Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
MUSIC HALL ABERTAWY. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod, DYDD LLUN, HYDREF 5, 1868, yn lie yr hon oedd i'w chynal Gorphenaf 6. PRIF DESTYNAU. £ s. c. CERDDORIAErH. 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, ddim dan 43 o rif, a gano yn oreu Marwolaeth y Cyfiawn," o'r Gyfres Gerddorol, gan J A. Lloyd. 10 0 0 2. I'r Brass Band a. chwareuo oreu "The Heavens are Telling," Novello's Edition. 7 0 0 Beirniad y Gerddoriaith,—Eos Rhondda. Caniateir i'r Corau ddewis Arweinydd. Bydd programme o'r holl destynau i'w gael ond anfon dwy stamp at yr Ysgrifenydd, John Daniel, Grocer, Pentre Estyll, Swansea. D. 34:, Hlyh t4tri-0c. Alterdare, A DDYMUNA hysbysu y cyhoedd fod ganddo eithaf cerbyd a cheffyl, yn barod bob amser at unrhyw Anghladd neu daith Gellir eu cael am bris rhesymol ar Hir, ond rhoddi ychydig oriau o rybydd yn mlaen llaw. Yn awr yn barod, pris6c. mewn Lliain, a Is. mewn Pocedlyfr hardd, Byddiadur y mothodititiaid Callinaidd am YN cynwys Dyddiadur, Almanac, Sabboth- au 1870 a 1871, Taflen or Gwyliau, Prisiau Stampiau, &c.-Teyrn Ewrop — Teulu Breninol—Cynrychiolaeth Cymru, &c.—Sefydliad- au Dyngarol, Crefyddol, &c.-Rhe3tr o Weinidog- ion a Phregethwyr y Cyfundeb, yn nghyd a'u cyf- eiriad (address),Capelau a Theithiau Sabbothol, &c. -Athrofaau a Chenadaethau y Cyfundeb—Ystad- egau. &c. Cynwjsi amryw o ychwanegiadau nad ydynt arferol o fod. Pob archebion i'w hanfon at Rev. P. J. WALTERS, Aberdare. Rhoddir yr elw arferol i lyfrwertnwyr. WAIMB. W ANTED an Agent for Aberdare and neighbourhood for one of the largest Insurance Companies in the kingdom. A liberal commission given. Address X. Y., GWLADGARWR Office, Aberdare AX Y GlOWYR. BYDDED hysbys i Lowyr Deheudir Cymru y cynelir cyfarfod yn y Lamb Inn, yn Mhontypridd, dydd Mercher, Hydref 7fed, 1868, pryd y dysgwylir cenad o bob glofa yn Neheudir Cymru, er ystyiied pynciau y "Double Shift System," a'r gwelliantau angenrheidiol yn y Mines Inspection Act." NODIAD.-Dysgwylir i Drysorydd Deheudir Cymru yn neillduol fod yn wyddfodol, er rhoddi eglurhad ar y cyfrifon arianol sydd yn dal cysyllt- iad a ni fel glowyr. H W Y D D AU KHAB. SUA WLS, DRESSES, WINOEYS, goe. R. EDWARDS, (Opposite the Vale of Neath Station, Merthyr,) BEGS to announce that he has received a LARGE STOCK of Goods suitable for the Winter season, comprising FRENCH MERINOES, Serges, Reps, Twilled Alpocas, Winceys and Fancy Dress Materials, Straw Bonnets, Hats, Feathers, Flowers, &c., Quilts, Counterpanes, BLANKETS SHEETINGS, &c., Woollen Cloth Pilots, Beavers, Witneys, Naps, Waterproof Tweeds for Mantles, &c., &c. Millinery and Mantle Making under Competent Management. Funerals completely furnished, and all or- ders executed with punctuality and despatch. Manchester Provident Assu- rance Society (Limited.) CAPITAL—250,000. Chief Offices-41, Princess street, Manchester. Industrial Department-A berdare District. BHTBDDD P-WYSIG. PAWB personau sydd yn dal Policies o'r Gymdeithas hon, Premiums pa rai sydd wedi eu talu yn flaenorol i Mr. Thomas Morgans, Aberdar, bydded hysbys iddynt fod ymrwymiad Mr. Morgans fel swyddwr y Gymdeithas yn di- weddu dydd Llun, y 5ed o Hydref. Pob Premiums fydd yn disgyn ar neu wedi y dyddiad uchod i'w talu i Mr. Titus Jones, Aber- dar, yr hwn sydd wedi ei apwyntio yn lie Mr. Morgans, ac a fydd yn galw am y cyfryw. Heb hyn, bydd yr holl fudd deilliedig o'r Gymdeithas yn cael ei golli. HUGH W. REEVES, Agency Superintendent. Manchester, Hydref 25,1868. Allan o'r WØlg, pris 6c., CAN A CHYDGAN,—"HEN GYMRU FYNYDDIG." CERDDORIAETII yn nghyd a Chwm- peiniant i'r Delyn a'r Perdoneg, gan Mr. W. F. Frost; y Farddoniaeth Gymraeg a Saeson- eg gan Mr. W. H. Dyer. Anfoner archebion at yr awdwr, Mr W. H. Dyer, (Mabonwyson,)Quakere Yard, near Ponty- pridd.
Y " DAILY NEWS » AR MR BRUCE.1
Y DAILY NEWS » AR MR BRUCE. TTN o'r profion sicraf o gymhwysder dos- barth gweithgar Lloegri'r etholfraint, yw eu cvdnabyddiaeth o alluoedd y dynion sydd wedi eu gwasanaethu yn dda yn flaenorol. Y mae Ty y Cyffredin yn gofyn am waed new- ydd. Ond byddai Ty y Cyffredin, wedi ei gyfansoddi yn hollol o ddynion newyddion anmhrofiadol o wybodaeth a dyledswyddau Seneddol, yn anghyfaddas i lywodraethu ei hun, na dwyn allan fesurau priodol. Mor bell ag y dichon i bethau gwleidyddol dyfodol od yn amlwg, y mae uwchlaw amheuaeth nad a y flwyddyn heibio, heb weled Mr GLAD- STONE mewn swydd o flaen dosbarth o Rydd- frydwyr, ac yn Arweinydd mwyafrif Seneddol Os nad ydyw addewid obeithiol i fyned yn ofer-os yw y Dosbarth Rhyddfrydig i ysgoi gwaradwrdd, ac os yw Mr GLADSTONE i gyf- lawni yr hyn y dysgwylia y wlad am dano, dylai gael cefnogaeth briodol. Mae yn amlwg fod lluaws o'r hen Aelodau Whigiaidd, sydd wedi dal swyddau blaenorol, yn awyddus i roi lie i rai ieuainc. Rhaid i'w lleoedd gael eu llanw. Nid yw Cadfridog unigol a byddin yn ddigonol-rhaid wrth wahanol swyddog- ion. Rhaid i Mr GLADSTONE wrth swyddog- ion yn gystal a chanlynwyr. Heb son am gewri megys Mr BRIGHT a Mr LOWE, bydd yn rhaid hefyd wrth ddynion megys Mr Gus- CHEN, Mr STANSFIELD, Mr CHILDERS, Mr CHI- CHESTER FORTESCUE, Mr AUSTIN BRUCE, ac ereill, yn y Llywodraeth Rhyddfrydig er mwyn boddhau y wlad. Un o brif bynciau Ty y Cyffredin yn y dyfodol fydd Addysg Genedlaethol. Dyma bwnc angenrheidiol y Dosbarth Gweithgar. Mae yn foddhaol medd- wl fod gan y gweithwyr yn bresenol gyfle i anfon dyn i'r Senedd sydd wedi gwneud y mater yma yn brif bwn'c ei fywyd. Gwna Etholwyr Merthyr Tydfil wasanaeth bwysig, nid yn unig i'r Dosbarth Rhyddfrydig, ond i'r wlad yn gyffredinol, trwy anfon Mr AUSTIN BRUCE eto i Dy y Cyffredin. Nis gallwn dybio y bydd iddynt ddewis yn hytrach rhyw un lleol, dibwys y tu allan i'w ardal ei hun. Pan y sonid am ymadawiad Syr GEORGE GREY o'i swydd yn y Swyddfa Gartrefol, nodid Mr BRUCE fel un cymwys i lanw ei Ie. Dangosai hyn mor uchel oedd y farn am dano. Nid oes un dyn wedi ei fawrhau yn fwy yn Nhy y Cyffredin, ac wedi derbyn y cymeriad llwyr o ddyn cydwybodol, galluog, a doeth. Nis gellir hebgor Mr BRUCE 0 Dy y Cyffredin. Ni byddai rhaid iddo grefu am sedd. Mae y gwrthwynebiad yna iddo yngamsynied hollol. Byddai ei wrthodiad yna yn waradwydd, a byddai yn wanhad i ochr y Rhyddfrydwyr yn y Senedd.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. HEN WEITHIWR.Nid ydym yn gwybod am un trefniant o eiddo y llywodraeth i ym- fudwj r i America. Gwell fyddai i chwi ohebu a'r Cymro Gwyllt, 14, Galton St., Liverpool. Gwyr ef hanes a threfniant pob gwlad o dan haul. YSGRIFAU DIENW.—Y mae amryw o'r cyfeill- ion yma wedi ein cyraedd yr wythnos hon eto, megys Hen Of, Evan, Dowlaisydd, &c. Dylai y rhai hyn oil ddeall eu tynged bellach. DAEARWR.—Yr ydym yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich ysgrif, ond nid yw yn bosibl i ni gyhoeddi pob peth sydd yn cael ei anfon, er fod yr ysgrifau yn dda. *m* Ymddangosodd ysgrif yn y Merthpr Ex- press yr wythnos ddiweddaf, gan un a eilw ei hun John Morgan, yn ein cyhuddo ni o annhegwch mewn cysylltiad a goheb- iaeth a ddanfonwyd.fi ni i'w chyhoeddi. Derbyniasom yr ysgrif ar yr awr yr oedd- wn yn myned i'r wasg, a gwnaethom ninau sylw amlwg o hyny yn y rhifyn hwnw. Yn ystod yr wythnos ganlynol, anfonodd Mr. John Beynon lythyr i ni yn addef ei gamarweiniad, ac i egluro pethau yn iawn, ac yn y modd y dvlasent fod, yr hyn oedd yn gwneud, i'n tyb ni, y llythyr crybwylledig yn hollol ddiangenrhaid, fel y nodasom hefyd yn nghynffon llythyr Mr. Beynon. Gyda llaw, bydded hysbys i Mr. John Morgan a'i gyfeillion nad ydym ni eto wedi cael yr anrhydedd o weled an- erchiad Mr. Bruce.
.TALIADAU.
TALIADAU. J. T. J., CardiF J. R., Cefncribwr J. J., Morgans Town D. J., Glanynant; W. T., Taibach.
AT Y DOSBARTHWYR.
AT Y DOSBARTHWYR. Yr ydym am adgoffa i'n Dosbarthwyr fod y Chwarter ar ben er yr wythnos ddiweddaf, a'n bod yn gobeithio y cofiant am y tal. yn brydlon fel arfer.
Advertising
Cyfeirier y GOHEBIAETHAU, a'r ABOLTGIADAU —"To the Editor of the Gwladgarwr, Canon-street, Aberdare." Pob Archebion a Thaliadau i'w gwneud i Walter Lloyd, GWLADGARWR Office, Aberdar."
. PA BETH YW EGLWYSWR ?
PA BETH YW EGLWYSWR ? Y mae llawer o arfer y gair Eglwyswr yn y dyddiau hyn gyda golwg ar yr etholiad ac y mae pob math o gymeriadau o'r Arglwydd Gangellydd i lawr at y torwr beddau, yn llechu yn ei gysgod; ie, ganoedd o rai na feddantddim parch i'r Eglwys, mewn gwir- ionedd, ond can belled ag y mae bod ar yr enw" yn help iddynt hwy gyraedd rhyw am can mewn golwg. O'n rhan ein hunain, nid ydym ni yn gallu canfod un math o briodol- deb mewn dodi Eglwyswr i gynrychioli Anghydffurfwyr, os bydd rhyw un arall o'r un egwyddorion a hwynt, i'w gael. Lie y byddo y mwyafrif yn Eglwyswyr, nid ellir gwrthwynebu gyda'r un grym iddo fod yn gynrychiolwr iddynt. Meddylier am fwr- deisdref o ddeng neu bymtheng mil o bobl, a naw o bob deg o honynt yn Eglwyswyr twym oni edrychai y cyfryw yn rhyfedd pe cynyg- iai rhyw Anghydffurfiwr ei hun fel cynrych- iolwr iddynt ? Nid oes dim help am fod dynion yn dwyn eu teimladau fel crefyddwyr allan yn amser etholiad ar yr Eglwys y mae y bai yn gorphwys hi a gyplysodd ei hun wrth y wladwriaeth gyntaf oil; ac y mae wedi bod yn ofalus am gadw ei phregethwyr, sef yr Esgobion, yn Nhy yr Arglwyddi i edrych ar ol ei llesiant drwy yr oesau ac oblegyd hyn y mae Ymneillduwyr wedi dyfod i deimlo dros eu hochr hwythau wrth weled eu hunain yn cael eu mathru a'u dal i lawr dan draed yr Eglwys o ran pob braint a chyfleusdra. Y mae yr Eglwys yn cadw y prif ysgolion iddi ei hun yn cadw yr Eglwysydd a'r myn- wentydcl iddi ei hun ac nid oedd, yn ddi- weddar, fodd i ddyn fyned i unrhyw swydd o dan y llywodraeth, ond drwy ei phyrth hi. Y mae yn wir fod y Dreth Eglwys wedi ei symud ond nid heb i lawer o ymrafaelion gymeryd lie mewn plwyfydd; a rhywbeth pur agos i dywallt gwaed ond pe buasai fwy o Anghydffurfwyr yn y Senedd, buasai y gorthrwm cywilyddus hwnw wedi ei ddileu er ys blyneddau. Ac at yr holl bethau a enwyd, y mae yr Eglwys yn cadw oddiwrthym, y mae yn mynu oddi arnom, ac yn gwneuthur i Anghydffurfwyr dalu at ei chynal yn mhob plwyf. Adwaenom amryw blwyfydd yn Nghymru lie mae cyflog yr offeiriaid yn wyth cant, ac yn fil yn y flwyddyn, a'r cwbl oil wedi ei godi oddiar Ymneillduwyr agos yn ddiwahaniaeth. A all fod rhyw synwyr yn hyny ? Yr Ymneillduwyr, ar ol talu i'w gwein- idogion, ac adeiladu eu capeli eu hunain, yn gorfod cynal Eglwys arall a hono yn un gostus dros ben ? Dyna paham y mae Ymneilldu- wyr mor selog am gael rhywrai i'w cynrychioli, fely caffont gyfiawnder. Y mae clywed dyn yn dyweyd ei fod ef yn Eglwyswr, mewn gwlad o Ymneillduwyr, gan geisio eu pleid- leisiau, yn disgyn ar ein clustiau ni fel un o'r pethau mwyaf lledchwith. Y mae yn rhyw- beth tebyg i'r cadnaw yn cynyg ei hun yn faer i'r gwyddau. Torer yr unleb sy rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth fel nad allo yr offeiriad ein gorthrymu ni mewn dim, ac yna ni fyddai yn waeth genym Eglwyswr rhydd- frydig mwy nag Anghydffurfiwr i'n cvnrych- ioli; ond tra byddo yr undeb anachaidd yn parhau, yr ydym ni yn rhwym o geisio An- nghydffurfwyr i'n cynrychioli. Dyma y dyn- ion a wnant y gwaith hwn yn effeithiol, a phob gwaith arall perthynol i grefydd. Achwynir ar Ymneillduwyr am ymyraeth a pholitics; ond ni ddyrchafwyd cri erioed yn erbyn i Eglwyswyr ymyraeth. Bygythiwyd offeiriad, yn ddiweddar, y tynid cynorthwy Gymdeithas cynal Gweinidogion" oddi wrtho am iddo ymyraeth a pholitics drwy bleidio dyddimiad Eglwys Iwerddon ond ni sonir am atal cynorthwy oddiwrth y rhai sydd yn ymyraeth a pholitics chwythu bygyth- ion a chelanedd yn erbyn Mr Gladstone. Yr undeb sydd yn bod rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth sydd wedi bod yn asgwrn cvnen er ys oesau. Y mae yn dda genym weled ambell wein- idog o safle uchel yn mysg yr Eglwyswyr yn dechreu dyfod i weled y ffieidd-dra; ac i chwenych ymgilio oddiwrtho. Gellir gofyn yn ngeiriau Jeremiah-" A thithau yr an- rheithiedig, beth a wnei ? Er ymwisgo o honot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio a thlysau aur, ac i ti liwio dy wyueb a lliwiau, yn ofer y'th wnei dy hun yn deg dy gariadan a'th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes." An- afus yw dy ysigdod, a dolurus yw dy archoll. Nid oes a ddadleuo dy gwyn fel y'th iachaer Did oes feddyginiaeth iechyd i ti." Bydd digon yn barod i ddadleu ei chwyn, ond nid fel yr iachaer hi. Ni wnant ond gwneud y drwg yn waeth. Gwell fyddai iddynt gymeryd eu codwm yn esmwyth na gwingo yn erbyn y symbylau. Gwingwyd yn erbyn dileu Deddf yr Yd, ond i lawr y daeth, er gwaethaf pob gwrthwynebiad ac felly y bydd eto gyda golwg ar yr Eglwys yn Iwerddon, ac yn Nghymru a Lloegr hefyd. Rhaid cael Eglwys Crist i'w chyflwr cyntefig heb fod dim a wnelo awdurdodau gwladol a hi.
DIGOFAINT YR OFFEIRIAID YN…
DIGOFAINT YR OFFEIRIAID YN ERBYN EU CYMWYNA^WYR. Nid allwn lai na synu at y gynddaredd a ddangosir gan rai offeiriaid yn erbyn Rhydd- frydigrwydd yn y dyddiau hyn yn enwedig, gyda golwg ar Eglwys Iwerddon. Rhyddfoyd- igwyr yw cymwynaswyr penaf yr Eglwys. Y maent hwy am dynu yr llyn sy ddaiarol oddi- wrth yr hyn sydd ysbrydol ynddi. Nid ydynt mewn un modd yn meddwl cynyg ymosod ar ranau bywydol yr Eglwys ond ar yr hyn sy gnawdol; yr hyn sydd wedi atal iddi allu cyflawni ei dyledswydd, megis y dalasai, am ddau neu dri chant o flyneddau. Ni chafodd un sect erioed y fantais a gafodd Eglwys Loegr i fod yn ddefnyddiol; can belled ag y mae cy- mwysderau oddiwrth foddion daiarol yn cyr- aedd. Ystyrir fod y ddysgeidiaeth oedd yn ei chyraedd o'r radd uchaf, yn mhob ystyr o'r gair yr oedd ganddi hefyd rai o'r meddyliau mwyaf goleuedig a choeth i ymwneud a hwynt. Yr oedd yn cael ei chroesawu i balas- au y bendefigiant, ac i balasau breninoedd. Ni chlybuwyd llais Anghydffurfiwr yn y llys ar ol dyddian Cromwell; ac nid oes dim tebyg y clywir hyny. Rhaid i'r Anghydffurf- wyr foddloni ar lafurio yn mhlith y werinos, gan mwyaf, a lluaws mawr o'r rhai hyny yn anllythyrenog, ac annghoeth eu meddyliau; ond wrth edrych ar y byd o'n cwmpas, gwelwn yn mha ley cafoddyr Efengyl fwyaf o effaith. Canys yr ydych yn gweled eich galwedig- aeth, frodyr, nad llawer o rai doetliion, yn ol y enawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o enawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o [ rai boneddigion a alwyi." Yr oedd gan yr Eglwys, nid yn unig y ben- defigiant, y breninoedd a'r breninesau, wrth ei chefn, ond yr oedd gan ei hoffeiriaid dalion sicr a diogel i edrych atynt. Nid oedd raid i un o honynt byth betruso dim yn nghylch ei gyflog. Yr oedd hwnw yn dyfod iddo ef fel llif yr afon heb gan ddim fodd i'w atal ond wedi y cwbl, nid oedd gan yr Eglwys ddim gafael ar y bobl i gorIanau yr Ymneillduwyr yr oedd corff y genedl yn dianc. Y mae yn ddigon diddadl, erbyn hyn, mai drwy wneuthur yr Eglwys yn ormod o gysegr bydol, neu yn gyfleusdra i ddynion segur, didalent, diddawn, diddysg, a digrefydd, i gael bywioliaethau breision am ddim y collodd ei nerth. Pe buasai ei gweinidogion yn gorfod byw ar eu talentau eu hunain, a'u cymwysderau i'r wein- idogaeth, ac nid ar y degwm, buasai gwell dynion ynddi. Y cwbl y mae Rhyddfryclig- wyr yn geisio yw rhyddhau yr Eglwys o'i chaetliiwed, a'i gosod i fyw ar rinwecld, ac nid ar waddoliadau yr oesau o'r blaen ac Actau Seneddwl. Bydd toriad yr undeb rhwng Eglwys Iwerddon a'r Llywodraeth fel bywyd o feirw a bydd yr un peth yn sicr o effeithio iachawdwriaeth i'r Eglwys yn Lloegr a Chy- mru hefyd pan ddelo yr amser i ben.
DYCHWELIAD Y PARCH. D. PRICE…
DYCHWELIAD Y PARCH. D. PRICE I AMERICA. Yr ydym yn awyddus i alw sylw y personau hyny a fwriadant ymfudo i America at yr hysbysiad o ddychweliad y Parch. D. Price, a welir mewn congl arall. Dichon i ymgydna- byddiad a'r gwr parchedig weini llawer o gyf- arwyddyd a dyddordeb ar y daith, ac wedi cyraedd yno. Yr ydym yn cael mewn am- gylchiadau o'r fath, fod cyfeillach dynion o'r cymeriad yma wedi bod yn fendith ac yn gysur. Chwi sydd yn bwriadu ymfudo, gwerthfawrogwch yr adeg, a chan fod y mater dan ein sylw, yr ydym yn hollol gymeradwyo ein cyfaill y Cymro Gwyllt, 14, Galton Street, fel un o'r personau cymwysaf i ymgymeryd a gofal a chysur ymfuawyr. Mae ei gymeriad bellach yn y cyfeiriad yma wedi dyfod yn dra adnabyddns. Cawn luaws o America yn dy- chwelyd eu diolchgarwch iddo am ei hynaws- edd a'i gyfarwyddyd iddynt ar y daitb.
[No title]
CYFARFOD LLENYDDOL YR ALLTWEN.—Cy- nelir y cyfarfod hwn heddyw (nos Sadwrn), Hydref Sydd, 1868, a derbyniais ddeuddeg o gyfansoddiadau ar y testynau barddonol, yn cael eu harddelwi gan y ffugenwau canlynol -Can ar Gariad."—Byron, Addolwr Drych- feddyliau, Bachgenyn, Dychymygwr, ac Eir- ianfryn. Englyn i'r Wyneb."—Bugail, Car- adawc, Kant, ac Anianydd. Cyfieithiad o The Harper's Grave."—Ymdeithydd, Un yn dechreu, ac Un ar frys gwyllt. Daeth i law lu o ffugenwau i gystadlu ar y testynau ereill, ac y mae y rhagarwyddion yn addaw cyfarfod llewyrchus.—JOHN J. DAVES, (Ieuan Ddu.) CWMAFON.-Gwobrwyo Teilyngdod.—Nos Lun, Medi 21, cynaliwyd cyfarfod lluosog yn Bethania. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Thomas, gweiuidog. Canwyd amryw ddarnau yn gampus gan y cor, dan arweiniad Mr. R. Rees, (Eos Morlais), Dowlais. Cymer- wyd rhan yn y cyfarfod hefyd gan Mr. W. Richards, (Afonwyson), W. Abraham, (Gwi- lym Mabon), H. Davies, T. Williams, Sion, Rees Rees, R. Richards, a Miss Mary John, (Eos Cwmafon). Cafwyd anerchiad cynes gan y Parch. G. G. Thomas, Aberafon. Darllen- wyd anerchiad pwrpasol gan Mr. W. Lewis i'r gwr yr oeddem yn chwenych ei anrhyd- eddu, sef Mr. John Jones, draper. Galwodd y cadeirydd ar Mr. Jones i dderbyn yr anrheg, sef pwrs hardd yn cynwys aur melyn, am ei ddiwydrwydd a'i ymdrech i ddysgu'r plant a chwareu'r harmonium yn rhad am gynifer o flynyddoedd. Diolchodd Mr. Jones yn wresog am yr anrbeg mewn teimladau toddedig, gyda gobaith y caiff eto gyfarfod a'r holl blant yn ngwlad yr aur delynau, heb un ar goll. Dy- muniad ardderchog, onite ?—E. H. Gwellhâd Rhyfeddol,-Bum yn glaf lawer o flynyddau gan y Piles a'r Gravel. Braidd yr oeddwn yn alluog i sefyll ar fy nhraed gan y poen a aohosent i mi, a'r ysgafnder yn fy mhen. Fe wnaeth docteriaid Aberdar a Merthyr en goreu i mi, ac yr wyf wedi talu iddynt bunoedd lawer am hyny, ond ni dderbyniais fawr lies oddiwrth un o honynt. Prynais flychaid o George's Piles tfc Gra- vel Pitts, a chymerais ddau ddogn o honynt-yr ydwyf yn awr yn ddyn iach. B. EDWARDS, Cwmdare.
Advertising
GANWTD, PaioywTD, A Be FABW.—O herwydd y nifer mawr a anfonant benillion, englynion, &c. mewn .cy- sylltiad a'r hysbyeiadau hyn, a llawer o honynt yn hynod wael, yr ydym wedi penderfynu na ollyngir o hyn allan un lineil ond yr hyabysiad ei hun, heb dalu 3c. am bob llinell ychwanegol.] ESGORODD,— Medi 14,1868, priod Mr. Edward Daviee, 28, Hirwaun Road, Abe:dar, ar ddau efaili—mab a merch, y rhai oynt- afanedig. Mae y fam a'r plant yn dyfod yn mlaen yn rhagorol. Boed llwyddiant i'r ddau yma, > A tfawd trwy hyd eu gyrfa ■ Terfynu'u hoes a wnelo'r ddau, Yn nglan ororau'r Wynfa. BU FARWR- Medi 21. yn 18 mlwydd oed, Miss Charlotte Bethel, merch Mr. JohnBetnel, gynt o, Holywell, Flint. Bu yn aelod ffyddlon am flynyddoedd gyda'r Wesleyaid. Dydd Gwener caniynol claddwyd hi yn mynwent eglwys Mount Pleasant. Medi 22, yn 25 mlwydd oed, John, mab Griffith Lewis, Ysw., Alltycham, o'r lie hwn, -Cldddwyd ef yn eglwys St. Peters, Pontardawe. PELENI HOLLO WAY.—Rheol Bywyd.—Y presenol yw y cyfle mwyaf cymhwys i sylwi ar y pegynau ac mae iechyd pawb yn gorphwys amynt. Mae yn rhaid can allan o'r cyfansoddiad yr boll anmhureddau ar eu hymddangosiad. cyntaf. Mae gwisgoedd a bwydydd yr hwn a dreulir yn dda yn y cyfansoddiad dynol, yn rhwym o gyfoethogi y gwaed a'i elfenau meithrjno'. Mae rhinweddau y eyf- newidiad graddol a weithir gan BeleniPuredig Hot oway yn ateb yn gywir i'r angenrhei(liati- hyn, ac y maent yri cryfhau y giau ac yn adfer cylchrediad y gwaedi'w le ya drefnus a rheolaidd. Mae y Peleni rhagorol hyn yn cadw rhanau naturiol y corff mewn fath gyfartaledd, fel y maent yn atal poen yn y pen o bob math, y beil, twymynau, y clefyd rhydd, (diarhcca,) a phob anhwylderau cyffelyb.