Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MADOG LLWYD.

News
Cite
Share

MADOG LLWYD. PENOD I. ODDEUTU canol y beclwarydd ganrif ar ddeg o'r cyfnod Cristionogol, yr unwyd mewn glan briodas Llewelyn Llwyd ac Angharad Hop- cyn, ac y dechreuasant en byd yn ddedwydd a chariadus, yn y Drumau, amaethdy bychan ar lechwedd arforawl un o fryniau cribawg gor- llewin Morgan wg. Trigfa hynafol y Llwydiaid ydoedd bwthyn gwyngalchog y Drumau, ac, er nad oedd un- rhyw rwysofawredd pendefigol yn ei do gwellt na'i ffenestri delltawg, yr oedd yn anwyl gan Llewelyn, fel mangre gysegredig lie ganwyd ei deidiau ymadawedig. Er nad oedd yr un parlwr addurnol, na'r un neuadd gysgodfawr yn perthyn i'r breswylfa fynyddig, bu yn fagwrfan gwroniaid gwladgarol a ymladdasant yn myddinoedd ein Tywysogion pan yn am- ddiffyn annibyniaeth eu gwlad. Yr oedd gwladgarwch a chariad megys yn gerfiedig ar y muriau a'r dodrefn arlun o "Llewelyn ein llyw olaf," oedd un o brif addurniadau y gegin, a chleddyf Arthur Llwyd ei daid, a'r hwn y lladdodd ugain o'r gores- gynwyr Normanaidd mewn un frwydr, oedd yr offeryn mwyaf cadwrus a dysgleirwych o fewn yr anedd-le. Yn ail mewn parch ac edmygedd oedd darlun prydferth o fab a merch yn cydgyfarfod ar lan ffynon, ac a enwid Y cusan cyntaf"; ac ymddengys fod y darlun yn bortread cywir o'r modd y daeth y cyntaf o'r Llwydiaid i gyffyrddiad a i gariadferch briod- asol. Darlun o'r ddraig goch, arwyddair cen- edlaethol y Cymry, oedd ar brint y pwysau ymenyn, ac yn gerfiedig ar holl ofierynau amaethyddol Llewelyn, fel arwyddnod per- chenogaeth. Yr oedd y teulu yn ddiarhebol am eu gwladgarwch a'u tuedd farddonol; ond yr oedd Llewelyn yn tra-rhagori felly ar bawb o'i flaenafiaid, fel yr oedd ei aidd wladgarol wedi creu eiddigedd tuag ato yn mynwesau thai o'r tir arglwyddi Normanaidd cymydog- aethoL Cododd ei feistr, Arglwydd Mansel, yn yr ardreth yn union ag y daeth y Drumau yn ddeiliadaeth bersonol iddo ef; a dywedid mai eiddigedd yn erbyn gwladgarwch y teulu oedd yr achos, gan fod y tyddyn yn ddigon uchelbris yn ffaenoroL Penderfynodd Lle- welyn ddal ati trwy y tew a'r teneu, yn hy- trach na rhoddi i fyny ei dreftadaeth anwyl- edig. Er fod y byd yn gwasgu, a'r bwrdd yn huliedig a phethau mwyaf cyffredin bywyd, yr oedd sirioldeb ac hawddgarwch yn nneulu bychan y Drumau, gan fod cariad gwreiddiol a chydymdeimlol yn teyrnasu yn eu myn- wesau. Yn wir, Angharad," meddai Llewelyn, "y mae yn bur flin genyf nas gallwn eich dilladu yn rhagorach, a hulio bwrdd gwraig mor ufydd 1) a rhinweddol a chwi gyda phethau gwell." Yr wyf yn foddlongar a dedwydd, pe byddai yn waeth, ond cael bod o dan aden gysgodol priod mor hawddgar a mynwesol a chwi." Yr wyf yn ymfoddlom fy hun, ond beth am ddynes o'ch bath chwi sydd wedi ymwadu a chyteillion a pherthynasau uchel-radd er mwyn cydrnar mor annheilwng a myfi." Llewelyn bach, onid yw eich cariad gwiesogt eich geiriau toddedig, eich ymddyg- lad tyner, a'<:h ysbryd gwladgarol, yn ddigon o ad-daliad i mi am bob mwynderau colledig o'r fath a goffiawyd genych." Mewn caledi, digon gwir, y mae cael prawf o gyfaill; a dichon, heb gyfarfod a'r gwasg- feuon bydol presenol, nas cawswn gyne pri- odol i adnabod a gwerthfawrogi eich cym- hwysderau digyffelyb." Yr wyf yn ciedu fod ein Tad nefol yn gyfiawn a daionus, ac y try yr oil er daioni yn y pen draw. Aroaer i olwyn fawr Rhag- lumaeth i ddyfod a'i thro oddiamgylch, yna dadlenir y cyfrinion sydd yn bresenol yn an- esboniadwr." Qwir fod yr Arglwydd yn gyfiawn, a'i fod hefyd yn hirymarhous; ond dwg bob gweith- redifern, a ——— I" Cyn gorphen y frawddeg aeth Llewelyn i'r hen goffr derw oedd ar y llofft, ac yno y bu yn ymchwilio yn gyffrous. Pelydrai digofaint hit oddefedig o'i lygaid eryraidd; edrychai fel un wedi cael cam, ac yn penderfynu dadleu ei achos. Sisialai— Y mae i'w chael; y llygaid hyn a'i gwel- odd." "Beth, Llewelyn bach," meddai hithau, beth sydd arnoch mor gyffrous ? beth sydd arnoch eiøieu 1 ai wedi dechreu prydyddu tuchangerdd i'ch arglwydd tirol ydych, ac yn awr mewn ymchwil am yr offer ysgrifenu ? Wedi i rai mynydau o ddystawrwydd pry- derus fyned heibio, wele Llewelyn yn dechreu dyfod allan o'i gyfrinfa dderwyddol gyda rhyw lawysgrifau crwyn yn ei feddiant. Atolwg, fy machgen," meddai Angharad, pa beth yw'r rhai yna sydd genych ?" "Yr wyf hyd yn bresenol wedi cadw y mater yn ddirgelwch oddiwrthych, yn hytrach na rhoddi lie i chwi dybio fod eich Llewelyn yn ymffrostis. Wele'r gweithredoedd a wnawd rhwngfy hen daid, Arthur Llwyd, ag Iestyn ap Gwrgant, pan y prynodd fy nhaid ystad y Drumau ganddo, gan fod yr hen dywysog mewn angen arian wrth ymladd a'r goresgyn- wyr Normonaidd-Robert Fitzamon a'i farch- ogion." Llewelyn bach, a ydyw y tyddyn hwn a'r oil o ystad eang y Drumau yn perthyn with etifeddiaeth i'r Llwydiaid yma 1 Y maent felly ac Ow y lladron estrou, Ilyd, ysbeiliasant ni o'n tiroedd, a gwnaethant ni yn gyfartal i gaethweision iddynt." "Ai felly, Llewelyn, y mae pethau yn sefyll ? Ai Did oes modd cael iawnder, ac adferyd v Oroedd hyn i'r^iawn berchenog?" Dim dim Angharad fach-y caws 'o fola'r ci." Yr oeddwn o'r blaen yn credu fod yr Ar- glwydd Mansel wedi prynu ei diroedd, fel rhyw ddyn gonest arall, ac nid eu goresgyn a chleddyf meibion Amon (Fitzamod.") A welwch yr ystaen waedlyd sydd ar y trawst acw ? Dyna waed un o'm henafiaid a aberthodd ar allor gwladgarwch pan yn am- ddiffyn y tiroedd hyn, ac iawnderau ei wlad." Angharad yn llesmeirio, a Llewelyn yn ym- atal, er taflu dwfr oer i wyneb eibriod synedig. (I w barhau.)

SEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWLEIDYDDOL…

YB YSGOL FARDDOL.

TAITH I'R AMERICA GYDA YR…