Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[CYFANSODDIADAU ADRODDIADOL…

BEDD Y DYN TYLAWD.

News
Cite
Share

BEDD Y DYN TYLAWD. Is yr ywen ddu ganghenog, twmpath gwyrdd- las gwyd ei ben, Fel i dderbyn o goronog addurniadau gwlith y nen; Llawer troed yn anystyriol yn ei fathru'n fynych gawd, Gan ysigo'i laswellt siriol, dyna fedd y dyn tylawd. Swyddwyr cyflog gweithdy'r undeb a'i heb- ryngodd ef i'w fedd Wrth droi'r briddell ar ei wyneb, nid oedd deigryn ar un wedd *Nol hir frwydro a thrafferthion, daeth i ben i ingol rawd,- Noddfa dawel rhag anghenion ydyw'r bedd i'r dyn tylawd. Mae'r gareg arw, a'r ddwy lythyren dorodd ryw anghelfydd law Gydchwareuai ag e'n fachgen, wedi hollti'n ddwy ger llaw A phan ddelo Sul y Rlodau, nid oes yma gfir na brawd Yn rhoi gwyrdd-ddail a phwysïau ar lwm fedd y dyn tylawd. Ar sedd fynor nid yVr Awen yn galaru uwch ei lwch, A chyn hir drwy'r las dywarchen, aradr amser dyna'i swch; Un ar llawr fydd ei orphwysfa,—anghof drosti dyn ei hawd; Ond, er hyny, angel wylia ddaear bedd y dyn tylawd.

LLUNDAIN.

GOSODIAD CAREG SYLFAEN YSGOL…

[No title]

[No title]

PETHAU RHYFEDD.

[No title]