Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ARE TRADE UNIONS BENEFICIAL…

FROM CROESFAEN.

Advertising

CONGL Y CYMRY.

MR. GLADSTONE A'R EGLWYS YN…

News
Cite
Share

MR. GLADSTONE A'R EGLWYS YN NGHYMRU. Anfonedd gohebydd lythyr at Mr. Gladstone yn gofyn, parthed ei iiraeth ar y Mesur Ataliol, pa swm a delir gan y wladwriaeth i'r Eglwys Sefydledig. Wele atebiad y Prif Weinidog :— Whitehall, Ma wrth 1, 1893. SYR,-Dymunir arnaf gan Mr. Gladstone i gyd- nabod derbyniad eich llythyr, dyddiedig y 27ain cyn- fisol, ac i ddweyd nas gall fyned i mewn i'r cwestiwn yn mhellach na dweyd ei fod wedi datgan dro ar ol tro fod cronfeydd yr Eglwys Seisnig, a dull y geiriau yn yrliystyr a roddir iddynt yn Neddf yr Eglwys Wyddelig, yn eiddo cenedlaethol.—Ydwyf, syr, eich ufudd was, H. SHAND. BARDDONIAETH. YR IESU YN WYLO UWCHBEN JERUSALEM. MR. WILLIAMS, Sea View View-terrace, Barry, ydyw awdwr y penillion cynwysfawr a ganlyn, y rhai a ddyfarnwyd yn oreu yn nghyfa.rfod cystadleuol Salem (capel v Bedyddwyr Cymreig), Barry Dock, nos Sadwrn, Mawrth y 4ydd. Rnagorol iawn, ydoedd tystiolaeth y beirniad (Mr. Rhedynog Price), Caerdydd). Felly dywedaf finau. Yr Iesu a wylodd pan welodd y ddinas Fu gynt yn eisteddle pob mawredd ac urddas- Y ddinas fu'n drigle y Dwyfol ogoniant, A'i phyrth a'i heolydd yn adsain gan foliant- Y ddinas fu'n gysgod o'r nefol drigfanau, A Duw yn preswylio o fewn ei rhagfuriau, Ond Ow sydd yn awr, trwy ei llygredd a'i phechod, Bron gyrru i derfyn amynedd y Duwdod. 'Roedd Dwyfol olygon yr Iesu yn canfod Euogrwydd yr oesau fel dylif diwaelod Ar dd'od yn rhaiadrau ar ben ytrigolion A freintiwyd mor uchel a nefaftendithion 'Roedd gwaed holl ferthyron' yr hen oruchwyliaefch Yn gwaeddi am ddial uwchben y genhedlaeth Fu gynt yn wrthrychau holl ffafrau'r Jehofah, ,Sy'n awr yn sychedu am waed y Messiah. Pa ryfedd i'r Hwn sydd a'i hanfod yn Gariad I wylo mewn galar wrth wel'd eu dirywiad? Un weithred sydd ganddynt yn awr i'w chyflawnu. Er llanw erch gwpan eu dygn drueni A selio eu tynghed mewn dinystr a drygfyd- Sef rhoi i farwolaeth Dywysog y Bywyd: Mae 'i galon E'n gwaedu, a'i ruddiau yn foddfa 0 ddagrau, wrth weled yr erchyll elygfa. 'Roedd dagrau yr Iesu yn rymus hyawdledd- Ryawdledd tosturi a Dwyfol drugaredd— Hyawdledd y cariad fu'n fflamio yn olau Yn mynwes yr lesu at ddyn trwy yr oesau Sy'n awr yn bwrlymio at hen ddinas Dafydd, Wrth farchog fel brenin 'r hyd lethrau'r Olewydd 'Roedd mynwes y Duwdod yn cael ei dadlena I fyd pechadurus trwy ddagrau yr Iesu. SYLLDREMYDD. Y CRYD. Hoff yw'r bardd o'r cryd, gan hyny Plether iddo gan; Ynddo gwel ei ddelw'n gwenu'n Llawen ger y tan. Hoff ddodrefnyn goreu'r teulu Ydyw'r cryd sy'n dal y babi, Hwn a dyn holl sylw'r fam Yn y bwthyn glan. Esmwyth Gryd cofleidiaist gewri Rhwng dy gaerau drud Dy fagwyrydd di fu'n noddi Prif enwogion byd Clywaist garni hen emynau, Hwian gerddi Gwlad y Brynia.u; Cefaist ran yn y gweddiau Ar aelwydydd clyd. 01 mae'r Cryd yn gysegredig Yn ein cartref ni; Mae ei eii-,v'r ddyrehafe(lig, Cedwir ef mewn feri! Y mae Serch yn canol-bwyntio Ar y bach sy'n gerphwys ynddo O! fel y rhedwn tuag ato, Pan y clywn ei gri. Er nad yw o'r defnydd goreu, Eto parchwn ef; Ar y gwrthddrych sy'n ei freichiau Glyna'n serch mor gref Yn ei ymyl, ar ein deulin, Y collasom lawer deigryn, Tra'n gweddiau fry yn esgyn Dros ein bach i'r Net. Gowerton. CRUGFRYN. Y CADNAW. Y cadnaw enwoggadwa—mewn ogof Myn dreulio ei ddyddiau I'w ie dirgel dychwela, A'i nosawl daith fel trydan a. Penygraig. M. JOHN (Craigwyson). L"

Advertising