Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
AT Y COSfTRACTOBS. CAP EL LLWTDCOED, ABERVAR. ILIWY bynag a ewyllysia gynyg am y Capel uchodj gallant wele(I y Plans a'r Specifications yn nhy Mr WILLIAMS, LONDON WAREHOUSE, TKECYNON. Bydd raid i'r Tenderi fod i mewn. cyn lieu ar y 30ain o'r mis hwn. Nid yw. y Pwyligoryn yimwymo i'r Tender j,¡1f. HOWEL WILLIAMS, Registrar of Marriages, PANT-Y-GERDINEN, & CANON STREET, ABERDARE. May 17, 18,59. TALHAIARN AC OWAIN ALAW DDYMUNANT yn barphus hysbysu eu bod yn .11 bwriadu taluyiiiweli-Ad a phrit drefydd Gogledd a Delieudir Cymru yn ystod yr Haf presenol, er rhoddi GWLKDD DDIFYRUS, sef NOSON gyda. TAL ac ALAW. Bydd yn gyuwysedisf o Gyfarchiad Agorawl, Adrodd- iadau, Caneuon yn nghyda Piauo Accempammetits, Canu Penillion, &c. Am y manylidn gwel yr Hysbysleni. Personau >ndewis cytuno am y WLRiDl), i ddanfon at Mr. JOHN OVVEN,(Owain Alaw,) Professor of Musicj <'iiesttr. NEWYDD EI GYHOEDDI, DARLITH AR Reddf a Dealltwriaetb, £ » Gumji Rwiii ROBERT REES, LBBDS< PRJS (ch. "DOB Orders am dano i'w hanfon at y Parch. IOHN REES, Aberdar. Unrhyw nitier trwy y Post ar ddeibyniud eu gwerth mewn stamps. ABERDABE Temperance Hall Hotel. COMMERCIAL Gentlemen, and others, will find every comfort combined with moderate charges at the above Hotel. Proprietor, W. T. RAPER, 12 years' Abstainer. COMMERCIAL TERRACE, ABERDARE. HENRY LEWIS'S NEW" show Boons ARE NOW OPEN FOR THE SUMMER SEASONS. BONNETS, MANTLES, SILKS, FANCY DRESSES, PARASOLS, RIBBONS, FLOWERS, &C. FUNERALS FURNISHED ON THE SHORTEST NOTICE. 0 4 Improvers and fi Apprentices wanted to the Millinery and Dress Making.
[No title]
DIDDYMIAD COSPEDIGAETH FARWOL YN TUSCANY. Y mae llywodraeth ddarbodol Tuscany, wrthystyr- ied mai hi oedd y llywodraeth gyntat' yn Ewrop, yn yr hon y diddymwyd cospedigaeth angeuol- wrth ystyried, os adferwyd cospedigaeth angeuol ar ol hyny, cymerodd hyny le pan oedd nwydau politicaidd wedi gorchfygu cynydd gwareiddiad a thynerwch y cymeriad Tuscaidd; wrth ystyried, yn mhellach, er fod cospedigaeth anguol wedi ci hadferu fel hyn, na roddwyd hi byth mewn grym, o herwydd y canfyddiad fod gwareiddiad yn gryfaeh n3 bwyell y dicnyddwr-wedi pen derfynu fod j gosdedigaeth angeuol gaeL ei diddymu..nohivw
FFRAINC.
FFRAINC. Ymadawiad yr Amerawdwr. Ysgrifena Gohebydd y Daily Telegraph fel y canlyn am ymadawiad yr Amerawdwr o Paris Parodd ymadawiad yr Amerawdwr oddiyma i Italy gryn frwdfrydedd yn y ddinas lion y ddoe. Yr oedd yr holl ffordd o'r Tuileries i Orsaf Rheil- ffordd Lyons wedi ei phalmantu a dynion, fel mai o braidd y gallai cerbyd yr Amerawdwr ymsym- ud rhagddo. Yr oedd y bonllefau a'r gorlawenydd yn ddibaid-nis dygwyddodd golygfa gyffeIyber 1851. Ymddangosai crynswdd y bobl yn gweith- redu megys un dyn—nis gwelidyn eu plith yr un petrusder, gwahaniaeth, nac anghytundeb. Mae yn wir fod rhai yn cadw ar y naill ochr; ond safai y rhai hyn yn fud-ofnpnt yngan gair. Gweithredai yr holl dorf fel un dyn. Dyma Ffrainc unwaith drachefn yn ymgymeryd a chadgyrch ogoneddus-unwaith drachefn dyna Napolion yn gadael Paris yn mhlith llumanau gorfoledd, ac i ddychwelyd yn fuddugol gyda choron gwron ar ei ben. Dyma y syniad a feddianai ddinasyddion Paris un ac oil yr wvthnos ddiwedd- af; nid oedd yr amheuaeth lleiaf yn meddwl neb yn nghylch llwyddiant y gadgyreh-nis amheuid dim gyda golwg ar onestrwydd a theilyngdod yr am- can—nis gwnaent unrhyw ragolygiad ar beryglon yr anturiaeth, ystyrient y cyfau yn achos cyfiawn.
:,.,"Y RHYFEL.
Y RHYFEL. XMynegleH Swyddogol.) Derby niwjd y Telegram canlynol yn Swyddfa Mr. Router:-— • RAGUSA, Mai 10.—Mae y gadlong Triton, yn perthyn i Awstria, gwedi ei chwythu i fyny. Yr oedd y Cadben ar y tir ar y pryd. Mae yr holl gelled tua phedwar ugain. TURIN, Mai. 12.—Derbyniwyd manylion yA nghylch dyfodiad yr Amerawdwr i Genoa. Yr oedd y cychod ar ei dderbyniad yn llawn addurniadau, a chroesawid ef gan y gwyddlodolion gyda'r llawenydd mwyaf. Yn nghwrs y dydd bu yn adolygu rhai milwyr-acth i'r chwareudy yn yr hwyr. Telegram arall a fvnegai:— TURIN, MAl 12.—Dysgwylir yr Amerawdwr yn Genoa am 12 o'r gloch heddyw. Ymadawa Count Cavour i Genoa heno. TURIN, Mai, 13.—Mynegir o Genoa fod yr holl dref a'r porthladd wedi ei claeroleuo y ddoe. Bu yr Amerawdwr a'r Tywysog Carignano yn y chwareudy, a chawsant dderbyniad brwdfrydig gan y lluaws. Bore heddyw aeth Brenin Sardinia i Genoa i ymweled a'r Amerawdwr, ac a ddychwelodd drachefn i'w brif wersyllfa am 9*30 bore heddyw. BERLIN, Mai 14.—Cauwyd eisteddiad y Diet heddyw am 12 o'r gloch gan y Prince Regent ei hun; ac ar yr achlysur efe a wnaeth araith i'r perwyl a ganlyn:— Mae y rhyfel, yr hwn yr ymdrechwyd ei atal gan fy llywodraeth, ond yn aflwyddianus, wedi ymdori allan yn Itali. Mae cyflwr peryglus pethau gwedi peri gosod y fyddin yn barod i ryfel, yn gystal y morfilwyr a'r tirfilwj'r. Mae cyflwr ac ysbrvd y fyddin y fath ag i greu pob ymddiried. Gan nad beth gynyrcha y dyfbdol, nis caiff ein gwlad syrthio yn fyr o ogoniant milwrol cyntefigein teidiau. Penderfyna Pi-weia i amddiflyn seiliau hfnvliáu a chyfartaliad nerth yn Ewrop. Hawl a dyljed- swydd Prwsia yw sefyll i fyny dros gadarnhad, dyogelwch, a buddianau cenedlaethol Germani; ac nis ymwada hi a'r pethau hyn. Dysgwyliai Prwsia i holl alluoedd Germani sefyll yn gadarn o'i thu dros gyflawniad yr amean hwn; ac hydera y bydd ei pharodrwydd i am- ddiffyn Gwlad ei thadau yn teilyngu eu hymddiried. Fel yr oedd 600 o Awstriaid ar eu taith tua Piacenza, hwy a feddianasant Revergaro ar ymyl afon Trebbia. Mae y prif wersyll yn Bobbio. Dygwyd y clwyfedigion i Occimiano. BEKLIN, MAl 13.—Pleidiwyd y eyflenwad i'r Llywodraeth yn unfrydol, gyda chryn amlygiadau o ymddiried. Yr oedd y llafarwyr yn wrth- Napoloniaid, a thros Geimani. FEANKFOBT-ON-MAINE, MAi 13.—Mewn eist- eddiad hirfaith y Federal Diet heddyw, cytunwyd yn unfrydol i osod y fyddin mewn cyflwr parod i ryfel. iri Mae y mynegion canlynol wedi eu derbyn:— TURIN, MAl 14.-Mae yr Awstriaid wedi ym- adael a Bobbio; ac y mae ein llywydd wedi gyru yn mlaen blaid arall o yspiwyr mor bell a chaerau Yercelli; ond heb fod dim yn well, gan na safodd y gelyn ei dir mewn un modd. Mae yr Amerawdwr wedi gwneyd ei brif wer- syllfa yn Alessandria. Ymdeithiodd drwy y dref ar geffyl, gyda General Canrobert. Ymddangosai yr heolydd megys ar ddydd gwyl, gydag amlyg- iadau o lawenydd a gorfoledd. Aeth y Brenin i gyfarfod a'r Amerawdwr. VIENA, MAl 15.—Ceffiry canlynol yn y Wiener Zeitunq am y ddoe:- Gan fod llongau masnachol Sardinia yn mhorth- -laddoedd Awstria gwedi eu gadael yn llonydd, tybiasai Awstria y buasai Sardinia yn gwneyd yr un fath a llongau Awstria. Ond gan na wnaed felly yn Sardinia bydd yn rhaid i Awstria o hyn allan wneyd yr un fath. TURIN, Mai 15.—Maepont Stella gwedi cael ei bygwth gan yr Awstriaid. Mae y Po gwedi ymchwyddo. Gorfodir gwragedd a phlant drwy y wlad gan y gelyn i weithio gyda'r gorchwyl- ion. Mae Maer Barbianello-pentref yn Alessan- dria — a Maeron ereill o Dalaith Voghera, gwedi cael eu cymeryd i fyny, am nacau cynorth- wyo yn eu cyfraniadau. Mae gweithwyr Awstriaidd yn ymgynulledig ar ochr dde y Po, a thua phont Stella; ac ereill yn ymgynulledig rhwng Broni a Stradella. TURIN, Mai 16.—Mae yr Ymerawdwr o hyd yn Alessandria gyda'r Cadfridogion yn ffurfio cynllwynion yn nghylch y rhyfel. Mae y canlyn yn swyddogol am yr un dydd:- Cyfarfu dosparth o'n marchogion yn ddiweddar a dosparth o'r Hussars Awstriaidd ger Voghera, ac a gymerasant yn garcharorion un corporal clwyfedig a rhai milwyr cyffredin. Enciliodd yr Awstriaid o Voghera i Casteggio. Mynegir y Gazetta di Bologna yn swyddogol fod Awstria gwedi cydnabod anmhleidiaeth Tal- eithiau yr Eglwys. TRIESTE, SUL, Mai 15.-Mae yr agerlong Seis- onig fasnachol Douro, gwedi cyrhaeddyd gyda'r East Indian Mails ac ymfudwyr. Pan yn pasio Aolona, yn Nhwrci, byrddwyd hi gan wyr cychod cadreslong Ffrengig. Mae llongau Ffrainc wedi cymeryd i fyny bedair llong fasnachol i Awstria. TlUESTE, Mai 17.-—Prydnawn ddoe yr oedd llynges Ffrainc o flaen Venice. Cynwysa y Moniteur am heddyw y canlynol;— ALESSANDRIA, Mai 16.—Mae wedi gwlawio yn ddibaid dros y ddau ddiwrnod diweddaf; ond nid yw y tywydd gwlyb wedi rhwysto ein catrodau i gymeryd y safleoedd bwriadedig gan yr Ymerawdwr, prif wersyll yr hwn o hyd sydd yn Alessandria.