Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CORRESPONDENCE.

BARDDONIAETH.

News
Cite
Share

BARDDONIAETH. ENGLYN I SEREN Y DE." Nid pabwyr a gwer y Seren--y De," Ond daeth fel clir heulwen Ar unwaith nid llaith yw'r lien A yra drwy'r ddaearen. Llantrithyd. IOAN TRITHYD. Y STORM. Un hwyrddydd tra'n rhodio dangysgod y goedwig. A'r adar yn ddystaw a'r awel yn ddiddig, Ryw ddwfn ddystawrwydd deyrnasai fel brenin Ar bobpeth o'm hamgylch, nes gwneuthur i'm erfyn Am fuan ddychweliad o'r hylon hin hafaidd, Pan gan yr aderyn, a daw Natur yn auraidd. Canys heno mae'r adar yn ddystaw—yn cysgu, A Xatur o'm cwmpas a'i nerth wedi pallu, A minau fy hunan yn rhodio, dan g-ofio Am lawer nos lawen yn yr amser aeth heibio, Pan gerddwn yn araf hyd glanau yr afon, Yn felus fy nheimlad, yn ysgafn fy nghalon. Ond heno mae'm bron fel pe ar ymhollti, A Xatur drwyddi i gyd yn ddystaw alaru Am fyned o'r adar, am wiwo o'r blodau, A gweled y dail yn ymado a'r brigau Mae pobpeth yn dywedyd fod llymder y gauaf Fel awchus gleddyfau yn d'od ar ein gwarthaf Ond, ust! beth yw'r cynhwrf a glywaf draw acw ? Cymylau'n ymgasglu pwy sy' yn eu galw ? Yr awel yn eSro pwy sy' yn ei danfon I ruo drwy'r goedwig, i ferwi yr eigion ? 0 draw clywir croch dyrfau—yn rhuo Drwy'r awyr sy'n oleu A'r mellt gwyn fel seirff syn gwau Rhwng trist cryg rhcng taranau. Yn fuan agorwyd holl ffyrdd y cymylau, A'r gwlaw tua'r ddaear yn genlli' ddisgynai, Tra minau eisteddwn wrth foncyff hen dderwen, Gan syllu mewn syndod ar dduwch yr wybren Mae'r mellt yn ymwibio a'r daran yn rhuo, A'r gwynt yn ymruthro fel llew ysglyfaethus Mae'r goedwig yn cwyno, a'r dwr yn ymlwybro Dros ddol a mynyddle yn frochus Ond yn y pellder draw, tu ol i'r cwmwl ola', Gwelaf ysmotyn glas, baner heddweh yw hwna Daw'r storm i ben cyn hir, daw'r ser i weini yn y nen, A'r lleuad fel genethig d'os i chwerthin am fy mhen. BYDD DYXER WRTH DY FAM. Bydd dyner wrth dy fam, Ti hogyn hoew Sancteiddrwydd megys mam Sydd gylch ei henw Pan oeddit faban prudd, Hi'th suodd nos a dydd, Nes ciliai'r rhos o'i grudd Yn llwyd a gwelw. Bydd dyner wrth dy fam, Ti eneth fechan, Hi'th wyliodd rhag cael cam Pan oeddit faban A'i bys arweiniodd di I gerdded 11awr y ty," A nerth i'th gamrau bu Pan oeddynt wan. Bydd dyner wrth dy fam, Ti ddyn grymusol; A wyddost ti paham Yr wvt mor nerthol ? Dy fam a roddodd laeth Ei bron i ti yn faeth Pan daflwyd di ar draeth Y byd amserol. Bydd dyner wrth dy fam, Ei haul fachluda, Arafu mae ei cham, A'i llaw a gryna Y gwallt oedd fel y fran, Sydd heddyw fel y gwlan, A thlysni 'i gruddiau glan Gan henaint wywa. Bydd dyner wrth dy fam, Y nef agora I'w derbyn yn ddinam I fewn i'r Wynfa Angylion gwlad v dydd Yn ymgystadlu sydd Am ddal y deigryn cudd Ei llygad golla. Pontyrhil. T. CYXFRIG JONES.

ORIGINAL POETRY.

[No title]

REVIEWS OF PUBLICATIONS.

Advertising

IMPORTANT NOTICE.

Advertising