Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Family Notices

AT EIN GOHEBWYB.

Jutjtriljmba rfttfobol, &r.…

IIARLL DERBY A PHWNC YI I…

News
Cite
Share

IARLL DERBY A PHWNC Y I DETRAIN. Ddeehreu yr wythnos ddiweddaf taenid pob math o adroddiadau gyda golwg ar fwriadau y Llywodraeth ar bwnc y Dwyrain. Nid heb achos yr ofnid fod rhyw ddylanwadau peryglus ar waith, oblegid yr oedd Iarll Beaconsfield yn nghiniaw y Guildhall, er nad mor ehud ei ym- adroddion a'r llynedd, wedi myned o'i ffordd i I 1 1-1 arganmol dewrder y lyrcoa, a i aunynwyr megis yn ymorfoleddu yn ei ddarnodiad llipa o wladlywiaeth Lloegr fel annihleidgarwch amodol." Heblaw hyny, yr oedd rhai Senedd- wyr Ceidwadol wedi myned mor hyf ag i ddadl- eu yn gyhoeddus dros ddadgan rhyfel yn erbyn Rwsia, ac yr oedd ton ryfelgar newyddiadur»n y Llywodraeth yn myned ar gynydd peryglus bob dydd. Cyrhaeddodd y cyfFro Tyrcaidd hwn ei bWYllt uchaf ddydd Mercher, yr wyth- nos ddiweddaf, pan yr ymwelwyd ag larll Derby gan ddirprwyaeth oddiwrth y gwahaaol gymdeithasau sydd wedi eu ffurfio yn ddiweddar i gren a meithrin cydymdeimlad a Twrci. Ond buasui yn well i'r tan-fwytawyr hyn gadw eu cyngor iddynt eu hunain, canys yr oedd y ddirprwyaeth ynddi ei hun yn brawf o wendid eu hachos, oblegid methasant a sicrhau cyd- weithrediad eymaint ag un gwleidyddwr o ddylanwad. Y penaf o'r fintai oedd Arglwydd Stratheden-Campbell, hpn bendefig sydd yn gwybod mwy am ryfel nag am wleidyddiaeth, a'r hwn sydd fwy nag unwaith wedi gwneyd ei hun yn gyff gwa.wd hyd yn nod i Dy yr Ar- ghvj-ddi oherwydd ynfydrwydd ei areithiau ar bwnc y Dwyrain. Nis gallai y Rwsiad mwyaf cyfrwys ddyfeisio gwell cynllun i ddwyn achos Twrci i waradwydd, ac aeth y dwlni a siorad- wyd yn drech nag amynedd y Gweinidog Tramor. Yn wir gellid meddwl fod y siaradwyr eu hunain gydag iddynt groesi trothwy y Swyddfa Dramor yn teimlo fod eu zel wedi myned yn Iled bell heibio eu doethineb, a rhaid eu bod yn gadael presenoldeb Iarll Derby wedi eu llethu gan gywilydd a siomedigaeth. Neges y gwleidyddwyr dinod hyn oedd per- swadio y Llywodraeth i gymeryd mesurau dioed i amddiffyn buddiannau Prydain Fawr. Ond druain ohonynt, anghofiasant y ddyled- swydd o ymofyn a oedd rhywun yn eu bygwth mown modd yn y byd. Dywedai rhai ohonynt eu bod a blaid heddweh, a'r dull gwreiddiol a gymhollent i sicrhau yr heddweh hwnw oedd cyhoeddi rhyfel! Y mae yn amlwg oddiwrth hyn fod cwymp Kars wedi amddifadu cyfeillion y Twrc o'r tipyn rheswm a synwyr cyffrcdin a foddent o'r blaen. Meddyliasant yn sicr fod eu lioracl newyddiadurol, y Daily Tele,qraph, yn anffaeledig pan yn sicrhau y selid tynged India oddieithr i ni gymeryd meddiant dioed 0 ddyffVyn yr Euphrates, ar hyd yr hwn, meddent hwy, y gallai Rwsia ffurfio rheilffordd er mwyn cludo milwyr i gyffiniau ein tiriogaethau Indiaidd. Ond buan y tynodd Iarll Derby y cen oddiar eu llygaid, a dadganodd yn ddi- floesgni, fel y mae Mr Gladstone a'i gefnogwyr wedi dadleu o'r dechreu, nad yw dyffryn Euphrates o un pwys i Brydain Fawr cyhyd ag y byddo Camlas Suez yn ddiogel, oblegid llwybr y don yw ein llwybr ni i India. Syfr- danodd y mynegiad hwn y ddirprwyaeth, ond anturiodd un ohonynt awgrymu y gallai Lloegr ffurfio math a gytundeb masnachol a Thwrci, gyda darpariaeth ar fod i'r nailJ wlad amddiffyn y Ilall wrth raid. Yr oedd y sylw hwn yn deilwng o offeiriedyn bob weled map na darllen traethodyn politicaidd yn ei oes. Yr oedd yn engraipht teg o'r ffwlbri sydd yn cael ei ddysgu i a'i gredu gan gorph mawr pleidwyr Twrci yn y wlad hon. Dangosodd y Gweinidog Tramor na buasai cytundeb o'r fath à phlaid mown rhyfel amgen na dadganiad o ryfel yn erbyn y blaid arall, a gwrthododd yr awgrym gyda dirmyg fel breuddwyd gwrach. Yr un modd, cadarnhaodd Iarll Derby y farn a ddadganoddi Mr Gladstone yn Nghaergybi, nad oedd gobaith cael Awstria i gydweithredu a Lloegr i atogu Llywodraeth y Sultan, ac y mae pob llo i feddwl fad Awstria yn fwy parod o lawer i gydweithredu & Rwsia. Ni soniodd y Gweinidog Tramor yr un gair am wrthwynebu Rwsia pe gofynai am ran a diriogaeth Twrci; yn wir, amiygodd ei anghydsyniad a'rdyb a goleddir yn lied gyffredin mewn eylehoedd uchel yn y wlad hon, y byddai perygl i ni pe cawsai Rwsia feddiant o Armenia. Ar y Cyfandir, deallir sylwadau ei arglwyddiaeth ar y pen hwn fel argoel fod Prydain am adael Twrci i'w thynged cyhyd ag yr ymgeidw Rwsia rhag meddiannu Caercystenyn. Nid yw owymp Kars wedi dychryn dim ar Iarll Derby, nid yw yn dyweyd y cynhyrfai ddim ped elai y Rwsiaid i Tre- bizonde, ae nid yngana ddim am gadw iau y Twrc ar y taleithiau Cristionogol yn Ewrop. Hyny yw, nid oes dim ystyr i areithiau swnfawr Iarll Beaconsfield, ac y mae y Llywodraeth Brydeinig, or dirfawr siomedigaeth i'w chefnog- wyv yn y wasg, yn cario allan y wladlywiaeth a gefnogir gan arweinwyr y blaid Ryddfrydig, oddil3 ?thr yr ychydig anmwysder oedd yn ngeiriau Iarll Derby gyda golwg ar dynged Caercystenyn. Yr oedd yn rhaid iddo ddy- weyd rhywbeth i gadw ei gyfeillion yn ddiddig. Dywedodd fod y Llywoilraeth ar doriad yrhyfel wedi mynegi, yn yr iaith gryfaf ag oedd yn ddichonadwy yn unol a moesgarwch cydgenedl- aethol, yr anghenrheidrwydd i rwystro i Gaer- cystenyn syrthio i ddwylaw unrhyw allu arall. Nid oedd ganddo ond ail adrodd hyny yn awr, ond ar yr un pryd nid oedd yn tybied fod Caer- cystenyn mewn cymaint o berygl ag y medd- ylid yn gyffredin, ac ni ddywedodd pa beth a wna Lloegr, pe byddai i'r Rwsiaid gymeryd Caercystenyn am ychydig amser, fel y cymer- wyd Paris gan Germany, hcb un bwriad i'w chadw yn barhaus. Nid ydym ni yn credu fod Rwsia yn bwriadu dim mwy na hyny, ond y tebygolrwydd presenol ydyw y terfyna y rhyfel cyn i'r Rwsiaid gyrhaedd Caercystenyn. Mae gwladweinwyr doeth yn dechreu ystyried hefyd pa gwrs a ddylid ei gymeryd os trenga y Dyn Claf o dan eu dwylaw. Pe digwyddai hyny byddai rhaid i Gaereystenyn fyned i feddiant "rhyw allu arall," ac yr ydym ni yn hyderu yn gryf mai Groeg fydd y gallu hwnw. Mewn gair, y mae Iarll Derby, gydag eglur- der ac egni annisgwyliadwy, wedi llwyr ddym- chwelyd cestyll awyrol y rhai a freuddwydient am barhad yr hen gyfathrach rhwng Lloegr a Thwrci. Nid oes gan y Twrc ddim bellach i'w ddisgwyl oddiwrthym ni. Mae y Llywodraeth wedi ei argyhoeddi nad oes gan y wlad un awydd i wneyd bidogau milwyr Prydeinig yn ategion i'r Llywodraeth fwyaf ffiaidd a fu erioed ar wyneb y ddaear. Oherwydd hyn y mae y Daily Telegraph wedi ei daraw a mudan- dod, a'r Pall Mall Gazette yn malu ewyn cyn- ddaredd.

YR WYTIINOS. I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

thrJ!ðbijJn rtDL