daeth allan gyda chymaint o nerth nes hollti y Hong yn ddarnau, fel ag i osod diangfa yn beth nesaf i anmhosibl. Taflwyd y cychod i bob cyfeiriad gan rym yr ergyd, yr hyn oedd yn gosod cyfle i ddianc o gyraedd y truein- iaid siomedig. Mae trosglwyddiad milwyr o'r naill fan i'r llall wedi dyfocl yn beth lied gyffredin yn Lerpwl. Amryw ganoedd wedi myned drwodd yr wythnos aeth heibio, a llawer o honynt i fod yn gauafu yn ngwlad Pat. Bywyd isel debygem ydyw bywyd milwr, ond credwn ei fod yn fil mwy urddasol na bywyd c^wydryn, a byddai yn fendith i'r wlad allu gwneud milwyr o'r canoedd crwydriaid sydd yn heidio o'r naill dre i'r Hall. Gweith- io ni fynant, ond cardota ydyw ei hyfrydwch. Terfyna y Stori yn y fan yma, ond rhaid i mi grybwyll wrth y cyfaill o Bontypridd nas gallaf wneud allan ei gyfarwyddid fel ag i anfon iddo Hysbysiad Eisteddfod y Lerpwl- iaid. Anfoned eto, a chaiff ei gais. Yr eiddoch fel arfer, CYMRO.
YR ETHOLIAD-MR. FOTHERGILL.
YR ETHOLIAD-MR. FOTHERGILL. Mr. Gol.—Wedi i mi ysgrifenu fy llythyr diweddaf, cefais nodyn oddiwrth gyfaill, yn mha un yr achwynai fy mod yn gosod gormod o bwys ar ddiwygiad cyllidol (Urealreform), a rhy fach ar ddiwygiadau ereill, a dywedai fod llawer yr un farn ag ef ar y mater. "Rhydd i bob meddwl ei farn, a bob barn ei llafar," ydyw fy arwyddair i bob amser ond ar yr un pryd, nid wyf yn gallu cydweled a fy nghyfaill fy mod yn gosod gormod o bwys ar ddiwygiad- au cyllidol. Credwyf yn ddiysgog fod yn rhaid i feichiau y wlad gael eu gostwng cyn byth y gellir perffeithio cynlluniau o ddi- wygiadau iechydol (sanitary reform), ac addysgol oblegyd os ystyriwn y fath ddy- lanwad mawr sydd gan dylodi er rhwystro ac atal y diwygiadau hyn, a bod y gordrethiad sydd ar y wlad yn achosi y tylodi hwnw, ni a ganfyddwn ar unwaith yr angenrheidrwydd mawr sydd am symud y tretbi. Edrychwa fel hyn ar y mater. Y mae cyllid y wlad hon yn 70 o filiynau o bunau yn fly- nyddol, ac o'r swm hwnw derbynir 43 o fili- ynau oddiwrth y Custome a'r Excise Offices; hyny yw, y treth a godir oddiar de, coffi, siwgr, diod, gwirodydd, a myglys. A chan mai gan gorff y bobl y treulir y nwydd- au hyn, y mae yn disgyn arnynt hwy i dalu wyth ceiniog y bunt o'r cyfryw drethi. Ond heblaw y 70 o filiynau o drethi cyffred- inol sydd ar y wlad yn y dull a nodwyd, telir 20 miliwn arall yn y ffurf o drethi lleol, yr hyn sydd yn gwneud y trethiad rhwng y cwbl yn 90 o filiynau. Felly, fe fernir gan gyfrif- wyr medrusaf ein gwlad fod pob teulu yn cynwys pump o bersonau, yn talu ar gyfartal- edd £15 yn flynyddol o drethi. Yn awr, sylwer fod y trethi anferth hyn yn disgyn yn drymach fyth ar y gweithiwr a'r masnachwr, yn gymaint a bod cynifer o filiynau o ddynion yn ein gwlad nad ydynt yn cynyrchu dim nac yn ymdrafod a dim mewn fforad o fasnach, ond ydynt ar yr un pryd yn treulio. Felly os ydym yn myned i gael perffeithiad ac ymeangiad o'r diwygiadau iechyddol ac addysgol, ac felly i ychwanegu trethoedd new- yddion, a gadael i'r trethi presenol.aros fel y maent, barnwyf y byddai yn gamwri creulawn ar y bobl. Y maent hwy yn barod yn ochain ac yn gruddfan yn druenns o dan y baich. Y mae y gweithiwr yn myned drwy ei galed- waith bob dydd yn olynol, yn treulio nerth ei ewynou, yn chwysu allan fer ei esgyrn, a llawer gwaith a'i gylla yn wag, a'r rhan fwyaf o'i amser heb yr hyn sydd yn wir angenrheid- oli arno, nes y mae yn difa nerth ei fywyd, ac yn heneiddio tra eto yn ieuanc, ac hefyd'yn disgyn i'r bedd cyn haner ei ddyddiau. Ac yr wyf yn gofyn yn ddifrifol, a all fod digon o bres yn nghalon un seneddwr gynyg i ych- wanegu y trethi o dan y fath amgylchiadau a hyn?