Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[CYFANSODDIADAU ADRODDIADOL…

News
Cite
Share

[CYFANSODDIADAU ADRODDIADOL 3 EISTEDDFOD HIRWAUN.] ( TRUENI GWRAIG Y MEDDWYN. ( Ar ryw foreuddydd trymaidd, j Yn nghanol Chwefror oerllyd, Daeth gwreigan welw at fy nhy, ■ Ac yno bu dros enyd j Yn mhreichiau hon 'roedd baban byw, A'r olwg arno'n syn— ] 0 bob trueni, 'r mwyaf yw Trueni gwraig y meddwyn. Mewn llais crynedig d'wedai'r fam, Maddeuwch, Syr, fy hyfdra Mae genyf wyth o blant dinam Yn weigion iawn eu cylla Er fod im' briod iach a byw, 'Rwy' fi a'm plant mewn newyn- 0 bob trueni, 'r mwyaf yw Trueni gwraig y meddwyn. Mae gwel'd fy nghym'dogesau llon Yn peri i'm bron ocli'neidio A minau'n ymdrech gyda'r don, 0 ddrws i ddrws yn begio Mi dd'wedaf eto yngwydd fy Nuw, A ragdrefnodd i mi hyn— 0 bob trueni, 'r mwyaf yw Trueni gwraig y meddwyn."

BEDD Y DYN TYLAWD.

LLUNDAIN.

GOSODIAD CAREG SYLFAEN YSGOL…

[No title]

[No title]

PETHAU RHYFEDD.

[No title]