Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

yo RHYFEL YN AMERICA.

News
Cite
Share

yo RHYFEL YN AMERICA. Mae y manylion ag yr ydym wedi eu derbyn o America, yn cadarnhau yr adroddiadau o barthed llwyddiant a dewrder Admiral Farragut yn nghymydogaeth Mobile. Yr oedd ganddo dan ei lywyddiaeth pedair ar ddeg o longau coed, a phedair monitor, a chyda'r rhai hyny yr oedd ganddo i wrthsefyll cadernid cyfyngfor Mobile, a gweithio ei ffordd heibio i ddwyfort-un yn cynwys 140 o ynau, a'r llall 50, y rhai a wylient fynedfa y cyfyngfor wedi iddo lwyddo i ddyfod o'r tu fewn i'r eyfyngfor a heibio i'r forts hyn, yr oedd ganddo i gyfarfod llynges wrthryfelaidd yn cynwys amryw o longau haiarn-gwmpasog, un o ba rai oedd hwrdd-lestr, yn alluog, yn marn y gwrthryfelwyr, i suddo holl allu llyngesol yr t, Undeb. Rhoddwyd y llynges mewn gweithred- iad gan Farragut-neu yr Hen Salamander,' fel y geilw yr Undebwyr ef-yn yr un dull ag y gweithredodd yn erbyn Port Hudson. Yn ystod yr ymosodiad, cymerodd ef ei safle yn maintop rigging ei long-yr Hatford, a, chanddo dube i siarad drwyddo oddiwrtho ei hunhyd aty bwrdd, a swyddog i anfon allan ei archiadau i'r swyddog wel gweithredol. Dull Farragut o weithredu yn erbyn y forts oedd, myned mor agos ag oedd bosibl i'r un mwyaf, yr hyn a wnaeth, gan ollwng tan dinystriol o'i ynau mewn pellder bychan, fel y gyrwyd yrhai a weithient y gynau oddiwrth eu gorchwylion, acy gallodd yr holl lynges, gyda'r eithriad o un, fyned o fewn i'r cyij-noffor. Yir yOoedd-y Monitor Tecum- seh, yr hon a ystyrid gan yr Undebwyr fel un o'r llongau goreu. Trwy ryw anffawd suddodd hon, ac ni achubwyd ond deg allan o'r cant oedd ar ei bwrdd. Cydunodd y gweddill oil yn yr ymosod- iad ar y llynges gwrthryfelaidd, ac wedi brwydr fer, cafwyd yr oruchafiaeth arnynt, trwy ddin- ystrio rhai a ehymeryd ereill yn yspail. Buwyd cryn amser cyn gallu cael goruchafiaeth ar yr hwrdd-lestr galluog y Tennessee, yr hon am ys- paid a safodd yn unigol i wrthwynebu holl allu Farragut. O'r diwedd, modd bynag, rhoddodd Admiral Buchinan ei gleddyf i fyny i Farragut, er iddo ymladd gyda gwroldeb mwy canmoladwy na'r waith yn ffoi o lynges yr Undeb i ymladd brwydrau caethfeistriaid. Heblaw dwylaw y Tecumseh, collodd yr U ndebwyr haner cant mewn lladd a chlwyfo, tra y darfu iddynt gymer- yd oddeutu tri chant yn garcharorion oddiar y gwahanollongau a syrthiasant yn'yspail i'w medd- iant. Prysurwyd cwymp Forts Powell a Gaines trwy gydweithrediad gallu ardirol dan y Cadfri- dog Granger, yr hwn a laniodd ar Ynys Dauphin, gan gymeryd Fort Powell o'r tu ol, ac amgylchu Sort Gaines. Cynwysai y Fort olaf haner cant o swyddogion, ac wyth cant o ddynion, yn nghyda darpariadau ac angenrheidiau am ddeuddeg mis; ond buasid yn ei malurio yn hawdd i'r llawr trwy gydweithrediad y galluoedd o'r tir a'r mor, ftd nad oes unrhyw sail i'r cyhuddiad o fradwr- iaeth yn erbyn y prif swyddog, yr hwn trwy ddal allan na wnelai ddim ond megis arwain ei ddynion i'r lladdfa fel pe yn fwriadol. Y mae y Cadfri- dog Granger wedi glanio catrodau ar Mobile Spit, 'Lt pfcu draw pa un y saif Fort Morgan, a dywed y llewyddiaduron Deheuol nad ellir dysgwyl i allu ^llehwhw i ddal allan yn faith. Yn ol yr y Qesion diweddaraf, y rhai a adawsant New prk ar yr 2efed o'r mis diweddaf, cawn y Cad- ^idog Farragut wedi gofyn am roddiad i fyny y 0l>t> er ei bod yn cynwys gallu eryf a darpariad- angenrheidiol am chwe mis, ond yr oedd hyny Yih ^.nacau' .m.ewn canlyniad i'r hyn yr oedd Ds°diad wedi ei orchymyn. Yr oedd y ddau ciy-Q barod i ymosod ar y lie, tra yr oedd y ,"dfridog Granger hefyd wedi tori pob cysylltiad r lIe o'r tu ol. Pa un a fydd i'r buddugoliaethau olynol hyn effeithio cwymp Mobile sydd ofyniad nad ellir ei ateb eto. Nid ydyw y Cadfridog Grant wedi bod yn segur yn hir wedi ei fethiant diweddar. Y mae y Cadfridog Burnside, i'r hwn y priodola Meade y methiant diweddar, wedi colli ei swydd, ac arall wedi cymeryd ei Ie. On'd nid hynyna ydyw y cwbl. Cychwynodd Hancock, gyda dwy gatrawd, i lawr yr Afon James, fel pe yn cyfeirio tua Washington, neu ryw bwynt arall mwy ffafr- iol na Petersburg; a cyhyd ag y parhaodd goleu y dydd, aeth yntau rhagddo yn ogleddol. Pan daeth y nos, cyfnewidiodd y cyfeiriad, ac agerodd yn ol i fyny yr Afon James; ac wedi glanio ei allu ar y tu gogleddol i'r afon, parodd gryn syn- dod i allu o'r gwrthryfelwyr, gan gymeryd 500 o garcharorion a saith o ynau. Gadawodd y gwrth- ryfelwyr eu meirw a'u clwyfedigion hefyd ar y maes. Er fod yr adroddiad hwn i raddau yn ffafriol i'r Undeb, ni fu mor llwyddianus ac y gobeithid collodd yr Undebwyr gymaint a 1,000 o wyr rbwng lladd a chhlwyfo. Dywedir fod y sefyllfa hwn mewn oddeutu chwe milldir i Rich- mond. Ni wyddus yn iawn pa beth ydywamcan y symudiad, pa un a fwriedir cadw y lie a gweithio yn mlaen, ynte rhywbeth ydyw er tynu sylw y gwrthryfelwyr oddiar ryw bwynt arall. Yn Front Royal, yr oedd meirchlu Sheridan wedi gorchfygu meirchlu Longstreet, gan gymer- yd 300 yn garcharorion ond dywedir iddo wedi hyny orfod encilio tua Harper's Ferry. Nid oes dim newyddion pellach wedi eu derbyn o Atlanta; ond yr oedd brwydr galed wedi ei hymladd rhwng Stoneman a Wheeler, yn Chat- tanooga, ond ni ddywedir beth oedd y canlyniad. Dywedir mai cyfanswm dyled yr Unol Daleith- iau ar y 30ain o Mehefin diweddaf, ydoedd £ 346,397,667. Y Hog a delid ar y swm hwn I ydoedd £12,148,898; ond yr oedd Mr Stuart, trwy gyfrifiadau ac adroddiadaua baratowyd gan Mr Chase, yn alluog i raghysbysu y bydd y ddyled yn Mehefin 1865 yn £ 439,644,222, Hog yr hyn fydd £17,533,403. Ar yr adeg bresenol, gan hyny, gallwn gyfrif fod dyled yr Undeb yn bresenol yn bedwar can miliwn, ar llog yn ddwy filiwn ar bymtheg. Y mae hyn yn haner y swm sydd yn pwyso ar hysgwyddau ein gwlad ni, ac yn llai na haner y llog. Y mae poblogaeth y Taleithiau Undebol rywbeth yn llai nag eiddo PrydainFawr, ondy maentyn cynyddu yn llawer cyflymach. trwy yr ymfudiaeth barhaus a wneir iddynt. Ond er fod y fath ddyled ar y wlad hon, nid oes neb a ddywed ei bod wedi ei dinystrio yn herwydd hyny. Y mae yn wir nad ydyw yn beth dymunol iawn i'w gario, eto yr ydym yn dwyn y baich yn hapus ddigon, tra y mae y wlad yn cynyddu mewn cyfoeth gyda chyflymder mawr. Felly hefyd yr Unol Daleithiau, bydd y ddyled yn fawr y mae yn wir i edrych arno, ond bydd- ant hwythau yn alluog i'w ddwyn yn hapus, a bydd yn ysgafnhau yn flynyddol fel y bydd y boblogaeth yn cynyddu. Y mae terfyniad y rhyfel yn wir yn beth i'w ddymuno, ond yr ydym yn cael ein darbwyllo i gredu na derfydd o eisiau meddianau, dynion, na phenderfyniad i'w gario allan o ochr yr Undeb. Y mae y galwad diweddar o eiddo y Llywydd am ddynion i'r rhengoedd yn cael ei gyflawni mor gyflym ag y gall amgylchiadau ganiatau, er fod llawer wedi proffwydo i'r gwrthwyneb, ac nid oes amheuaeth nad ellir codi unrhyw swm ychwanegol o arian heb fyned at feddianwyr tramor i'w ceisio. MEXICO. ¡ Yr ydys wedi derbyn newyddion o'r wlad hon yr wythnos a aeth heibio. Cadarnhant yr ad- roddiad fod y gallu Ffraincaeg wedi cymeryd meddiant o Durange, a bod yr holl dalaeth mewn canlyniad wedi uno a'r Amerodraeth. Y mae Juarez yn parhau mewn meddiant o Monterey, ond trwy fod y cynorthwy ag yr oedd yn ei dder- byn o'r America, bob dydd yn lleihau, yr oedd ei gatrodau mewn sefyMfa druenus, ac yn analluog i ymgymeryd ag unrhyw symudiad. Yn ddiwedd- ar cynaliodd gyngor rhyfel, yn yr hwn yr oedd yn bresenol Continas, Rincon, Gallardo, Negrets, a Gonzales Ortega, a phenderfynwyd i aros ar y diffynol. Er mwyn gwneuthur symudiad pwysig, a rboddi terfyn. ar ymdrechion Juarez, yr oedd y gallu Ffranco-Mexicanaidd yn ffurfio yn ddwy golofn—cychwyn o wahanol gyfeiriadau, a chyd- gyfarfod yn Monterey i ymosod ar y Juareziaid, fel ac i rwystro eu enciliad. Y mae y symudiad hwn i gymeryd lie yn niwedd yr haf. Y mae parotoadau eisoes yn cael eu gwneud mewn am- ryw daleithiau arei gyfer. NEW ZEALAND. Nid ydyw y gwrthryfel yn New Zealand wedi ei ddarostwug eto, ac yn ol yr arwyddion presen- ol, nid oes un tebygolrwydd yr adferir heddwch yno yn fuan. Er fod y brodorion wedi cael eu gorchfygu bron yn mhob brwydr, ac wedi cael colledion mawrion, nid ydynt yn dangos unduedd i ymostwng. Ymddengys fod ganddynt gy- flawnder o arfau a phylor, y rhai a brynasant gryn amser cyn ymgodi gan fasnachwyr Ewrop- iaidd yn y drefedigaeth. Dywedir nad oes ond ychydig iawn o sefydliadau yr Ynys Ogleddol allan o berygl ymosodiadau oddi wrth y brodorion, a bod yr oil Ewropiaid yn gorfod ymarfogi i amddiffyn eu hunain. Yn ol bryslythyr a dder- byniwyd oddiwrth y Cadfridog Cameron, yr oedd ein milwyr ar fyned i auafa am dri mis. Dylid cofio fod y gauaf yn yr arddrych Deheuol yn dyfod i mewn yn nechreu Mehefin. Ystyrir mai anffawd fawr ydyw bod yn rhaid i'n milwyr fyned i auafn ar yr adeg bresenol, am yr ofair y cymer y brodorion fantais ar en segurdodi adeiladu am- ddift'ynfeydd trwy hudo y llwythau sydd hyd yma yn llonydd i ymuno a hwynt, yn gystal ag i wneud ymosodiadau ar yr ymsefydlwyr. MANION TRAMOR. Derbyniwyd hysbysiad swyddogol o Tunis fod un llwyth ar hugain o'r gwrthryfelwyr wedi ymostwng. Mynega llythyron cyfrinachol modd bynag fod deugain o'r llwythau yn parhau mewn gwrthryfel, a bod amryw o'r penaethiaid oeddynt wedi amlygu dymuniad am heddwch wedi eu lladd. Mewn llythyrau a dderbyniwyd o Trient, hys- bysir fod bradwriaeth eang wedi ei ddarganfod, yn ymledu trw yr holl ran Italaidd o'r wlad. Y Q. Torhole, cafwyd coffrau llawn o arfau, pylor, a gwisgoedd milwraidd. Cymerwyd cryn lawer o'r bradwyr i fyny. Y mae Brenin Hanover yn glaf, ond coleddir gobeithion cryfion am ei adferiad. Y mae terfysgoedd wedi tori allan yn Geneva. 11 Dywedir fod gwrthgloddiau wedi ei hadeilu, a gwaed wedi ei dywallt. Gan fod llywodraethy dalaeth yn analluog i gadw trefn, galwodd am gyfryngiad Undebol. Yna anfonodd Oynghor yr Undeb M. Fornerod fel dirprwywr arbenig i faes y terfysg. Efe a aeth i mewn i Geneva gyda bataliwn o'r cartreiiu. Y mae gwrthryfel newydd wedi tori allan yn nhalaeth Oran, yn Algiers, ac y mae amryw lwythau wedi ymgodi; ond y mae y llywydd milwraidd Ffrengig wedi cymeryd mesurau grym- us i ddarostwng y gwrthryfel. Cyhoeddwyd bryslythyr yn y Gazette am ddydd Mawrth, oddiwrth y Cadfridog Cameron, llywydd y fyddin yn New Zealand, yn yr hwn y mae yn hysbysu fod v milwyr wedi myned i auafu, ac nas gellir gwneud dim am dri mis. Cynwysai y llythyrgod diweddaf o Awstralia, 0 China, ac India, yn agosl 140,000 o lythymu, uwchlaw 80,000 o newyddiaduron, a thros o lythyrau cofrestredig. Dyma y llythyrgoQ. mwyaf a gyrhafeddodd i'r wlad hon erioed.