Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

HANES GOGINAN.—III.

News
Cite
Share

HANES GOGINAN.—III. TRAJSTHAWD BUDDUGOL IVIEWN CTFABI-OO LLENYDDOL, CHWEFEOK 16, 1906. GAN WILLIAM EVANS, C.S., PONTEBWTD. Nis gallaf ymatal heb roddi ychydig baeli o hanes y Morganiaid o Felingraig. Dyma, nifer o wyr grymus, wedi cael eu dwyn i fynu ar hen aelwyd grefyddol, ac a ddaethant yn golofnau cedyrn gydag achos crefydd. Aeth Ebenezer a William yn bregethwyr gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd, a gwnaethant waith mawr gyda'r enwad parchus hwnw. Y mae William eto yn fyw, sef y Parch William Morgan, Erwyd House, Aberystwyth, hwn sydd yn awr tua 82 mlwydd oed. Cafodd John a Dafydd ei gwneyd yn flaenoriaid gyda'r un enwad eto. Y mae un chwaer iddynt eto yn aros, mewn oedran teg. Yn Hen Felin Bonterwyd yr oedd eu tad a'u mam yn byw wedi iddynt briodi, ac yno y ganwyd y rhan fwyaf os nad yr oil o'r plant. Buasai yn hawdd nodi llawer tu a llawer teulu eto, ond amser a balla. Ar ol taflu golwg ar yr ardal, y pentref, a'r trigolion, mi sylwaf yn yr z! II. Le ar y DIWIDIANAU, neu y tnoddion cyn- haliaeth oedd gan y trigolion, yn benaf trigolion y pentref. Y mae hwn yn bwnc pwysig. Beiir ami un am fod o nifer disgyblion y torthau ond y mae yn rhaid wrth y dorth, a dyna sydd yn gwneyd lie yn boblogaidd ydyw y fantais i gael y dorth. Beth sydd yn gwneyd siroedd Forganwg a Mynwy raor boblogaidd yn awr ydyw y cyfleusdra i enill y dorth. Felly, hefyd, fe fu yr ardal hon, a'r ardaloedd o gwmpas, yn enwog fel lleoedd i enill cynhaliaeth. Nid o'r ychydig ffermydd a nodwyd yr oedd y rhai hyn yn cael angenrheidiau bywyd. Na, pe bai pob llathen o dir oedd yn y gyindogaeth yn cael ei drin fel paradwys ni byddai yn ddigon i chwarter y trigolion. Yr hyn ddygodd v fath nifer o bobl i'r lie, a'r hyn a'u cynhaliodd am flynyddoedd, oedd y mwnfaoedd. Un hynod oedd y ganrif ddiweddaf am yr ymgais a wnaed i gloddio al]an drysorau o hen fynyddoedd Cymru. Felly hefyd am y rhan hon o Gymru. Mawr y cloddio a'r tyllu fu yn y mynyddoedd a'r bryniau o gwmpas. Prin y gwelir mynydd na bryn nad ydyw yn llawn creithiau a thyllau. Ond yr hen fynydd y Castell, ger Goginan, y bu y cloddio mwyaf o un lie yn agos yma. Wrth edrych ar y tyrau mawrion o ysbwrial sydd i'w weled, a'r olion yn yr hen waith hwn, a meddwl faint y mae y llifogydd wedi gario ymaeth, fe ellir tybied fod yr hen fynydd yn wag i gyd o fewn. Efallai mae gwaith Goginan a gwaith Cwmystwyth ydyw y rhai hynaf yn Sir Aberteifi. Y mae sicrwydd fod y Rhufeiniaid wedi bod yn gweithio yn y naill a'r Hall o honynt. Y mae yr hen fwnwyr yn adnabod tyllau y Rhufeiniaid yn rhwydd. Y mae yn bosibl felly fod yr hen waith hwn yn agos i ddwy fil o flynyddau o oed. Daeth y Rhufeiniaid i'r wlad hon c.c. 50, a buont yma yn bur lluosog hyd o.c. 410. Folly rhaid fod gweithio wedi bod yn y gwaith hwn rhwng y blynyddoedd a nodwyd. Y mae yr olion hefyd yn profi eu bod wedi gweithio am amser hir yn yr ardaloedd hyn, oblegid fe geir eu holion mewn Iluaws o fanau eraill. Bu canoedd lawer o fwnwyr yn gweithio yn ngwaith Gogigan am flynyddoedd, a chariwvd miloedd lawer o dynellu o fwn plwm ymaith i'r farchnad oddi yma. Diwrnod hynod iawn oedd diwrnod y talu yma- Y dydd y byddai y gweithiwr yn derbyn ei dal, ie a'r dydd y bydda llawer o bobl nad oedd wedi gweithio dim, yn ystyr fanylaf y gair, yn derbyn mwy o gyflog na haner dwsin o'r gweithwyr caletaf. Yr oedd dydd y talu yma yn ddiwrnod ffair, a ffair pur fawr hefyd. Yr oedd canoedd o bobl yn bresenol y prydnawn hwn, a'r oil wedi dod i wyneb y ddaear. Rhai newydd ddod o gromliil y ddaear, ac eraill wedi ymdrwsio, ac yn ba rod ar ol derbyn y tal i fyned i vmweled a'u teuluoedd. Yr oedd yma shiopwyr o bob math yn dod i gymeryd archebion am nwyddau gan y cwsmeriaid ly 11 da, ac i wylio rhag i ambell gymeriad dipyn yn rhydd redeg a'i dal i ffwrdd, a hwythai yn cael colled. Byddai teilwriaid yn dod a samplau o frethynau, a'r cryddion yn dod i gymeryd m^surau am esgediau, a ceid gweled y cigydd yno. Hefyd byddai ysdondinau o fan nwyddau a chacenau, a phob math o fan bethau at ddenu plant. I) bob peth oedd yno i'w weled, mi gredaf mae yr olygfa orau oedd cael golwg ar y gwahanol gadbeniaid a'r holl swyddogion o bob math. Hawdd oedd gwybod ei bod yn cael bendith ar eu bwyd. Nid oedd yr un llesg yn eu plith. Sicr fod aniryw o honynt yn pwyso o ddau gant a haner i dri chant. Hawdd gweled pwy oedd yn cael y brasder. Ond, wedi'r cyfan, yr oedd rhai o honynt yn bobl pur cida i weithio iddynt. Pan ddechreuodd y lie fyned yn boblogaidd cyfodwyd dwy siop yn y pentref, a man siopau gyda hyny. Cyfodwyd un gan John Sylfanus, nc adwaenid hi am flynyddau wrth yr enw Shiop John Sil. Y fwyaf o gryn lawer oedd un a godwy d gan Griffith Williams, a Shiop Griffith y gelwid hono. Fel yr awgrymwyd yn barod, cafwyd trysor lawer allan o hen fynydd y Castell, a bu hyny yn gefnogaeth i'r cwmni barhau i gadw y gwaith i fyned yn mlaen am lawer o flynyddoedd, fel y bu ugeiniau lawer o weithwyr a'u teuluoedd yn cael eu cynhaliaeth am amser hir. Heblaw gwaith Goginan yr oedd mwnfeydd lawer eraill o gwmpas yr ardal, megys gwaith y Bwlch, gwaith Blaendyffryn, Lefel y Rhyeh, gwaith Cwrnbrwynog, gwaith Tynpwll, Owmerfin, Cwmsebon, Cwmshop, &c. Ond nid oedd yr oil o'r mwnfeydd a nodwyd yn cael eu gweithio yr un pryd. Cychwynwyd rhai lawer o flaen y Jleill, a pharhaodd rhai i weithio am amser hir wedi i bob olwyn beidio troi mewn rhai eraill. Byddai anadl ambell gympeini yn dal yn bur hir, tra fyddai cwmnioedd eraill yn cau y gwaith i fynu yn y man os na fyddai yn fantais i'w pocedau hwy i'w gadw yn mlaen. Fe barhaodd y gweithfHydd. a nodwyd i gadw digonedd o waith am atnsrr hir i drigolion yr ardal, ac hefyd i lawerodd o ddieithriaid a ymdyrent i'r lie i gael enill eu cynhaliaeth. Ond fe ddaeth tro ar fyd, a hyny i raddau yn sydyn. Prinhaodd y trysorau yn y ddaear, ac heblaw hyny cwympodd ei bris yn y farohnad, felyr aeth y mwnfeydd i beidio talu i'r perchenogion. 0 ganlyniad gorfod cau llawer o honynt i fynu yn hollol, a chadw llai o ddwylo yn yr ychydig oedd yn para i weithio. Bu y pethau a nodwyd yn foddion i wasgaru y trigolion, rhai i Lundain, rhai i Morganwg, eraill i ogledd Lloegr, a lluaws i'r America. 0 Cyn gadael matery mwnfeydd mi nodaf ychydig o bethau a ymddangosant i mi fel rhesyma pahara y cauwyd i fynu y gweithfeydd mwn, fel y maent yn hollol diwerth hyd heddyw. 1. Fel y nod ivyd i- n barod, gostyngodd pris y mwn yn y farchnad. Bu adeg pan werthid mwn Goginan. am .£25 y dynell, a mwn Cwmsebon am £ 26 neu .£27, ac yr oedd y mwn plwm o'r gweithfaoedd oil yr adeg hon yn gwerthu am o X20 y dynell i fynu, ond wedi i bethau gyfnewid daeth y pris i lawr i tua X6 neu X7 y dynell. Prif achos y gostyngiad oedd fod plwm o wledydd eraill yn dod i'r wlad hon am bris hynod o rad. 2. Achos arall tra phwysig oedd gwastraff ar arian y cwmnioedd gan y rheolwyr, y cadbeniaid, a'r bobl hyny sydd yn gwneyd ac yn gosod y peirianau i fynu. Byddai miloedd o'r arian yn cael eu gwario ar y wyneb i osod y machinery i fynu, cyn gwybod dim nac yn wir geisio gwybod, beth oedd i'w gael dan wyneb y ddoear.

Advertising

DYDD GWENER Y GROGLITH.

Advertising

YSTRAD MEURIG.

Advertising