Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

BRYNGWRAN A LLANGEFNI, A CRY.…

GARN DOLBENMAEN. - -

PORTDIN OKVV10.

AEHOLIAD YSGOLION SAB-IBOTHOL…

I -BETHESDA. I

LLANBERIS.

Advertising

I TJNDEB BANGOR A BEAUMARIS.

CAWRFILOD YN GWASGARU BYDDIN…

i O'R "TBICYCLING JOURNAL."

BWRDD YSGOL COLWYN BAY AI…

I-LLANDDEINIOLEN. -..1 - -…

IQUININE BITTEBS GWEuTM EVANSI…

I HYN A'R LLALL. j

I MYNED I'R CA.PEL YNI BECHOD!

I AUR YN NGflAERGYBI.

II DARGANFYDDIA.D AUR YN FFESTINIOG.…

.0-m-0 LERPWL.I

News
Cite
Share

0 -m- 0 LERPWL. I Nos Sadwrn. Yn nghyfarfod blynyddol capel yr An- nibynwyr yn Great Mersey street, y Sab- both diweddaf,pregethodd yBareh E. James, Nefyn, yn y boreu y Parch W. Jones (M.C.), David st., yn y prydnawn y Parchn Charles Davies (B.) a James yn yr hwyr. Cynhaliwyd Gymanfa Ganu Flynyddol y Methodistiaid Calfinaidd, nos Lun, yn Hen- gler Circus, pryd yr oedd mwy na phedair mil o bobl yn bresenol, a mil a haner ohon- ynt ar yr oriel ddeheuol yn gor detholedig, wedi eu cymeryd o tuag ugain o gynulleidfa. oedd. Yr oedd yn un o'r demonstrations mwyaf tarawiadol a mawreddog a allesid edrych arni; yn ormod felly yn wir, i neb heb ryw dymher neillduol anturio beirniad- au man wallau y ganiadaeth—trwy ei fod yn rhy hyn a rhy arall, yn y naill a'r llall o'r tonau. Fel hyn y dywed golygydd un newyddiadur Seisnig dylanwadol am dani- "To them that knew Welshmen only by occasional intercourse it must have been something of a revelation." Ac "The uninitiated who witnessed the scene must have been more than startled at the effect produced." Mr John Thomas, Llanwrtyd, oedd yr arweinydd, a'r Parch Owen Jones, B.A., yn gadeirydd, a Mr Kerfoot Jones yn organydd. Yn mhlith y tonau a ganwyd, yr oedd Windsor, Calfaria, Moravia, Revel, Seion, Gaerwen, Arenig, Salm-don rhif 2, o gasgliad Ieuan Gwyllt, St Nicholas Aber- ystwytb, &c., gyda yr Anthemau "Mola yr lor o Jerusalem"-lsalaw, ac "Arglwydd chwiliaist ac aduabuost fi." Ar gadeiriau blaenaf y llwyfan yr oedd y gweinidogion a diaaoniaid eanlynol gydag ereill na chof- iwn eu henwau-Parehn Josiah Thomas, M.A., G. Ellis, M.A., James Davies, M.A. (Eglwys Dewi Sant); Hugh Jones, O. William Jones, E. J. Evans, D. Williams, T. S. Owen, B.A., J. Williams, Thomas Jones, J. 0. Thomas, M.A., Mri John Davies C.E., D. Hughes, Y. H., Dr Gee, Y.H., Dr James Edwards, W. O. Elias, W. Venmore, T. Ed- wards, T. Lloyd, H. Pritchard, S. P. Cham- bers, &c. Yn mhlith sylwadau mynychaf pobl yn y dorf yr oedd yr unfrydedd mwyaf yn eu canmoliaeth i Mr James Venmore,ys- grifenydd y gymanfa o'i chychwyniad, am drefniadau rhagorol, sydd yn rhagori bob blwyddyn. Weithiau clywid rhai yn beirn- iadu arweicyddiaeth Mr J. Thomas a Mr D. Jenkins, gan roddi y flaenoriaeth i'r naill ar y llall mewn rhyw bethau, heb flaenoriaeth hollol i'r un ohonynt. Clywsom un eu gwahaniaethu fel hyn—"Mi a'ch denaf fi chwi i ganu," meddai Thomas. "Mi a wnaf i chwi gann," meddai Jenkins,—yr hyn oedd yn boddio ei gyfeillion yn fawr oherwydd y ffraethder, os nad oherwydd craffder y feirniadaeth. Nos Fawrtb, yr oedd Llyfrbryf yn darllen papyr rhagorol ar "Lenyddiaeth Gyfnodol Cymru" o flaen y GymdeitnasGrnedlaethol, yn y Royal Institute, olquit st., a Mr John Lovell, golygydd y Mercury, yn ygadair. Credwn nad oes gymwysach na Llyfrbryf i drin y mat9r yna; a'i fod yntau wrth ei gymeryd yn ufuddhau gorchymyn y di- weddar Pugh, Mostyn—"Pawb at y peth y bo." Yr un dydd eto, Mawrth, yr oedd te parti blynyddol Capel Stanley-road, Beotle. Cyngherdd amrywiaethol, o radd uchel, yn y Town Hall, oedd eu cyfarfod hwyrol, a'r hwn a droes allan yn Hwyddianus a bodd- haol iawn. Yr oedd Maer Bootle, Henadur John Howard, yr hwn a wisgai addurniadau swyddogol, yn gadeirydd, ac yn cynal ei freichiau ar y Ilwyfan, yr oedd Mrs Howard, y Parch Griffith Ellis, Mri Hen- adur W. Jones, Griffith Jones, William Thomas, Edward Roberts, ifcc. Talodd y maer ganmoliaeth uchel i ragoriaethau Cymry Bootle fel dineswyr eymydogol, defnyddiol a pharchus, sydd yn gwneyd eu rhan yn anrhydeddus i ddyrchafu y fwr- deistref ieuanc a chynyddol. Dydd Mercher, rhoddwyd gwledd i blant ysgolion Sabbothol StanleYJRoad a St'John's Road, yn rhad, a chyfarfod hwyliog yn yr hwyr, dan lywyddiaeth y Parch G. Ellis, lie yr oeddynt yn cael eystadlu mewn darllen, adrodd, a chanu yn ei ran gj utaf; a'u difyru gydag arddangosiadau prydferth o olygfeydd mwyaf dyddorol a mawreddog Gogledd Cymru trwy gyfrwng y Magic Lantern, yn yr ail ran.

--ABERTAWE. -

-CAERGYBI. -I

1-_FFESTINIOG.-...