Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

REVIEWS OF PUBLIOATIONS.

ORIGINAL POETRY.

THE DROWNING OF A MEDICAL…

[No title]

CONGL Y CYMRY.

News
Cite
Share

CONGL Y CYMRY. LDAN OLYGIAETH LLWYDFRYN."] AT GYMRY CADOXTON, HOLTON, A BARRY. MR. GOL.,—Bvddaf ddiolchgar am gyfleustra i alw sylw Cymry yr ardaloedd yma at fudiad sydd ar droed er cael mwy o undeb rhwng y gwahanol enwadau Cym- reig a'u gilydd. Credaf y dylai fod cymundeb amlach rhyngom fel Cymry, fel y gallom fod ,yn fwyo allu a dylanwad yn y lie. Yr ydwyf yn amgau cylch-lythyr at yr eglwysi Cymreig ar y mater. Byddwch cystal a'i gyhoeddi.—Yr eiddoch yn ffyddlawn, J. D. DAVIES, Yeg. CYLCH LYTHYR AT EGLWYSI CYMRAEG CADOXTON, HOLTOK, A BARRY. Anwyl Frodyr a Chwiorydd,—Y mae amryw o honom yn teimlo er ys llawer dydd y dylem fel Cymry obobenwad gael adnabyddiaeth lwyrach o'n gilydd,. fel y gallom fel cenedl fod o fwy o allu a dylanwad yn y lie; ac y eaae y cyfarfodydd gweddïau undebol gawsom ddechreu y flwyddyn hon wedi cryfhau y teimlad hwnw, ac yr ydym yn credu y buasai cael cymanfa ganu undebol rhwng y gwahanol enwadau i raddau helaeth yn cyrhaedd yr amean hwnw. Heblaw hyny, byddai detholiad da o donuu ac emynau o lyfrau y gwahanol enwadau yn fanteisiol iawn pan fyddai 1 cyfarfodydd undebol, cyfarfodydd pregethu, &c., yn cael eu eynal yn y gwahanol eglwysi. Byddai y rhag- leni (programme) hyny wrth law, a gallai pawb felly uno i ganu mawl, yr hyn fyddai yn nerth a bywyd i'r cyfarfodydd. Ar ddiwedd pythefnos o gyfarfodydd gweddïau un- debol a gynaliwyd yn Holton a Cadoxton, penderfyn- wyd, gyda brwdfrydedd, ein bed yn danfon cylch- lythyr at holl eglwysi Cymreig Cadoxton, Holton, a Barry, i ddymuuo arnynt gydweithredu, ac i benodi tri brawd i gynrychioli yr eglwys, ac i ddyfod a theimlad yr eglwys ar y mater i bwyllgor a gynelir mewn ystafell yn yr hotel newydd ar gyfer y Police-station, Holton-road, nos Wener, Ionawr 29ain, i ddechreu am saith o'r gloch. Dymunol fyddai fod gweinidog pob eglwys- (lie y mae gweinidog i'w gael) i fod yn un o'r tri cynrych- iolydd. Arwyddwvd, J. D. DAVIES, Ysgrifenydd. D. JONES (W.). PARCH. W. WILLIAMS (C.M.). PARCH. W. TIBBOTT (A.). CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL GYMRAEG PENYBONT. Cyfarfu aelodau y gymdeithas nchod nos Lun di- weddaf yn yr ysgoldy perthynol i'r Methodistiaid yn y dref. Yr oedd, a dweyd y lleiaf, yn bleser i fod yn bresenol, ac yn galondid wrth weled cynifer o Gymry ytt feddianol ar gymaint 0 sel a chariad at, a thros, eu hiaith a'u gwlad. Cymerwyd y gadair gan y brawd W. Thomas, ac yn union ar yr amser penodedig (sef haner awr wedi wyth) cymerwyd dadl i fyny gan y brodyr John Lewis a D. Lewis ar "A Ddylid Talu Aelodau Seneddol." Llanwyd gofyniadau yr ochr gadarnhaol yn nodedig o dda gany brawd cyntaf yn ystod ei araeth ddoniol a phell-gyrhaeddol, ac yna cododd y brawd arall yr ochr amheuol yn uchel iawn drwy engreifEtiau rhagorol, yn cael en gosod allan mewniaith syml, hynaws, a phur, ac ar ol llawer o ddadleu gan y brodyr canlynol—W. M. Davies, D. P. Morgan, W. Walters, Jenkins, D. Thomas, Jenkins, Morgan, Evans, ac eraill, cafwyd ymraniad ar y cwestiwn fel y canlyn :— Dros, 9 yn erbyn, 12. BARDDONIAETH. PENILLION PRIODASOL 1 MR. W. LLEWELLYN WILLIAMS, B.A., GoLYG- YDD Y SOUTH WALES STAR," A MISS NELLIE JENKINS, GLANSAWDDE, LLANGADOCK. Fe fethedd Williams ddala Yn hwy beb brofi'r dw'r Ddarparwyd gan Ragluniaeth I loni calon gwr Bas nentydd hen lancyddiaefch Sychasant oil o'r bron, 'Doedd ynddynt 'run dyferyn I'w wneuthur ef yn lion. Pob mwyniant i ti beunydd, Fy hoffus gyfaill mwyn, Yng nghwmni'th Nelli hawddgar, 'Rhon ddenodd di a'i swyn; Haul llwyddiant fo'n pelydru Ar lwybrau'ch bywyd oil, A'ch camrau fo'n ddilithr, Yn union a digoll O boed i chwi'ch dau bellach Hyfrydwch yn y byd. A bydded i chwi ffrwytho Ac atnlhau o hyd A phan derfyno'ch dyddiau Ym myd y cystudd mawr, Derbyniad helaeth gaffoch I'r nefol dyrfa fawr. lOAN DDYFRI. LLINELLAU AR GWRDD TYSTEB YR HYBARCH J. DAVIES, TAIHIRION. Hyfrydwch yr awen drwy'r oesoedd i gyd Yw craffu ar ffyrdd rhagorolion y byd Ce's inau beth pleser ar ami i dro Wrth wylio teg rodiad Archesgob y Fro Yn myn'd fel Apostol, a'i ffon yn ei law, Er eadw'r ddiaddell rhag perygl a braw. Dilynwch ei gamrsu, mae'n garictor pur, Heb gonglau na phlygion—mor loewed a dur Gweinydda wrth alwad y Cymro neu'r Sais, Pregetha a'i droed, gyda'i logell, a'i lais 0 blwyf Llangyfelach i derfyn y Taf Ei folawd ddadseinir p'le bynag yr af; Taihirion a Bronllwyn ddadganant ei glod, A gwyr Efailisaf, tra'r achos mewn bod, Anwylant ei enw Gwyllt Walia bob darn Sy'n edrych i fyny at Dwyn Penygarn I Nid esgob daearol. nac archesgob chwaith, Roes drwydded i'n harwr i fyn'd at ei waith, Ond clywodd lais Rhywun tirionach a mwy Na'r bodau sy'n gosodeu gweis ar y plwy', Yn cynyg yr ernes, yn erchi yn fwyn— Os wyt yn fy ngharu, dos, portha fy wyn." Aeth yntau yn hwyliog, cysegrodd bob dawn Er rhoi i'r Gwinllanydd ei ddwrnod yn llawn; Ac os yw'r blynyddoedd yn gwynu ei en, Nid yw yn heneiddio wrth fyned pi hen, Ond orys yn ieuanc a chawraidd hyd drano— 'Does damaid o drvst na phrioda'r hen lane A theilwng coffhau ddweyd o Paul, 'r ysgolhaig, Fod esgob i fod yn wr i un wraig A syn na Iwyddasai ymgeisydd mor fwyn, Ac yntau fynyched yn adrodd ei gwyn, I gwrddyd cydmares—pwrcased swyn serch, Lie da yw colofnau y Star i gael merch Mac'n awr yn oludog, ac aur lon'd ei bwrs, A'i ddarlun yn barod i'r parlwr, wrth gwrs. Oes yma un Efa ddyngarol ei rhawd, Ro'i hunan o'i gwirfodd yn dysteb i'r brawd ? Mae gwel'd a chydnabod rhagoriaeth bob pryd Yn iwmbwl i eraill a bendith i'r byd. Croeswen. C. TAWELFRYN THOMAS. CYFARCHIAD I MRS. PHILLIPS, WENVOE BAZAAR, AM EI RHODD HAELIONUS 0 SET 0 LESTRI CYMUNDEB O'R FATH OREU I EGLWYB BRYN- SEION, CADOXTON, AR DDECHREU Y FLWYDDYN 1892. Rbodd i Dduw ni chyll ei gwobr, Nid â,'n anghof yn y nef Pwy allasai wneuthur rhagor Modd i gofio 'i angeu Ef ? Caiff y weithred ei hadgofio Mewn cysondeb gan y saint, Bob tro'n wir y gwnant gymuno, Am ei rhoddi—mawr yw'ch braint. Mae yr achos wedi ei gerfio Ar eich calon, anwyl chwaer Ac wrth feddwl ceir chwi'n wylo Yn y nos y dagrau claer, Hwy gostelir gan angelion— Maent yn werthfawr yn y nef- Can's esboniant y dirgelionj Eich bod yn ei garu Ef. Cof-adeilad hardd a godwyd Genych chwi yn Seion Duw 'Nawr eich enw anfarwolwyd, Gweithred eich gweithredoedd yw Wedi marw, ceir chwi'n siarad Yn y rhodd ardderchog bur Traethu'n glir am faint y oariad A'i cyfiwynodd hi yn wir. Arwvdd ydyw'r rhodd i'ch roddi Eich enaid iddo Ef o'r blaen Rhodd eich calon wnaeth flaenori, Twymodd hono fel y tan o bur gariad at eich Ceidwad Nes dymuno rhoddi 'nawr Rhoddit ydyw nodwcdd cariad— Cariad rodda roddion mawr. Mae eich enw yn gerfiedig Ar y llestri arian hyn Deil y cerfiad yn weledig 'Nol eich myned drwy y glyn Bydd eich coffa yn fendigaid Yn y rhodd ddaionus hon 'R enw welir gan anwyliaid, A'ch olafiaid oil o'r bron. Wrth derfynu, pur ddymunaf Am ogoniant nef i'r rhan Dyma'r fendith fawr ragoraf, Fel cewch wybod yn y man Nawnddydd tawel fo eich tynghed, Goleu'r N efoedd ar eich taith Pan yh marw nef agored, Byw a gaffoch flwyddi maith. Cadoxton. W. TIBBOTT.

BARRY AND CADOXTON BURIAL…

Advertising

CORRESPONDENCE.

THE ALLEGED LIBEL IN THE<…

LLANDOVERY ENTRANCE SCHOLARSHIPS.

MINERAL TRAIN ACCIDENT NEAR…

BARRY DOCK WEEKLY TIDE TABLE.

LLANTWIT-MAJOR NOTES.

PENCOED NOTES.

[No title]

[No title]