Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

IN AND AROUND * BARRY.

ISSUE OF THE MEDICAL OFFICER'S…

THE LATE MR. I). DA VIES,…

REVIEWS OF PUBLICATIONS.

ANWYL GYDWIJADWYB,

News
Cite
Share

ANWYL GYDWIJADWYB, —Nid ydym yn meddwl wrth gychwyn papyr fel "Scren y Be y bydd i ni greu un chwyklroad gwleidyddol na meddyliol yn ein gwlad, end yr ydym yn hydcru y bydd i ni lanw eisieu "ydd wedi ei hir deimlo yn Xchru- barth a Chanolbarth sir Forganwg. Y mac yn warth ac yn gywilydd i ni fel Cymry ac fel Rhydd- frydwyr nad oes un nevvyddiadur lleol yn cael ei gyhocddi yn mharthau mwvaf Rhyddfrvdol Cymru i bleidio egwyddorion a mesurau Rhydd- frvdol. ITyderwn y bydd i Seren y De" lanw yr angen hwn. Bwriedir yn y golofn hon i gyhocddi barddoniaeth Gymreig, ac i drin a thrafod mater- ion l'ydd yn perthyn i Gymru fel gwlad ag angenrlieidiau priotlol iddi ei hun. Y mac yn wir fod Cymru wedi derbyn llawer mantais a 11awer braint drwy ei chysyllt-iad a choron Llocgr, ond y mae rhai cyfreitliiau a rhai defodau Saesncg yn anghydweddol a neillduolion ccnedl y Cymry. Un o'r rhai liyn yw y cysylltiad rhwng Eglwys Loegr a'r Wladwriaetli. Nid j'dym yn credu mown Eglwys Sefydlcdig ar un amser. ond y mae y sef- ydliad, yr y'm yn teimlo, yn fwy annhcg yng Nghymru nag yw yng Lloegr. Y mae yn wir y dywed haneswyr nad oes un bwlch yn hanes yr Eglwys yng Nghymru oddiar yr oesati pell pan y danfonodd yr Eglwys Gymreig gen- hadon i bregethu y newyddion da o lawenvdd mawr yng Ngwerddon.a phanoedd ySaeson eto yn gorwedd yn nhywyllwch du paganiaeth. Ond nid yw hyn yn un dangoseg fod yr Eglwys wedi aros yr un oddiar yr amser hwnw, nac yn un rheswm y dylai fod heddyw yn Eglwys Sefydledig. Yr un, yn ol deddf Lloegr, yw awdurdod y brenhin heddyw a phan gododcl y bobl mewn gwrth- rylel yn crbyn y Brenhin loan i hawlio eu hiawn- derau, ond gwyr pawb nad yr un yw cylch ei awdurdod, gan mai both a ddywed deddf a chyf- raith. Felly y ma0 gyda'r Eglwys. Ond pe tai i'r Eglwys ddangos i berffeithnvydd mai yr un yw heddyw o ran ei harferion, ei gwasanaeth, a'i chrctlo ag oedd yn y chwechfed ganrif. ni fyddai hyn un rheswm pam nad yw yn Eglwys estronol yng Nghymru heddyw. Sid cwestiwn i'w bender- fynu gan haneswyr yw'r cwestiwn o Ddadgysyllt- iad a Dadwaddoliad, ond cwestiwn yw o egwyddor a defnyddioldeb Y mae yn ffaith an- wadadwy nad yw yr Eglwys y dyddiau rhai'n yn meddu cymaint dylanwad nac yn cynwys eynifer pleidwyr ag Angliydffurfiaeth yng Nghymru. ac nid yw yn meddu ar yr un cydymdeimlad agos a y 11 Chymru Fydd. Xid yw ei gwasanaeth na'i dys- gyblaeth na'i harferion yn appelio at y galon Gym- reig fel y gwna adcloliad syml. dirodres yr enwadan. Bu amser pan y gallai yr Eglwys ymgodi i fod yn Eglwys Genedlaethol. Gwaith caled oedd i Rowlands Langeitho a'r hen ddiwyg- f wyr i ysgaru eu human eddiwrth yr Hen Fam," ac yr oedd yr hen bobl dda yn aros hyd ddiwedd eu hoes mewn rhyw felus freuddwyd y buasai y Cymry fel y gwcnyn yn dychwel ryw ddydd yn ol i'r hen gwch. Ond breuddwyd oedd. Mae'r gwenyn wedi ffoi o'r hen gweh ac wedi llythu mewn cychau ereill, ac ni ddaw tinge padellau tin gweniaith na budr-elw a hwv eto'n ol. Y mae yr Eglwys wedi deffroi yn rhy ddi- weddar. Y mae yr adtywiad cenedlaethol a ddi- ystyrodd ar y dechreu wedi rhedeg yn rhy bell i'r Eglwys niwy ei arwain. Y mae Cymru wedi gwcithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun y mae yr A nghydffurfwyr, a dybid unwaith yn ddinod, wedi tvnu ar cn hoi yr holl wlad yn wir, "Y fychan aeth yn fil, a'r wael yn genedl gref." Y mac yr ysbryd cenedlaethol hwn yu dechreu dwyn ffrwythau eraill. Hwn sydd wedi enill y tri Prif-golcg i Cymru i hwn yr ydym yn ddy- ledus am Pdeddf Addysg Uwchradtlol: ac i hwn y mac'r diolch am gadw yn fyw yr hen iaith. Nid gsviw mwyach i (treio lladd ein iaith drwy ei di- ystyru a'i gwatwar, a'i thrin fel ysgymunbeth. Uu amser pan yr oedd y Cymry nnvyaf gwladgarol u'r farn fod bodolaeth yr hen iaith yn felldith \Ïr wlad ae yn rwvstr i lwyddiant pob Cyraro ond yr oedd greddf y genedl yn drech it,, doethineb y dysgedig, a glynasant drwy bob anhawsder wrth iaith eu tadau ac erbyn heddyw mae dynion meddylgar yn can fed mai bendith, ac nid mcll- dith. yw. ac ei bod, os defnyddir hi yn iawn, yn foddion rhagorol i ddiwyllio a thrwytho meddwl ac i eangu gwybodacth pob Cymro. Ond mewn un cyfeiriad y mae cariad y Cymro at ei waith wedi bod yn anfantais iddo. Mae v Sais, a'r Ysgotyn. a'r Gwyddel yn barod i ymfudo i un rlian o fyd os y meddylia y caiff fwy o hawddfyd mown gwlad arall. Nid felly y Cymro. Nid oes nemawr i Gymro yn foddlon ymfudo. ond o dan orfod. Ac nid yw hyn mor ryfedd chwaith. Ni chyll y Sais neu y Gwyddel ond ei wlad wrth ym- fudo ond cyll y Cymro ei wlad, a'i iaith, a'i jgrefydd hehlaw, Xid rhwydd gan Gymro addoli ond yn iaith ei fam. Mewn gwlad estron y mae yn gorfcd erogi ei delyn ar yr helyg, am na all ganu caneuon Seion mewn gwlad ddieithr. An- hawdd iawn yw ei feio am ei wladgarwch. ond y mac'r vmlyniad yma at Gymru wedi gwncyd drwg dirfawr iddo. Y mac'r boblogaeth yn cynyddu. tra'r erys maint y til* yr un. Achosa hyn gys- tadleuaeth lem rhwng araaethwyr Cymru am bob tyddyn a fferm fydd yn segur. Gwyddom am ddegau o amaethwyr sydd yn tain yn agos holl gynyrch y tir i'r perchenog er mwyn, mewn rhyw Hut. gael aros yng ngwlad eu genelligaeth, Feillai na ddylid beio tir-feddianwyr am hyn. Y mae llawer o natur ddynol yn mhob dyn wedi'r cyfan. ac y mae dynion. fel rhfcol, J; <?aru cu hunain yn well na'u cymydogion. Ond nid eta yw ymddiried y fath awdurdei yn nwylaw neb meidrol ac am hyny dymrnem weled cvfraith yn cael ei gwncyd i sierhau nob deiliad yn ei fferm ar delerau teg, fel na fyddai bosibl i un dvn drwy angen gael ei orfodi i roddi rhagor na'i deg wcrth am y tir. Canys nid yw tir fel un nwydd arall. Ar ei gynyrch v mae pawb yn byw ond ni ellir yehwanegu at ei lesur. Mac ein goiod yn rhy fyr i roddi ein barn ar gwestiynau ereill sydd o flaen y wlad ond hwyrach y ciwn hamdden eto ryw- bryd i ddychwelyd atynt. Wrth derfynu ein 1*1 ith cyntaf, y mae yn rhaid i ni erfyn ar i'r darllenydd fod yn dyner wrthym. Nid gwaith bychan yw y gwaith o gychwyn newyddiadur. ac y mac yn fwv anhawdd nag y gcllid meddwl i gael amser i ysgrifenu- erthygl i'r rhifyn cyntaf. Ond os y maddeu y darllenydd unrhyw ammherft'eithder a genfydd ei lygad craff yn hyn o ysgrif, hyderwn y ,r bydd i ni gynyddu mewn teilyngdod ar ein taith, ac yna awn yn mlaen o nerth i nerth.

YR EFENGYLKS YN Y BAKltV.i

IBARDDONIAETH.

MR. S. T. EVANS, M.P.

A MINISTERS' UNION.

THE HOLTON GROCER AND HIS…

FORTNIGHTLY MEETING AT BARRY.