Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
DYGWYDDIAD ANGHYFFREDIN.
DYGWYDDIAD ANGHYFFREDIN. Dydd Gwener diweddaf, gwnaed darganfyddiad rhyfedd mewn ty yn Church Street, Miles-end, New Town. Oddiwrth ryw achos neu gilydd, yr oedd drwgdybiaeth wedi codi nad oedd pob peth yn iawn oddimewn, ac ymwthiodd y cymydogion i mewn. Mewn un ystafell, cafwyd menyw ar ei gliniau wrth ochr sofa, ac yn bollol farw. Rhwng yr ystafell bono ag un arall, cafwyd corff menyw arall, a hono yn hollul farw. Mewn ystafell gyfagos yr oedd gwryw haner gwallgof ac haner noeth. Yr oedd yn yr ys- tafell arwyddion fod ymladd wedi cymeryd lie, ond nid yw yn bysbys hyd yn hyn beth ydoedd achos y ddwy farwolaeth. Un o'r menywod oedd gwraig y gwryw, enw yr hwn ydyw Buckingham. Y fenyw arall ydoedd chwaer y wraig. Y mae ymchwiliad yn cael ei wneud i'r achos.
DYLED AMERICA.
DYLED AMERICA. Cvfanswrn dyled yr Unol Daleithiau ar y 30ain o Mehefin diweddaf oedd £ 346,397,667. Y llog a del- id ar y cyfryw swm oedd £ 12,148,898. Y mae yn wir hefyd fod y ddyled hon yn cynyddu vn gyflyrn, ac y rhaid iddo gynyddu cyhyd ag y hydd i'r rhyfel barhau. Y mae Mr Stuart yn alluog, trwy adrodd- iadau a chyfrifiad>iu o eiddo A!r Chase, i ddangos y bydd y ddyled, ar y 30ain o Orphenaf, 1865, yn £ 439,644,222, llog yr hyn fydd £ 17,533,403. Yn awr gellir cyfrif y ddyled yn bedwar can miliwo o bunau, a'r llog yn ddwy filiwn a'r bymtheg. Y mae hyn yn haner y baich sydd yn pwyso mor drwm ar ysgwyddau ein gwiad ein hunain, ac yn llai na'r haner o'r llog. Y mae poblogaeth y Taleithiau Gog- leddol yn rhywbeth llai na phoblogaeth Prydain Fawr, ond yn cynyddu yn llawer cyliymach mewn cydmhariaeth.
LLOFRUDDIAETH DYCHRYNLLYD.
LLOFRUDDIAETH DYCHRYNLLYD. Boreu dydd Llun diweddaf, llofruddiodd dyn o'r enw Henry Wilkinson ei wraig trwy ei chieio. Yr oeddynt yn byw yn nghyd mewn ty yn ( ross-street, Hatton Garden, LIundain, a nos Sabbotb yroedd cyfeillion. wedi bod gyda hwynt yn cymeryd swper. Aethant i ymweled a'r cyfeillion hyn gyda'r train nos Lun, a dygwyddodd i un o honynt gusanu Mrs Wilkinson. Aeth ei gwr yn ddigofus iawn yn her- wydd hyn. Tarawodd hi ar yr heol wrth fyned adref ac aeth hithau i'r gwely gyda menyw oedd yn byw yn y ty. Yn fuan wedi un o'r gloch o'r nos, daeth Wilkinson i'r ty, a gofynodd am i'w wraig ddyfod ato ef. Trwy iddi omedd, aeth ati, a llusgodd hi o'r gwely, a chiciodd hi nes ei lladd. CYFARFOD DIRWESTOL YN MHABELL YR EISTEDD- FOD.—Cynaliwyd cyfarfod dirwestol dydd Sadwrn di- weddaf, yn mhabell yr Eisteddfod, Llandudno, gan y National Temperance League.' Cy merwyd y gadair gan Hugh Owen, Ysw., Llundain, ac anerchwyd y cynulliad gan Samuel Bowly, Ysw., Gloucester; George Cruikshank, Ysw., Llundain; y Parch T. Griffiths, Castell Nedd; a W. H. Darby, Ysw., Brymbo, ger Wrexham. I Y FASNACH MEWN CAETHioN.—Dywed newyddiadur o St. Helena, fod y fasnach hon wedi bod yn cael eu dwyn yn mlaen yn fywiog am y tymor a aeth heibio, a hyny gan ddosbarth o agerlongau nad oes un go- baith eu dal gan y rhai a'u gwyliant. Yr oedd un agerlong o 900 tynell wedi dianc ymaitb dair gwaith, a phob tro a llwyth dda o negroaid. GWAXLGOFRWYDD. — Cafwyd esiampl gofidus o'r anhwyldeb hwn ddydd Iau diweddaf yn mhlwyf Hen- dom, Middlesex. Cnowyd dyn ieuanc o'r enw Ro- bert Brewster, mab i amaethwr cyfiifol, yn mis Chwefror diweddaf, gan gi, ac er ei fod yn ofni y syrthiai i wallgofrwydd mewn canlyniad, eto ni wnaeth hyny yn hysbys hyd yn nod i'w rieni. O'r diwedd, teimlodd fod rhyw anhwyldeb dyeitbr wedi ei feddianu, ac ymofynwyd am gynorthwy meddygol. O'r diwedd, aeth mor gynddeiriog fel y bu farw boreu dydd Iau diweddaf. Yn ol adroddiad swyddogol, yr oedd dros 4,202 o buteiniaid dan un-ar-bymtheg oed, a 27,000 dros yr oed hwn yn Nghymru a Lloegr y flwyddyn diweddaf. Yr oedd hefyd dros 5,995 o ladron adnabyddus dan un-ar-bymtheg oed, a 28,261 dros yr oedran hwn. OFFEIRIAD A'R SABBoTH.-Dydd Sadwrn diweddaf, yn Dartford, dygwyd y Parch Samuel Oewe, ficer Kingsdown, o flaen yr ynadon am drysbasu a poacho. CyflaWnwyd y trosedd ar brydnawu Sabboth, y 24ain o Orphenhaf, ar dir yn perthyn i Mr Stephen Lewis. Dywedai y tvstioti fod y parchus ddiffynydd a pher- sonou ereill wedi eu hatal ar y tir crybwylledig gan geidwad y game i'r boneddwr uchod, a thra yr oedd- ynt yn siarad, i gi o eiddo Mr Oewe ddyfod atynt a sofl-iar yn ei enau. Wedi i Mr Oewe roddi ei dyst- iolaeth, tynwyd y cyhuddiad yn ol. i Y mae Syr George Grey wedi cyhoeddi arbediad i fywyd y fenyw anffortunus, Mary Hartley, yr hon a ddedfrydwyd yn ddiweddar i'w dienyddio am lofrudd- io ei phlentyn. Fe gofir iddi guddio corff y babaa mewn sirnnei tafarridy yn Grey's inn-road.
RHYMNF.Y.
RHYMNF.Y. BrddLlan, y 15fed o Awst, cynaliwyd Eisteddfod X? Moriahf, capel perthyool i'r Annibynwyr via y lie nehod: y cyfarfodydd am ddeg, di*u, a chwech o'r gloch. Nid-oed y cynulliad mor Ihiosog ag y gallesid dysgwyl, ag ystyried fath adeg gyfleus ylloedd er peidio colledi yr ardal, sef dydd Llundechreu y mis, fel ei gelwir genym. Gallesid dysgwyl i'r capel fod yn orlawn jbu llawer o ddysgwyl genym am y dydd, a gallwn ddyweyd na bu'r dysgwyliad hwnw yn ofer i gyd, ac yn wir cawaom y cyf- arfodydd mwyaf bywiog, a gallwn sicrhau fod yr Eistedd. fodhonwedicyraedd nod nehel yn mhlith Eisteddfodau Cymru; ond pan yn ystyried pwy oedd yr Arweinydd a'r Llywydd, nis gallasem liti na dysgwyl felly. I'r dyben o ddyfod at drefn y cyfarfod, y Llywydd oedd y Parch. P. J. William, Soar; yr Arweinydd oedd y Parch J. Jones, (Mathetes), Penuel; y Beirniad oedd Mr. D T. Williams, (Tydfylyn), Merthyr, ar y Farddoniaeth, y Traethodau, y Gerddoriaeth, yr Areithiau, yr Adroddiadilu, a'r Darllen, yn ol dull a defod llenorion Cymru o ddwyn cyfarfodydd o'r fath yn mlaen. Cafwyd anerchiad byr, bywiog, a phwrpasol gan y llywydd, a'r. beirdd yn farddonol, sef Rees Morganwg, II. Mr. J. Perkins, Rymni. Cafwyd an- erchiad hefyd gan Rees Morganwg, a gwnaeth sy lw byr ar gyfarfodydd o'r fath a'u dyben. Felly agarwyd y cyf- arfod 10 o'r gloch, a'r peth cyntaf oedd beirniadaeth y ddau eglyn ar teanlyn yr lesu; daeth pedwar i'r rnaes, y goreu y Parch. R. Thomas, (Rees Morganwg), Llanuwch- lyn. (atju I Difyrweh gwyr Harlech pedwar ar ddeg yn eystadlu, y goreu Mr. R. Lewis'. 'Adrodd Pwy yw Hwn,' gan biant dan 15eg oed; un ymgeisydd, a chafodd y wobr, sef E. Williams. Beirniadaeth ar y gan o glod i Mr Jonah Richards, am ei ymdrechion gyda phlant ysgol SaDbothoI Moriah, Rymni; tri o ymgeiswyr, goreu Mr. J. Davies, (Osian Gwent). Darllen unrhyw ddernyn barddonol rboddedig ar y pryd; saith yn yu-geisio, goreu W. Davies, Rymni. Canu Let me kiss him for his mother,' gan fetched dan 18aw oed un yn ymgais, a chafodd y wobr, sef Miss James, Moriah. Adrodd Deigr- yn y Milwr,' gan ferched dan 15eg oed; cafodd Miss H. y wobr. Terfynwyd y cyfarfod cynaf trwy ganu 'Hen wlad fy Nhadaa. Am ddau, wedi cael anerchiad gan y llywydd, ac hefyd anerchiadau gan y beirdd, awd yn mlaen agwaithy cyfarfod. Adrodd englynion y "Deryn Du,' gan fechgyn dan 18 oed; gwobrwvwyd E. Williams. Yna cafwyd anerchiad gan Mathetes. Beirniadaeth ar y gan 0 glod i ymneillduwyr Rymni am eu hymdrechion gyda'r ysgolion Brytanaidd newyddion buddugol, Rees Mor. ganwg. Canu Elisa Talysarn neu Gareg Lwyd,' gan fenywod heb neb yn deilwng. Canu'r Solo Tenor 0 Ddynion ewch yn union,' gan wrywod; goreu, Mr. R. Lewis. Yn nesaf anerchiad gan Mathetes, yr hwn a gaf- odd uchel gymeradwyaeth. Beirniadaeth y gan ar I Rin- weddau Gwiad y Cenin,' ond nid oedd neb yn deilwng o'r wobr, Areitbio difyfyr, y testyn oedd Dydd LInn dech- reu y mis yn Rymni;' y goreu Mr. H. Jenkins. Canu 0 mor anhawdded yw,' gan ddwy rhoddwyd y wobr i Mrs. Lewis a Miss Lodwig. Wedi hvn cafwyd beirniad- aeth ar y traethawd ar Euogymarferion y gweitbfeydil haiarn, a'r moddion goreu i'w diwygio goreu Rees Mor- ganwg; a'r ail oreu Mr. D. Jenkins, o Goleg Caerfyrddin. Wedi cael anerchiad gan Mathetes eto, canwyd trio, a gwobrwywyd Mr. T. Morris a'i gyfeillion. Wedi cael ao- erchiad gan Mr. J. Williams, &ci( diweddwyd yr ail gyf- arfod. Daethom yh nghyd mor awyddu ag erioed am 7. Dechreuwyd y cyfarfod hwn trwy gael anerchiad gan y llywydd, a gair gan Mathetes. Wedi cael yr anerchiadau gan y beirdd, cafwyd adroddiad o I Lwyddiant A postol- aidd,' gan fechgyn dros 18 oed y goreu Mr. J. Perkins. Beirniadaeth y don gynulleidfaol y goreu ydoedd Dam- anshus, ond nid oedd yn bresenol. Canu Soio Bass, a rhanwyd y wobr rhwng Mri. J. Jones, a R. Lewis. Wedi hyny cafwyd gair gan Mathetes. Cystadleuaeth canu Ull rhyw Alaw Gymreig; goreu Mr. J. Jones. Beirniadaeth y bryddest Y iladdiad yn ngwersyll yr Assyriaid,' dim dan 300 o linellau buddugol Osian Gwent. Canu ton bregethwrol 'D. Rowland o'r Bala,' gan wrywaid; goreu Mr. J. Lewis. Adrodd Pwy yw hon,' gan ferched dan 15 oed; rhoddwyd y wobr i Miss Richards. Canu corawl, Dyn aaned owraig;' un cor yn eystadlu, a hwnw yn annheilwog. Beirniadaeth y traethawd ar Haiarn a'i wneuthuriad; goreu Dafydd Morganwg, ail oreu Mr. Beynon. Cafwyd eisteddfod dda, a gobeithiwn y ceir un eto yn fuan.—IOAN GWENT. EGLWYS WYNO —Wrth dramwy yn ol a blaen dros yr hen ddaear yma, deuthum yn ddamweiniol i le a elwir Eglwys Wyno-hen lan dawel, mewn lie mynyddig, oddeutu 5 milldir o Bontypridd, ac oddeutu 6 i'r dehau o Aberdar. Wedi rhodio trwy y fynwent, deallais fod llawer iawn o gladdu yaddi, ac wedi i mi holi ychydig, deallais mai o gylchoedd Mountain Ash y mae mwyaf o feirwon yn cael eu cludo yma. Mae yn debyg nad oes nemawr ddiwmod yn myced heibio heb fod yma angladd o'r lie uchod. Bum yn rhyfeddu paham y darfu i'r hen bobl adeiladu yr eglwys mewn lie mor fynyddig, fel pe buasent am ei chuddio o olwg y lluaws, a'i chadw yn rhywbeth secret o dan glogwyn y « Mynydd gwyn cul.' Clywais fod hen draddodiad yn y gymydogaeth yn dweyd i'r hen bobl ddechreu adeiladu mewn lie mwy cyfleus, ond fod rhyw reibiaeth yn y nos yn tymu i lawr yr hyn a adeiladid y dydd. Yn y fynwent hon y mae bedd y rhedegydd enwog hwnw,' Gutto Nyth-bran,' yr hwn oedd yn ail i Ashael, ac yn medru rhedeg fel un o'r iyrchod; ond methodd yntau a diane ihag y gelyn angau. Ymwelir a'i feddrod gan lawer, ac edrychir arno fel llanerch gysegredig. Nid rhyw lawer dynodd bedd Gutto o'm sylw, ond euthum heibio i'r beddau, gan droi y gtasweitt a blaen fy ffon i gael darllen coffadwriaeth hwn a'r Hall, a chipio ambell linell o farddoniaeth yma a tbraw. Nid yw amser yn caniatau i mi rhoddi na pbeuill nac englyn yma yn awr; efallai y cewch lith etc ryw dro ar y pen hwn. ABERAMAN.-Cyna,liwyd cyfarfod ar y 23ain o'r mis diweddaf yn y Royal Oak, Aberaman, i'r dyben o gyf lnyno anrheg i Mr John Evans, gwestywr, am ei ffyddlon- deb a'i ddiwy^rwydd yn y gyfrinfa. Cymerwyd y gadair I gan y cynlywydd, Henry Davies, a'r isgadair gan Lewis Lewis. Agprwyd y cyfarfod gan y llywydd mewn araeth fer a .phwrpasol, trwy ddaugos y daioni deilliedig oddiwi'th y fath arferiad, sef rhoddi gwobr i'r aeiodan a fyddo wedi teilyngu trwy eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd. Yna caw- som deimladau amryw o'r aelodau, yn nghyda'u rheswm dt.os roddi y anrheg, sef arwyddlun y cyfundeb A. fired- aidd wedi ei addurno mewn frame bardd. Cyflwynwyd yr anrheg gan C.L. David Watkins. Yna ysgrifenydd y gyfrinfa, dros y brawd Evans, a hysbysodd ei deimladau, ac hefyd cytlwyno ei ddiolchgarwch i'w frodyr am eu car- edigrwydd. Treuliasorn y gweddill o'r eyfarfud trwy ganu, adrodd, areithio, &c. Cafwyd amryw ganeuon gan T. Rosser, Old Bank Carai pawb oedd yno weled ragor o gyfarfodydd o'r un fath eto. Terfynwyd trwy daiu dioichgarwch i'r cadeiryddion a'r ymwelvvyr, wedi treulio prydnawn yn llawen. EDMUNDS. BRYN, GER PONTLLANFRAITH.— Gwledd Odyddol,— Dydd Sadwrn, Awst 27ain, cynaliodd cyfrinfa Cyfundeh Dyngarol, adran Caerphili, ei gwyl flynyddol yn arwvdd y Goron yn y lie hwn. Yn y bore, ymgynullodd y brodyr er trafod materion yr orymdaith. Wedi cael pob peth yn barod, cychwynwyd yn hardd a gweddaidd, yn ddau a dau, 1"0" a'r cerddorion yn blaenu, at anedd-dy brvdferth Mr B. Mathews, C.L., Pentwynmawr, He y cawsom ein cresawu yn foneddigaidd gan Mr a Mrs Mathews. Wedi cael ychydig gerddoriaeth, dychwelwyd i ystafell y gyfrinfa, lie yr oedd ciniaw dda wedi ei darparu gan Mrs a Miss Rich- tards. Ar ol syinud y llieioiau, awd yn mlaen ag achos- ion y gyfrinfa gan Mri Jenkins, Davies, a Thomas, cyn- lywyddion, ac E. Williams, ysgrifenydd y gyfrinfa. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod eyhoeddus. Dtwiswyd Mr M. Jenkins, Mynyddislwyn i'r gadair, a'r brawd W. Davies i'r isgadair. Agorodd y llywydd y cyfarfod mewn araeth wresog yn ol ei arfer, a chanlynwyd ef gan Mri Phillips, Pentwynmawr; D. Thomas, Gilfachfargoed; E. Jenkins. Ffynpnygwaed; J. Jenkins, Woodland-cottage, Trelyn; Harries, Llaniddel, a'r isgadeirydd. Llwyddiarit i gang- enau ein cyfundeb urddasol yn mhob man.-J. JENKINS. TREFORIS, v. ABERTAWE.—Rhyfel Carirefol.—Peidied y darllenydd a dychrynu, nid rhyfel augeuol, ond rhyfel bapyr sydd wedi tori allan rhwng y ddau le uchod. Mae Bwrdd lechyd yn perthyn i'r lie olaf, mor bell ag y mae ef yn glanbau a goleno y lie, ond yn perthyn i'r ddau le mor bell a'i fod yn trethu y blaenaf i'r un, graddau a'r olaf, yn ol gwerth trethadwy y lie. Ac wedi hir rwgnach, ac ymrafaelio nid ychydig, penderfynodd Treforis i encilio o'r undeb. Cynaliwyd cyfarfodydd i ystyried y mater, a phenderfynwyd anfon deisyfiad i'r perwyl i'r Swyddfa Gartrefol; ac feliy y bu, ond ni chafodd yr ymwahanwyr y maes iddynt eu hunain. Anfonwyd cofeb arall yn erbyn yr ymwahaniad, a chynyretiodd hyny ddadl boeth yn iphap- yrau Abertawe, a plieth fydd diwedd y pethau hyn, nid oes neb wyr ;ond y mae yn amlwg fod Treforis wedi cael ei esgeuluso i raddau gorniodol, ac y mae mar amlwg a hyny y gellir cael goleu a dwfr i'r lie yn rliatach mewn unileb ag Abertawe, na plie byddai Treforis yn eu cael ei hunain. Anfonodd y Swyddfa Gartrefol at y B '.rdd i Abertawe, i'w hysbysu o'r ffaith bod y lie yn ymofyn dyfod yn rbydd, ac am iddynt hwythau roddi ateb' ar y pvvne. Dyna b'le rr.ae'r mater yn sefyll yn awr.—MEROT. pwne. Dyna b'le mae'r mater yn sefyll yn awr.—MEROT. CASTELLNEDD.— Dydd Sadwrn diweddaf, cynaliodd cyf- rinfa Horaidd Iestyn ab ei gwledd yn y lie uchod, yr hyn ni wnaeth o'r blaen er ys naw mlynedd. O'r pryd hwnw, y mae llawer wedi myned i ffortld yr hoil ddaear, ac amryw wedi symud i wledydd ereill i fyw; ond er eymaint sydd wedi myned felly, yroedd yr heft. gyfrin- fa yn edrych cystal ag erioed. Cyfarfyddodd yr aelodau am 10 o'r gloch, ac wedi trefnu pob peth yn daclus, cy- chwynasant, yn cael eu blaenori gan seindorf y 'Vale of Neath Brewery,' gan wynebu tualr He a elwir Tonau; ac wedi cyrhaedd ynQ, torodd pob un ag oedd arno eisiau ei syched yno. Wedi gwneud hyny, ffwrdd a hwy drachefn tuag Aberdulais, gan fyned o amgylcb ogylch i dy Joshua Wiliiams,Ysw., ae yna yn ol tua Chastellnedd, gan gyfeirio eu eamrau tua'r gwesty lie yr oedd y giniaw, yr hon gin- iaw, meddir, oedd yn werth serdded tipyn am dani. Felly eisteddodd pob un i lawr, a chyfododd wedi cael ei ddigoni. Mae yn dda genyf weled hyd yn nod banerau yr Iforiaid ar hyd yr heolydd, oblegvd y mae eu golwg' Gymreiyaidd yn fy lloni wrth edrych arnynt; ac yn wir, tybiwyf mai dyna ydyw un o brif ddybenion gorymdeithiau yr Iforiaid ydyw dyrchafu Cymro, Cymru, a Chymraeg yn fwy i olwg y wlad. Rhwydd hynt iddynt.-CYMRO. CRAIGYBETHLWYD, GER MYNWENT Y CRYNWYR.—Tar- awyd trigolion y lie uchod a syndod nid bychan dydd lau, Awst 25, trwy i fachgenyn bychan roddi das o wair ar dan. Yr oedd y ddas, cofiwch, yn ymyl rhestr o dai, a buwyd yn ofni y buasai y tai hefyd yn cymeryd tan ond trwy ymdrech rhai o'r preswylwyr, diffoddwyd ef, a chadwyd llawer o'r gwair heb ei niweidio. Dylid bob amser pan fyddo amgylehiad fel hwn. yn cymeryd lie mewn axdal, rybuddio y plant yn ddifrifol i beidio ymyraeth a than yn neu gerilaw i wait neu yd. Dylai pob dyn hefyd, os gall, rhoddi llaw o gyinhorth mewn amgylehiad o'r fath ond clywais fod yma un, yn byw yn ymyl, yr hwn a safodd wrth ddrws ei dy i edrych ar ereill yn ymdrech, heb rhoddi llaw o gymhorth iddynt. ARDALYDD.
CYFRIFON O BARTHED RHYFEL…
CYFRIFON O BARTHED RHYFEL AMERICA. Y mae ysgrifenwr o'r America yn rhoddi y eyfrifon canlynol o barthed y rhyfel pres enol Y mae digon eisioes wedi eu lladd i gwmpasu talaeth New York, pe byddai i'w cyrff gael eu gosod yn un linell. Pe byddai iddynt gael eu gosod yn fur pum troedfedd ar bugain o drweb, a deg troedfedd ar hugain o uchder, byddai y mur dros filldir a chwarter o hyd. Pe yn bum troedfedd o drwch, ac yn ddeg troedfedd o uch- der, byddent yn ddigon i groe^i y dalaeth. Y mae 75,000 tynell o waed dynol wedi ei dywallt yo nhit" Dixie—digon i droi bob gwertbyd yn Lowell; a phe chwanegid y dagrau at y Hif, byddai yn ddigon i droi peirianau y Cyfandir. Nid ydyw'r haner wedi ei ddywedyd eto. Rhaid cymeryd y railoedd clwyfed- igion a'r rhai a aaafwyd am eu hoes i'r cyfrif, ac nid yw y diwedd eto. (