Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
X RHYFEL YN AMERICA.
X RHYFEL YN AMERICA. Credwn na byddai dim yn fwy derbyniol gan ein lluosog ddarllenwyr, yn gystal a chan dri- golion ein gwlau yn gyffredinol, na'r newydd fod heddwch wedi ei ail sefydlu yn Unol Daleithiau yr America. Nid j n unig y mae y rhyfel wedi para yn faith o ran amser, ond y mae nifer y lladdedigion yn y gwahanol frwydrau yn abl peri i'r galon galetaf i deimlo yn achos dynoliaeth. Mae Hood, y Cadfridog gwrthryfelgar, yn ei ym- drechiadau diweddar yn erbyn Sherman, yn nghymydogaeth Atlanta, wedi colli gymaint a deng mil ar.hugain o ddynion mewn tair brwydr, er yr 20fed o Orphenaf; tra y collodd Grant, yntau, yn ei ymdrech yn erbyn Petersburg, gy- ,maitit a phum mil ar yr un adeg rhwng lladd, clwyfo, a chymeryd yn garcharorion. Byddai i unrhyw drefniant cyf'reithlawn a roddai derfyn ar ygahmasdra digyffelyb h wn o fywydau ac ael- odau, gael cefnogaeth gwresog y rhan luosocaf o drigolion Prydain. Yr oedd ymddangosiad di- weddar Mr Clay a Holcombe yn Niagara, yn ar- ddangosiad o deimlad rhyw gyfran u'r Deheuwyr, a bod heddweh yn beth ag y caresid ei gael pe yn galluei ddwyn oddiarngylch ar dir anrhy- deddus. Oddiwrth y riewyddioa a dderbyniwyd gyda'r Hong Scotia, yf oedd yn debyg y buasai i Mobile syrthio i'r un dynged a New Orleans. Mae yr Admiral Farragut, yr hwn a warchaeodd ac a aeth heibio i'r forts ar enau y Mississippi yn ngwanwyn, 1862, yr hwn hefyd a orchfygodd y gallu llyngesol a ymosodwyd arno y tu uchaf i'r -fo,rts. ae..a dda.eth a dinas falch New Orleans i geisio am amodau, yn ddiweddar wedi myned heibio i forts Morgan a Games ar enau Bay Mobile, gan ddinystrio a chymeryd yr hwrdd- lestri gwrthryfelaidd oeddynt yno, ac yn awr yn barod i ddelio ar ddinas ei hun, rhyw ddeg mill- dir ar hugain yn uwch i fyny. Mae yr enw Mobile yn 'eithaf adnabyddus yn y wlad hon fel un o'r prif borthladdoedd i allforio cotwm i'r wlad hon. Cyn i'r rhyfel dori allan, hi oedd ail ddinas masnachol y Deau, yn meddu poblogaeth o 30,000, ac yn lie yr allforid holl gynyrch Alaba- ma a rhan fawr o Mississippi. Yr oedd sefyllfa fanteisiol y ddinas, argalln oedd yn ei hamddi- ffvn, yn ei gwneud bron yn anwrthwynebol; modd bynag, y mae Admiral Farragut wedi gallu j trafod gwrthwvnebiadau o'r fath waethaf, ac wedi bod yn fuddugoliaethus. "Wedi dinystrio fel hyn y-gwrthwynebiadau yn nghyda'r hwrdd- lestri, yn ol pob tebygolrwydd, bydd yn awr yn alluog i ddwyn ei ynau i weithredu yn erbyn y 9 ddinas. Nid yw yn canlyn er hyny y bydd i'r ddinas gael ei chymeryd; canys fel Charleston, y mae yn cael ei hamddiffyn gan wrthgloddiau eedyrn, ae vu yr amgylchiad hwn, nid yw yn eanlyn fod cymeryd y fdrts uchod yn sicrhau cy- meriad y ddinas. Er nad oes unrhyw hysbysiad wedi ei dderbyn o barthed i hyny, y mae yn fwy na thebyg y bydd i allu ardirol gael ei anfon yno or cydweithredu. a Farragut. Mae Mobile wedi ei hadeiladu ar un d'r afonydd hyny sydd yn ffurfio prif ffyrdd y Taleithiau GorllewinoL Mae yr afon Mobile, fel ei gelwir am ryw ddeugain milldir cyn yr arllwysa i'r Bay, yn gwahanu yn ddwy gangen fawr—y Tombigbee a'r Alabama. Pe byddai i Farragut alia cael meddiant o Mobile, bydd ei wnfadau y yn debyg yn abl i fyned rhagddynt ar un- waith i Montgomery, prif ddinas Alabama, canys aid 6cu, yr un gallu gwrthryfelgar o bwys ar y ffordd, tray mae yr afon yn fordwyolar bob ty trior. Mae y pwysigrwydd o gymeryd Mobile ya gyfryw i'r naill a'rllall, fel nad oes amheuaeth uabydd i'r gwrthryfelwyr wnend pob egniyn eu gallu i'w chadw. Nid yw goresgyaiad Maryland gan y gwrth- ryfelwyr, wedi trpi allan,fel arfer,yn ddim amgen na chynifero ysbeildeithiau. Buont yn alluog i losgi trefddiamddiffyn Chambersburg, a thrwy hyny ddwyn i dylodi luoedd o bersonau ymdrech- y gar, a gosod gweddwon ac amddifaid mewn dir- fawr angen, tra nad ydyw Early wedi cyflawni unrhyw weithred o wroldeb ac anrhydedd. Modd bynag, yr oedd wedi amcanu myned gam yn mhellach nag o'r blaea—Moorfield—ond daeth Averill ar ei warthaf ao a'i gorchfygodd, tra yn Ngorllewin Yirgioia, yn ddeheuol i Cumberland, pryd y cymerodd 600 o garcharoriou,a phedwar o ynau. Nid yw ynymddangos modd bynag, fod Lefe wedi bwriadu b ddifrif i wneuthur ymosodiad yn Maryland na Virginia, ond yn unig ceisio codi Grant. Mae Lee wedi addef hefyd nad all symud Grant o'i safle bresenol heb wneuthur ymosodiad ar ei linellau, a gwyddom ninau bell- ach ei fod wedi methu yn y dull hwnw unwaith, lac na fyddai oud gwallgofrwydd iddo ail ym- geisio; caays cafodd ei yru ya ol gyda cholled fawr ya yr ymgais ag y mae geaym ya awr hanes o honi. Dywed rhai newyddiaduron fod Mr Stanton wedi rhoddi ei swydd i fyny; ac y mae yr hys- bysiad fod y Cadfridog Stoneman wedi ei gymer- yd yn garcharor, wedi ei gadarnhau Mae y Cadfridog Grant wedi ymweled a'r Cad- fridog Stieridaa-yr hwn sydd wedi cymeryd lie Hunter yn iN[arvlarid-(,,yda'r'am an, fel y tybir, o IFurfio cynllun effeithiol i gydweithredu ag ef yn erbyn y gelyn. Pa fodd bynag, y maey Cad- fridog Grant yn gynrychiolydd cymhwys i'r 0 1 ysbryd penderfynol sydd wedi llywodraethu yr U ndebwyr 0 ddeehreu y rhyfel hyd yma. Er iddo gael ei yru yn ol dro. ar ol tro gyda cholled- edion trymion yn ei ymosodiadau-yn lie ildio, yrnbaratoa yn ddioed i wneud ymosodiad arall. Nid yw ei holl golledion aruthrol wedi etfeithio dim ar ei benderfyniad i fyned yn mlaen. Ar y llaw arall, ni ddangosodd y Cadfridog Lee erioed gvmaint o athrylitti. ag a ddangosodd yn yr Avythnosau diweddaf. Mae wedi llwyddo i wrthsefyll holl ymosodiadau grymus a phender- fynol ei elyn y mae yn awr yn cad wprif fyddin ei wrthwynebwr ya segur, mewn cymhariaeth, o flaea dinas ailraddol; y mae yn gallu gwneud rhuthriadau pan y. myno i diriogaeth ;y gelyn; ac, ar yr un pryd, meddir, yn anfon cryn alluoedd i ranau ereill o'r Cynghrair sydd yn cael ei bygwth 0 y gan y Gogleddwyr. PORTUGAL. :) Ni bu y fath wres er's llawer o flynyddoedd ag sydd yu Portugal y dyddiau hyn, ac y maeyn achosi llawer ° glefydau, ac' wedi effeithio yn aiweidiol ar y cnydau yd a grawnwin, fel y mae lluoedd ya teimlo digaloadid ac ofn am y dv- fodel. 'Roedd; y llong ryfel Americanaidd Niagara wedi bod yn ^ros am beth amser yn Lisbon ond hi a ymadawodd yr wythnos ddiweddaf yn ddi- rybudd, ae, ni wyddys am ba le y mae, nac ar ba neges. Bu cweryl lied bwysig yn ddiweddar rhwng Portugal a Spaen, yn nghylch caethion a ddali- wyd ar gyfiiniau Affiica. Nid yw Spain mewn un modd, yn dal yn Ifyddlawn i'w hymrwymiad gyda golwg ar ymatal rhag dal caethion. Bu agos i'r amgylchiad yma a pheri rhyfel rhwng Portugal a Spain, ond y mae gobaith yn awr y terfynir y cweryl yn, foddhaol a heddychol.
[No title]
YSTRADGYNLAIS.—-Nos Fercher, Awst 17eg, cynal. iwyd cyngherdd fawreddog yn ysgoldy Prydeinig y lie uchod, Y prydoawn cyn y cyngherdd buwyd yn addurno yr ysgoldy a blodau amryliw a phrydterth, gan y boneddigesau ieuainc canlynol ;—Miss Jones, Miss Walters, Miss Morgans, Miss Hall, a Miss) Davies. Uwchben y gadair lie yr eisteddai y lly- j wydd, yr oedd darn inawr o sidan coch, ac wrdi ei wau ynddo e sidan gwyn, Ptosperity to Y strad Sehoo! gan Mr John Morgans. Wedi i'r amser pen- odedig ddyfodi fyny, aed yn mlaen t ddechreu ar waith y cyfarfod, ac etholwyd y Parch P. John Wal- ters, i'r gadair. Cawsorri araeth fer, atiuoa;, wresog, a phwrpasol iawn ganddo yn agoriad i'r cyfarfod. Ac yna galwodd y cerddorion at eu gwaith. Dygid y gwasanaeth cerddorol yorrilaeo gan gor Method- istiaid Cwmgiedd, dan arweiniad'y dyn ieuanc talent- og a llafgrus Mr David T. Prosser, yr hwn sydd yn y deilwng o ganmoliaethuehel am ei ytii,cirechioti di- fefl gyda cherddoriaeth. Wedi ca-m arnrvw ddarnati godidog o waith yr awdwyr goreu, cafwyd araeth wresog a gwir alluog, gan Mr Griffiths, (Ivander,) Clydach, yn yr hon yr amlygai ei,,deim!adaa gyd* golwg ar gerddoriaeth Ystradgyrilaisv Dangosai yn fedrus iawn, yr hyn oedd, a'r hyn ydyw; ac nad oedd y llwyddiant mawr sydd wedi bod arno wedi cael ei ddwyn oddi arngylch heb lafur caled a diflino, ac nad anmheuai nad oedd y cor hwn, yn deilwng o^L resu yn mhlith goreuon Cymru. Dywedai nad oedd Y stradgynlais erioed wedi bod yn anenwog am ei cherddoriaeth, oblegyd clywai yn ami mewn ainryw leoedd, rhai yn siarad am gor Gwrngiedd, fel yn an- orchfygol; ac felly yr oedd, ac y mae yn parhau i fod, meddai ac yn mhellach, ni fyddwn i byth yn fodd- loncynal un math o gyfar.fod cerddorol, heb fod rhai o'r cor hwn ynddo. Ac anogodd y corya y modd taeraf i fyned yn mlaen, a pheidio boddLoni i gael ei resn yn mhlith goreltion heb; ifynu bod y cor goreti yn Nghymru. Adymnfioddei Dwydd. Yna ymadawodd pawb wedi el'llIwyr.boddloni; ac yn hiraethuamgaet y fath gyfarfod etc, wedi iddvnt gael y wledd gerddorol oreu a gawsant erioed, am dros ddwy awr o amser. Datigosodd y cor fedrus- rwydd anghvtfredin iawn, ac y mae eu harweinydd ieuanc, Mr Prosser, yn deilwng o'r gefnogaeth a'r gymeradwyaeth uchaf am ei lafur parhaus a diflino gyda'r cor. Gobeithio y rhoddir jddo einioes ac iechvd, fel y gallo wnead daioni mawr yn ei ardal ac y bydd iddo ddilyn esiampl yr arweinwyr a fu o'i flaen ar v cor hwn, Mri Jeffrey Davies ac M. Alex- ander, sefi barhau hyd y diwedd., ELid i mewn trwy docynau 6c. Yr elw at fttndyrysgol.. Da genyrn y 1 11 ddeall rodyr ysgol hon yn myned yn rnlaen mor lewj rchus, yn yr ystyr o addysgu, ac yn yr, ystyr arianol; ac hefyd pob llwyddiaiit i'r ysgol sydd gyf- erbyn a hi, sef y Genedlaethol. Cofier nad oes gwir- ionedd yn haeriad cecrus 'Gwron' yn y Cymro un o'r wythnosau diweddaf, sef fod yr ysgol hon vn myned i'r llawr. Na, y mae yr ysgot hon yn fwy llewyrchus yn awr nac y feu erioed, ac felly yr ysgol arall, ac y mae pob heddwch a chydweithrediad riiwng blaenoriaid y ddwy ysgol; aphe buasid yn y gvng- herdd hon, gallasai ca>d prawf o hyny. Y mae y Rector, v Parch T. Walters, B.D., yn ddyledus o glod a pharch pob ymneillduwr a chiarwr cywirdeb am ei ymdrcchion o blaid y gwirionedd. vh erbyn yr ymoa- odiad anghyfiawn a wnaed ar bwyllgor yr ysgol Fry- deinig yn ddiweddar. Yn wir, nis gwt) sut y darfu i unrhyw fath o eglwyswr nac ymneillduwr, ddan- gos ei wyneb yn y cyngherdd, wedi bod yn sarhan cymaint" ar ymneillduaeth, &rc, A iff yr ysgol Frytanaidd yn mifien er gwaethaf pawb, cofier. Da genym gael ar cideallhefyd fod y cor hwn wedi ymuno a chor mawr Dytlryn Tawe, ac v bwriadaat fod yn bresenol yn y performance 6-r Messiah. Os felly, rhwydd hynt iddynt.— HANDEL. Y mae Bwrdd Cyfraith y Tylodion wedi cyhoeddi ei hadroddiad blvnvddol obarthedi drcth y tylodion, yr hwn a ddengys dderbyniadau a. thaliadau pob Uta- deb yn Nghjmru a Lioegr. am y fiwyddyn 1863. Cyrhaeddai y dreth 8s. 4c. yfpeo ar y boblogaeth, ond cvnwysai hyn rai pethau heblaw treth y tylod- ion; a chyrhaeddai y swm a wariwyd mewn cynorth- wy, 6s. -6Jc.• y pen, cynydd o 6.ic. ar y flwyddya flaenoro!. Y Swm a wariwyd fnewn cynorthwvo y tylodion ydoedd £ 6,077,922 yn 1861-2, a £ 6,527,096 yn 1862-3. Y mae y Bwrdd hefyd wedi cyhoeddi nifer y rhai a dderbynient gymhpitK, vr byn ydoedd 1 1,' y pump yn nibob cant, ueu un yn mttob iigain oin poblogaeth., Da genym ddeall fod reilffordd "aanolbarth Cymrn wedi ei hago..
S^t©|>FA CWFKEWHU® ..'
Maeamryw torwyniou inedrus yn eisieu. Ymofynir vn Swyddfa'r G WLADOAKWR, (Jaupa Street, Aherdar. Rhaid bod yr oil a yiuotyu<mt ym gjifxyvr ag a allaut ddaugos cyweradvfyaetUo'u