Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

FFESTINIOG.I

[No title]

LLANDRILLO.

STOCKTON. nI -1 - .. -?

BETHESDA.u.I .11 I

[No title]

BIRMINGHAM.

LLANLLECHYD.

WAENFAWR.

'SENEDD MEIRION.' I

News
Cite
Share

'SENEDD MEIRION.' I CVFAUFODYDD BRWDFIIYDIG Y BWRDD SIIIOL. I Fel y mae y dydd yn agoshau, y mae y frwydr yn poethi, a'r dyddordeb yn myned yn fwy; y pleidiau yn dangos eiddo pwy ydynt, a phwy a fyddant hefyd ddydd y pleidleisio. Nos Fercher diweddaf, cynnaliwyd y cyfarfod Rhydd- frydol cyntaf a gynnaliwyd erioed yn Maentwrog, i gefnogi yrogeisiaeth y Parch. G. Ceidiog Roberts, yn Ysgoldy Genedlaethol y lie, o dan lywyddiaeth Mr. J. Hughes, Hafod Fawr. Cafwyd anerchiadau gan yr ymgeisydd; a'r Parch. T. E. Roberts, Croesoswallt; a'r aelod anrhydedd- us dros Feirion, Mr. T. E. Ellis, yr hwn a siaradodd am dros awr a hanner gyda nerth ac eglurdeb. Y mae y maes yn cael ei gymmeryd gan Mr. Roberts fel Rbyddfrydwr, a Mr. Oakeley fel aelod annibynol, Un sedd sydd yn y plwyf hwn. Nos Iau diweddaf, ymwelodd Mr. T. E. Ellis, A. s., a Mr. Lloyd George, Cricieth, â'r Llan, lie y cynnaliwyd cyt- arfod yn ysgoldy Peniel, i gynnorthwyo ymgeisiaeth y Mri. E. H. Jonathan, a John Hughes, Hafod Fawr, am sedd ar y Cynghor Sirol. Yr oedd yr ystafell wedi ei gorlenwi, a pharhaodd y cyfarfod hyd ddeg o'r gloch. Cymmerwyd y gadair gan Asaph Collen, gan yr hwu y cafwyd sylwadau hynod bwrpasol. Yna galwodd ar Mr. Ellis, yr hwn a dder- byniwyd yn gynhes, i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn feistrolgar. Wedi rhoddi cyfiif o'i oruchwyliaetli sen- eddol am y flwyddyn, taflodd has olwg ar Dy y Oytfredm a'i waith am y flwyddyn. Cafwyd ganddo, hefyd, sylwadau da a buddiol ar y Cynghor Sirol a'i waith. Siaradodd yn gryf o blaid Ymreolaeth i Gymru, ac i bob rhan o'r Deyrn. as Gyfunol. Derbyniwyd ei sylwadau gyda chymmerad- wyaeth. Yna cynnygiwyd y penderfyniad canlynol gan Mr. T. R. Jones, Yagol y Bwrdd :—' Fod y cyfarfod hwn ya cym- meradwyo y lIlri. E. H. Jonathan a John Hughes fel rhai cymmhwys i'n cynnrychioli ar y Bwrdd Sirol, ao yn ym- rwymo i wneyd yr hyn sydd yn ein gaUu er sicrhau ei ddy- chweliad. ,Cefnogwyd y penderfyniad gan Mr. F. Evans, Station road. Wrth [attegu y penderfyniad, cafwyd araeth ddoniol, finiog, a Chymroaidd gan Mr. D. Lloyd George; acyroedd yn amlwg fod teimlad y cyfarfod yn dymuuo iddo lwydd- iant ar ei ymgeisiaeth yn mwrdeisdrefi Arfon. Cafwyd yehydig eiriau gan y ddau ymgeisydd. Cynnygiodd y Parch. J. Williams bleidlais o ddiolebgar- wch i Mr. T. E. Ellis am ei weithgarweh yn y gorphenol, ac o ymddiriedaeth ynddo yn y dyfodol; ynghyd a diolch- garwch y cyfarfod iddo ef a Mr. Lloyd George am eu hym. weliad. Cefnogwyd ef gan Mr. J. Davies, Tryfal. Cyd- nabyddodd Mr. Ellis, a chynnygiodd ddiolchgarwch y cyf- arfod i'r llywydd. Cefnogwyd gan Mr. Lloyd George, yr hyn a ddygodd y cyfarfod i derfyniad, yr hwn, ni a gred- wn, a leteiuiodd yr etholwyr yn dda. Uanwyd Hen Wtad fy Nhadau' gyda hwyl. Y mae Mr. W. Davies, Cae'r- blaidd, wedi tynu yn ol. Felly, y ddau uchod sydd dros y lihyddfrydwyr, a Mr. G. H. Ellis, cyfreithiwr, yn ymgeis- ydd annibynol. Yr uit Loswaith, cynnaliwyd eyfarfod yn ysgoldy Jeru- salem, Biaenau, i gefnogi y Mri. Parry Jones ao R. 0. Jones, y ddau ymgeisydd Rhyddfrydig am seddau y dos- barth hwn. Llywyddwyd gan Mr. R. P. Jones, Cefn-y- maes. Cynnygiodd Mr. O. S. Jones y penderfyniad—' Ein bod fel cyfarfod o etholwyr Rhyddfrydig yn ymrwymo yn aduewyddol i wneyd yr hyn sydd tyn ein gallu i roddi y ddau Jones ar ben y pôI.' Oefnogwyd ef gan Treborfab. Penderfynwyd canfasio yr holl etholwyr. Yna cafwyd an- erchiadau gan y ddau ymgeisydd, ly rhai oedd yn llawn gwres a than Cymreig. Yr oedd yn amlwg oddi wrth y cyfarfod nad oes un siawns i'r ymgeisydd annibynol, Mr. Morris Jones, Blaenbowydd, gael gwynt dan ei aden yn rhanbarth hwn. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeiml- ad a Mr. O. R. Jones, yr ysgrifenydd lleol, o herwydd y ddamwain & gyfarfyddodd. Y nos Wener canlynol, cynnaliwyd cyfarfod yn nosbarth Bethania. Llywyddwyd gan Mr. Daniel Jones, Manod road. Un ymgeisydd sydd yn eisieu ..dros y rhanbarth hwn; ond yr oedd pump wedi eu henwi. Darllenwyd llythyrau oddi wrth y Mri. R. R. Evans a E. P. Jones, yn hys'bysu nad oeddynt hwy yn bwriadu sefyll. Hysbysodd Mr. R. Thomas, Bethania, ei fod yntau wedi dyfod i'r pen- derfyniad o dynu yn ol. Felly, y ddau sydd yn sefyll ydynt y Parch. J. Khydwen Parry, Bethania, a Mr. Robert Jones, Caer'du. Nid oes yr un aelod annibynol yn y golwg, ae nid yw yn debyg etto y daw un, o leiaf, yr un Rhyddfrydwr arall allan etto cyn dydd y polio. Nid ydyw y dosbarth hwn mor berffaith yn ei drefniadau a'r rhan- barthau eraill. Os daw y gelyn i'r maes, credwn y bydd y ddau Ryddfrydwr yn ddigon call i ddyfod i delerau, rhag arwain eu hunain a'r dosbarth i brofedigaeth. Yr un noswaith, yr oedd yn adeg prawf a dewislad yn nosbarth Tan-y-grisiau. Gan fod pump ar y maes, rhaid oedd dewis dau o blith y Rbyddfrydwyr i lenwi y ddwy sedd. Deehreuwyd polio am 4 o'r gloch, a pharhaodd hyd 8. Canlyniad y cyfryw ydoedd fod yr ymgeiswyr yn sef- yll fel y canlyn :-y Mri. A. M. Dunlop, 265 W. P. Evans, 185 Cadwaladr Roberts, 99; Thomas Price, 50; C. War- ren Roberts, 26. Felly, y ddau uchaf yw dewis-ddynion y Rhyddfrydwyr. Derbyniwyd yr hysbysiad gyda chymmer- ad wyaeth; a diolchodd Mr. Evans yn gynhes i'r dorf, gan chwanegu y byddai iddo wneyd yr hyn sydd yn ei allu o blaid cytiawnder a Ilesiant pob dosbartb. Nid oes nn aelod annibynol wedi ymddangos etto. Y ddau ymgeisydd Khyddfrydoi yn nosbarth Glan-y- pwll ydynt y Mri. Owen Jones, Erw Fair, a D. 0. Wil- liams, Bryngwyn, Nid oes hyd yn hyn yr un aelod anni- bynol wedi Uygad-rythu ar y dosbarth hwn. Dyma wir aefyllfa ein hardal ar ddechreu y flwyddyn. Nid oes, yn ol pob ymddangosiad, obaith y gwel yr un Tori nac aelod anmbynol, yr anrhydedd ar un o'r naw sedd dros blwyf Ffestiniog ond gallwn brophwydo mai Rhyddfryd- wyr fydd yr oil. Y mae y swyddog sydd yn cynnrychioli ucnel-sirydd y air hon wedi penu mai dydd Gwener, y ISfed o'r mis hwn (Ionawr), fydd dydd etholiad sir Feirionydd. Bydd yr ys- tafelloedd polio yn agored o wyth o'r gloch y boreu hyd wyth o'r gloch y nos; a'r etholiad i gymmeryd He drwy y balot.-2'1'ebQ11ab.

DINB ?Cfl.-I

CLAWDDNEWTDD, GER RHUTHYN.…