Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
gan v rhai a wellhawyd, yn brawf diamheuol ei fed yn un o'r sefydliadau meddygol rhagoraf yn y wlad. Ac os caniatewch, Mr. GoL, dy- munaf finau trwy gyfrwng y llinellau yma daflu fy hatling i'w thrysorfa, oblegyd gwnaeth i mi ddaioni mawr. Yr oeddwn er's talm o ddyddiau wedi myned yn drwm fy nghlywed. Meddyliais y pryd hyny nad oedd fawr pwys, ac y buaswn yn dyfod yn well; ond i'r gwrth- wyneb y trodd. Gwaeth, gwaeth yr oeddwn yn myned bob dydd, nes yn y diwedd yr oeddwn yn methu a chlywed dim. Erbyn hyn yr oeddwn yn dechreu digaloni, ac heb wybod beth i'w wneud. Cynghorwyd fi i fyned i'r Turkish Bath, ac felly y bu, a chefais fy mod yn well y tro cyntaf. Rhoddodd hyn fwy o ffydd i mi ynddo, a phenderfynais ei ddilyn, a'r canlyniad fu wedi i mi fod ynddo bedair gwaith fy mod yn clywed mor hyglyw heddyw ag y bum erioed. Dymunaf, gan hyny, trwy gyfrwng y llinellau yma gymer- adwyo y Turkish Bath fel y peth penaf a rhagoraf i'r rhai hyny sydd yn drwm eu clyw. THOMAS PETER WILLIAMS. Twynyrodyn, Merthyr, Medi 22, 1868.
BIRMINGHAM.
BIRMINGHAM. Medi 29, 1868. MR. GOL.— Cofus genych taw yn mhlith y brodyr Wesleyaidd yr oeddwn pan y torais fy llith i fyny y tro diweddaf. Cefais fy hun wedi hyny yn ngwersyll y brodyr y Bedydd- wyr. Oylchwyl flynyddol oedd ganddynt hwy mewn cysylltiad a'r Gymdeithas Genad- ol a'r annual breakfast. Cynaliwyd cyfarfod nos Fawrth diweddaf yn nghapel eang y Parch C. Vince, Graham St. Llywyddwyd gan T. Adams, Ysw., a siaradwyd yn dda gan y Parch Q. W. Thompson, cenhadwr o Western Affrica. Gallwn gasglu wrth araeth y dyn ieuanc hwn ei fod yn ddirwestwr o'r iawn ryw, a sierhaai i'r dyrfa fawr oedd yn ei wrandaw nad oedd dim, hyd y gwyddai ef, yn fwy o rwystr i lwyddiant yr efengyl yn Affrica na'r Rum over proof a ddanfonid yno o Loegr! a phan y caffai hamddea i ymresymu yn erbyn yfed, eu hatebiad fyddai taw pobl wynion fel efe oedd yn eu danfon yno iddynt hwy, ac yr oedd yn gorfod tewi yn wyneb y ffaith. Yr oedd eu llafur hwy fel cenadon i fesur mawr yn cael eu neutralisio trwy y fasnach yn y Bum meddwol, a dymunai iddynt gofio hyny. Oaf. wyd yn nesaf araeth gampus ar lafur cenadol gan W. Landels, D.D., Llundain, ac wedi casglu a chanu, ymadawyd. Nos Fercher, cawsom bregeth genadol dda iawn yn nghapel Wycliff, Bristol Road, capel ?r Parch. J. J. Brown, gan Dr. Landels a dy- aswn fod wedi dy weyd fod cyfarfod nos Lun wedi ei gynal yn nghapel Cannon St., lie y mae Mr. Giles yn gweinidogaethu. Wrth adael ein brodyr y Bedyddwyr, nis gallwn lai na meddwl nad ydyw yr achos goreu yn flod- euog yn eu plitb, h.y., y Saeson. Nid wyf eto wedi cael gafael ar y Cymry. Mewn perthynas i'r etholiad, credaf fod yr oil o'r candidates oddigerth Mr. Bright, wedi anerch yr etholwyr yn mhob Ward. Mae yma gyfarfodydd poethion yn cael eu cynal, ond yn ddiduedd. Rhaid dweyd fod anerch- iadau Lloyd & Evans yn rhai gwir dlodaidd o arguments, ys dywedodd Mr. Bright mewn Ilythyr yr wythnos ddiweddaf, The Tories have so little to say for themselves that they must be constantly abusing the Liberal Party," ac felly yn gymwys y mae hi gyda'r ddau ymgeisydd Toriaidd, ymosodiadau personol ar gymeriadau Bright, Dixon, a Muntz, ydyw order of the day yn eu holl gyfarfodydd. Yn wir, mae Evane, yr hwn, fel y dywedais o'r blaen, sydd yn ei alw ei hun "the working man's candidate wedi arfer iaith mor ddir- mygus am y dosbarth gweithiol mewn cyfar- fod yr wythnos ddiweddaf, fel, i'm tyb i, y byddai yn brawf o ddiffyg syuwyr ar bwy bynag a roddai vote i'w sort o a dylai y fath insulting would-be M.P. ei wneud yn wrthrych ffieidd-dod a dirmyg cymdeithas. Y mae y Revising Barrister wedi dechreu ar ei waith er ddoe, a thebyg y cymer yr oil o'r wythnos i fyned trwy yr oil o'r Wards. Bydd genyf air i'w ddweyd ar hyn eto. Dydd Mercher nesaf, dechreuir gweithred- iadau y deuddegfed cyfarfod blynyddol y Social Science Association," a pharheir bob dydd hyd Hydref y 7fed. Llywydd, larll Caernarfon. Traddodir pregeth am dri o'r eloch y prydnawn gan Esgob Worcester yn Eglwys St. Philip's, a'r araeth agoriadol am wyth o'r gloch yn yr hwyr, yn y Town Hall, gan Iarll Caernarfon. Dydd Iau, cyfarfodydd mwy private. Gwener, dosbarth y Jarispru- dence, anerchiad gan y Gwir Anrhydeddus W. N. Massey yn nghapel y Crynwyr, discus- sions, &c. Cyfarfod i weithwyr yr hwyr yn y Town Hall, ac anerchiad gan Miss Carpenter yn y Midland Institute, yr un amser a'r "Edu- cation yn India." Sadwrn, anerchiad gan Ar- glwydd Lyttelton, llywydd yr Education De- partment, discussion, &c, a trip i Dudley. Dydd Llun, anerchiad gan H. W. Rumsey, Ysw., llywydd yr Health Department, a Soiree yn y Town Hall yn yr hwyr. Dydd Mawrth, anerchiad gan Proffeswr Fancett, M.P., llyw- wydd Economy and Trade, yn nghapel y Cryn- wyr, darllen papyrau, discussions, &c. Am chwech yn yr hwyr, ciniaw aelodau a chyfeill- ion; tocynau, gini a haner gini. Dydd Mercher, cyfarfod ymadawol. Cyfrifid y bydd traul y cyfarfod tua mil o bunau. Y mae .yma frawd o'r Ynys Werdd yn dar- lithio ar bwnc y dydd yn yr ardaloedd hyn o'r enw Edward Norman, M.A., ac wrth gwrs, y mae ynteu, fel Issachar gynt, yn "gweled llon- yddwch mai da yw," ac ar yr adeg hon dichon y byddai yn ddyddorol gan eich darllenwyr gly wed yr hyn a ddywed y gwr hwn am ei olwyf ei hun o'r enw Driahaul. W<4, mae ei faint yn 50,400 o erwau, neu 78 o filldiroedd, yagwar, ac yn weith £ 282 y flwyddyn, ac ar adeg y census diweddaf yr ydoedd yno 130 o Brotestaniaid, a phump o'r rhai hyny yn Ym- neillduwyr. Dyma ddarn o dir gymaint chwe' gwaith agos a bwrdeisdref Birmingham, a dim ond 130 o Brotestaniaid, rhywbeth tuag un Protestant a haner i filldir ysgwar Ai nid anomaly ydyw peth fel hyn 1 Yr eiddoch yn gywir, EFROGWYSON.
HELYNIION YR ETHOLIAD
HELYNIION YR ETHOLIAD MR HENRY RICHARD A'l ETHOLWYR. Y mae pleidwyr Mr Richard yn dyfod yn gadamach y naill ddydd ar ol y llall yn eu dyn a'u hachos. Tra y mae pleidiau y ddau ymgeisydd arall yn ymegnio, ac heb allu dy- wedyd gyda sicrwydd pwy fydd yr ail, y mae Anghydffurfwyr cydwybodol ein bwr- deisdrefi yn gallu edrych i lawr oddiar ben bryn buddugoliaeth, ac yn gallu dywedyd yn ddi- betrus, (a phob plaid arall yn gorfod ei addef) eu bod yn fwy na choncwerwyr. Y mae yn ddigon i yru dynion i chwerthin am wythnos i glywed rliyw geiliog y gwynt o newyddiadur Saesonig yn awgrymu mai dyledswydd Mr Richard ydyw rhoddi i fyny ei ymgais. Y mae rhai am wybod a oes lie yn barod yn y gwallgofdy agosaf i Gaerdydd i un neu ddau o wallgofi on fwy tia?r cyyredin. MRI. BRUCE A RICHARD.. Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynaliwyd yn Nowlais i gefnogi achos Mr Bruce, G. Clark, Ysw., yn y gad air, yr ydym yn cael fod Mr T. Stephens, Merthyr, wedi dywedyd fod Mr Bruce wedi awgrymu y byddai yn well ganddo fil o weithiau gael ei gydethol gyda Mr Richard na chydag un dyn arall Os ydyw hyn yn wirionedd, ac nid oes genym le i'w amlieu, gan fod iddo y fath awdurdod, fe wel y rhan hwnwo bleidwyr Mr Fothergill, y rhai sydd wedi bod hyd yn hyn yn dal yn dyn hefyd at Mr Bruce, nas gallant yn hwy ddal gafael ar y dau-wasanaethu y ddau arglwydd yma. CYFARFOD MR BRUCE YN ABERAMAN Nos Fawrth diweddaf, yn nghapel Gwawr, Aberaman, cynaliwyd cyfarfod er pleidio Mr. Bruce yn yr etholiad presenol. Cymer- wyd y gadair gan Mr. Naysmith, yr hwn wedi gwneud ychydig sylwadau ar Mr. Bruce a'i addasrwydd i'n cynrychiol, a alwodd ar Mr. John Edmunds, glowr, i siarad. Wrth weled Edmwnt yn cyfodi, yr oeddem yn hyderi y buasai, trwy ei fod wedi bod mor flaenllaw gyda phynciau y double shift a'r Mines Inspec- tion Act, yn gwneud gwasanaeth mawr i'r boneddwr, trwy glirio ychydig ar yr awyr yn y cyfeiriad hwnw ond yn hyn fe'n siomwyd, ond aeth at bwnc addysg, yr eglwys a'r wlad- wriaeth, &c., gan adael y pethau y dysgwyliem iddo roddi esboniad arnynt heb eu cyftVrdd. Wedi hyny galwyd ar Dr. Devonald, Cwmam- an Mri. Evan Jenkins, David Jones, Thos. Edwards, Mountainash; y Parch. Mr Phillips, Gwawr, ac un neu ddau ereill. Yr oedd yr holl siarad yn bwrpasol a da, ac yn gefnogol iawn i achos Mr Bruce. Un peth hynod oedd yn perthyn i'r cyfarfod oedd bychandra y cyn- ulliad. Y mae Aberaman yn cynwys rhyw un-cant-ar-ddeg o etholwyr, ac yr oedd y cyf- arfod wedi ei gyhoeddi trwy wahanol foddau, ond wedi y cwbl nid oedd y capel bychan agos yn llawn, er fod yno rai o bob parth o'r plwyf yn bresenol. Peth arall chwythig iawn mewn cysylltiad a'r cyfarfod oedd, fod cyfarfod gweddio yn cael ei gynal yn y vestry ar yr un pryd. Y sylw a wnawd o'r herwydd oedd fod pobl Gwawr yn teimlo mor ddwys yn yr achos fel y cedwid y ddau gyfarfod i'r un amcan, neu ynte fod yno deimlad yn ei erbyn, ac nad oedd yn werth ei gefnogi. Un peth arall a dynodd sylw oedd, i'r penderfyniad gael ei roddi i'r cyfarfod heb gymaint a gofyn a oedd yno ryw un neu rai yn wrthwynebol. Ond fe allai mai anghof oedd yr achos o'r oil. MOUNTAINASH A'R ETHOLIAD. Y mae yn dda genym ddeall erbyn hyn fod y rhan hwnw o Mountainash ag oedd yn mhlwyf Llanwonno, wedi ei dderbyn i mewn i fwrdeisdref Aberdar, ac hefyd y bydd gan drethdalwyr y rhan hwnw hawl i bleidleisio yn yr etholiad dyfodol. Buasai eu colli yn golled fawr i'r achos gareu-aehos Mr Richard. Deallwn fod ymdrech wedi ei wneud i'w di- freinio o'r hawl, a bod hyny wedi eu cynhyrfu yn fawr at y blaid a'u gwrthwynebasant. Dywed y blaid wrthwynebol mai eu syniad hwy ar y mater ydoedd ac ydyw, fod yn iawn iddynt wneud hyny, a phob moddion cyfreith- Ion arall, er dychwelyd yr hwn y maent wedi pasio cymaint o benderfyniadau yn tystio y gwnaent hyny. Gan fod rhyw sail cyfreith- Ion y gallent eu cadw allan o'r etholiad am eleni, ac yn gwybod fod mwyafrif etholwyr Mountainash hyd yn hyn yn eu herbyn, nad oeddynt yn gwneud ond yr hyn ag y mae pob plaid wedi addunedu ei wneud dros eu dyn, ac nad oedd yr hyn a wnaethant yn Mountain- ash, ondyr un peth ac yn tarddu oddiar yr un egwyddor a'r hyn a wnaethpwyd gan y blaid achwyngar yn awr, a'r rhai hyny a dder- byniasant rhyw gynorthwy plwyfol yn Aber- dar yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, pe na buasai ond swllt, sef eudifreinio, am fod hyny yn foddion cyfreithlon. CYFARFOD CEFNOGOL I MR FOTHER- GILL YN HIRWAUN. Nos Fawrth diweddaf, yn Ysgoldy Brytanaidd Hirwaun, cynaliwyd cyfarfod gan weithwyr, yn gefnogol i etholiad Mr. Fothergill. Cy- merwyd y gadair gan Mr. Thomas Thomas, Cwmdar. yr hwn, ar ol gwneud ychydig sylw- adau priodol, gan hysbysu ei resymau dros bleidio Mr. Fothergill, a alwodd ar Mr. W. Gwilym i anerch y gwyddfodolion. Dywed- odd wrthynt mai amcan ei ddyfodiad ef yno oedd llongyfarch yr etholwyr ar yr achlysur o'u bod wedi eu breintio trwy weithred sen- eddol, i gael llais yn ngwneuthuriad cyfreith" iau y wlad a'i fod yn gobeithio y defnydd ient yr hawlfraint yn deilwng o etholwyr cyd- wybodol. Ei fod yn gosod Mr. Henry Richard allan fel esiampl, ac am iddynt ddewis y tebycaf iddo i'w cynrychioli. Galwyd yn nesaf ar Mr. John Beynon, Merthyr, yr hwn a ddy- wedodd mai pwnc y gweithiwr ydyw y pwnc presenol, ac fod yr etholwyr yn awr o dan yr oruchwyliaeth ddiwygiedig. Erfyniodd yn ddwys ar iddynt ddefnyddio yr hawlfraint yn briodol, ac nid fel gwerth yn nwylaw ffyl- iaid. Sylwodd hefyd ar y treuliau anferthol yr oedd y Llywodraeth Brydeinig yn myned iddynt yn anad neb cenedloedd eieill, ac hefyd ar y trethi trymion a ddirwasgai y rhan fwyaf o'r boblogaeth ond fod y wlad yn awr yn deffro at y pethau hyn, a'i bod yn prysur barotoi i anfon dynion a gynilant dipyn ar y symiau anferthol hyn. ac a gydymdeimlant a'r gorthrymedig. Fod dynion wedi bod am 16 mlynedd yn y senedd, ond heb erioed am- canu at y fath beth. Dywedodd hefyd fod Mr. Fothergill yn bleidiol i'r Tugel, (Ballot), yr hyn sydd yn angenrheidiol er cynrychioli yr etholwyr yma. Fod Mr. Bright yn gadarn drosto, ac felly Mr. Richard. Fod Mr. Bruce yn edrych dros y bryniau tywyll niwlog, ac yn gweled rhyw ddirgeledigaethau rhyfeddol yn y dyfodol, a'i fod yn addaw ei gefnogi os bydd yn ateb rhyw ddybenion neillduol; ond fod arnom ni eisiau y ballot yn awr, a bydded i ni anfon y cyfryw i'r senedd ag a'i pleidia. Yn nesaf, daeth Mr. Thomas Walters i fyny. Yr oedd y brawd hwn yn clodfori rhagoriaeth- au Mr. Richard, ac yn dwyn amryw resymau dros hyny. Ei fod hefyd yn dewis Mr. Foth- ergill, nid yn unig ar gyfrif ei ddaioni yn y lie hwn, ond hefyd am ei egwyddorion rhydd- frydig. Yna daeth Mr. John Jones, (Gwalch), Aber- aman, yn mlaen, a dywedai ei fod yn dewis Mr. Richard yn gyntaf. Dywedodd fod y si ar led yn Hirwaun fod gweithwyr Mr. Foth- ergill yn myned i blumpio drosto, un ac oil. Ond i wrthbrofi hyn, efe a ddarllenodd lythyr oddiwrth Mr. J. Mills, canvasser dros Mr. Richard yn nghymydogaeth Abernant, yr hyn a ddangosodd fod yr adroddiad yn anwir. Dywedodd fod y glowyr yn fobl annibynol iawn-eu bod wedi parhau felly am flynydd- oedd meithion. Fod Mr. Bruce yn dywedyd os mabwysiedid y "Double Shift System" y gwnaethai les; ond dywedai Gwalch y byddai i hyny wneuthtir y cyfeillion mwyaf yn elynion creulawn ac felly, os oeddynt am gadw eu hannibyniaeth anwyl, eu cysuron gwerthfawr, am iddynt ofalu pleidleisio yn erbyn Mr. Bruce, a chyda'r hwn a fyddai yn foddlon i'w hamddiffyn. Gan i ryw ymryson gyfodi yr amser yma rhwng pleidiau, methwyd a myned gam yn mhellach. ggrYn y eyfarfod hwn, clywais i Mr. John Jones, (Gwalch), wedi iddo ddarllen y nodyn a ysarifenais o barthed pleidleisiadau Aber- nant, yr hwn oedd yn eithaf cywir, ddywedyd fy mod yn Olygydd y GWLADGARWR. Y mae yn ddrwg genyf i'r amryfusedd hwn ddyg- wyd arno. Nid ydwyf, ac ni ddymunwn i neb gredu fy mod am honi unrhyw swydd uwch na gweithiwr yn y swyddfa.—JOHN MILLS.
Advertising
JOHI Wgy^. 1BWII Sew York Motel, neu y Welsh Harp, 28, UNION-STREET, LIVERPOOL. A DDYMUNA hysbysu ei gy&wladwyr ei fod wed dodrefnu helaeth uchod yn y modd mwyaf oyfleui tuag at lfttya ymwelwyr, ar y telerau mwyal rhesymol Tua thri munyd gerdded o'r man y glania y gwahano agerlestri Cymreig. Gofaled y Cymro dihoced i ymofyn am df Mr. Lewit Welsh Harp; ac hefyd, ei fod yn anfon allan ymfudwyr i'r America, British Columbia, Australia, neu unrhr* barth arall, gyda hwyl neu agerlongau, a y priglat: mwyaf rhesymol. Ymrwyma J. L. hefyd na chalff neb a ymddirledo e, hunain i'w ofal achos i edifarhau, gan ei fod yn broflado yn y swyd Attebir Dob ymofyniad ac anfonir pob hyffordiiast ond anfon postag-e stamp. T. W. JOISTES "OEGS respectfully to announce to the in- habitants of Aberdare that he has com- menced business as AUCTIONEER, HOUSE, and GENERAL COMMISSION AGENT, and trusts that by careful attention to all favours with which he may be entrusted to merit a share of patronage and support. Advances made on all descriptions of Furniture consigned for sale, Rents collected, Accounts promptly settled. 20, Commercial-street, Aberdare. Y FEDDYGINIAETH HYNOTAF. LLYSIEUAETHAGALFANAETH PRIF ADFEBYDDION NATUR. Gellir ymgynghori a MR. ALFRED ALLEN, M.B., (Goruchwyliwr y byd-enwog Dr. COFFIN, am 14 o flynyddau), yn ddyddiol, o 9 hyd 8 o'r gloch, ac ar ddyddiau Sul o 9 hyd 11, yn y Sefydliad Llysieuol a Galfan- iaethol, 2, Market Street, Aberdare. Mae Mr. Allen yn gwella pob anhwylderau trwy ddarpariaethau lilysieuol cartrefol a thra- mor, a gallu CalfUllilietll pan y bydd yr achos yn galw. Dymunir ar y cleifion na fedrant ddyfod yn bersonol am anfon potelaid bychan o'u dwfr, yr hwn a daflwyd ganddynt wedi codi y boreu, fel y gellir ei ddosranu a'i roddi dan adchwiilad chwyddwydrol. Anhwylderau y croen, a'r rhai hyny y deuwyd i'w gafael ar fynydau anwyliadwrus, Ac., yn cael eu gwella gyda'r cyflymdra mwyaf. Mae digon o dystiolaethau i'w cael—497 wedi eu gwella, a 347 wedi derbyn lleshad rhanol yn ystod y flwyddyn ddiweddaf a'r rhyfeddod yw fod cymaint o hon- ynt wedi eu gwelia wedi i bod moddion ereill fethu. Cyfeirier,- Botanic A Galvnni« Institute, 2, Market Street, Aberdare.
IAT iETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.
AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN. FONEDDIGION,-Y mae y Mesur Diwyg- iadol mawreddog a ddygwyd i mewn mor hynod ac mor anghyson gan y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfod yn Gyfraith, ac fe'i dygir cyn hir i weithrediad. Bydded i ni fod yn ddiolchgar am y rhagorfreintiau ychwanegol a sicrhawyd drwyddo i bobl y wlad hon, gan adael y blaid Doriaidd i gysoni eu hymddyg- iadau oreu y.gallon t, gyda chywirdeb a chyd- wybodolrwydd gwleidyddol. Etholwyr Sir Gaerfyrddin! o dan yr hen gyfundrefn y mae y Toriaid hyd yn hyn wedi eadw iddynt eu hunain, mewn gorphwysdra tawel a digyffro, yr anrhydedd o'ch cynrych- ioli chwi yn y Senedd. Yr wyf fi yn awr yn dyfod yn mlaen yn y gobaith y bydd i chwi, o dan y gyfundrefn newydd, dori trwy yr ar- feriad hynafol hon, ac ethol o leiaf un aelod Rhyddfrydol dros y Sir. Os bydd i mi lwyddo i gyrhaedd yr anrhydedd o'ch cyn- rychioli chwi, ymdrechaf brofi fy hun yn deilwng o'ch ymddiried, drwy fy ymlyniad diwyro wrth egwyddorion mawrion rhyddid gwladol a chrefyddol, pa rai ydynt wedi bod yn fywyd ac enaid derchafiad y deyrnas hon i'w mawredd presenol; a barn wyf fod ymar- feriad pellach o'r egwyddorion hyn, hyd nes byddo pob llyffethair ar grefydd wedi ei sy- mud, yn hanfodol i'n Ilwyddiant dyfodol. Braidd y mae yn angenrheidiol i mi eich adgofio y bydd i un pwnc o bwysigrwydd neillduol lyncu i fyny sylw v Senedd ddyfod- ol, hyny yw—yr Eglwys Wyddelig. Ar y pwnc hwnw, Foneddigion, gan nad bethfyddo anhawsderau ymarferol y mater-a pha fesur pwysig sydd heb ei wrthwynebiadau i'w gorch- fygu 1-er ei bod yn ofidus genym orfod dolur- io teimladau rhai o'n brodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon-y mae yn ymddangos i mi nas gall dyn cygawn goleddu ond un syniad, sef, nad oes gan eglwys y lleiafrif un hawl i gynal- iaeth oddiwrth fwyafrif y bobl. Yr wyf gan hyny yn barod, er pob aberth, pa mor boenus bynag, i bleidleiso dros osod Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth yn yr Iwerddon ar dir hollol gydradd. Y mae yr Ysgrif Ddiwygiadol newydd wedi gosod ar bwnc mawr Addysgiaeth bwysig- rwydd anferthol ac arbenig. Y mae dosbarth- iadau newyddion o etholwyr wedi eu galw i fodolaeth. Pa fwyaf addysgedig y byddont, goreu oil y medrant gyflawni eu dykdswydd bwysig, ac y deuant i ddeall y cyfrifoldeb mawr perthynol iddi. Ond yn ein holl ym- drechion i gefnogi Addysg y Werin, fy nghred gadarn I ydyw, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn i osgoi pob rhith o ymyraeth a chredoau cre- fyddol y gwahanol enwadau Cristionogol i ba rai y mae y wlad hon yn rhanedig. Nis gallaf fi ddeall egwyddorion "rhyddid crefyddol" mewn unrhyw ffordd arall. Wrth derfynu, goddefwch i mi ychwanegu, os caf fy ethol, y bydd i mi ymgyflwyno yn ddifrifol i ystyried llesiant y Sir hon, adnodd- au naturiol pa un nid ydynt yn gofyn ond dadblygiad llawn, er ei gwneud mewn amser dyfodol yn un o'r rhanau mwyaf llwyddianus yn y Deyrnas Gyfunol. Ydwyf, Foneddigion, Eich ffyddlonaf was, EDWARD JOHN SARTORIS. 9, Park Place, St. James's, Llundain, Gorph. 15fed, 1868.
Advertising
Cwmafon Boys' School-room. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDD IS YN Y LLE UCHOD, N ADOLIG 1868." Llywydd-Mr J. Jenkins, Cwmafon Office Cadeirydd-Mr W. Lewis, House Agent. Try- sorydd-Mr T. Williams, Gower Street. Beirniad y Traethodau, y Farddoniaeth, y Dar- luniau, yr adrodd a'r areithio, Mr. R. Morgan, (Rhydderchab Morgan.) Beirniad y Ganiadaeth a'r Gerddoriaeth, Mr R. Beynon (Asaph Glan Taf.) Y ProF DDARNAU. "Y Gwanwyn." o'r Cerddor Cymreig, £10. "Marwolaethy Cyfiawn," o'r Gyfres Gerddorol Gymreig, j64. Rhaid i'r cor fod o'r un gynulleidfa, a dim dan 40 o niier; ond caniateir dewisiad arweinydd. Y Programme, yn cynwys yr hoU destynau, amodau, a'r darnau adroddiadol, i'w gael am ddau stamp gan yr Ysgrifenydd,— EVAN HAVABD, 8, Engine Row, Cwmafon, Near Taibach. IBWIS THOMil, Cabinet Maker, uphols- terer, dec. 4, CattOM Street, Aberdar. A ddymnna hysbysu i'r eyhoedd yn gyffredinol ei fo<l x*- wedi agor. Ystorfa o Gelfl neu Ddodrefn Tai o bob math yn y lie uohod, lie y gobeithia y bydd iddo ddirbyn oyfran o gefnogaeth y eyhoedd. Bydd stock helaeth o Gelfl, o wneuthuriad cartrefo bob amser ar law, a'r rhai hyny o'r defnyddiau a'r gWn8118 thuriad goreu. CYARPETS AND FLOOR CLOTHS OF THE BESt QUALITIES. U- Cyftawnir pob aroheb gydalr gofal mwyaf. cyfeiriad, -Lewis Thomas, 4, Canon Street. Aberdif W- -W- ATKINS, Oeneral Insurance Agent, Collector of Rents, dbc. "OEPRESENTS the Royal Insurance Com- 11 pany, Fire & Life Capital £ 2,000,000, Sterling. Insurances taken up to any amount on most advantageous terms. Farm Stock at 5s. per cent. He also effects Insurances in the following de- partments :-Annuities & Endowments for Accid- antal Deaths and all kinds of Accident, includ- ing Railway Accidents; Weekly Compensation in sase of Personal Injury; or Weekly Allowance in case of Sickness and Death- Also a Funeral Fund for Children and Old Age. Plate Glass Insurance. Address :—W. WATKINS, 16, Commercial-street, Mountain Ash.