Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

SPAIN.

News
Cite
Share

SPAIN. Yr ydym yn cael fod y gwrthryfel yn y wlad hon y tro hwn wedi troi yn fuddugol- iaethus, ac y mae pob dydd yn dyfod a phrofion ychwanegol o sicrwydd y fuddu- goliacth. Y mae y cadfridogion hyny, y rhai yn ddiweddar oeddyntyn ngwasanaeth y Frenines, yn awr wedi dyfod i bleidio y wlad. Y mae llawenydd mawr yn cael ei arddangos fod pethau wedi dyfod mor un- frydol, a'r gwrthryfel wedi dyfod mor drwyadl. Yr unig beth y gobeithir am dano wedi i bethau lonyddu fel hyn, ydyw penderfynu pwnc y llywodraeth. Y mae rhai hysbysiadaa yn dweyd fod yn mwriad y prif symudwyr i gadw pethau yn y sefyllfa bresenol am chwe' mis o leiaf, ac wedi hyny dyfod i mewn a phenadur tramor, feallai yn mherson ein Tywysog Alfred ni; ond rhaid cymeryd y chwedlau hyn am eu gwerth. Yr ydym yn cael hefyd nad ydyw pethau wedi cael eu cario yn mlaen yn Madrid, yn ystod yr wythnos neu ddwy sydd wedi myned heibio, heb fod ychydig o ysgelerder wedi cael ei gyflawni. Lladdwyd dau hedd- geidwad ystyfnig ond cafodd milwyr clwyfedig perthynol i'r fyddin Freninol eu derbyn gyda phob tynerwch. Y mae y colledion yn mrwydr Alcolea yn cael eu rhoddi i lawr fel 130 wedi eu lladd, a 300 wedi eu clwyfo, o ochr y rhyddfrydwyr, a rhyw 1,500, rhwng lladdedigion a chlwyf- edigion, o ochr y breninlu. Y mae Brenines Spain wedi gwneud protest yn yr achos, yr hwn sydd wedi ei gyhoeddi. Nid yw yn dweyd llawer. Un testyn ydyw, sef yw hyny, Yr ydwyf fi, un o'r breninesau goreu, wedi cael fy ngyru ymaith trwy greulondeb oddiwrth un o'r pobl oreu. Ond na feddyliwch fy mod i'm gwared yn y dull yna, canys byddaf yn sier o ddyfod yn fy ol." Cymeriad neillduol y protest ydyw ei dawelwch, ac yn debyg iawn i lawer o bethau cyffelyb ag a gallesid eu nodi. Y mae Marshal Serrano wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o ffurfio llywodraeth am y presenol i lywodraethu y wlad nes cael cy- nadledd i benderfynu ewyllys y genedl. Y mae wedi hysbysu hefyd y bydd iddo yn newisiad y eynghor ddewis dynion pleidiol i'r gwrthryfel, ac anoga y fyddin i barhau yn unol a rheolaidd, ac i barhau mewn ys- bryd gwladgarol. Y canlynol ydyw yr anerchiad a dros- glwyddwyd gan y trigolion Saesonig yn Madrid i'r Junta gwrthryfelgar:—"Y mae deiliaid Prydain, yn preswylio yn Madrid, yn prysuro i longyfarch dinas Madrid ar yr achlysur o enedigaeth cenedl newydd, yn nghyda'r gwrthryfel sydd wedi ei gyflawni yn y fath fodd ardderchog heb dywallt gwaed. Y mae oesoedd wedi myned heibio er pan y gorfu i breswylwyr Prydain godi y cri, "Byw yn hir y bo Rhyddid," ac er yr amser hwnw y maent wedi parhau i Iwyddo felly am ddyfodol Spain." Yr atebiad a roddwyd oedd y canlyn :— Y ma3 y Junta wediIdarllen gyda brwd- frydedd mawr y datganiad cynes a gwrol 0 9 o'ch syniadau ar ran Spain, yn enw plant Albion. Ie, heddyw y mae cenedl newydd wedi ei geni, yr hon, yn ei hymestyniad am Ryddid, a estyna allan ei Haw at fobl Prydain, y rhai a- enillasant eu rhyddid ddwy oes yn ol. Yn awr yr ydym yn ym- gripian o'r ffos ag yr ydym wedi ein taflu gan yr Awstriaid a'r Bourbons. Nid ydym wedi effeithio hyn er mwyn dyehwelyd yn 01 i'n llwybrau eyfeiliornus cyntefig, ond i dderbyn a mabwysiadu yr holl gynydd sydd wedi ei ddwyn oddiamgylch gan y bobl hyny sydd, cyn ein hamser ni, wedi tori y cadwynau dan ba rai yr oeddynt yn grudd- fan. Y mae y Junta yn diolch i feibion gwrol Albion." Er's tuag ugain mlynedd yn ol yr oedd pedwar o'r Bourbonaidd yn gwisgo coronau, ac vn lly wodraethu amryw filiynau o'n cyd- ddynion; erbyn heddyw nid oes gymaint ag un o honynt yn ysgwyd teyrnwialen, nac yn gwisgo coron frenhinol. Meddyliodd Louis Philippe am dynhau cadwynan gormes am ei ddeiliad yn Ffraingc, a'r canlyniad fu iddo orfod foi am ei fywyd mewn bad pys- gota i Leogr. Llwyddodd Count Cavour, drwy ei wladgarwch a'i dalentau gwleid- yddol i ymlid y Bourbon oedd ar orsedd fychan Parma, a chysylltu y lle, hwnw a'r deyrnas Italaidd. Wedi hyny, daeth Garibaldi i Naples, a gorfododd Bomba i ffoi am ei fywyd i Gaeta, ac oddi yno drachefn i Rufain. Nid oedd neb o'r tylwyth gor- mesol hwn yn aros ond Brenhines Yspaen, ac yn awr y mae hithau wedi gorfod ffoi o'i gwlad, a ffarwelio a'igorsedd a'i hawdurdod.

NEWYDDION PWYSIG 0 BATA-GONIA.

GORLIFIAD YN SWITZERLAND.

DR. LIVINGSTONE.

MANION TRAMOR. |

CVFARFOD Y DRILL HALL, MERTHYR.

[No title]

Advertising