Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

BEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWLEIDYDDOL…

YR YSGOL FARDDOL.

MADOG LLWYD.

News
Cite
Share

MADOG LLWYD. PENOD II. Yn mhefi haner awr ymddadebrodd Ang- harad o'i llesmeirglwyf, ond nid cyn bod ei hanwyl Llewelyn wedi eneinio ei gwyneb gwelw gyda ffrydlifoedd o ddagrau ei galon doddedig a Dafydd bach, eu cyntafanedig, yntau bron wylo ei hun o fodolaeth mewn pang o ofid, oherwydd nad oedd ei dyner fam yn talu sylw i'w ymbiliau, fel yr arferai a gwneud. Erbyn hyn yr oedd lleni'r nos yn graddol ymollwng eu godrefon caddugawl er cysgodi y dyffryn odditanodd, a chuddio gwyneb y graig ddaneddog a safai a'i gwadnau cadarngryf uwch bwthyn gwyngalchog y Drumau, megys dewines ddigofus i ddarogan cythryblon i'r teulu gwladgarol a'i preswyliai. "Fy anwylyd," meddai Llewelyn, "diolch i'r nefoedd am eich adferyd rhaid i mi ym- atal mwyach rhag dolurio eich teimladau tyner gydag adroddiadau am anffodion fy nheulu yn nghyswllt a'u gwladgarwch llosg- In edig." Nid felly, fy mhriod pa fodd y medrwn gydymdeimlo a chwi heb gael gwybod eich helyntion trallodus ?" Gwir nad gweddus i'r naill o honom gadw dim yn guddiedig rhag y Hall, gan fod gwr a gwraig fyddont yn caru eu gilydd yn un! er hyny, gan fod eithriad i bob rheol, barnwyf fod eich priod yn esgusodol am gadw oddi wrthych yr adgofion hyny o'n gorthrwm, a fycldent i'ch ysbryd llariaidd a gostyngedig fel cynifer o bicellau gwenwynig." Cyn bod Llewelyn wedi gorphen, yr oedd Dafydd bach yn llefain am ei swper, a'r fam dyner yn eistedd yn y gadair freichiau yn pendromi, wrth feddwl fod y ty heb damaid o fara o'i fewn o'r diwedd, hi a atebodd- Fy machgen, nid oes dorth yn y byd o fewn y ty. Gwertbasom y caws a'r llafur oil, er talu'r ardreth i Arglwydd Mansel, neu cawsem fyned oddiyma fel own hwda laeth Dafydd, a chwithau Llewelyn; gobeithio yr egyr Duw galon rhywun i dosturio wrthym." Gadewch i ni gydofyn bendith ar ein hwyrbryd llaethol," meddai Llewelyn, gan ychwanegu, gallasai fod yn waeth arnom; beth pe buasem yn glaf, nen yn ngharchar, neu heb gymaint a phiolaid o laeth i ddiwallu ein hangen?" Boddlawn iawn, Llewelyn, na fydded i ni, fel gwraig Job gynt, ioddi dim yn ynfyd yn erbyn Duw. Bydded i chwi, Llewelyn, ofyn bendith, a thalu diolch hefyd." Cydunodd y teulu duwiolfrydig i ofyn ben- dith y Goruchaf ar eu hwyrol bryd, a threiglai ami ddeigryn dros ruddiau Angharad yn y cyfamser, yn gymysg a sisial mynych, Di- olch, diolch am dano!" Yna dywedai Llewelyn,- Yr wyf yn methu a chyduno a'r Pab, ac athrawiaeth yr Eglwys Gatholig, o weddio pan mewn cyfyngder ar y Fair Forwyn, yr Apostolion, nen y seintiau ymadawedig." Felly finau, yr wyf wedi yfed o ysbryd diwygiadol Wicliff, y diwygiwr alltudier yr holl ddelwau o eglwysi Illtyd a Chatwg, gyd- a'r ofleiriaid Italaidd drwgfucheddol sydd yn gwasanaethu ynddynt." Ie, adferer yr Eglwys Gymreig i'w phur- deb cyntefig, neu ymneillduer o honi." Ust! Llewelyn dyna guro wrth y drws dos i'w agor, pwy all fod yna mor hwyr ?" Dyna guro eto; rhaid ei fod mewn cyf- yngder, gan ei fod yn ddyfal a chrynedig yn ei guriadau." Yna cododd Llewelyn, ac agorodd y drws gyda theimladau pryderus, ac wele ddau deithiwr blinedig yn gwneud eu hymddangos- iad, gan dalu eu moesgyfarchiadau Cymreig arferol. Pwy sydd yna ?" gofynai Llewelyn, gan ychwanegu, Os ydyeh yn wladgarwyr neu dylodion, deuweh i fewn, a thangnefedd Duw a'ch dilyno." Atebai yr hynaf o honynt,— Nyni ydym hen feirdd Cymreig erlidied- ig, yn ffoi am ein heinioes, ac yn mynych lochesu mewn ceubrenau, ac ogofau y creig- iau ond yr awrhon, yr ydym yn dyfod atat ti fel hen Samaritan trugarog, ac y clywsom am dano ei fod ef a'i deidiau o'i flaen yn caru a noddi ein cenedl ni "Groesaw, groesaw, deuwch i fewn frodyr anwyl," meddai Llywelyn, y mae i chwi freichiau agored i'ch derbyn." Atebai Tudur Ddall, sef yn henaf o'r ym- welwyr barddol.- "Mae Iolo Gocli a'r dallawg Dudur, Yn ffoi rhag Iorwerth, cas Benadur 'Rhwa sydd a'i gledd yn ysgwydedig, Yn erbyn gwladgar feirdd urddedig." Gydag ochenaid drom ychwanegai lolo, y bardd ieuane erlidiedig.- "Mae arfog filwyr yn ein herbyn, A gawn ni loches yn dy fwthyn ?" "Deuwch i fewn yn galonog, 0 chwi feibion barddas erlidiedig y mae i chwi, wladgarwyr didwyll, noddfa yn fy nhy a llaw arfog i'ch amddiffyn. Arglwydd cymorth fi i ddyogelu fy mrodyr anarfog hyn, gweddillion urddasol fy mhoul Y mae Madog, Rhodri, Gwyddon, a Myrddin Llwyd, ein cymdeithion barddonol," meddai Tudar Ddall, oil wedi trengu trwy ddwylaw gwaedlyd y dienyddiwr, ani yn unig a adawyd i fynegu yr hanes "Pa betli," gofynai Angharad, yw y gyn- ddaredd ddieflig sydd yn y brenhinoedd Nor- manaidd hyn, yn erbyn beirdd fy ngwlad ? Ai tybed fod gwladgarwch pur, fel yr eiddo y y gwyr erlidiedig hyn, yn drosedd marwol yn nghyfrif y nefoedd." "Ah credwyf" atebai Iolo Goch, "fy mod wedi gweled heno arwydd yr ad-daliad hir arfaethedig; gwelais seren wib anferthol yn ymddangos yn y ffurffafen, a clileddyfau tan- llyd yn ymdywallt o honi tua chyfeirad dinas frenhinol y gormesdeyrn Iorwerth III." Yna Tudur, y bardd dall a phenllwyd a sylwai- Clywais inau daranfollt ofnadwy o ddych- rynllyd megys yn carlamu tua'r un cyfeiriad rhagarwyddion yw y pethau hyn o'r dial dyfodol am ein eamwri 1" "Nid yw yr Arglwydd yn cysgu," svlwai Llywelyn, "Efeaddial ein cam ar ein gelynion; ni oddef i'r gelyn Uofruddiol i'n sathru dan draed, a dianc yn dragywdd yn ddigerydd "Efe a bua dial, a gwnaed fel y byddo da yn ei olwg." Tynwch ymaith eich mentyll ihwygedig meddai Angharad, "ac wele ddwfr i chwi i lochi eich traed briwedig." Erbyn bod y beirdd wedi ymolclii, ym- dwymo, a thrwsio eu hunain, yr oedd y bwrdd wedi ei arlwyo gyda llaeth, fla, a hwyad iost- redig, yr hon a goginiwyd yn arbenig ar eu cyfer. Gwedi i Llywelyn a'i briod caredig draddodi esgusodion o barth absenoldeb y bara ar y bwrdd, aeth y teulu oil ar eu gliniau i ofyn nawdd Duw ar y ffoaduriaid, a'i fendith ar yr ymborth darparedig Cafwyd gweddi wlithog, ac arwydd o foddlonrwydd y Goruchaf i'r gwasanaeth a phan oedd yr ymwelwyr ar orphen eu hwyrol bryd, clafychodd Angharad, ac ymneillduodd i'r ystafell gyfagos, gan ei bod yn ymwybodol fod ei thymp yn agos. Oddeutu canol y nos, wele ddau efaill, dau fachgen braf, wedi eu geni yn y Drumau a phrysurodd y ddau bererin prydyddol i ym- weled a hwynt, a thalu iddynt y moesgyfarch- iadau hyny perthynol i'w hurdd. Yna dy- wedai Tudur,- Nis medraf weled y meibion bychain newydd-anedig hyn; ond gadewch i mi gy- ffwrdd a hwynt, a thraddodi iddynt fy men- dith farddol, Yna cydiodd yn Haw yr hwn a aned gyntaf, gan ddywedyd yn ddifyfyr,- Tydi, fachgen, elwir yn Fadog, Fel mab Llewelyn, yr hen Dywysog, Boed i ti gornio meib Sacaonia, A dwyn ymwared i feib bro Gwalia." Ar hyn, neidiai lolo Goch yn mlaen, gan waeddi,- Myfi, yr hen dad Tudur, sydd i enwi'r llall, os rhynga bodd i'ch anrhydedd barddoL" Dos yn mlaen, ynte," oedd yr ateb. Gyda bod lolo yn gorphen ei ymadrodd, wele gnro wrth y drws, a phawb yn crynu gan ofn-y beirdd yn ymgilio i'w lloches, a Llew- elyn yn ymlusgo i gael golwg ar yr ymwelwyr nosawl, a rhoddi agoriad iddynt. Gyda'i fod yn agor y drws, derbyniai y cyfarchiad serch- og canlynol:— Myfi, Rhys ap Dafydd, o'r Gilfach, sydd yma, gyda ffetanaid o fara, caws, a blawd at wasanaeth eich teulu. Yr oeddwn wedi clywed am orthrwm eich meistr, a theimlo drosoch, a heno methwn roddi cwsg i'm llygaid, na gor- phwysdra i'm hysbryd, heb ddwyn i chwi yr anrheg bresenol." Tyred i fewn, gyfaill hawddgar, a thi was trugaredd, daethost with dy angen," &c. Ail arlwywyd y bwrdd i'r beirdd a'r cymyd- og trugarog hwn, a mawr y llawenydd a gawd wrth roesawu yr anrhegion, a llongyfarch yr efeilliaid newydd-anedig ond wele guro dra- chefn wrth y drws, yn gymysg a thrwst traed a sisial; neidiai yr ymwelwyr erlidiedig i fyny wedi pendromi gan ddychryn, a chyn pen haner mynyd dyna guro eilwaith gyda mwy o awduidod. Gyda bod Llewelyn yn tynu at y drws, wele'r wawr yn ymdori trwy y flenestr ddelltawg gydag adlewyrchiad o arfau dys- gleiriol y curwyr diamynedd (I'w barhau.)

Y MRI. BRUCE A FOTHERGILL-EU…