Hide Articles List

11 articles on this Page

TY R CYFFRSDIN.—DYDD IAV.…

ITY'R CYFFREDIN.—DYDD GWENER.…

I_TY'R CYFFREDIN.-DYDD LLVN.…

[No title]

[No title]

TY'R ARGLW YDDI. —DYDD IAV,…

1-TY'R ARGLWYDDI.-DYDD GWENER.I

TY'R ARGLWYDDI.—DYDD LLUN.I

Y GYLLELL tN NGHYMRU. -1

News
Cite
Share

Y GYLLELL tN NGHYMRU. -1 HELYNT DIFRIFOL ETO GER PEN YGROES. j Dydd Badyni diweddaf, gerbron yr ynaemft siroi, Caernarfon, cyhuddwyd Griffith Roljerts, neiv "Guto Pant Da," o drywanu Henry Hughes, Clogwyn Melyn, Llandwrog, gyda'r bwriad o'i niweidio. Ymddangosodd Mr Allaiison dros y carcharor. Tystiodd yr erlynydd fel y canlyn: -Cliw. iirey,vr ydwyf wrth fy ngalwedigaeth. Nos lau, y 24ain cynfisol, cychwynais o Benygroes tua chartref, ar Fynydd y Cilgwyn, yn nghwmni Robert Roberts. Yr oedd oddeutu deg o'r gloch ar y pryd. Ar ol cerdded tua haner milldir daethom ar draws y car- charor, gyda'r hWIt yr oedd ei fab, llanc tua 14 neu 15 mlwydd oed. Dywedais wrth fy nghydym- aith, Dyma Gutto Pant Du," a chydgerddaaom ag ef am oddeutu 100 o latheni. Cerddais â¢eh* yn ochr i'r carcharor, ac yr- oedd Robert Roberts yn dilyn. Ar y ffordd, dechreuodd y carcharor araeo â mi am fy mod weaiei lysenwi" Gutto Pant Dii," Yr oeddym ill dau mewn ychydig ddiod ar y pryd. W6di cweryla am beth amser, y peth cyntaf a wnaeth y carcharor oedd rhoddi cic i mi ar oclir fy nghlun aSWY. Yna dywedodd, "Mi a'th sticiaf," ac ar hyn trywanodd fi yu fy nghlull. Ylla gwelais Robert Roberts yn rhuthro ato, ac ar hyn gwaeddais, "Cymer ofal o'th bUll; y mae ganddo gyllell, ac y mae wedi fy sticio." Eisteddais wedi hyny ar oc ijr y ffordd am yehydig iawn o amser, ond yr oedd poen mawr yn fy nghlun. Aethum o".Y. ?hartref, Jr hwn oedd oddeutu 200 o latheni o'r fan Ue cefais fy nhrywanu. Wedi cyr- haedd i'r ty, cloais y drws, ac archwiliais fy nghlun. Yroedd yn gwaedu yn ai-w, gyda thoriad drwy un o'm llodrau sf m drawers. Daeth Robert Roberts i mown yn mheh ychydig amser, ae ar ol gweled fy nghyfiwr, cododd y lletywr o'i wely, ac aeth y ddau allan i chwilio am y carcharor, gyda'r hwn y dychwelasant. Wedi i'r carcharor ddyfod i mewn, dywedodd, "'Rwy'n gobeithio y gwnei faddeu i mi, Harri bach, beehgyn o'run gym dog- aeth ydym, a diod ddarfu Ifhoai y cwhl." Daeth yr heddgeidwad ify nhy nos Lun, a rhoddais fy llodrau a'm drawers, y rhai oeddynt orchuddiedig i gwaed, iddo ar y diwrnod canlynol. Di'lynais fy ngorchwyl arferfol cyn i'r heddgeidwad ddyfod ataf, ac yn ddilynol i hyny. Croesholwyd yr erlynydd yn fanwl gan Mr Allanson: Mewn atebiad j ofyniadau y boneddwr hwnw, addefodd yr erlyuydd na buasai ef wedi son dim am y mater o'i ran ei hun, ae mae'r hedd- geidwaid a gymerasant yr erlyniad presenol mewn llaw. Ni wyddai faint o laseidiau o gwrw ,a yfodd y uoson hono; gallasai fod wedi yfed haner dwsin, neu ragor. Addefodd iddo lysenwi y carcharor, ond gwadodd iddo ymosod arno. Pap ddywedodd yr erlynvdd, "Dyma Gutto Pant Du," atebodd yr olaf I Wel, beth am dano P'" ac yna dechreuasant ffraeo. Arferodd y naill a'r llall eiriau ilawn mor gas tuagat eu gilydd. Gwadodd yr erlynydd iddo ef a'i gydymaith gicio y carcharor o gwbl, a dy- wedodd na chlywodd efe fachgen yr olaf yn gwaeddi, 0 1'(diweh a chicio fy rihad." Rhuthr- odd Robert LI?erts at y carcharor, a rhoddodd ef ar lawr, oud nid cyn i'r erlynydd gael ei drywanu. Mr Allanson: Ai ni ddarfu i chwi waeddi, "Cicia fo i'r d-l," a hyny cyn i'r carcharor eich trywunu ? Yr Erlynydd: Naddo, ni chyffyrddodd neb ag ef cyn iddo ddefnyddio y gyllell tuagataf. Mr Allaiison Oni welsoch chwi y carcharor yn y Pembroke Arms y noson hon ? Ai ni ddarfu i chwi ei fygythio, a dyweyd wrtho am yr hyn yr oeddych yn fwriadu ei wneyd pan y gwelid ef ary ffordd genych ? Yr Erlynydd: Ni ddarfu i mi ei fygythio o gwbl. Tystiodd Robert Roberts na chlywodd efe ffraco o gwbl rhwng y carcharor a'r erlynydd, hyd nes y elywodd yr olaf yn gwaeddi ei fod wedi cael ei drywanu. Gwadodd y tyst yn bendant ddarfod iddo ef a'r erlynydd ymosod ar y carcharor cyn i'r olaf arfer ei gyllell. Dr Griffith, Penygroes, a ddywedodd iddo ar- chwilio cluu aswy yr erlynydd ddydd Mawrth diweddaf, pryd y canfyddodd doriad glan, oddeutu modfedd 0 led, a haner modfedd (1 ddyfnder. Gallesid achosi yr anaf gyda chyllell tebyg i'r un a gafwyd yn meddiant y carcharor. Tystiodd yr Heddgeidwad Wynn Jones, Llan- llyfni, iddo gymeryd y carcharor i'r ddalia ddydd Mawrth. Ar y ffordd i orsaf yr heddgeidwaid yn Nghaernarfon, dywedodd, "Gofynais dair gwaith am i'r erlynydd sefyll draw, gan fygtfth ei dry- wanu. Wedi hyny, trywanais ef gyda'r. gylfell a gerir genyf bob amser yn fy llogell." John Hughes, chwarelwr a gydletyai gyda'r erlynydd, a roddodd dystiolaeth gyda golwg ar gyflwr yr olaf ar y noson y cafodd ei drywanu, ac iddo ef a Robert Roberts fyned allan i ddal y car- charor. Ar ran y carcharor, gofynodd Mr Allanson i'r fainc beidio ei draddodi i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad difrifol o niweidio yr erlynydd gyda'r bwriad o'i niweidio. Gallai ef brofi yn y brawdlys mai arfer y gyllell er amddiffyn ei hun yn unig a ddarfu y carcharor, yr hwn a gafodd ei gicio i farwolaeth bron cyn defnyddio y gyllell. Gwrthododd yr ynadon newid natur y cyhudd- iad, a thraddodwyd y carcharor i sefyll ei brawf yn y brawdlys nesaf. Gofynodd Mr Allanson am i'r faine fod cystal a chaniatuu y carcharor i ddyfod yn rhydd o dan feiehiafon ond gwrthodwyd y cais.

Ifrirhro ofr Dflrtttto-

Advertising