Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

llestr yn morio yn gyflym. Gwelsom un mor- fil a rhai sharks, ac hefyd rhai llongau. Dydd Sul, 19eg. Sabboth rhyfedd oedd hwn i ni fel Cymry heb gael un cwrdd nag ysgol, er fod y cadben yn darllen gwasanaeth yr Eglwys Sefydledig yn y saloon, ond nid oedd lie i ni yno. Yr oedd gan y Mormoniaid rhyw fath o addoliad yn ol eu trefn hwy, y rhai oeddent tua 600 o rif, rhwng y gwragedd a'r plant; ond yr oeddem ni yn barnu nad oedd eu llyfr hwy yn iachus. Yr oedd yn fwyn iawn heddyw eto. Dydd Llun, 20fed. Boreu garw iawn, a'r gwynt yn ein herbyn, yn chwythu y tonau fel cymylau bychain ar rai prydiau, nes gor- ehuddio y bwrdd. Erbyn y prydnawn yr oedd wedi tawelu i raddau helaeth, a'r gwynt yn parhau yn ein herbyn, a chafwyd aros tua dwy awr yn yr un man, trwy fod rhywbeth allan o'i le ar y peiriant. Dydd Mawrth, 21ain. Y Ilestr yn morio yn gyflym, y gwynt o'n tu, a'r mor yn dawel. Dydd Mercher, 22ain. Boreu garw iawn, yn gwlawio yn drwm, a'r gwynt yn ein her- byn. Gwelsom ddwy long heddyw, ae yr ydym ar y Banks of Newfoundland. Dydd Mercher, 23ain. Boreu tawel iawn, y gwynt yn ein herbyn, a dim yn neillduol. Dydd Iau, 24ain. Diwrnod hyfryd eto, a gwelsom amryw longau heddyw. Dydd Gwener, 25ain. Boreu hyfryd, a'r mor fel pe wedi rhoddi ei hun i gysgu ond erbyn yr hwyr yr oedd wedi codi yn wynt aruthrol, a'r mor yn cynddeiriogi fel pe byddai wedi cael gorchymyn gan ei Grewr mawr i'n ysgwyd i'r tragywyddoldeb am ein hynfyd- rwydd fel teithwyr ar ei ddydd sanctaidd, a llawer yn meddwl mai y dyfnder a fyddai ein gorweddle cyn y boreu. Ond, trwy drugaredd, erbyn y boreu yr oedd y gwynt wedi gostwng, ond y mor yn lied arw. Cafwyd genedigaeth ar y bwrdd neithiwr, ac y mae y fam a'r baban yn gwneuthur yn dda. Dydd Sadwrn, 26ain. Diwrnod niwlog iawn, a daeth y pilot i'r bwrdd, a ninau mewn gobaith ein bod yn agos i dir. Dydd Sul, 27ain. Diwrnod niwlog eto, ond y mor mor wastad a'r bwrdd. Daethom i olwg tir, ac heibio y Long Island, tua chwech o'r gloch yn y prydnawn. Gollyngwyd yr angor i lawr o fewn saith milldir i New York i aros dros y nos. Dydd Llun, 28ain. Yr oeddem holl yn cael gorchymyn yn foreu iawn, all hands on deck, rr dyben i'r meddyg gael ein gweled. Gosod- wyd ein traed ar dir yn y Castle Gardens tuag un o'r gloch, ac yr oedd y parod a'r serchus W. M. Williams, (Gwilym Medi), a William Lewis, 128, Liberty-street, yn ein cyfarfod yno, ac yn barod i roddi pob cyfarwyddyd ag 11 oedd yn angenrheidiol arnom. Aethom gyda hwy i'w ty, lie yr oedd pob peth ag oedd yn eisieu arnom yn barod, ac yr ydym yn creau nas gall neb o'r Cymry ag sydd yn dyfod i New York gwrdd a gwell bechgyn, ac i fod yn fwy straight forward na hwy, ac yn gwybod hanes y Taleithiau i raddau helaeth iawn, a thrwy hyny y maent yn alluog i roddi pob hysbysiwydd 1 fyned yn mhellach i'r ymfud- wr, a'i osod yn ddyogel yn y stations, Ydym, yr eiddoch yn serchus, DANIEL LEWIS a JAMES MORGAN, gynt 0 Dreherbert; E. WILLIMS, Llandudno; WIL- IrUH DAviss, Craigana, Pontypridd.

AT OLYGYDD Y "GWLADGARWR."

MR. FOTHERGILL.

YR ETHOLIAD-MR FOTHERGILL.

L'ERPWL.

Y CYMRY A'R ABDALYDD BUTE.

LLYTHYR 0 GARIBOO.

EISTEDDFOD TREORCI, HYDREF…

TURKISH BATH, MERTHYR