Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

thtudir torn

News
Cite
Share

thtudir torn IN os SADWRN. Ehagfyr 29aiii. (Oddi wrth ein Gohebydd Neittduol). Y Nadoliq,-Y mae Nadolig 1888 etto i'w rifo yn mhlith y pethaa a fu, a bydd yr adgof am dano i rai yn ofidus a chwerw, ond i'r lliaws, fel y mae yn fwyaf tebygol, yn hyfryd a dymnuol. Gwlybaidd oedd yr hID, ac y mae hyny yn cael ei grybwyll ynglyn ft phob hanes o bob man. Cynnaliwyd eisteddfodau llwyddiannns, meddir, yn Mhont-y-pridd, Porth, Treorci, Trelierbert, Pont-y-cymnier, Maesteg, Cas- -tellnedd, Casllwchwr, Felinfoel, Cydweli, Aber- gwaun, ac mewn lliaws o fanau eraill na oddef gofod i mi eu henwi. A'r cwestiwn cyntaf a ofynir yn y. Deheudir yma ynglJn a phob eisteddfod yw, Pwy a ennillodd ar y brif don? Ac y mae hwn yn gwest- iwn haws i'w atteb am y Nadolig eleni nag y bu lawer gwaith o'r blaen, o herwydd i gOr undebol y Porth a'r Cymmer, o dan arweiniad Mr. Taliesin Hopkins, gipio y llawryf yn eisteddfodau cvlchoedd Rhondda o'r bron. Aeth a'r brif wobr yn Mbont-y- pridd, ddydd Llun, ac yn y Porth a Threorci, ynghyd ft hanner y brif wobr yn Nhreherbert, ddydd Mawrth. Yr oedd cyfanswm yr ennillion yn 120p. Pwy yw y Taliesin Hopkins hwn, a fu mor llwyddiannus a dl- guro, nis gwn; ond pe digwyddai i mi ei gyfarfod yn rhywle, a'i adnabod, myfi a gurwn ei gefn yn galon- I og. Worthy is the Lamb' (Handel), oedd y darn yr, ennillodd efe arno yn mhob enghraifft. Nid yw yr arfer o gael yr un don byth a hefyd mewn eistedd- fodau lleol yn beth i'w gymmeradwyo, nac yn beth sydd yn tueddu i drladblygu dawn cerddovol y corau, eithr i'r gwrthwyneb y mae. ODd er fod y cydgan yn yr eisteddfodau dan sylw yr un yn mhob amgylch-; iad, ac yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yn y wlad, j nid wyf yn gweled fod hyny, fel y myn rhai ei fod, yn tvnli itim nddi wrth OlIod Mr. Hopkins a'r cor,canys yr j ".1" hyn oedd yn fanteisiol i'r naill, oedd yn fanteisiol i r lleill yn ogystal. Heb law yr eisteddfodau, cynnal- iwyd llaweroedd o gyfarfodydd cystadleuol, cyfarfod- I ydd adloniadol, cyfarfodydd pyngcio, a chyfarfodydd pregethu yn ngwahanol barthau y wlad. Hyn yna I am y Nadolig. j fod yr ym. Yr yrndreelifa etholiadol.- Ymddengys fod yr ym. drechfa ynglyn ag etholiad y cynghorau sirol ar fin cyrhaedd ei phwynt poethaf erbyn hyn; mewn dwfr berwedig y rhaid i ni fyw am y tair wythnos ddy- fodol. Yn sir Forganwg, nid oes nemawr i ranbarth t heb fod ymdrechfa yno. Heb law fod y Rhyddfryd- wyr a'r Toriaid yn gwrthwynebu eu gilydd, y mae y Rhyddfrydwyr mewn amryw fanau yn gwrthwyn- ebu y naili y llall; ac o bossibl fod yr un peth yn wir- ionedd mewn graddau llai am y Toriaid, Ond y gwr sydd o dan fwyaf o dan yn bresennol yw Arglwydd Aberdar, am ddarfod iddo ysgrifenu llythyr yn cefn- ogi Mr. R. H. Rhys, yr hwn sydd yn un o'r ymgeis- wyr yn Aberdar, ac yn Dori, neu yn Undebwr. Ymesyd y wasg Ryddfrydig yn dra ffyrnig ar ei ar- glwyddiaieth, ac nid ymattalia rhag dannod iddo holl bechodau poiiticaidd ei oes, na rhag dyweyd wrtho lyn ei wyneb mai Tori ydvw dan gochl Rhyddfrydwr. Nid yw Arglwydd Aberdar erioed wedi profi ei hun yn Rhyddfrydwr blaenllaw, ac nid yw ar bob achlys. ur wedi gallu cuddio ei ffafraeth i'r Eglwys Sefydl- edig; ar yr un pryd, fe ddichon ei fod, ar y cyfan, yn fwy Rhyddfrydig na rhai o'r cymmeriadau sydd yn ymosod arno. Y ffordd oreu fyddai gwrthbrofi gosodiadau y pendefig, ac nid ymosod ar ei gymmer- iad. Ond dyna, bydded rhwng ei arglwyddiaeth a'r Kwtr a'i difriant; y maent yn weddol adnabyddus olu gilydd, a gwae y gwr a osodo ei ben rhyngddynt. Yn sir Gaerfyrddin, yn ol yr argoelion presennol, dychwelir rhai Rhyddfrydwyr a. Thorïaid yn ddiwrth wynebiad. Yn ngogleddbarth y sir-rhanbarth Caio Iy mae Mr. Lewis Davies, Gelli, yn ymladd o dan anfanteision dirfawr yn erbyn Syr James Hills- IJohnes, Dolaucothi. Gwyr anhawdd eu gorchfygu hefyd yw Mr. Campbell Davies, yn Nghil-y-cwm, ac Arglwydd Dinefawr, yn Llandebïe. Yn neheu- barth v sir, bu plwyf Penbre yn hir heb gael neb i'r maes; ond wedi dechreu, y maent yn dyfod allan wrth y cyplau. Y mae y plwyf hwn i gael dan aelod, ac y mae yn awr bedwar ymgeisydd ger bron—dau Ryddfrydwr, a dau Dori ac y mae y frwydr rhyngddynt wedi dechreu o ddifrif. Nid ydyw y ddau Dori yn arddelva politics, meddant hwy; ond y mae y ddau Ryddfrydwr yn dadleu Home Rule hyd yr eithaf. Yn sir Gaer. fel yn sir Forganwg, y mae y Rhyddfrydwyr yn ymladd yn erbyn eu gilydd, mewn amryw fanau. Ychydig sydd yn wybyddus i mi am sefyllfa pethau yn sir Benfro; eithr mi a wn nad ydynt yn segur tyno chwaith, o'r hyn lleiaf, nid yn segur yn mhob ardal yno. Yn Nevern ac Eglwyswrw, y mae Mr. Griffiths, tellynhenllan, a Mr. Bowen, Llwyngwair, cyn aelod eneddol, yn gwrthwynebu eu gilydd. Y mae Mr. 3rifiiths yn eithaf cyfarwydd ag ymladd ac ag ennill (brwydrau yn mhlwyf Nevern. Fwy nag ugain mlyn- dd yn ol, pan oedd efe yn preswylio yn y plwyf, eithriad oedd iddo golli mewn un ysgarmes. Ond But y bydd hi y tro hwn, ar ol cyssylltu Eglwyswrw a Nevern, ac ar ol i Mr. Griffiths fod yn byw am Jawer o flynyadoedd yn mblwyf Cilgerran, y mae yn anhawdd dyfalu yn mlaen llaw. Diau genyf fod y dau ymgeisydd y rhai cryfaf a allesid gael; a bydd yr ymdrechfa rhyngddynt yn un o'r rhai tynaf, os nid y tvnaf oll vn sir Benfro. L Marwolaeth Mr. Path.-Boreu ddydd Iau, bu farw Mr Charles Bath, Ffynnonau, Abertawe, yn 57ain inlwydd oed. Nid oedd y digwyddiad yn un hollol annisgwy" liadwy, canys yr oedd ei iechyd wedi pallu jer's tro. Yr oedd i Mr. Bath barch a dylanwad niawr. Tori cryf ydoedd o ran ei olygiadau gwleid- ddol; a daeth allan yn 1874, i wrthwynebu Mr. Dil, wyn, A.S., ond i gael ei orchfygu gyda mwyafrif o ,507. Yr oedd ei farwolaeth yn ddyrnod drom i ofiaeth yn y dref. Cleddir ef prydnawn ddydd Llun lesaf. Dant ddyn wedi boddi yn y Bhondda.—Yn agos i'r lafod, darganfyddwyd corph marw yn afon Rhon- da. yn cael ei gludo ymaith gyda'r llif. Wedi peth mdrech, llwyddwyd i'w gael i'r lan ar yr ochr bellaf 'r afon oddiwrth y brif ffordd. Yn y dyrfa ar y l'lfftordd, ar yr ochr gyferbyniol i'r corph, yr oedd auliwr-Thonias Edwards, Ho,pkinstown- chan- do geffyl a throl, yr hwn a foddlonodd rydio yr afon yda 1 gert, a chymmeryd y corph drosodd. I'r yben o'i gynnortfiwyo yn yr ymgais, aeth un Edward Jenkins ato i'r drol, a chynnygiasant fyned n groes. Ond gan fod yr anifail yn anfoddlawn i jymmeryd y dwfr, ac iddo fyned yn anhywaith yn y if, dymchwelodd y drol, a thaflwyd y ddau ddyn i'r fon. Parodd yr olygfa gyffro annisgrifiadwy yn y yrfa oedd ar y Ian, a gwnaethpwyd pob ymdrech l ichonadwy i achub y bywydan oedd mewn perygl. jlwyddwyd i gael Jenkins i dir heb dderbyn o hono awer o niwed, ac achubwyd y ceffyl hefyd ond rnan o Edwards, methwyd a chaelgôlwg arno ef ar >1 y dymchweliad, hyd nes y darganfyddwyd ei gorph n yr afon, prydnawn ddydd Gwener, yn ymyl Maes- r-felin, Pontypridd, ynghylch dwy filldir is law y fan le y digwyddodd y trychineb. Ar y pryd y cafwyd y arall, nid oedd neb yn ei adnabod. Yr oedd  Uli ymwisgo yn drwsiadus ae yn ei logell yr oedd 1 priawr arian, gwerth 10p. Ymddangosai fel corph fwr o gylch 30iin mlwydd oed.

[No title]

ENGLYN. I

AMSER. I

EISTEDDFOD GADEIRIOL LICSWM,…

u Y BONT, LLANBRYNMAIR-

LLUNDAIN.

'DYMUNWCH HEDDWCH JERUSALEM'