Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
DYCHWELIAD Y PARCH. DAVID PRICE I AMERICA. By DDED HYSBYS i bawb a fwriadant gael cyfeillach y PARCH DAVID PRICE, Newark, Ohio, i fyned dros y mor, ei fod yn cych- wyn ddydd Mawrth, Hydref 20fed, yn yr agerlong ardderchog Manhattan," perthynol i'r Liverpool and Great Western Ocean Company. Y mae pob trefniadau yn nghylch ei ddychwel- iad wedi eu trosglwyddo i ofal Elias J. Jones, ac N. M. Jones, (Cymro Gwyllt). Am f any lion a chyfarwyddyd pellach o barthed y fordai th, cyfeirier pob llythyr ac archeb at ELIAS J. JONES & Co., Passenger Brokers. 14, Galton-st., LIVERPOOL. D.D.-Gofalir am ystafelloedd i'r Cymry gyda'u gilydd, a gwneir pob peth yn deilwng o sylw a chefnogaeth y genedL PHOTOGRAPHS. DYMUNA DAVID PHILLIPS hysbysu y gymydogaeth a'r wlad ei fod wedi ei anrhydeddu ag eisteddiad o Mr. Henry Rich- ard, Llundain, ein bwriadedig Aelod Senedd- ol, fel y mae darlun cywir ohono i'w gael ar gardiau mewn frames am swllt yr un, gyda David Phillips, Photographer, 33 Commercial Street, Aberdare. Allan o'r Wasg, 64 tudalen, pris 6c., ELF IS KAU GRAMA At wasanaeth Bechgyn Ysgolion Llenyddol. GAN Y PARCH. J. LL. HUGHES, DOWLAIS. C C Q. ALL y llyfr fod o wasanaeth nid byehan i ddechreu- wyr." CALKDFEYN. Cyfarwyddwr syml, eglur, a rhwydd. y!ai pob dyn ieuanc, ac yn enwedig y rhai a garant ysgrifenu i'r wasg, fynu ei gael."—Parch. W. REES, D.D., (Hiraethog.) Caw som ein mawr foddloni yn ei gynwysiad. Buasai yn dda genym gael ei fath pan yn ieuanc.Parch. R. THOMAS, (Ap Vychan), Bangor. Yn ol ei faint, nis gwn am ei well i hyfforddi ieuenctyd mewn ysgolion nos."—Parch. M D. JONES, Athraw Coleg y Bala. Gellid tybied fod meddylddrych yr awdw i gyfan- wddi y gramadeg hwn yn un hynod ddestlus, a'i fod wedi dwyn allan ei feddylddrych mewn modd goleu rhwydd, ac effeithiol."—Parch. D. HUGHES, B.A., Tredegar. Y mae medr neillduol yn yr holl gyftawniad.Y Beirniad. Os astndiwch ef, gellwch ei ddeall mor esmwyth a chwareu, a byddweh yn fwy meistriaid mewn gramadeg La chant am bob un o'n cyfansoddwyr Cymreig.Y Cronicl.— Gellwch ei gael ond anfon Saith Stamp i'r awdwr. Cyfeirier fel hyn-Rev. J. LL. HUGHES, Dowlais, Glamorganshire. SIMON BICHARI»», Contractor, Builder, Upholsterer, Undertaker, <kc.,<k 14, Cardiff Street, Aberdare. A LARGE STOCK of Superior Home Made Furniture, always on hand. Fea- ther Beds," Mattresses, &c., &c. Carpets, Floor Cloths of the best quality. A large stock of Drain Pipes. YSGOLDY BRYTANAIDD, FFYNON TAP. BYDDED HYSBYS YCYNELIR CfFABFOD ILIL-ENVOOOIL, YN yr adeilad uchod, DYDD NADOLIG nesaf, 1868, pryd y gwobrwyir y buddugol ar y testynau can- lynol:— CKEDDOKIAKTH. 1. I'r cor heb fod dan 25 mewn rhif. a gano yn oreu "Nashville a St. Barnabas," o Lyfr Tonau Ieuan Gwyllt—y ddwy i'w canu heb or- phwys 1 10 0 2. I'r Band of Hope a gano yn oreu "Ymdaith y Mwnc," gwel y Cerddor Cymreig am Chwef- ror, 1868 1 0 0 TRAETIIODAU. 3. Am y Traethawd goreu ar "Dyfeisiau a Darganfyddiadau Celfyddydol yr Oes." 0 15 0 4. Am y Traethawd goreu ar yr Gffeithiau niweidiol sydd yn codi o gamarfer Coel mewn Trafnidaeth Fasnachol" 0 10 0 BARDDONIAETH. 5. Am y gan oreu ar "Rhinweddau Meddyg- iniaethol Ffynon Taf." Dim dros 100 llinell 0 10 0 (> Am y 4 Englyn goreu i'r "Ysgol Frytan- aidd y lie" 0 10 0 Beirniaid,- Y Traethodau a'r Farddoniaeth, Islwyn; y Canu a'r Adroddiadau, Thomas Williams, (Eos Glan Taf.) Bydd Programme yn barod yn fuan, yn cynwys yr holl destynsn, a phob gwybodaeth angenrheidiol, yr hwn fydd i'w gael gan yr Ysgrifenydd am y pris arferol. Bydd enw y Beirniad yn un o'r rhifynau dyfodol. DAVID JOHN, Yag., Taff's Well. Eu hiaith a gadwant." Bydded hysbys y cynelir EISTEDDFOD Yn y Cymer, Cwmrhondda, ar ddydd Llun, Tachwedd yr 2il, 1868. PRIF DESTYNAU. Traethawd ar Dderwyddiaeth. 110 Awdl Parwnadol i'r diweddar Mrs. Jane Thomas, Porth Hotise. 2 2 0 I'r cor heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu Trwy'rnef Byrth," o Storm Tiberius (Chorus 29ain) 3 3 0 Gellir cael programme yn cynwys yr holl des- tynau, yn nghyda'r manylion, pris 2c. trwy y post, gan yr Ysgrifenydd,— JOSHUA WOODCLIFFB, (Myfyr Cynffig,) Cymer, Pontypridd. O.Y.-Bydd y gystadleuaeth yn gyfyngedig i breswylwyr presenol Cwmyrhondda. i
EISTEDDFOD GILYNCOIELWO.
EISTEDDFOD GILYNCOIELWO. B YDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn Ysgoldy Genedlaethol, dydd LLUN, Tachwedd y 23ain, 1868, o dan nawdd y bon- eddigion canlynol:—Rees Jenkins, Ysw., Blaencorwg, y Parch J. A. Morris, Curad y lie, a Mr Edward Plummer, Colliery Viewer, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus ar y testynau canlynol TRAETHODAU. £ 6. c. 1. Am y Traethawd goreu ar Hanes GIyn- COJwg, yn nghyd a'r disgynyddion cyntefig, a'i chynydd hyd yn bresenol 4 0 0 2. Am y Traetbawd goreu ar Gymdeitbasau Dyngarol a Chyfeillgar Glyncorwg, yn nghyd a'i Sefydlwyr, a'i dygiad yn mlaen 1 0 0 CAJUADAETH. 1. IT cor dim dan 25 o rif, a gano yn oreu Da was, da, gwaith Alaw Ddu, Rhif 13 o'r Cerddor Cymreig 2 0 0 2. I'r cor dim dan 12, a gano yn oreu Y Gwan- wyn, o'r Cerddor Cymreig, Rhif 1 0 12 0 BABDDONIAETII. 1. Am y gan oreu o glod i Mr Edward Plum- mer, fel Llywydd Tanddaearol, a NoddwrCym- deithasau-y gan i fod yn 3 phenill, ar y mesur Gwyr Harlech yn ei hyd 0 10 0 2. Am y gan oreu o glod i'r Parch J. A. Moms, fel Noddwr i Lenyddiaeth-y gan i fod ar y mesur Llwyn Onn 0 10 0 3. Am y 4 Englyn goreu o glod i deulu Rees Jenkins, Ysw., Blaencorwg 0 10 0 4. Hiraethgan oreu ar ymadawiad Mr D. Jen- kins, Corrwg Fychan. a'i deulu, yn nghyda'r golled Pr gymydogaeth ar eu hol 1 o 0 5. Am yr Alarnad oreu er CoffadwriLeth am Gwilym Jenkins, Ysw., Gelly 1 0 0 AREITHIO. 1. Am yr arafth oreu ar Ddacareg Glyncorwg 0 5 0 2. Am yr araeth oreu ar ddefnyddioldeb yr Ysgol Genedlaethol (National School,) gwobr gan y Parch J. A. Morris 0 10 0 Beirniad y traethodau, y farddoniaeth, areithio, a'r adroddiadau,—Parch. John Griffiths, Periglor, C astellnedd y canu, Mr Henry Mills, (Tafonwy), Ponypridd. Dysgwylir i'r holl gyfansoddiadau fod yn Ilaw y beirniad erbyn yr 2fed o Dachwedd, 1868. Bydd y Programme yn barod yn fuan yn cy- nwys yr holl destynau, yn nghyd a threfn y cyfar- fodydd, i'w gael gan yr ysgrifenydd, pris un geln- iog, trwy y post, dwy geiniog. THOMAS HOPKINS, No. 12, Small Brick-row, Clyncorwg, Nr. Briton Ferry.
-.. ' Y gwir yn erbyn y ijl…
Y gwir yn erbyn y ijl A gair Duw yn byd, I uchaf." EISTEDDFOD (KIOX, W Ã. UN A.nL WY DD. CYNELIR Eisteddfod y capel uchod yn y MUSIC HALL. Abertawe, DYDD NADOLIG nesaf, 1868, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr teilwng a llwyddianus ar y tes- tynau canlynol £ s. c. 1. I'r Cor, ddim dan 50 mewn rhif, a gano yn orea The Heavens are Telling, (gwel Haydn's Creation.) 14 o 0 2, I'r Seindorf Pree (Bross Band) achwareuo yn oreu We never will bow down," (gwel Judas Maccabeus, gan Handel.) 9 0 0 3. l'r Cor, ddim dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu, Glee "When Winds Breathe Soft," (gwel rbif 14 a 15 or Musical Times.) 5 0 0 4. I'r Cor, ddim dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu "Gethsemane," (gwel rhif 205 LlyJr Tonau Ieuan Gwyllt.) 2 0 0 5. I'r 8 mewn rhif a gano yn oreu Mai," (gwel y Cerddor Cymreig.) 0 12 O 6. Unrhyw Dduett, i fechgyn 0 8 0 7. Unrhyw Dduett, i ferched 0 8 0 8. Solo, i fechgyn, •• Every Valley," gwel Messiah.) 0 5 0 Bydd Cyngherdd ardderchog yn yr hwyr. Yr elw at leihau dyled yr addoldy. AMODAU. 1. Rhaid i bob cor fod yn perthyn i'r un gynulleidfa. 2. Caniateir i bob cor ddewis arweinydd. Bydd enw ein beirniad yn un o'r rhifynau dyfodoL Alltwen Cottage. HENRY DAVIW*.
Advertising
The Cheapest House for Iron Bedstead** Palliasses, Beds, Sfc. IS all's Furniture Warehouse, Whitcombe-st., Aberdare. GILT AND ROSEWOOD PICTURE. FRAME MOULDINGS. SPRING MATTRESSES TO ORDER. REPAIRING, ON THE PREMISES. NOTICE OF REMOVAL. ABRAHAM FREEDMAN BEGS to inform the Public of Aberdare and the surrounding neighbourhood, that he has removed from 20 and 21, Cardiff-street, to 11, Canon-street, (next door to the Brecon Bank), lately occupied by Messrs. Lyon and Hyam, where he will continue to lend the utmost money upon Plate, Watches, all sorts of Wearing Apparel, &c., and trusts to merft 1 a share of public support.
GWRTHRYFEL YN SPAIN.
GWRTHRYFEL YN SPAIN. Yr ydys wedi defnyddio y penawd hwn luaws o weithiau yn ystod y misoedd di- weddaf, a'r cwbl yn cael ei ddiffodd bron ar unwaith. Ond bellach, y mae gwrth- ryfel wedi tori allan yn y wlad annedwydd hon, yr hwn y mae yn debyg nas gellir ei dawelu yn fuan, ac y mae llygaid y byd gwareiddiedig wedi eu troi tuag ati. Y mae yn debyg na bydd i'r codiad presenol gael ei roddi i lawrnes y bydd wedi effeith- io cyfnewidiad mawr yn y wlad. Y mae Carthagena, Seville, Valencian, a Ferrol, eisioes yn nwylaw y gwrtbryfelwyr, ac y mae yr ysbryd gwrthryfelgar yn ehedeg ar adenydd y gwynt i bob cyfeiriad. Y mae y Cadfridogion alltudiedig wedi dychwelyd o Ynysoedd y Canary i gymeryd rhan yn y gwrtbryfel, ac i waeddi "Ni a'ch alltud- iwn chwi," trwy y parthau ereill y deyrnas. Yr ydym yn cael y Cadfridog Prim-er fod hysbysiad yn y Patrie yn dywedyd ei fod heb adael Llundain-wedi cychwyn tua Ffrainc er dydd Iau diweddaf, y 17eg cy- fisol. Er cyfarfod a chryn anhawsder, llwyddodd i groesi y terfyn, ac erbyn yr 20fed, yr oedd ar dir Spainaidd, yn cael ei ganlyn gan 2,000 o'i gyfeillion. Ei amcan, meddid, oedd tori ymaith y cysylltiad, a rhwystro dychweliad y Frenhines i Madrid. Nid ydys wedi clywed dim o barthed hyn hyd yma. Y mae y gwrthryfelwyr yn awr wedi cymeryd meddiant trwyadl o Seville, lie y mae llywodraeth am y pryd wedi ei ffurflo, a rhwng hwn a dinas porthladdol Cadiz sydd yn eu meddiant, yn nghydag unarddeg o longau rhyfel, ac arnynt 5,000 o wyr, oil yn gefnogol i'r gwrthryfel, y maent yn barod i fesur eu gallu gyda y llywodraeth. Y mae y llywodraeth, fel pe byddai wedi cau ei hunan i fyny yn Madrid; canys dy- wedir fod y Frenhines wedi prysuro yno nos Lun diweddaf, yn ol cyngor y Cadfri- dog Concha. Felly, fe welir bellach mai dinas yn erbyn dinas ydyw-dinas y gwrth- ryfel yn erbyn prif ddinas y deyrnas. Yn Madrid, y prif ddyn yn bresenol ydyw y Cadfridog Jose Concha, yr hwn a apwynti- wyd ddydd Mawrth diweddaf yn Llywydd y Cyngor, trwy gyhoeddiad brenhinol, yn lie llywydd y Weinyddiaeth sydd wedi rhoddi i fyny ei swydd. Y mae gan hwn orchwyl ddyblyg, sef ffnrfio Llywodraeth, a ffurfio gwrthwynebiad galluog ac union- gyr. hiol yn erbyn y gwrthryfel. Yr ydym yn cael ei fod wedi trefnu yr ail trwy drefnu tair adran milwrol i fyned rhagddynt yn erbyn y gwrthryfelwyr. Yr adran gyn- taf, yn cael ei llywodaethu gan Pezuela, i fyned ffordd Catalonia; yr ail dan Mannel Conche, i fyned ffordd Castille a'r trydydd i fyn3d ffordd Andalusia, dan y Cadfridog Novaliches. Y pwnc yn awr ydyw beth fydd y gwrthwynebiad a gyfarfydda y Cadfridogion hyn. Y mae ymdaeniad y gwrtbryfel yn hynod. Ni ddywedir beth ydyw nifer y gallu brenhinol dan Noval- iches yn Andalusia, ond y mae yn debyg y bydd iddo gyfarfod a 14,000 o wrthry- felwyr yno. Yn wir, fe ddywedir wrtbym fod y gwrthryfelwyr yn ddigon cryf i gy- meryd at yr ymosodol, ac y mae un ad- roddiad yn myned mor belled a dywedyd fod Prim a Roda wedi myned rhagddynt yn erbyn Madrid. [
GOSTYNGIAD BYDDIN FFRAINC!
GOSTYNGIAD BYDDIN FFRAINC! Y mae gohebydd y Journal de Rouen yn Paris yn hysbysu am adroddiad ag y mae yn dda genym gael ei ail gyhoeddi, er, fe allai nad oes gwirionedd ynddo; canys y mae yn perthyn i'r dosbarth hwnw ag y mae yn hyfrydwch i gael eu synio hyd yn nod am ddiwrnod. Yr adroddiad ydyw fod Gweinidog Rhyfel Ffrainc yn parotoi am anfon i'w cartrefi 80,000 o filwyr. Byddai hyn yn un o'r symudiadau mwyaf argy- hoeddiadol tnag at ddwyn yn mlaen hedd- wch ag sydd eto wedi cymeryd lie. Nid oes dim ond ffaith o'r natur yma a all ar- gyhoeddi y gwledydd o wirionedd yr hyny siaredir cymaint am dano.
TALAETH FORMONAIDD UTAH.
TALAETH FORMONAIDD UTAH. Y mae Mr Hooper, cynrychiolydd Utah yn y Congress, newydd roddi hanes tra dyddorol o'r dalaeth neu y diriogaeth hono. Sylwa fod y Mormoniaid, mewn ugain mlynedd o amser, wedi gwneud Utah y peth ydyw o anialwch disathr, yr hwn oedd yn ddeuddeg cant o filldiroedd oddi wrth bob trefedigaeth neu afon fordwyol. Y mae yn awr yn dalaeth ieuanc lwyddianus, yn myned ar gynydd, ac yn cynwys tua chan' mil o bobl. Y mae ynddi 86 o dr „:f- ydd bywiog, gyrag yn agos i gant o lythyr- dai; tra y mae' y melinau yd a choed, ffac- tries gwlan, ac amryw weithfeydd ereill, yn llawn cystal a'r rhai a geir yn y taleith- iau ereill. Y mae yno gant o eglwysydd, cant ac ugain o ysgoldai, a thri o chwareu- dai, y rhai sydd yn gyfartal o ran ymddang- osiad i eiddo yr hen daleithiau. Cyfrifir fod yr ymfudiaeth Formonaidd o Ewrop, o 1850 hyd 1867, bob blwyddyn ar gyfartal- edd yn 2,000 o eneidiau, neu gyfanrif o 36,000.; tra y mae yr ymfudiaeth o'r Hen Daleithiau yn ngorph yr un amser wedi bod tua 24,000. Cyfrifir fod y draul o gymer- yd y bobl hyn i Utah yn 8,300,000 o ddoleri. Bernir y bydd yr ymfudiaeth o Ewrop y flwyddyn hon yn 4,000 o eneidiau. Y mae oddeutu y drydedd ran o'r ymfudwyr wedi talu eu costau eu hunain; ond y mae y gweddill wedi cael eu cynorthwyo gan y I Perpetual Emigration Fund," yr hon sydd mewn bodolaeth er's tuag ugain mlynedd, a chyfansoddir hi o gyfraniadau, degymau, rhoddion mewn ewyllysiau, a funds a geir o amryw ffynonellau yn Ewrop ac America. Cedwir y fund hon i fyny drwy waith y rhai a gynorthwywyd yn ad-dalu, pan yn gyfleus, y costau cysylltiedig a'u cludiad, fel y gallo ereill dderbyn y cyffelyb gy- northwy. Yn nghorff y flwyddyn hon fe gyfranwyd 150,000 o ddoleri yn Ninas y Llyn Heli yn unig er galluogi ereill i gyr- haedd America.
AMERICA.
AMERICA. Cynwysa y papyrau Americanaidd lythyr, wedi ei ysgrifenu gan y Cadfridog Lee mewn atebiad i lythyr a dderbyniasai oddi wrth y Cadfridog Rosecrans, yn gofyn barn y diweddar Gadfridog gwrthryfelgar ar yr hyn sydd yn ofynol tuat at wneud y Tal- eithiau Deheuol yn ymostyngol a heddych- lawn. Y mae y Cadfridog Beauregard yn datgan ei gydsyniad a chynwysiad y llyth- yr. Dechreua y Cadfridog Lee drwy gyd- nabod-gan nad beth oedd syniadau y Deheuwyr gynt gyda golwg ar y negroaid, a'u hawl hwythau i encilio o'r Undeb-fod y materion hyn wedi eu penderfynu gan y rhyfel. Yn awr nid ydynt yn teimlo un gelyniaeth tuag at bobl y Taleithiau Gog- led dol, nac un teimlad anghyfeillgar tuag at y dynion duon. Y maent yn awyddus i estyn gofal ac amddiffyniad" dros y ne- groaid ond y maent yn wrthwynebol i roddi unrhyw allu politicaidd yn eu dwy- law, oddiar lwyr argyhoeddiad nad ydynt, ar hyn o bryd, yn feddianol ar y dealltwr- iaeth a'r cymhwysderau ereill sydd yn ofynol cyn y gellir rhoddi y fath ymddir- iedaeth ynddynt. Hiraethant amheddwch a hunan-lywodraeth, ac os cant y pethau hyn, addawant fod yn deyrngarol i'r undeb. Er fod y llythyr wedi cael ei ysgrifenu mewn ton bur gymedrol, eto y mae yn hawdd gwel- ed fod yr hen deimlad tuag at y negroaid yn fyw i raddau mawr eto.
MANION TRAMOR. )
MANION TRAMOR. CATH CYNDDEiRioc.—Ychynig ddyddiau yn ol taflwyd un rhan o Paris i gryn gynwrf gan gath gynddeiriog, yr hon a gaodd am- ryw gwn a phlentyn, ac a neidiodd at wddf ceffyl. Llwyddwyd yn fuan i ladd v cre- adur, a lladdwyd hefyd y cwn a'r ceffyl a gnowyd, a chladdwyd hwynt mewn cryn ddyfnder. ANGIITDFOD OFNADWY YN GEORGIA.Y mae anghydfod wedi tori allan yn Camilla, yn Georgia, rhwng Democratiaid gwynion a Radicaliaid negroaidd. Lladdwyd pym- theg-ar-hugain o negroaid, a chlwyfwyd pump o fobl wynion a thriugain o negro- aid.