Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ARE TRADE UNIONS BENEFICIAL…

FROM CROESFAEN.

Advertising

CONGL Y CYMRY.

News
Cite
Share

CONGL Y CYMRY. [DAN OLYGIAETH LLWYDFRYN.] YMADAWIAD u CYNONFARDD." Po fwvaf y mae Dr. Edwards (" Cynonfardd ") yn ein myag fel cenedl, anhawddaf yn y byd yw ym- gymodi â'r meddylddrych ei fod yn ein gadael; ac fel y mae Cymru yn d'od i'w adnabod trwy ei glywed yn pregettiu ac yn darlithio, y mae ei hiraeth yn myned yn fwy wrth feddwl ei golli. Dydd Sul cyn y di weddaf pregethodd ei bregeth olaf yn Ebenezer, Caerdydd, a daet-h llon'd y capel i'w wrando. Daeth y gynulleidfa fawr yn nghyd yn gymaint er dangos eu hedmygedd o hono ag yw glywed yn llefaru, ac o'r astudrwydd a'r sylw a delid i bob gair a ddyferai dros ei wefusau dychmygwn glywed llef ddystaw yn d'od allan, Aros gyda ni." Er fod plaid yn yr eglwys wedi dangos tipyn o fyrbwylldra, os nid annoethineb, ac wedi dweyd pethau braidd yn chwerw, eto ymddygodd Cynonfardd" yn Gristion a beneddwr hyd y diwedd, ac ni wnaeth grybwylliad yn y byd at ddim o'r cyfryw yn ei bregeth nos Sul. Cymer rhai fantais ar adegau felly i ffiangellu yn ddrychrynllyd; ondyr oedd ysbryd Dr. Edwards y tro olaf hwn fel pe wedi ei drwytho mewn cariad brawdol, a chariodd ei wrandawyr yn nes i drigfanau y gwynfyd nag erioed e'r blaen. Bydd yr eglwys yn N ghaerdydcl yn hir cyn cael gwas- anaeth gweinidog mor gyflawn.

MR. GLADSTONE A'R EGLWYS YN…

Advertising