Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

DEFNYDD SIARAD, I

News
Cite
Share

DEFNYDD SIARAD, I "Brochwel" a ysgrifena" Y mae y teitriad mewn rhanau helaeth o Bowys, yn angerddol yn erbyn amryw adranau o'r Mesur Siroi. Dyna drwydded i brynu a gwerthu meirch yn 15p; y canlvniad fydd rhoddi y pryuu yu nwylaw ychydig u bryn- wyr galluog; achanna fydd gwrthgynygydd yn fynycb, prynant y meirch bron am eu pris eu hunain. Ar draut y gwerthwr felly y sugnir yr arian yna i bwrs y wlad Ni raid i'r amaethwyr feddn gallu i weled yn mhell, i weled pwy yw eu cyfeillion. A thyna y modd yr ymwneir a'r tafarnwr-hudo y trethdalwr i'w oddef, er mwyn cael help arian ei drwydded i gario baich y sir ar y naill law, a chospi y trethdalwr trwy ei orfodi i dalu iawn am bob tafarn sychir ar y Haw grail 1 0, Doriaeth fyth-felldigedig Y mae angau yn y crochan yn mhob man lie y caitf dy ddylanwad hatog di ei deimlo CyEfroad y wlad, a deiseber ar ffrwst yn erbyn y pcthau hyn. Mawddach" a'n hysbysa fod lluaws mawr yn cyrchu i'r wlad hono, lie y mae yr aur;" a bod llawer o'r rhai ag y gallesid dysgwyl iddynt fod yn addoli, yn treulio y rhan fwyaf o'r Sabboth sanctaidd i rodianna tua'r Gwynfynydd. Y mae yn ei fwriad, medd efe, gyhoeddi enwau y rhai a geir yn rhoddi poen a phryder i'r dynion sydd yn "gwylioyr aur "yno ar y Sabboth rhag- llaw. Yrydyrrynmeddwlybyddaicaeleu henwau yn fantais i'reyhoedd, ac yn fantais yn y pen draw i'r segurwyr eu hunain- gallai fod yn help i'w cywilyddio oddi wrth eu harferiad wrthun a phechadurus. Bydd yn hyfrydwch i ni, yn y Defnydd Siard," roddi nob cymborth a allwn i "Fawddach i roddi y pechod crell hwn ii lawr. "ldris" a ofyna-" Pa bryd yr enfyn y GenedJ ohebydd-ysgrifenydd buan- i ym- weled ag Eglwysi Meirion ?" Ac ychwanega Bum yn Nolgellau yn ddiweddar, ac er y rnya rhai o'r bobl ddyrchafu parson y dref hono fel pregethwr, yr oeddwn yn teimlo y buasai cael y bresreth a wrandewais i yn argraphedig yn y Genedl yn cynysgaeddu y darllenwyr ag engraipht o fychander a pblentyneiddiwcb-eymbwys i jfod ochr yn ochr a llawer o'r hyn a gaed yn yr ymweled- iadau ag Eglwysi Mon. Y mae llawer ardal a tbref yn Meirion yn gruddfan am ddad- gysylltiad, ac yn synu na f'ai y Goron yn fwy gofalus, os am ymyryd a'r Eglwys, o roddi i'r bobl bregethwyr gwerth eu gwraudo." Cybi" a ddywed :II Y g\>yn yma ydyw fod ysgerbydau bndron a gwlybion yn tael eu goddef i ysgrifenu yn anmharchus am y bobl oraf yn mhob ystyr; a deallwn fod tymudiad ar droed rhwng rhai o foneddig- ion a chyfreithwvr y lie i wylio symudiadau y cyfryw, ae i ofalu am anrhydedd crefydd a rhinwedd trwy dynhau cadwan un o'r ffurf- iau ilieiddiaf o dd 1 y wasg." Mynach" a ysgrifena-—" Cafwyd y gan ganlynol ar lawr yn Abermaw. Pwy a'i collodd, nis gillaf ddyfalu d:chon y bydd ei chyhoeddi yma yn foddion i gael allan i i bwy y perthyn Mae gwisgo'r plant a ruban glas, Ac yfed te, a gwyn t; Yn gas—yn anioddefol gâs- I ddyn o'r amser gynt." Er mwyn yr amser gynt, fy trryns- Yr hen amser gynt; Cawn floeddio'n grocb a moli'r goch, Fe! yn yr amser aynt. Caed "plant y capel" ruban glas, Ond rhaid cael ruban coch," I ddangos Uiw dirwestol ras, Y plant sy'n gwrando'r gloch Er mwyn yr amser gynt, Ac. Mor goch oedd dwylaw Harri'a tad, I lygad glan y nef! A chock oedd gwaed ei wragedd mad, Ar fin ei fwyall ef. Er mwyn yr amser gynt, &c. 03 ydyw trwyn rhyw berson pwt, 'Run liw a'r ddiod gau Rhaid gwisgo'r plant a ruban twt, I fatsio lliw y ddau Er mwyn yr amser gynt, &c. Mae'r ruban coch i ni i gyd, Mor lawn o ryfedd swyn Mae'r ruban coch, o bethau'r byd, 'Run liw ag arnbell drwyn Er mwyn yr amser gynt, &c. Un goch yw ffordd caethiwus frad, A'r ddiod fawr ei bri Un floch yw'r Ddraig, a Harri'n tad, Y goch-y goch i ni! Er mwyn yr amser gynt, fy ffryns- Yr hen amser gynt; Cawn floeddio'n groch a moli'r 1 goch, Fel yn yr amser gynt. "Tydfil" a'n hyepysa fod y teimlad yn cryfhau fwyfwy dros i'r "bobl" gael "eyn rychiolwyr ohonynt eu hunain," yn yr ardaloedd a'r trefi mwyaf poblogaidd yn y Deheudir. Bu yr ysgyfarnogod ac ieir y mynydd, yn cael eu cynrychioli un adeg daeth classes i gael eu cynry?hidli wed'yn; ac yn awr y mae y masse$ yn dywey "Nyni yw y bobl, ac y mae yn rhaid i ni gael ein cynrychioli." "Gomer" a ysgrifena:—"Gyda llawenydd mawr y darllenais hanes Cyfarfod Cym. deithas y Gymraeg yn Mangor yn ddiweddar. Hyderaf y bydd i ni fel cenedl ymuno yn galonog i gael i'n hen iaith haeddbarch y He a hawlia yn ysgolion ein gwlad rhagllaw. Y maellifeiriant gwaseidd-dra a Dicsiondaf- yddiaeth wedi bod yn cuddio llawer ardal yn rhy hir o lawer-Cymry cywir yn gorfod ysgrifenu iaith estronol oblegid anallu swyddogion cy6ogedig y Llywodraeth i dd.,l iaith y bobl! Nid oes eisieu ond i'r Cymry arfer eu hiaith na cheirjgwaredig- aeth o'r ormes hon. Bydded i ni ddeffroi ar unwaitb, a mynu ein safle a'n hawliau fel pobl." •r "Cwyfan" a ysgrifena: — "Sibrydodd rhywun yma yn ddiweddar fod "Seren Gyn- ffon —■—" wedi myned i orphwys mewn "arch," fel y bydd diwedd pawb ohonom. Cyfnnsoddodd rhyw fardd ddigwyddai wrando ar y newydd prudd, yr englyn can- lynol fel beddargraph Fe lywiodd oes aflaven-yn ei chwant, A'i foliant i'r felen, Yn gagl i binagl ei bon.- Dyma siarad am Seren Os yw yr englyn yn anamserol, gellir eigadw nes bydd ei eisieu canys bydd yn dda cael gorphen yr yrfa fel "boneidwr" "Arfonydd" a ddywed"Cafwyd y g&n amsarol a ganlyn ar lawr yn ddiweddar yn yinyl y Pavilion. Tybir fod yn mwnad rhywrai ei chanu ar achlysur neillduol, oni buasai ddarfod iddi fyned ar goll. Er mwyn y rhai a allent gael difyrweh yn- ddi, dodwn hi i lawr yma, Mae Sali enwog wedi d'od, Hwre hwre Rhaid bellach ganu-c'lymu clod, Hwre hwre Cawn wrando araeth yr hen wraig, Er na fydd ynddi "tim Cyrnralg," And we'll all feel gay When Toryism garia'r dydd Daw boneddigion Waterloo, Hwre! hwre! Gwyr pawb fath bob! ydyn' nhw, Hwre! hwre! I gario flhgiau tin yn awr, A chynrychioli 'u penaeth mawr, And we'll all feel ga,!I. When Toryism, garia'r dyaa. Ar demlau Baal blodeua llwydd, Hwre! hwre! Cawn bension i dafarnwr blwydd, Hwre! hwre! Cawn hawl i ladd y meddwyn tlawd- Gwneyd Doethni 'i blant aiwraig yn wawd, And we'll all feel gay When Toryism gaiia'i dydd. Ca'r Baptists ddadymchweliad mawr, Hwre! hwre! Daw baner Independia i lawr, Hwre! hwre! Tne Weslojs all shall die in pain, Tne Ves 'll(it field, on the bra i n, A 'stablau on the brain, And we'll all feel gay When Toryism, garia'r dydd. Cawn bellach lawn i'r torllwyth drud' Hwre! hwre! Fu'n llygru moes—yn damnio'r byd, Hwre! hwre! Ni welir capel yn y wlad, Ond cytiau brag, a themlau brad, And tue'll all feel gay When Toryism garia'r dydd. Ca'r ffarmwr wneyd ein pwrs yn llawn, Hwre! hwre! Fel 'rhoddom i'r tafarnwr iawn, Hwre! hwre! Cawn ro'i cymdeithas dan ein traed, Cawn fwyta 'i chnawd a sugno /i gwaed. And ive'll allfeel gay When Toryism, garia'r dydd.

TY Y CYFFREDIN. - - I

Advertising

MR GLADSTONE A'R BLAID II…

TY IR ARGLWYDDI.I

! TY Y CYFFREDIN.

ITY YR ARGtLWYDDI. I

TY Y CYFFREDIN. I

I TY Y CYFFREDIN.___

-TY -YR -ARGLWYDDI.I

TY Y CYFFREDIN. I

TY YR ARGLWYDDI. )

LLANFAIRFECHAN. I

r -.. -'- .að¡r-... -;;.-.-:::-Y…

I CYMRO ANTUmETHUS.

MOELTRYFAN.

PONTLLOGEL.

AT Y DABLLENWYR.

PENCERDD AMERICA A PHRIF YSGOL…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL GWRECSAM,…