Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Bydded i'n cyfeillion y Beirdd o hyn allan gyfeirio eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn. y modd ac i'r cyfeiriad canlynol;- REV. W. CALEDFEYN WILLIAMS Groes Wen, GWLADGAEWR] Near Pontypridd.
[No title]
Ap Morganwg.—Y mae can Ap Morgauwg, sef y Parch E. Mathews, Caerdydd, yn gân newydd, ac y mae yntau yn faidd newydd ie, mor newvdd fel na welsom ni ei wvneb ond un- waith o'r blaen drwy y wasg. Y mae medd- wl yn y gân j ac yr ydym yn gobeithio cael cyfarfod a'r awdwr yn fynych yn y llwybr hwn. Ni ddylai ddodi ei dalent dan ddaear, na'i ganwyll dan lestr. Y mae cynifer o fan ymgeiswyr am yr anrhydedd o fod yn feirdd, a chymaint o ysbwrial gwag a disynwyr yn cael ei ganmol gan fan feirniaid yn y man Eisteddfodau, a'i wobrwyo, nes y mae yn ddigon a chreu cyfog ar bob dyn o chwaeth. Y mae can fel hon yn bryd ameuthyn. Tomos Glan Tawe.—Can led dda ydyw yr eiddoch, ond fod genych rai geiriau gwaharddedig, megys breiniol, drachtio;" ystyr y gair breiniol yw yr un peth a breintiol. Y mae yn tarddu o braint; trwydded neu ryddid perthynol i fwrdeisdref, neu rywbeth arall. Ni ddylid ei arfer mewn cysylltiad a brenin- dod. Y mae breninol yn air rheolaidd. Nid oes digon o sylw yn cael ei dalu i bethau o'r fath. Nid ydyw "drachtio" yn perthyn i unrhyw iaith y mae draught yn Saesonaeg. Llygredigaeth wedi tarddu o'r gair hwnw ydyw. Y mae yn rhy isel a delffaidd i'w ddodi mewn can bert. Nid ydyw fod dynion o chwaeth isel wedi arfer y gair yn y pulpud yn cyfiawnhau dim ar yr arferiad o hono. loan Glan Cynon.-Gorfu i ni daclu amryw linellau yn y gan er ei gwneuthur yn ddarllen- adwy. Gofelwch am beidio arfer y gair bron i feddwl y cyfan y mae hwn yn gyfeiliornad ydym wedi geisio ei yru o'r tir er ys blyneddau. Gofelwch am yr acenion hefyd, a pheidiwch a dodi eich ffugenw rhwng cromfachau pan na fydd- och yn dodi eich enw prioaol with eich gwaith. CmmweL-Nid dwl ydyw y gan, ond y mae diofalwch wedi bod gyda'r silliadaeth, megys Cymru, addyrn, wnaiffi, .Y mae un o'n beirdd yn ysgrifenu atom fel hyn, A fyddwch chwi gystal a gym yr Englyn hwn drwy y wasg gan gynted ag sy ddichonadwy, er mwyn ei gael i'w gerfio, os ydyw yn dyfod i fyny a'ch safon." Yr unig atebiad sy genym i'w roddi i'r fath awdwr ffrystiog yw— cymer dy anadl; daw yn ei dwrn. Y mae dynion o'r dull yma yn peri i ni feddwl am ddynion anwyboaus—na fydd- ont wedi arfer llawer a moesau da, a churo wrth ddrws, yn dyfod at y drws i guro. Y maent yn euro yn barhaus nes y delo rhywun i'r drws, fel pe byddent yn tybio mai wrth y drws y mae y preswylwyr yn byw. Rhaid i bawb aros amser priodoL Yr ydym yn anfon Tomos Glan Tawe, Crom- wel, loan Glan Cynon, Ehedydd Mor- ganwg, ac Ap Morganwg, i'r Swyddfa y tro hwn. mtY mae amryw gyfansoddiadau wedi dyfod 1 law, a chaiff pob un teilwngymddangos yn ei dwrn. Hoffem pe gallem wasan- aethu y beirdd oil ar unwaith; ond y mae hyny yn rhy anhawdd. Y mae ar iyw rai ereill eisiau clywed eu hunain yn llefaru heblaw y beirdd.
PRYDDEST
PRYDDEST O gydymdeimlad a Mra Williams, Mountainair, Mrs WilliamB, a Mrs Lewis, Drefnewydd, aelodau o Eglwys Nebo, Glyn Ebbwy, pa rai a gollasaot en meibion trwy ddamweiniau yn Amerig ac Aws- tralia. (Cydfuddugol yn Nghyfarfod Llenyddol Nebo.) Pan fo'r huan ter yn gwenu Yn ngororau wybren oes; Duon gymyl gnddia'i wyneb, Gan roi i ni ami loes; Llwythog fydd y fron gan alaeth, Dydd a megya canol nos; Gwelw fydd y gruddiau øwynol Welwyd unwaith fel y rhou. Cwmwl dudew yw marwolaeth, Mae'n gorchuddio heulwen hedd; Dychryn dreiddia i bob mynwes Pan gyfeirir at y bedd; Miniog ydyw r gair marwolaeth, Mae'n trywanu at y byw; Gelyn penaf i ddynoliaetn, Ydyw angau—creulon ryw. Ust, ust! 0 dywedwch, pa beth ydyw'r newydd Gyrhaeddodd i Gymru dros donau y Werydd ? Ai newydd yn cyijwys rhyw loniant puredig, A leinw ddysgwyliad y fynwes frwdedig ? o na, cenadwri yn orlawn o ddychryn Gyrhaeddodd i'n clustiau o wlad y Gorllewin; Un arall gyflymodd o diroedd Awstralia, Gan beri dwfn alaeth i rat o blant Gwalia, Newyddion rwygasant deimladan tyneraf— Newyddion a wnaethant deg hafddydd yn auaf, Sibryda'r don sy'n golchi'r lan, Fod angau yn dinystrio; Fod tri o feibion Cymru hoft, Mewn estron wlad yn huno; 0 famau hoff, mae'r newydd hyn Yn rhwygo eich teimladan; Mae'n gwpan chwerw, onid yw, I'w yfed mewn hen ddyddiau ? Hyderech gael rhyw newydd gwych, Dros donau'r eigion ffromllyd, A wnai adfywio'ch ysbryd llesg Cyn gorphwys yn y gweryd; 0 mor siomedig ydyw'r byd, Mor ddyrus yw ei droion, Pan fo'm yn addaw gwledd i'n rhan, Esgora ar drallodion. Mae colli plant anwylaidd mad, Fel cledd yn gwanu'r teimlad Mae'n rhoddi deigryn ar y rudd, 0 loew ffynon carmel Teimlasoch lawer picell lem, Wylasoch lu o ddagrau Ond dyma genadwri brudd Yn llwythog o drallodau. Ar lawer noaon dywell oer, Y buoch mewn breuddwydion, Yn rhodio gwlad estronol bell, Gan wylio eich anwylion; Er gwaetha'r gwgus drwyddawg for, Yn ami caeth eu helynt; Ond maent mewn gwlad lie na chewch mwy Y r un gair oddi wrthynt. Hoff f'ai genych famau prudd, Gael yngan gair a'ch meibion, Ac arllwys eich teimladau dwys, Er esmwythau eich calon Y brofedigaeth sy'n un drom, Mae'n Uethu r meddwl dynol, Mae'n gosod perthynasau cu Mewn teimlad galarnadol. Ymdrechwn gydnabod galluog law Duw, Efe ydyw llywydd y bydoedd Aneirif fendithion nas gwyddom eu gwerth, Sy'n deilliaw o'i fawrion weithredoedd. Mae dwyfol ddoethineb i'w chanfod ar wedd Pob weithred a welwn o'i eiddo; Canfyddwn ar ruddiau y blod'yn bach bach, Ddoethineb yr hwn fu'n ei lunio. Efe sy'n gofalu am luoedd y nef, Efe sy'n diwallu holl anian; Os ydyw ei aden dros filod y maes, Pa beth am ei ddelw ei hunan. Os rhoddwyd eich meibion serchoglawn mewn bedd, Ewyllys ein lor ydoedd hyny; Os awel auafol a wywa eich gwedd, Ymdrechwch o hyd ymdawelu. Parod ydyw'r natur ddynol, I gondemnio cynllun Duw; Llais cydwybod wedi deffro Dd'wed mai brenin cyfiawn yw; Ymorphwyawch ar ei allu, Arglwydd cadarn yw Efe; Ymfoddlonwch i'w drefniadau Yn mhob profedigaeth gre'. Ceimwch ran yn Iesu'n Ceidwad, A phan ddelo angau du, Bydd derbyniad i'ch eneidiau Mewn i'r nefol Ganaan fry; Pan fo n plant a phawb yn cefnu, Para yn ffyddlon wna efe Ymorphwysweh beunydd arno, Ef yw Brenin nef y ne'. Os yn naear gwlad estronol, Y mae beddau'ch meibion en, Enfyn Duw ei angel dysglaer Idd en gwylio oddifry; Eich meddyliau chwithau wibiant 'N ami dros yr eigion mawr; Uwoh eu beddau prudd orphwyBant Yn alaethus lawer awr. Ddyeithr-ddyn, pan eUt heibio'r fan, Y man lle'r huna meibion Cymru hoff, Yetyria di yn ddwys fod is dy droed, Weddillion rhai sy'n mhell o a hanwyl wlad; Na ddod dy droed mewn balchder na sarhad Ar feddau'r Cymru hoff-yn agoe maent I fynwes llu o feibion gwlad y gan; 0 dyro'r rhoeyn teg a'r friall dlos, I harddu'r llanerch Ue gorphwyBant hwy. Mi wn na fedri wylo deigryn giwya, Na chyfyd chwaith ochenaid lwythog brudd 0 th fynwes di, 0 gydymdeimlad pur, A'r mamau prudd sy' yr ochr draw i for; Yn Ngwalia wyllt, doed yr aderyn bach I eilio ei soniaras hwyrol gerdd, Uwch ben y llanerch ddystaw prudd, hyd nes Y clywir llais udganiad angel gwyn, Yn galw'r meirw oil o wyll y bedd. Glyn Ebbwy. GWBlITJBDf.
AR LAN Y DWR EISTEDDAI'R BARDD.
AR LAN Y DWR EISTEDDAI'R BARDD. Alaw,—" Ymdaith y Mwnc." Ar lan y dwr eisteddai'r bardd, Un hafaidd nawn mewn myfyr dwya, Ac anian deg a wenan n hardd, Fel gWyryf dlos a gwenau wyø Sw'r afon fechan rydd, Canai'r adar ar y gwydd Eu mawl yn hardd, A sain y bardd Yn dyrchu'i lais fel hyn y sydd. Cyduna holl natur i foli yr lor, Ei fawl a gyhoeddir drwy bedwar ban byd; Pob clogwyn, pob dyffryn. pob mynydd a mor, Ei foliant ddyrchafant, adseiniant o hyd; Bydoedd uwchben, Tra ar eu taith, Yn entrych nen, Dd'wedant 'n eu hiaith, Y Duw wasanaethwn, glodforwn yn nghyd, Yw Crewr a Llywiwr y cread i gyd. Ysgythrog greig a mawredd certh, Yn argraffiedig ar eu gwedd; Mynyddau ban a bryniau Berth, Orphwysant ar dragwyddawl sedd; Cnydiog faesydd, dolydd gwiw, Bodau o bob Run a lUw; Y goedwig werdd, A swynawl gerdd, Sy'n datgan mawr ogoniant Duw Cyduna holl natur i foli yr lor, &c. Yr huan mawr sy'n Uoegi fry, Gan wasgar ei belydrau gwawl; Y daran groch a'i herfawr ru, Y fflamawg fellt drydana'i fawl; Rhuthriadau i'r dymestl gref, Y corwynt certh a'i frochns lef; Yr eang for Mawr, allu'r lor, Ddadblyga gyda ser y nef Cyduna holl natur i foli yr lor, &c. Yr Alp-fryngwyn i fyny sy'n Dyrchafu'i ben hyd asur gun; Y lloBgfryn poeth, ei danllyd wyn, A ddeifiawl lysg ei fron ei hun; 'Sgydwad erch daiargryn byd, Sigla'r ddaiar megys cryd; Ac yn ei gwane Gyr fyrdd i dranc, Gyhoedda Dduw yn llyw y byd; Cyduna holl natur i foli yr lor, Ei fawl a gyhoeddir drwy bedwar ban byd, Pob clogwyn, pob dyffryn, pob mynydd a mor, Ei foliant ddyrchafant, adseiniant o hyd; Bydoedd uwchben, Tra ar eu taith Yn entrych nen, Dd'wedant 'n eu hiaith, Y Dllw wasanaethwn, glodforwn yn nghyd, Yw Crewr a Llywiwr y cread i gyd. Blaenllechau. EHEDYDD MORGANWG.
YR HAF.
YR HAF. Ton,—" So Early in the Morning." Yr haf a ddaeth, daeth gyda hi Sain beraidd sydd i'm clustiau i; Pan dyr y wawr, bydd molus gan I'w chlywed gan yr adar man. Corawd,-Pob peth sydd mewn llawn fywyd, Pob peth sydd mewn llawn fywyd, Pob peth sydd mewn llawn fywyd, Yn nhymor gwanwyn haf. Holl flodau'r maes pryd yma sydd 0 dan weinyddiad cawr y dydd; Maent oil fel perlau euraidd syw, Yn wastad i fy llygaid byw Pob peth sydd mewn llawn fywyd, &c. Fe welir y pladurwyr gwiw Yn cychwyn gyda'r wawr yn fyw, Maent oil yn lion yn myn'd i ffwrdd, Yn dweyd daeth haf mewn rhwyeg i'n bwrdd. Pob peth sydd mewn llawn fywyd, &c. Y nos a giliodd draw i ffwrdd, Pan ddaeth yr haf mewn rhwysg i'n bwrdd, Yr haul sydd megys cawr pryd hyn Yn gwenu'n siriol ar bob bryn Pob peth sydd mewn llawn fywyd, &c. Yr afon fach ei murmur hi, Sy'n treiddio trwy fy nghlastiau i; Ei glenydd sy mewn harddwisg lan, A ffrwythau per a blodau man: Pob peth sydd mewn llawn fywyd, &c. Y dolydd wiagwyd oil yn lan, A Uysiau per a meillion man; Tra'r adar man ar doriad gwawr, Yn dyrchu clod i'w Crewr mawr: Pob peth sydd mewn llawn fywyd, Pob peth sydd mewn llawn fywyd, Pob peth sydd mewn llawn fywyd, Yn nhymor gwanwyn haf. DTFrBTOTAB.
CODI YN FOREU.
CODI YN FOREU. A wyddoBt ti beth yw hyfrydwch gwawrddydd ? Pan byddo'r haul yn gwysio'r boreu ter ? Y niwl yn cilio'n frynog ar y dolydd, Ac adnewyddiad ar hoU natar ber. A wyddost ti am godi gyda'r adar, I wel'd yn agor hyfryd ddomwr wawr, A'r huan pur yn taflu goleu Uachar, Nea taenu llewyrch dros holl ddaear lawr ? A welaist ti, ar foreu wawr, yr huan Ar wedd priod-fab ar ddiwrnod mwyn ? Prydferthwch pur yw ei ddyfodiad allan, A'r adar hwythan'n canu yn mhob Uwyn. Ah llawn prydferthwch yw ei wyneb gwiwlan, Yn dod o'i 'stafell, gan droi nos yn ddydd; Fel Llywodraethwr mawr y mae'n dod allan, A myrdd yn gwenu yn ei wyneb sydd. Gwel yr uchedydd ato yn dyrchafu, I roi anerchiad a dymano Uwydd; Uwch, uwch yn codi ac o hyd yn CIoDU, Nes yn y diwedd canu yn Ei wydd. Ah! edrych, fel y mae ei fron yn chwyddo, Fwy, fwy o hyd wrth godi fyny fry, El galon dyner sydd o hyd yn twymno, A'i ber acenion yn pereiddio "I. Uwch, uwch, y cyfyd trwy'r awyrgylch denea, Ah mor feistrolgar y dyrcluia^r lan, I wledydd gloewon, claer, dysglaerwych goleu, Uwchlaw clogwyni a mynyddau ban. Clywch yr angelion sydd yn awr yn uno, A'r pur nchedydd, eu caniadau hwy, Mwyn delyn natar ar bob tant yn taro, A'r saint yn gyd-gerdd am anfarwol glwy'. Oh mor iachosol yw awelon boreu, Fel anadliadan nefawl, llawn o hedd, Prudd-der tywyu. dry yn gin a chwarea, Fel anfarwoldeb uwch y trymaidd fedd. Myrdd o flodau egyr eu hamrantaa, Gan edrych ar ogoniant teg y wawr, Yn hel tywyllwch o'r holl dirk^aethan, Gan freniniaethn ar y ddaear lawr. A deimlaist ti adfywlol fwyn awelon, Ar doriad dydd ryw hyfryd dymhor haf, Pan yn anadlu anadliadan ffrwythlon, Ned peri cynyrch ar hoU diroedd Naf ? Anadla'r nefoedd yr awelon balmaidd, Nee creu mwyneidd-dra ar y ddaear hon, Tangnefedd pur ar hyfryd foreu hafaidd, A'r llysiau'n cann.r holl alawon lion. Tydi gysgadnr, cwyd i wel'd prydferthion Amrywiaeth natur yn ddadblyga'n hardd, Y blodau'n yfed natur a'i bendithion, A chyda'r awel, Duw yn dod i'w ardd. Aderyn bach a egyr ei amrantau, A thremia draw ar greadigaeth faith, Mwyn a melna ydyw ei ganiadau, Mawl pur i'r nefoedd yw ei hyfryd iaith. Ti welaist ti gadwynan y tywyllwch Y noB o'r blaen yn rhwymo'n dyn y dydd, Wel, cwyd yn foreu i gael gwel'd hyfrydwch Y wawr yn agor er rhoi'r caeth yn rhydd. Ap MOBGANWG, sef y Parch E. Mathews, Caerdydd.
Advertising
ELISHA. ESLICK, Auctioneer, Appraiser, Accountant, How. Estate, General, Commission and Insurance Agent, RESPECTFULLY informs his friends and the public of Aberdare, that all Business Matters entrusted to him will receive his per- sonal and prompt attention, and all accounts will be settled without delay. E. E. is also prepared to purchase any quan- tity of Second-hand Furniture, and has always a stock of Second-Hand goods for sale. Offices, 19, Whitcombe-sfcreet, Abesdare. CEBDDORIALTK ALAW DOU. "Ceinciau'r Gerdd." Rhan laf, pris Is. 6c. yn cynwys 14 o ddarnau. Yn awr yn barod yr AIL RHAN o "Geinciatu7r Gerdd," yn cyn wys 14 o ddarnau, pris Is. 6c. Ay A CHID GAN,—" 0 rhou-ch i mi Fwth," (i0 give me a Cot.) Ail argraffiad, pris 6ch. Y geiriau Cymraeg gan Ieuan ap Iago, a'r geiriau Saesonaeg gan Titus Lewis, Esq. CARIADGAN,—"Nam o'r Glyn," (Fair Ann of Glyn), pris 6ch. Y geiriau Cymraeg gan G. ap Dafydd, a'r geiriau Saesonaeg gan De- heufardd. Yr oil gyda chyfeiliant i'r piano, neu'r delyn. D.S.—Lie na byddo Llyfrwerthwr yn gyfleas, anfoner at yr awdwr gyda blaendal. Rhoddir commission da. Cyfeirir,-W. T. REES, (Alaw Ddu,) Aber- earn, Newport, Mon. SWYBDIU UUAIN I A MANTAIS FAWR I BAWB. DYMUN A E. H. EVANS, Cloth Hall, Aberdar, hysbysu i'r cyhoedd fod ganddo ar werth yn bresenol luaws mawr o Shawls Gwlenyn, a hyny am brisoedd hynod o rad. Celt Shawls a arferid eu gwerthu am £1 10s., yn aws am 19s.; rhai a werthid am JE1, am 14s. 6d.; rhal a werthid am 12s., am 8s. 6.; rhai a werthid an 10a., am 6s. 9d., ac ereill yn gyffelyb. Hefyd y mae ganddo y Stock oreu o wlaneal 0 wneuthuriad cartrefol a fedd Cymru, am brisoedd rhadiawn. CLOTH HALL, 8, Oommercial St., Aberdart AMERICA. SWYDBFA YXRM>OL OTMSHD. IIIKON ;S AMIUJ AAWHIEMOW JALWEO# BMTOK Union Street, 39[L Xilrerpool, A DDTMUNA ddttpn G1 deimlad diolchj^ar « MAHW* aetb y mae wedi ei gael, hefyd a ddymuna imenthu yn hygbyg ei fod yn parhau 1 Fookio gyda-r Agw dto Gellir cael pob hysbysrwydd am y Clud-daL hwylio, ymborth, *c., trwy ddanfon llythyr yTTcynww un stamp I'r cyfeiriad uohod. 1 Bydd i'r sawl • ewyUysio le oyfleng 1 drin ymbortk en hunain, yn nghyd a lletyaeth eysanu, am y prisoadA rhid^ Liverpool, ynghyd a lie i gadw eu Luggag* ym Yr ydym ni, y rhai y mae ein heawan isod, yn dymnne oymeradwyo Mr. James yn galonog 1 sylw ymfadwm o^oedd' ^re(^U' Iddoroddi pob boddlonrwydd ft ParehckSigton, W. THOMAS, Liverpool; REES BVUI; Liverpool; T. E. JAMES, alyn-nedd; W. ROBXM HABRI8, Heolyfelin, Aberdar; Q. OWEN, Khyl; J EMLYN JONES, M.A., LL.D., Mcr> thyr; W. MORGAN, D.D., Caergybi; E. EVANS, Dow- lais; D. PRICE, Blaenffog J. LLOYD, MerthW^T JAME., Pyle: E. THOMAS, CASNEWYDDRTJONM: (Mathetes,) Rhymni; W. ROBERTS, Penypare: R, a JONES, Abertawe.—Gweinidogion y Bedyddwrr. Oddiar fy adnabyddiaeth o'r gweinidogion nobod. n gystal a llythyran cymeradwyaeth i dy tawel a gwedtes S. JAMES, y mae genyf yr hyfrydwch o'i gymeradwro I sylw ymfudwyr o Gymru. THOMAS PRICE, M.A., PH.D., Aberdar. • YmoftTier yn Aberdar a'i ohylehoedd a Mr Monte Morris, 11, Ynysoynon Street, Cwmbach, Aberdar. a Mr. Henry Daviea, i, Upper Regent^treet, Aberdar. IKCHYD I BAWB! A HYNY YN RHAD Teml Iechyd neu Turkisli Baths, Merthyr. Dan Lywyddiaeth Mr. T. ATKINS. PRISOEDD. 1st. Class, o 8 a.m. hyd 2 p.m., 2s. 2nd. o 2 p.m. hyd 6 p.m., 1.. 3rd. o 6 p.m. hyd 8 p.m., 9c. Gwrrwod-Dyddiau Llun, Mercher, lan, a Sadwrn. Menywod—Dyddiau Mawrth a Gwener. Plunge and Shower Baths, comfortable fiM, 6d. each. Hot Water Baths-1st. Glass, IL 2nd. Class, 6d.; Children to all the Baths tdi half price. "1st. Class Baths may be had also fmm 8^ p.m. until 9 p.m., for the convenience-of Tradesmen, Travellers and others, every wight excepting Tuesday. CYMDEITHAS YMFUDOL CYFFRED- INOL CYMRU, Wedi ei sefydiu er cynorthwyo Gweithwyr t bob dosbarth i Ytnfudo i America. YrnddMedolwyr,—Parch. P. Howell, Gweinidog yr Annibynwyr, Merthyr; Parch. D. Joaea Gweinidog y Methodistiald, Merthyr. Prif Swyddfa-26, Castle Street, Merthyr. SefydUr Canehenan yn fnan trwy Gymru. TJYMUNA y pwyflgor alwyn ddifrifol ar eu cydweitb- -Ly wyr i beidio colli dim amser cyn ymuno a'r Oym- deithas uchod, a thrwy hyny gydweithredu yn nghyd er ceisio effeitbio ar farchnad llafur y wlad ban, a oIIocU cyfleg y gweithiwr. (gf Y rhai a ymrestrant yn aelodau yn awr, bydd can ddynt siawns yn y tvniad cyntaf oV lots. Cyfeillion p chwenych gwella sefyllfa y gweithwrr, taer ddymnnrr arnynt i gynorthwyo yn y gwaith trwy ddyfod yn Aelod Anrhydeddug. Gellir cael amodau aelodaeth trwy ymofyn a'r ysgrifea- ydd. J. MORGAN, 26, Castle Street, Merthyr. Y CXEOXiBltA. MEWN canlyniad i ail ymddangosiad Y Diarrhsea a'r English Cholera, dylai pob person gadw yn ei feddiant botelaid o fodaba cymysgedig y Dr. Price at wella y Cholera, yr hwn a brofwyd mor effeithiol yn ystod yr YMIID- iadan yn 1846 a 1866. T. EY ANS, Druggist, Sfc., 22. Commercial Place, ger y Boot Hotel, Aberdar. A nogir pawb i gadw y feddyginiaeth hwn wrth law, er cymeryd dogn o bono 08 dygwydd yr afiechyd ymoeod, trwy yr hyn y gellir ei rwysbro i ddyfod yn mlaen. Prifl y moddion ydyw 18. 6C. y botelaid. TY8TIOLAETH.—AT MB. T. EVANS—"Anwyl Syr,— Wedi i mi wneud prawf ar Dr. Price's Cholera Mixture fel meddjrginiaeth rhag y gwaew a rhyddni, dymunwyf i'r cyboedd gael gwybod am danynt, a derbyn yr on daicn i oddi wrthynt a minau, yn ng wyneb yr nnrhyw amgylch- iadau. Ilefyd, y maent yn rhad ac yn nawdd i'w def- nyddio. Yr eiddoch, THOMAS ROWIANDS, 1 Gweinidog y Methodistiaid Calftnaidd, Gorph. 19,1806. 9, Feiobroks Street, ABCRIAC.*