Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Ymddengy* weithian fod y rhyfel ag y siaradwyd cym- aint yn ei gylch wedi derchreu o ddifrif yr wythnos ddi- weddaf, er fod y mynegion o Turin a rhai manan ereill yn adrodd am ryw filn amrysonau yn flaenorol rbwng yr Awstriaid a'r Sardiniaid. Y irMydr gyntaf rbwng y Ffrainco-Sardiniaid-y byddinoedd unedig—ar Awstriaid, a yinladdwyd dydd Gwener yr 20fed cyfisol, yn Casteggio a Montebello. Yn gweled tua 15inil o Awstriaid yn dyfod rhagddynt o Stra- della, y Milwriad Sonnaz, llywydd y marchogion a liys- bysodd Baraguay d'ililliers, yr hwn oedd gyda'i adran yn Voghera, Sala, a Castelnuovo Scrivia Yr oedd gan yr Awstriaid ddwy faesfagnelfa. Dysgwyliai preswyUvyr Cas- teggio am ymosadiad, ac yr oeddynt wedi gwiieyd barri- cades yn yr heolydd. Y Milwriad Morelli, pan welodd ei fod o flaen llu o 7 mil o wyr, yn ymdreclm amgylcliynu y lie, a enciliodd mewn eithaf trefn. Ar y pryd hwnw daeth adran y Cadfridog Forey yn mlaen, tua 7 ueu wyth mil o wyr, gyda magndfa. Cymerodd yr ymrysonfa le rhwng Casteggio a Montebeilo. Ymosododd y Milwriad Sonnaz ar ystlys dde y gelyn, a'r Milwriad Morelli ar yr ystlys aswy. Erbyn hyn yr oedd yr ymladdfa yn gyffredinol. Am ychydig petrusai y cyngreiriaid, tan ddaf!tli y Cad- fridog Beuret yn miaen gyda 3 mil o Ffrancod. Yna dechreuorid yr Awstriaid encilio tua Montebeilo, gan ym- ladd eu coreu ar yr un pryd. Ond deallasant mai anichon- adwy oedd dal y lie. Gan gael eu hyrddo gan Ileuret, yr hwn a ymruthrai ar y pentref, hwy a orfodwyd i ffoi. Can- lynodd y Cadfridog Forey hwynt am ychydig, ac a wnaeth ? cant o honynt yn gareharorion eitlir gan eu gweied yn yinlochesu yn Bionni mewn cloddfaoedd efe a'u gadawodd yn llonydd. Ymadawsant y noswaitli hono drachefn a Bionni, ac a Barbianello hefyd. Dyna sylwedd hanes y frwydr gyntaf rlnvrg y galluoedd uneilig a'r Awstriaid yn ol tystiolaeth y gobebydd arbenig o Turin ac y mae goliebiaethau ereill wedi ein cyrhaedd- yd, yn cynwys y manylion, ac yn cadarnbau yr ucliod, gyda rb) w ychydig piihriadLau dih\vys. Terfyna un o hon- ynt gyda dywevd—'Hanesiaeth a ddechreua fanylion y y rbyfelawd yn erbyn Awstria gyda crJ bwyll-Brwydr Montebeilo, Mai 20, 1859; 2,500 yn erbyn 12,000.' Yn awr yr ydym mewn gwell safie nag o'r blaen i farnu rhwng yr amrysonwyr. Gwir nas gallwn bleidio y naill yn fwy na'r llall. Nis gallwn ddymuno parhad cam lywod. raeth Awstria yn hali; ar yr un pryd iii- gallwn gymerad- wyo y dull a fabwysiedir gan yr Italiaid i ymryddhau; eithr gyda golwg ar y prifbwnc ni phetruswn fynegi ein barn. Dilysfod Awstria yn amdditfyii tiriogaeth a warant- wydiddi gan gytulldebau cyfreitblon y mae Ffrainc a Sardinia' yn ceisio crafangu tiriogaeth nad oes ganddynt fwy o hawl iddi nag i'n tiriogaeth ni. Felly y mac yr hawl ar yr un tir gan hyny, nid anhawdd barnu pa blaid a haeddai ein cydymdeimlad. 0 ran hyny, nid cyfansoddi treithawd ar y rliyftl yr ydym. O'r India fe'n hysbysir 10d y blaenor gwrthryfelus, Tantia Topee, wedi ei brofi yn y Hys milwrol, a'i gael yn euog, a'i fod wedi ei ddienyddio ar yr 18fed o Ebrill, fel y mynegir yn helaeth mewn man arall. Nis gallwn ystyried ei fradwr, Mann Sing, fymryn gwell, os nad gwaeth ie, pob bradwr arall yr un fath. Cael gafael eto ar ben gigydd Cawnpore, N ana. Sahib, osodai bob peth yn dawel yn India. 0 America mae'r hanes fod y rhyfel Ewropaidd eisoes wedi effeitliio ar fasnach yno. Dim o bwya yn garti-efol-y farclinad yn is na'r wyth nos ddiweddaf, ac yn lIefl farwaidd. Y Llywodraeth mewn prysurdeb gyda phaTotoadau y fyddin a'r llynges. M. Kossuth yn darlithio ar hyd ailed y wlad, ac yn ymyruda gwleidiadaeth pobl Prydain. Mae Kossuth yn wr enwog—bu yn Llywydd Hungari-rnae yn haeddu parch « chlod am ei ddewredd dros ei wlad a'i genedl; ac y mae yn cael hyny, yn enwedig yn Mhrydain; a dylai yntau fwynhau y nawdd a roddir iddo yn dawel, heb ym- yru a'n gwleidiadaeth. (Jwir mai anhawdd iddo ymatal ar yr adeg bresenol lhag dangos ei dgimladauyn erbyn Aws- tria, hen elynes a chigyddes llungari; ond y inae yii llwyr angbjfreitblon iddo gynal cyfferfodydd i fe rniadu mesurau ein X.lywodraeth ni, ac efo yn fioadur uoJdedig. i
„ -( DIWBDDARAF.
„ -( DIWBDDARAF. 1 — II iibtfd.lioq Y RII Y FEL. loa: Mynegion Stoyddogol. u '1 LOMBARDI YN CYHOEDDI DROS J SARDINIA. TURIN, Mai 25.-Mae symudiadau gwrthryfel- gar wedi cymeryd lie yn Lombardi. Myneglen swyddogol cyhoeddedig heddyw a gadaniha y newydd am ddyfodiad Garibaldi i Varese; a hysbysa hefyd fod dyfodiad y catrodau cyntaf i Lombardi, er ei rhyddhad, wedi creu orlawenydd anghyffredin yn mysg y bobl, nes peri iddynt ar unwaith gyhoeddi dros Frenin Sardinia ac achos y genedl.
[No title]
EBENEZER, ABERDAR.—Diwygiad Crefyddol.—Dy- munol ydyw clywed am ddaioni a rhinwed i yn cael eu meithrin gan ddeiliaid rhesymol y byd; ond mwy o lawer ydyw clywed am lyddid yn cael ei gyhoeddi wrth hen gaethion a charcharorion Eden; am drlatodiad hen glymau diafol ar ugeiniau o drigolion daear; am ddileu anwireddau meibion a merchcd dynion, a madden iddynt eu holl dros- eddm, a hyny ya rhad. Draw oedd y'swn am y nerthoedd weithredoedd yn cael eu cyflawni gynt; ond nid telly yn awr, oblegyd cliwythodd yr awel o Geredigion ddymvmol dros Sir Gaerfyrddin. a thros gongl Brycheinioir, hciblo i'r hen dad Williams o Lanwrtyd, nes y mae ardal La'iwr- tyd yn fan ac yt) tawr yn moli ar dan gwyllt, am y drefn ogoneddus o acluib dyn,-pob un a'i emyn ei bun, a ,phob un a'i don ei hun, yn mawrion buthau Duw. Da genyf allndweyd, nid yn mliell yr arosodd yr awelon nefolaidd hyn, oud y maent wedi olmythn ar eg11tys Ebenezer, Tre- cynon, ac yn paihau i chwythu yn anorehfygol; ni ddy- wedir mwy am yr hen bwtrau gy t, ond am y nerthol weitiiredoedd sydd yn awr, a cholir am danynt gan luaws mawr ar fryniau Ciiersaiein, a diolehaut byth am weled yr awr y rbyddhawd hwyn' o'u hen garcharau i lyddiil gogon- eddus plant Duw. Mae Ehenezer, Trecynon, wedi ei chyffroi-wedi teimlo yn ddwys—wedt y'\K)-<!wng i weddio am bethau neillduol-wedi gweled eisoes ffrwyth ei thaer- ineb gyda Duw—wedi gweled yn mhlith clwyfedigion y Brenin hen cewri mewn pechod, rliai yn GO oed a rhai yn 80 oed-yr eglwys yn parhau i ymdrechu o flaen yr orsedd -y nerthol weithredoedd yn dyfod yn fwy amlwg—satan yn colli ei dtleiliaid o bob oedran—rliai o'r cyfeillion bron di wy'r nos o flaen yr orsedd mewn gweddi, ac yn pender- fynu glynu wrth yr hen drugareddfa nes gweled rhagor o elynion Brenin Seion yn cael eu plygu-yii derbyn 52 i'r cynmndeb diweddaf—cyfarfodydd gweddi hwyrol drwy yr ivyiiinos-dros 100 araJlyn y gyfeHtHch—capet Ebenezer yn rliy fach o Jawer-dal1 gapel newydd yn cael eu hadeil- adu—tri dyn ieuainc wrth fyned i'r cyfarfodydd Sul a'u testamentau yn eu dwylaw, yn cwrdd a bechgyn y I pitch and toss' wrth eu camp—y testamentwjr yn syrthio yn y fan i weddio, ameibiony 'pitch tii(i toss I yn iiietlitt dal, yn crynu, yn dihoeni, yn gwanhau, vn myued yn rliy wan i ddylyn eu hen gamp wrtlmn, isel, ac atgas, mwyach. Ein harfau ni nid ydynt gnawdol, ond yn nerthol drwv Dduw i fwrw cestyll i'r llawr. Llawer a ddichontaer weddi y cyfiawn.' Daliwch ati fecligyn allwyl Ebenezer, nes yr enillorli yr ardal o'r bron yn ddeiliaid ein Hargl- wydd ni a'i Grist ef.'—Un o'r wlad draw. LLUNDAIN.-lIenafiaeth Iuddewig. Y mae luddew o Twrci wedi oyfod drosodd a chareg wcrthfawr ganddo, wedi ei gweithio, fel y tybir, yn amser Solomon.. Y mae tua modfedd o hyd, thipyn dan hynv o led, a'i chefn wedi ei orphen yn grwn. Y mae o liw glas-olen a'i nodwedd, mewn llythyrenau o aur, ar ei chefn. Y mae wedi ei chyflwyno i ofal y Parch. J. Mills, i'w dwyn i sylw henaf- iaethwyr fo yn alluog i benderfynu ei gwerth. Tybia Mr. Mills ei hun mae diweddar ydyw, ond os try allan fel y mae ei pherchenog yn credu, bydd yn un o'r henafiaethau filwvaf gwerllifawr yn y deyrnas.— Gohebydd. MERTHYU.—Adfi/wiad Crefydtlol. Yn ystod yr wythnos drfiwediiaf, yn nghyd a'r wythnos hon hefyd, y mae rbyw arwyddion wedi ymddangos yn y lie hwn, fod yr Arglwydd fel pe bai ar ymweled ag ef, :ag- awelon diwygiad. Yr wythnos ddiweddaf. cynaliodd y We><leyaid Seisonig gyfarfodydd pregetbu bob nos, ac er nad oedd y cynullUidau yn lluosog, eto yr oedd yn amlwg fod yr Ar- glwydd yn y lie, ac yn bcndithio ci bobl. Dydd Sabboth wythnos i'rdiweddat hefyd, cynaliodd y Trefnyddion Hyn- afol gyfarfodydd pregetbu trwy y dydd; ac yr oedd yn amlwg fod yr Arglwydd yno. hefyd, yn arddel e: weision, ac yn ell dyddanu a dyddanweb yr ienhawdwriaeth. Dydd Linn diweddaf hefyd, darfu i'r gwabanol enwadau Cymreig ymuno a'u gilydd, i gynal cyfarfodydd undebol yn Soar, (rape I yr Annibynwyr,) am 10, 2, a 7 o'r gloch. Dyben y cvfarfodvdd hyn ydoedd cael yr enwadau at eu gilydd i'r un lie, i ofyn am dywalltiad yr Ysbryd Glan; ac nid ydym yn meJciwl fod neb a fu yn y cyfarfodydd uchod, yn amheu nad oedd arddcliad amlwg o weddiau y plant, yn y cyfarfodydd hyn.
ESGORODD,^-,
ESGORODD, Mai 13eg, Ann, gwraig Mr. Benjamia 'l^iomas,. Eryn- Cynen, Llangynwyd, ar ferch. h'l'TcV'o
.PllIODWYD,— ..- 'I
PllIODWYD,— I Mawrth 7, yn nihreswylfod y Parch. W. Albiston Cari»- brook, Maryboruugh, kwstralia, Mr. O. W. Evans, mab Mr. Wni. Evans, Taldrym farm. Llanddewsant, sir Caer- fyrddin, a Elizabeth Ann, merch Mr. James Hocking, Penzance, Coruw&lL X .a n\ lunaie i> t
Y CYTHRUDD EWROPAIDD.
aberthau, a dinystrwyd achos da trwy ddichell- waith y blaid werinol. Gan nad oedd dim i Ra- detzky ei enill trwy ymladd yn mhellach, efe a gydsyniodd i arfataliad ar y 9ed o Awst; adferwyd i Awstria ei hollleoedd a gymerwyd gan Sardinia, a dychwelodd y llyngesi Venice. Daeth yr Awst- riaid yn fuan i feddianu yr oil o'u hen diriogaeth, oddieithr Venice, yn yr hwn le y cyhoeddodd Mazzini werinlywodraeth. Yn y cyfamser darfu i'r werinfa orchfygedig gwympo yn ol ar Rufain, a'r Pnb, wedi ei ddychrynu gan yr anghenfil a alwodd allan, a ymneillduodd i Gaeta. Iihuthr- odd yr Awstriaid ar y cenadwyr Pabaidd, ac eist- eddodd ger bron Bologna; eithr cymerodd y Cad- fridog Cavaignac arno ei hun gyfryngu ar ran y Pab, er i Pio NUllO amlygu blaenafiaeth i'r Aws- triaid. Dechreuodd y flwyddyn 1849 gyda chymhleth- iad adnewyddol; ffodd Due Tuscany o'i wlad, ar y 17eg o Chwelror, ac ymunodd a'r Pab a brenin Naples yn Gacta. Wedi rhyddhau y maes felly, nid oedd ncsnawr waith i fyddin orfawr Awstria lethu y gwrthryfelwyr. Dechreuodd pethau edrych yn fygythiol mewn lie arall, canys er i Awstria a Naples ymbarotoi i osod en byddinocdd mewn symudiad, cyhoeddodd Ffrainc, os byddai i Awstria gyfyngu, y cymerai yn ei herbyn; a dywedai Piedmont yr ystyrid dyfodfa milwyr Awstria i'r taleithiau Rhufeinig yn achos o ryfel. Tan yr amgylchiadau hyn, rhwystrodd y Pab yr anhawsder, trwy alw i'w gynorthwy Awstria, Firainc, Yspaen, a Naples, gan felly osod Pied- mont mewn sefyllfa ledchwith; ac nid oedd gan y brenin ond tori yr arfatalfa gan ymbarotoi i gy- meryd y maes eto yn erbyn Awstria. Aeth Charles Albert i'r maes wrth ben 85,000 o wyr, tra y galluoedd wrth law Awstri 90,000. Ni raid i ni ddarlunio yr holl ddygwyddiadau yn Novara; ymladdodd y brenin gyda gwroldeb mawreddog; ond yr oedd gorchfygiad yn sicr o'i oddiweddyd. Gofynodd am arfataliad, u nacawyd hyny iddo a gorfu arno adacl ei orsedd i'w fab, Victor Emmanuel, y brenin prescnol. Nid oedd .gan yr olaf ddymuniad i barhau yr ymrysonfa, a Radctzky yn ofni myned benben a Ffrainc, os y meddianai ef Turin, a gauiataodd arfatalfa Mawrth 24. Gan gynted a chyhoeddi rhyfel, marchogodd gwrthryfel yn nwydwyllta therfysglyd yn Lombardy ac er y cadwyd attafa ar Milan,. rhoddodd Brescia, ail ddinas Lombardy, yn cynwys 40,000 o drigolion, ,arwydd o wrtliryfel. Ymddaliodd yr amddiffynfa a'i gwarchodhi fechan o Awstriaid hyd nes daeth Hay- nau gyda 4,000 o wyr, ac yna daliwyd y dinasyddion :digynorthwy rhwng dau dan eithr ymladdasant gyda dewder—daeth pob ty yn amddiffynfa, fel, pan gymerwyd y dref, ei dodwyd i fyny i holl erchylldod arswydus anrhaith a thrais. Dyna oedd terfyn y ■ gwrthryfel Lombardaidd. Nid oedd banner rbyddid yn dychlamu mwy trwy Eidal, oddieithr yn Rhufain a Venice; a tlira y gor- i esgynid yr olaf gan Haynau, ymdeithiai y Ffrancod ar Rufain, Ebrill 30, a chawsant el gorthrechu gan .Garibaldi. Am yspaidy mis Meheifn, darfu i warch- i odlu Rhufain, yn cynwys 19,000 o wyr, wrthsefyll byddin gwarchae y Ffrancod, er yn cynwys 35,000: ond rhoddasant i fyny, o'r diwedd, ar yr 2il o'r mis Gerphenaf, pan y meddianodd y Ffrancod eu dinas, yr hon ni adawsant hyd heddyw. Yr un modd y mae Awstria yn meddianu Bologna ac fel hyn y gorfodir y bobl i fod yn dawel. Venice oedd y lie olaf i ddal allan, a chynorthwy- • odd ei gwarchae yn ardderchog hyd i ddechreu Awst: -end y pryd hyny, yr oeddymborth agwnlwch yn dar- fod, ac wedi gwarchae arnynt 24 niwrnod, a'r geri marwol yn eu handwyo, arwyddnodwvd eu hymrodd- iad i amodau Awst 2 caniatawyd deddf ebargofiad -cyuredinol, a dvchwelodd Venice tan reolacth ei hen feistriaid wedi dau wythnos ar bymtheg o wrthryfel. O'r amser hyny hyd Ion. 1, 1859, parhaodd pethau yn ddistaw, fel ewsg. yn Eidal. Cymhellwyd diwyg- jad ar y Pab, a galwyd ar i frenin Naples ystyried ei garolywodraeth: ond ni allai y galluoedd hyn ond «MrynQ y drwg heb gynyg meddyginiaeth. Yn ddi- symwth, daeth yr Amherawdwr Napolean yn mlaen mfcgys pen blaenor cenedl orthrymedig, a dechreuodd ymrafaelio ag Awstria; dechreuad achosol yr hon i; ymrafael sy guddiedig—gan naymostyngodd i siarad. Yr oil a allwn ei dybied yw y dymunai ef yr Awstri- aid allan o Eidal, a dodi Victor Emmanuel—neu efallai y Tywysog Napoleon—ar yr orsedd yn lie Francis Joseph. Nid oes genym sail i feddwl fod pobl Eidal yn dewis Amherawdwr ffrainc, mwy na'r eiddct Awstria; agwelwn fod Awstria yn dal ei gafael yn Lombardy, yn debyg i fel y gwna Lloegr Iwer- ddop. heb gan Ffrainc ond yr un hawl ar y naill ac ar y BaIL Bydd i ddarllen a chofio y bras banes uchod, gyn- norÙlwyO darllenwyr y GWI,ADGARWR, i allu cyfuno yr hanesion presenol a dyfodol gyda yr hyn a fti; ac felly fedru deall yn well am sefyllfa pleidiau yn y gwledydd breision ac annedwydd y rhyfelir ynddynt gan ormeswyr y Cyfandir.