Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BRAD Y SEPOYS.

News
Cite
Share

BRAD Y SEPOYS. CigiMLYCMAI) 0 M. J. EEKTM.] PENOD XVIII. GADAWSOM Mrs. Lloyd, Helen Edwards, High- land Jessie, Jeffur, y Cymro a'r Gwyddel, ac ereill, tnewn carchar, yn ngafael Loll Tall, ac yn dys- gwyl dyfodiad Nana Sahib yno. Yr oedd y nos wedi dechreu mantellu v lie, a phruddglwyfedd dwys yn teyrnasu yn nghell y earcharorion. Y Banerydd ieuanc oedd y cyntaf i aiarad. 'Wel, Jeffur Khan,' ebe fe, 'beth sydd i'w wneyd 'rwan! A ydyw y wyfren a ddododd y diafliaid yna am dy arddwrn yn bwyta i dy ^nawd ?' Y mae yn boenus yn wir,' atebai Jeffur. Mi dybiwn ei bod. Mae'n debyg ei bod yn y pen am ein cyfeillion yn y deml, neu y gell agosaf atom.' Ochencidiodd y dyn ieuanOoj a dywedodd, 'Dru- an o Anstey!' 'Paid digaloni,' ebe Jeffur. 'Y maentynfyw. Olywais orchymyn yn cael ci roddi i'w barbed hyd nee deuai y Nana Sahib.' Ai ê?' --campus! Tra fo anadl dyn ganddo, i esgyrn heb eu tori i gyd, gall wneyd rhyw- beth drosto ei hun ac ereill.' Gall. Ond siarad yn is. Nis gwyddom pwy all fod yn gwrando.' Gwir. Tan a dwymno'r fileiniaid Jeffir/ ebe Helen, a oes gobaith ? Gobaith ?—oes, ddigon, fy anwylyd. A yr ydvch wedi eich ateb. Gwrandcwch!' Ulywyd llais dystaw, main, megia o bell, yn dywedyd—' A feiddiaf fi siarad ?' 'GeUwch,-O, gellwch!' meddai Helen. Ai ehwi sydd yna, anwyl Jessie ?' 'Nid mor uchel,' meddai Jeffur. I Byddweh •falus!' 'Y gyllell?' ychwanegai Jessio- y gyllell? A yw hi genych ?' Ydyw, ngeneth i,' ebo'r Cymro, Mae hi yn ly safn i, ond nis gallaf wneyd dim a hi.' Ie Mi ddeuaf i lawr atoch—os gallaf.' '0, na, na, Jessie,' ebe Helen; 'paham y rhaid i chwi beryglu eich hun er ein mwyn ni ?' 'A ydych chwi yn meddwl y gallwn i eich gadael ? atebai Jessie, yn ddystaw. 'Nid ydych yn fy adnabod. A feiddiaf fi neidio i lawr oddi yma?' Na, na!' meddai Jeffur. Peidiwch mentro. Gallech ysigo asgwrn. Ni a scfwn yn syth o dan kanol berthynasau ydynt fel y canlyn ;-saith nierch, saith yragorfa yn y to, a gellwch ddysgyn ar ein eofuau ni.' Purion. Y mae gonyf fatses—allaf fi fentro 8U goleuo ?' Gwell peidio. Y mae cynifer o holltau yn y parwydydd. Yn awr fechgen, gadewch i ni ei chy- northwyo i ddysgu, canys nid oes neb arall a all ftD gwaredu. Yn awr, un deg,-ni a safwn yn ddigryn. Dysgyn.' Yn awr!' ebe Jessie. Dyna ysgydwad dillad, a Jessie yn dysgyn mor ysgafn a cholomen, o 4o'r adeilad, ar ysgwyddau'r tri dyn. Yna neid- iodd i'r llawr yn yagafh a gwisgi. Rhcdodd Helen ati, a chusanodd ei boch, gan adael deigryn perlog yno. Yna mewn llais yn erynu gan deimlad, dywedodd Jessie—'Rhodd- web i mi y gyllell!' Aeth Taffi, ati, a dywedodd, Cymerwch hi, fenyw ddewr, a rhyddewch y boneddigesau yna jyntaf—gallwn ni ara8.' Aeth Jessie at y gwaith o ddifrif, ac yn fuan hi dynodd y wyfrcn oddiam arddwrn Helen, er us gallai beidio tiri peth ar ei chnawd wrth wnoyd hyny. Gwelwyd goleuni trwy hpllt y parod, a chlyw- wyd trwst cerddediad yn dyfod at yr ystafell. Cofiodd Jessie fod y drws yn agor tuag i fewn, a neidiodd o'r tu ol iddo. Agorwyd y drws gan Sepoy, ac felly yr oedd Jessie yn cael ei chuddio. Daliai y Sepoy lamp yn ei law. Edrychodd o'i gwmpas, a dywedodd—'Un, dau, tri, pedwar, pump. Purion. Cewch fwyta baw, y fory, feibion a merched Satan!' Aeth ymaith, gan folltio y drws o'r tu faes. Yn awr, Jessie, am un cais arall,' ebe Jeffur. Rhyddhawch ni, angyles-yn fuan Paid a fy ngalw i yn angyles,' meddai Jessie. Nid wyf fi ddim ond geneth Ysgotaidd isel a gostyngedig, ac yn ymdrechu gwneyd fy nyled- swydd.' Yna aeth Jessie at Jeffur, a thynodd y wyfren oddiam ei arddwrn yntau. A! yr wyf yn rhydd,' ebe Jeffur. Yr wyf yn rhydd! Rhoddwch y gyllell i mi, ac mi a ryddhaf y lleill. Bendith ar eich gwaith da!' Yn mhen ychydig eiliadau, yr oedd traed a dwy- law y cyfan o honynt yn rhyddion. Gwelwyd goleuni drachefn trwy yr hollt. 'Wyddoch chi beth a -naf ?' gofynai Tafli. Mi a af at y drws, a chyn gynted ag yr estyn yr hen dd—1 yna ei ben i fewn, mi a daraf un law ar ei safn, a chydiaf yn ei wddf a'r llall, ac ni ddywed yr un gair byth wedyn yr ochr yma i'r bedd. Y mae ganddo arfau, a chofiwch chwi eu cymeryd oddiarno.' Campus!' ebe'r Banerydd. Minau a ddi- ffoddaf ei lamp, meddai Jeffur, a phan ddaw ryw wyliwr arall at y drws, mi a ddywedaf, yn eu hiaith hwynt eu hunain, fod pob peth yn dda.' '"Wei,' ebe'r Banerydd wedyn; 'minau a dyn- af y follt sydd o'r tu fewn. Yna, os cawn haner awr o lonyddwch, gall pob peth fod yn dda.' Yn mhen enyd dacth Sepoy arall at y drws. A oes ryw fwstwr yna?' efe a ofynodd, gan estyn ei ben i fewn. Dyna y gair olaf a yngan- odd byth yn y byd hwn. Neidiodd Jeffur at y lamp, gan ei chipio o'i law; a'r un foment gafael- odd y Cymro yn ei wddf, gan ei wasgu i angau. Dyogelwyd y drws o'r tu fewn. Crynai Helen a Mrs. Lloyd fel dail, pan oedd hyn oil yn cy- meryd lie ond ni pharhaodd y cyfan ddim dros fynyd; a-phan oedd pob peth drosodd, yr oedd Mrs. Lloyd yn wylo. Peidiwch wylo!' meddai Jessie, I y mae pcthau fel hyn yn anocheladwy. dan y fath amgylchiadau ag yr ydym ni ynddynt. Bywyd am fywyd!' Yn awr, rhaid i ni dreio ffoi.' 'Aroswch! ebe'r Banerydd. 'Pa le y mae Anstey ? Nid wyf fi am ffoi hebddo ef.' A Padi ebe'r Cymro. P'le felldith y maent wedi ei ddodi yntau ? Ust!' meddai Jeffur. I Y mae rhywun yn siarad yn yr ystafell nesaf.' Dododd pob un o honynt eu clustiau wrth y pared pren, a chlyw- ent Padi yn arllwys melldithion ar enwau y Sepoys. Ac yna gofynodd, Sut yr ydych yn awr, Syr ?' Ochenaid drom oedd yr unig ateb. Dyna An- stey,' ebe'r Banerydd. Nid oedd dim ond rhes o ystyllod teneuon yn gwahanu -y ddwy ystafell oddiwrth eu gilydd. Mi a'u rhyddhaf cto ebe Jeffur. A chyda'r cleddyf, y ddagr, a'r fidog, a gafwyd ar berson y Sepoy a lindagwyd wrth y drws, aeth y tri dyn ati i symud yr ystyllod, ac i wneyd nbrdd i fyned at y G wyddel a'r swyddog. Pan glywodd y Gwydd- el y twrw, efe a waeddodd, Mwrdwr! Y mae'r paganiaid yn dod! Melldith eich Mamauarnoch! Nid oes dim llonydd i ddyn gael ar ol marw fel hyn!' Siarad ti ag ef!' ebe Jeffur wrth y Cymro. Mac yn adnabod dy lais! Dododd Taffi ei enau ar yr hollt a wnaethpwyd, a dywedodd, Pat! Pat! cau dy geg!' I Esgyrn santaidd!' ebe Pat. A phwy wyt ti?' Taw, y ddylluan wirion. Dy hen bartner- Taffi!' 'Nage!-Ie'n wir P ,'Dal dy dafod, rwan.' All right Byddaf. mor ddystaw a dryw back mewn nyth, er fod fy mhen lie dylai fy nhraed i fod, ac nid yw hyny yn bur hapus.' Tra'r oedd yr ymddyddan yna yn cymeryd lie, yr oedd Jeffur a'r Banerydd yn prysur symud yt ystyllod. Wedi ymdrech galed, Uwyddasant i wneyd agorfa. Aethant at Pat, gan dori ei rwymau. Yr oedd yn anhawdd cael galiddo beidio neidio, a dawnsio, a chanu, a gorfoleddu. Ya mhen enyd, cafwyd hyd i Anstey, a rhyddhawyd yntau. Yna aethant i'r ystafell arall, lle'r oedd Jessie a'r Cymro wedi bod yn brysur yn tynu YII- tyllod, ac yn eu dodi i fyny tua'r twll yn y to trwy ba un y daeth Jessie i lawr. Campus!' ebe Jeffur. Dyna gynllun rhagorol. Credaf y gall- wn ddianc yn awr.' Ond cafodd y dynion drafferth fawr i helpu'r boneddigesau i fyny'r ystyllod. I fyny yr aeth- ant, pa fodd bynag. Bu raid i'r dynion neidio i lawr, oddiar y to, a'r boneddigesau wneyd yr un peth, ond fod y dynion yno yn barod i'w dal. Erbyn hyn yr oedd y gwylwyr wedi deall sut yr oedd pethau. Curid tabyrddau, a galwyd y milwyr yn nghyd. Yr oedd llais Loll Tall i'w glywed yn amlwg. Rhedwn ebe Jenur.—' At yr afon!' Rhed- asant at yr afon, a chawsant yno fwthyn bychan, gwael, a bad yn ei ymyl. (Vw barhau.)

HUNANLADDIAD HYNOD.