Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

) CONGL Y CYMRY. 1

News
Cite
Share

) CONGL Y CYMRY. 1 EGLWYS ANIBYNOL Y TABERNACL, BARRI DOCK, I YN EI HADDOLDY NEWYDD. Boreu Sul diweddaf ymgynullodd eglwys y Tabernacl, Barri Dock, am y waith gyntaf yn ei haddoldy newydd gwych. Mae'r adeiladwaith yn llewyrchu clod ar yr adeiladwyr, ac hefyd ar yr hen dad hynaws a charedig, Mr Jenkin Meredith, yr hwn oedd goruchwyliedydd y gwaith, Pan yn eistedd yn y capel, teimla un yn anadlu yn rhwydd ac iachus. Yr oedd yn bresenol foreu a hwyr y Sabboth diweddaf gynulleidfa luosog a boneddig- aidd. a synais wrth weled cynifer o blant a phobl ieuainc yno. Wrth eu gweled nis gallaswn lai na thremio i'r dyfodol aneglur, a dychmygwn weled yr ugeiniau plant wedi cyrhaedd aeddfedrwydd, ac yn gosod eu hysgwyddau cedyrn dan yr achos, pan fydd yr hen dadau sydd yno yn bresenol yn ym- neillduo er mwyn uno y mwyafrif mawr. Dylasai ewyllyswyr da y Tabernacl fod yn ochelgar iawn rhag i'r plant yma ymadael a myned i'r gwahanol addoldai Seisnig sydd yn ein tref. Er sicrhau yr amcan hwn, rhaid yw i Gymry r Tabernacl ddysgu Cymraeg i'w plant ar yr aelwyd gartref, onite rhaid yw i un o ddau beth ddigwydd—i'r plant adael y Tabernacl, a myned i addoldai Seisnig, net iddynt fynychu y Tabernacl, heb dderbyn unrhyw les, o herwydd anallu ieithyddol i ddeall a chymeryd rhan yn y gwasanaeth. Anrhaethol well fyddai i'r rhieni i ddanfon eu plant at y Saeson na'u dirgymhell a'u gorfodi i fyned i fan lie na dderbyniant unrhyw les. Yn ol cwrs naturiol pethau, bydd rhif yr eglwys, yr hon sydd yn awr tua dau cint, yn mhen rhyw bedair neu bum' mlynedd, wedi mwy na dyblu. Pan ddaw yr adeg hono. bydd yr eglwys fawr yn edrych yn ol gydag edmygedd a phleser ar waith yr ychydig frodyr fu yn ddigon pen-oleu i weled fod angen capel Anibynol yn Barri Dock, ac yn ddigon gwrol ac anturiaethus i lanw yr eiaiau drwy fod yn flaenllaw i sicrhau y fath adeilad cyfleus a dymunol. Mae'r rhan fwyaf, os nad yr oil, o'r goreugwyr hyn wedi byw i weled llwyddiant eu llafur. Ni thai i laesu dwylaw, er hyny, oblegid deallwyf fod pwn pur drwm o ddyled ar yr eglwys, ond os dangosa yr aelodau ac eraill ym- drech, diwydrwydd, ac ymddiriedaeth deilwng o Gristionogaeth, ysgafna y baich heb fod yn hir, a daw yr iau yn ysgafnach a mwy dymunol i'w dwyn. Mae offeryn cerdd ardderchog wedi ei sicrhau, a chwareuwyd yn ddeheuig gan frawd ieuanc o Gaerdydd. Er ond yn ganwr pur glytiog fy hnnan, mentraf ddweyd fod y capel yn lie braf i ganu ac i siarad, ac yr oedd emynau y cysegr yn swnio yn soniarus y Sabboth diweddaf. Mewn ambell i gapel, ceir yr offeryn i'w glywed yn fwy eglur na'r gynulleidfa. Nid wyf yn hoffi hyn, am fod acenion toredig a chrynedig calon ddrylliog yn cyrhaedd yn llawer uwch na'r gerddoriaeth offerynol felusaf. Y Parch T. C. Morris, Ton, Ystrad, gafodd yr anrhydedd o bregethu am y waith gyntaf yn yr adeilad newydd, a phregethodd yn deilwng o'r anrhydedd. Ni wnaeth fel yr hen frawd hwnw gynt ar nos Lun cyntaf yn y mis, sef rhoddi allan yr emyn:- Y Sabboth hyfryd wyl yw hon, ond yr oedd y canu, darllen, gweddio, a'r pregethu yn addas a chymhwys. Wrth ddechreu y gwas- anaeth boreuol rhoddodd allan yr emyn :— I'th enw Di, 0 Arglwydd mawr, Ty gweddi'n awr agorwn; Ac yma gyda llawen fryd, Dy fawl a gyd-ddyrchafwn. Gan fy mod wedi mynychu eglwys y Tabernacl am amser maith bellach, ac o ganlyniad bron pob gwyneb yn gynefin i mi, synais wrth weled cynifer o wynebau dyeithr yn bresenol ar y Sul, a bum bron a chredu fy mod wedi gwneyd camgymeriad drwy fyned i addoldy anghyfarwydd. Diamheuol ydyw fod yn dda gan yr aelodau weled cynifer o ddyeithriaid, yn foneddigion a boneddigeaau, yn bresenol, a phrofa hyn mai eisiau lie cyfleus i addoli oedd arnynt-gan fod yr hen addoldy wedi myned yn rhy fach, mewn gwirionedd, i gynwya rhyw lawer o ddyeithriaid—neu fod yno Anibyn- wyr o eglwysi eraill. Os yr olaf, gorwedda un perygl yn y cyfeiriad hwn-hyny yw, trueni o'r mwyaf fuasai gweled aelodau a gwrandawyr yn gadael eglwysi gweiniaid Cadoxton a Barri, er mwyn dyfod i'r Tabernacl, o herwydd ni fuasai hyny yn ddim ond gwneyd y gwan yn wanach; a thaedd pob gwrol, yn enwedig y Cristion gwrol, ydyw llochesu y gwan, oblegid gall eiddilyn digalon a llesg ymdaith ac ymladd gyda'r cadlu cref. Gobeithio y cymerir yr awgrym hwn mewn ysbryd tangnefeddus, gan nad oes ond lies cyffred- inol yr enwad Anibynol mewn golwg, oblegid pe buasai sefydlwyr y Tabernacl wedi gweithredu ar yr egwyddor o adael y gwan i drengu. ni fuasai eglfrys y Tabernacl mewn bodolaeth o gwbl. Deallwyf fod y rhan fwyaf, os nact yr 011, o r seti wedi eu neillduo eisoes. Mae llawer o wrandawyr a mynychwyr achlysurol yn dyfod bob Sul i'r Tabernacl, a chredwyf mai buddiol fuasai neillduo ycbydig seti yma ac acw er mwyn rhoddi cyfle i wrandawyr a dyeithriaid nad ydynt eto wedi sicrhau eisteddleoedd i gael mwynhau yr hen, hen hanes. Buasai hyny, i'm tyb i, yn well na phenodi pedair neu bump o seti yn yr un rhan o'r capel i wrandawyr yn unig, gan y byddid drwy hyny yn rhoddi iddynt wedd ysgymunol. Bodola y drefn hon mewn rhai eglwysi. Hefyd, mae ysgol Sul yr eglwys hon yn deilwng o sylw. Rhifa yn awr tuag wyth ugain, ac y mae yr ymdrech wneir er cael rhif yr ysgolheigion i ddau cant yn ganmoladwy iawn. Clywais Mr Meredith, ychydig Suliau yn ol, yn dweyd ei fod wedi bod yn aelod o'r Ysgol Sabbothol am dros ddeugain mlynedd, ac y mae ei zel a'i frwdfrydedd yn ffrwyth teilwng o'r tymhor maith hwn. Un peth yn unig a wna y ddiaddell yn ddiddos, sef cael bugail ymroddgar a gweithgar, yn berchen ar ben goleu, teilwng o ddiwedd y ganrif hon; calon yn dyheu am wneyd daioni; ac un ag ysbryd i weithio fel pe buasai y tal yn dyfod iddo yn mhen ychydig ddyddiau, yn lie y can' cymaint yn y byd a ddaw hefyd, cydweithrediad ar ran pob aelod gyda'r cyfryw fugail. Bydded y llwyddiant ysbrydol yn gyfatebol i'r llwyddiant tymhorol ydyw dymuniad UN AR Y TROTHWY. + BARDDONIAETH. CYFIAWNDER. Gwyro barn a ddryga'r byd,—a gwerii Ein Gorsedd wna'n ynfyd; Rhowch y Gwir dan barch i gyd Pe'r wybren gwympai rywbryd. GWALCHMAI. CYSTADLEUAETH. Rhoddir gwobr o bedwar swllt i'r sawl a adroddo yn oreu yr adroddiad canlynol yn Mount Pleasant, Cadoxton, ar y 13eg o Fehefin, 1894 :— DISYSTR Y DEML YN JERUSALEM. Y penaf lueddwyr, 0 1 pan floeddiant, Acw'r geiltydd a'r creigiau a holltant: Eraill gan loesion yn waelion wylant, En hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant; Gan boen a chur, gwn, byw ni chant—angau, Er gwae ugeiniau, dyr eu gogoniant. Yr anwar filwyr sy' yn rhyfela, Enillant, taniant Gastell Antonia; Y gampus Deml agwympa—cyn pen hir Ac O maluria gem o liw eira. Wele drwy wyll belydr allan-ma.mol, A si annaturiol, ail awn taran; Mirain Deml Moriah 'n dan—dry'n ulw- Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian I Yr adeiladaeth ddygir i d'lodi, Be b'ai cywreiniach bob cwr o honi; Tewynion treiddiawl tan a ant trwyddi; Chwyda o'i mynweslei choed a'i meini; Uthr uchel oedd, eithr chwal hi—try'n llwch, A drych o dristwch yw edrych drosti. Fflamau angerddol yn unol enynant, Diamau y iwyswych Deml a ysant; Y dorau eurog yn nghyd a'r ariant, Y blodeu addurn a'r cwbl a doddant, Wag anedd ddiogoniant gyda bloedd, Hyll bwyir miloedd lie bu roi moliant Llithrig yw'r palmant llathrwyn, Mor gwaed ar y inarmor gwyn r Rhoddir gwobr o haner coron i'r sawl dan un-ar- bumtheg oed a adroddo yn oreu y penillion canlynol yn nghyfarfod llenyddol y Bedyddwyr sydd i'w gynal yn Mount Pleasant, Cadoxton, nos Fercher, y 13eg o Fehefin, 1894 MAE RHYWBBTII YX WELL NA DIM. Ai seindorf drwy y Llan, Gan chwareu'n gryf a hael, Ond d'wedai dyn o'r fan Eu bod yn chwareu'n wael; Gadewch i hyny fod, Atebais iuau'n chwim- Er nad yw'r seindorf fawr o beth, Mae rhywbeth yn well na dim. Pan aed i gynal cwrdd, A hwnw'n werth i'w gael, Tarawai dyn y bwrdd, A d'wedai 'i fod yn wael; Gadewch i hyny fod, Atebais inau'n chwim- Er nact yw'r cwrdd yn fawr o beth, Mae rhywbeth yn well na dim. Pan godwyd ysgol nos, I ddysgu bechgyn t'lawd, Ewch i athrofa'r tfos, Dywedai rhai mewn gwawd Na wawdiwch ddim sy' dda— Atebais inau'n ch'.vim, Er nad yw'r ysgol fawr o beth, Mae rhywbeth yn well na dim. Ar ol i weithiwr t'lawd Biegethu'r Gair yn wych, Dywedai rhai mewn gwawd, On'd oedd hi'n bregeth sych; Na wawdiwch weision Duw- Atebais inau'n chwim, Er nad yw'r bregeth fawr o beth, Mae rhywbeth yn well na dim. Cwynfanai plant y Llan Fel rhai yn teimlo loes, A d'wedent fod y fan I gyd ar ol yr oes; I beth y cwynwch, blant- Atebais inau'n chwimr Er nad yw'r Llan yn fawr o beth, Mae rhywbeth yn well na dim. Wrth ddarllen hyn o gan, Mae'n ddigon tebyg bydd Dysgedig feirniaid man Yn d'weyd ei beiau'n rhydd; Ond pan feirniadtnit hwy, Atebaf inau'n chwim— Er nad yw'r gan yn fawr o beth, Mae rhywbeth yn well na dim.

THE SKIPPER'S WOES.

[No title]

(Mgmd Jwtrg.

WILL LADAS WIN THE DERBY?

IFOWL-STEALING AT CADOXTON-BARRY.