Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
r GYNNWYSIAD. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
r GYNNWYSIAD. I X flwyddyn 1838 on n. 3 LIythyr LInndain 4 Deheudir Cymru 5 Barddoniaeth. n. 5 Eisteddfod GadeirioI Lieswm 5 Lloffion 5 Y Senedd .n on .n 6 Newyddion Tramor » 6 Y Cynghorau Sirol 6 CyfarfodyddMiso] 6 Llith o Goleg Aberystwyth 7 Troseddau a Damweiniau 7 GrBEedigaetfiau, <5i0. 8 Di);wyddia.iaN. 8 Prlf Erthyglau on 9 Newyddion Cymrelg „ 10, 11 RhyfeI y Degwm .n 12 Marchnadoedd 12 Gohebiaethau 13 Elyabysiadau 1.2,14-16
Y FLWYDDYN 1888.1
News
Cite
Share
Y FLWYDDYN 1888.1 Ni chafodd y flwyddyn, yr hon sydd newydd redeg ei syrfa i'r pen ei nodweddu gan unrhyw ddigwyddiadau mawrion a chyffrous. Bu, ar y cyfan, yn flwyddyn dra heddychol. Cymmer- odd rhai brwydrau bychain le yn Affrica, ac hefyd mewn rhanau o Asia; ond yn ffodus, ni chyflawnwyd, yn 1888, brophwydoliaeth Hawer o'r gwyr doeth,' y byddai iddi gael ei nodweddu gan gydgyfarfyddiad a gwrthdarawiad ofnadwy byddinoedd mawrion aruthrol Ewrop-arfau a chad-ddarpariaethau pa rai oedd yn barod i ryfel. Ac hyd yn hyn, y mae heddwch yn teyrnasu, a'r cenhedloedd yn mwynhau cysuron nad ydynt i'w disgwyl ar adegau o ryfel-a gallwn ddywedyd hefyd, nad oes heddyw ar- wyddion rhyfel yn ymddangos mewn un wlad dan haul. Yn awr, ni a daflwn gipdrem ar wahanol amgylchiadau y deyrnas hon, a'r byd yn gyff- redinol. MASNACH Y DEYRNAS. I Ar y cyfan, y mae ei nolwymon wedi troi yn dra chysson, er nad mor gyflym ag y buasem yn dymuno. Er hyny, addefir yn lied gyffredinol ei bod yn graddol wellhau yn y misoedd di weddaf; ac y mae ei rhagolygou yr wythnosau hyn yr un mor lewyrchus—os nad ellir dywedyd fod y gwelliant yn parhau i ennill tir. Nid arwydd ddrwg ydyw arafwch y gwelliant; gan yr ystyrir hyny yn arwydd o'i sefydlogrwydd a'i barhad. Ac er fod braidd pob cangen o fasnach a llafur wedi gwellhau i ryw raddau, y mae ym- borth, a nwyddau eraill sydd yn angenrheidiol at gynnaliaeth a chysur teuluoedd y wlad, yn parhau yn rhesymol a rhad. Y mae y fasnach mewn glo a haiarn wedi bywhau gryn lawer yn ystod y flwyddyn; ae y mae chwanegiadau at gyflogau y gweithwyr wedi cymmeryd lie, yn gystal ag mewn amrywiol ganghenau eraill o lafur. GWLEIDYDDIAETH. Araf y mae ein symudiadau wedi ooa yn ystoa y flwyddyn; ac nid oes unrhyw gyfnewidiadau mawrion wedi cymmeryd He mewn teyrnasoedd eraill chwaith. Bn senedd Prydain yn eistedd am fwy o amser y flwyddyn ddiweddaf nag mewn un flwyddyn o fewn cof neb. Oyfarfu mor gynnar a'r 9fed o Chwefror, a pharhaodd hyd y 13eg o Awst, pryd y gohiriwyd hi am dymmor. Ail gyfarfu drachefn yn mis Tachwedd, ac eisteddodd hyd wyliau y Nadolig. Parhaodd y ddadl ar yr anerchiad o'r orsedd o'r 9fed o Chwefror hyd y 23ain o'r un mis; a chafodd llawer o faterion cyhoeddus sylw yn ystod y ddadl hirfaith hono. Ond sefyllfa yr Iwerddon, a gwleidyddiaeth Wyddelig y llyw- odraeth, a gafodd y sylw penaf; yr hyn a feirniadid yn llym, ac a gondemnid yn ddiarbed gan yr aelodau Gwyddelig a blaenoriaid y blaid Ryddfrydig. Y peth cyntaf a gafodd sylw Ty y Cyffredin fel cwestiwn ymarferol ydoedd, cyfnewidiad yn y rheolau er dwyn gwaith y Ty yn mlaen. Cymmerodd hyn gryn lawer o amser. Ar y 9fed o Fawrth, dygodd Mr. GOSCHEN ei fesur a'i gynllun i mewn er lleihau y ddyled wladol; a chafodd ei gynnygion dderbyniad boddhaol gan y gwahanol bleidiau yn y Ty. Ar y 26ain o Fawrth, dygodd Mr. GOSCHEN y gyllideb (budget) i mewn, yn yr hon y gwneid darpar- iaeth er lleihau treth yr inewm geiniog yn y bunt, ynghyd a. rhai cyfnewidiadau eraill. Ar y 19eg o Fawrth, dygwyd Mesur y Llyw. odraeth Leol i mewn gan Mr. RITCHIE; yr hwn, yn ddiau, oedd prif fesur y senedd dymmor; a chafodd, ar y cyfan, dderbyniad ffafriol ar ei ymddangosiad cyntaf. Ond cafodd cyfnewid- iadau pwysig eu gwneuthur ynddo tra yr oedd o flaen y senedd—rhai gan ddwylaw y weinydd iaeth ei hun, ac eraill gan aelodau y Ty. Erbyn hyn, y mae yn tynu mwy o sylw, ac yn cael ei fyfyrio yn fwy manwl nag unrhyw ddeddf a wnaed o fewn y blynyddoedd diweddaf. Ar yr 8fed o Fehefin, pan gynnygiwyd fod y Ty i ymflurfio yn bwyllgor er ei gymmeryd i ystyriaeth pellach, cynnygiodd Mr. CAREW ail ddarlleniad mesar cyffelyb iddo i'r Iwerddon. Gwrthodwyd ail ddarllen y mesur; ond rhoddodd yr achlysur gyfleusdra i Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL i draddodi un o'r areithiau goreu a draddodwyd yn ystod yr hon senedd-dymmor. Ar y 25ain o Fehefln cynnygiwyd pleidlais o ddiffyg ymddiried yn y llywodraeth gan Mr. JOHN MORLEY, o herwydd prawf a charchariad creulawn ac anghyfiawn Mr. DILLON. Ar ol dadl am ddwy noswaith gwrthodwyd y cyn- nygiad gan fwyafrif o 93. Y mater nesaf o ddyddordeb a gafodd sylw ein seneddwyr ydoedd, y mesur er ffurfio Dir- prwyaeth o Farnwyr, a rheoleiddio gweithred- iadau y ddirprwyaeth hono, er gwneuthur ym- chwiliad i'r cyhuddiadau a ddygid gan y Times yn erbyn Mr. PARNELL, ac eraill o'r Cenedlaeth- olwyr Gwyddelig. Disgwylid i'r mesur hwn ddwyn pethau pwysig a thra niweidiol i'r aelod- au Gwyddelig, ac i achos Ymreolaeth i'r Iwerdd; on, i'r golwg; ond er fod tri o farnwyr galluog wedi bod yn eistedd am dymmor hir, bellach, a chyfreithwyr galluocaf y deyrnas wedi cym- meryd rhan yn y gweithrediadau, a llu mawr o dystion wedi rhoddi eu tystiolaethau, nid oes hyd yn hyn ddim o bwysigrwydd neillduol wedi dyfod i'r golwg er profi euogrwydd yr aelodau seneddol Gwyddelig yn wyneb y cyhuddiadau a roddwyd yn eu herbyn gan eu gelynion. Ac yn ol pob ymddangosiad presennol, bydd i'r ym- chwiliad hwn, er y g6st fawr mewn arian, a'r gwastraff ar amser sydd yn gyssylltiedig ag ef, droi allan yn hollol ofer-pe ofer hefyd, os try yn siomedigaeth fawr i'r Toriaid a'r Undebwyr. Cymmerodd y mesur hwn, ynghyd a Mesur y Llywodraeth Leol, a mesurau lied ddibwys eraill, gymmaint o amser y senedd nes y pender- fynodd y "llywodraeth gynnal eisteddiad hyd- refol; ac felly gohiriwyd ar y 13eg o A wst. Ar ol gorphwys am dymmor byr, dechreuodd ein seneddwyr ar y gwaith o anerch cyfarfod. ydd mewn gwahanol ranau o'r wlad; a phen- derfynodd ein Rhyddfrydwyr mwyaf blaenllaw wneuthur y defnydd goreu o'u hamser cyn yr ail gyfarfyddiad. Anerchwyd cyfarfodydd cy- hoeddus mawrion gan Mr. GLADSTONE, Mr. JOHN MORLEY, Syr WILLIAM HARCOURT, ac eraill o aelodau y Ty Isaf; a chan Arglwydd GRANVILLE, Arglwydd SPENCER, Arglwydd Bi- PON, a Rhyddfrydwyr eraill perthynol i'r Ty Uchaf yn mha rai y beirniedid gweithrediad- au y llywodraeth yn llym, ac yn neillduol eu gwladlywiaeth Wyddelig. Ni bu y Toriaid, chwaith. yn ddistaw. Bu y Meistri BALFOUR, GOSCHEN, a W. H. SMITH, yn traethu eu barn o'u tu hwythau; a chafodd tafodau Arglwydd HARTINGTON, ac eraill o'r Undebwyr, eu defn- yddio, yn ol eu harfer. Bu yr aelodau Gwydd elig hefyd yn hynod ddiwyd ar y llwyfanau yn ngwahanol ranau y deyrnas. Yn mis Hydref, cynnaliwyd cyfarfodydd lliosog o Ryddfrydwyr Cymreig yn y Drefnewydd, ac yn ddilynol i hyny yn Ngwrecsam, y rhai a anrhydeddwyd a phresennoideb amryw o aelodau seneddol; ac yn eu plith, Mr. JOHN MORLEY, yr hwn a dra- ddododd anerchiadau gorchestol. Ail gyfarfu y senedd ddechreu mis Tachwedd, a chynnaliwyd cyfarfodydd mawrion y Cynghrair Rhyddfrydol yn Birmingham tua'r un adeg-yn mha rai y traddodwyd areithiau teilwng o hono ei hun gan Mr. GLADSTONE, ac eraill. Yn mhlith materion eraill a gafodd sylw neillduol yn y cyfarfodydd Rhyddfrydig, cafodd Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru le neillduol; yr angenrheidrwydd am gyfnewidiad pwysig yn nghyfansoddiad Ty yr Arglwyddi, ac am seneddau byrach; ynghyd ag amrvw faterion dyddorol eraill. A RIAN BENTHYG I'R AMAETHWYR GWYDDEM? ARIAN BENTHYG I'R_AAETHR GWYDDIG:, I Yn senedd yr Hydref, y pnt tesurau a aavgia i sylw oeddynt y Mesur ar Bryniad Tiroedd yn yr Iwerddon; yr hwn a baBiwyd-a thrwy yr hwn y galluogir y llywodraeth i roddi benthyg pum miliwn o bunnau (5,OOO,006p), i denant- iaid yr Iwerddon i brynu eu ffermydd. Dadl. euai y weinyddiaeth fod hyn yn cael ei wneyd o gydymdeimlad a'r amaethwyr. Ond y mae yn amlwg mai gwir amcan y mesur oedd estyn ymwared i dirfeddiannwyr y wlad hono yn wyneb dylanwad a gweithrediadau y Cynghrair Tirol Gwyddelig. Dywedodd y Rhyddfrydwyr a'r aelodau Gwyddelig yn eglur yn y Ty mai gofal tyner Toriaid ac Undebwyr Prydain am eu brodyr, y tirfeddiannwyr Gwyddelig, oedd wrth wraidd y cynnygiad a'u bod yn ymdrechu gallu gwneyd darpariaethau eysurus ar eu cyfer cyn i Ymreolaeth ddyfod yn ffaith yn yr Iwer- ddon. Gweithied y Cynghrair Tirol Oymreig hefyd ei gynlluniau yn mlaen allan gyda'r penderfyniad a'r pybyrwch sydd yn deilwng o'u hamcanion mawrion a bydded i'r genedl, o bob dosbarth, eu cefnogi yn wresog-ac ni raid i ni fod yn hir iawn heb Lys Tirol i benderfynu ar renti teg i'r amaethwyr, sicrwydd am barhad eu ten- antiaeth, ac iawn llawn am welliantau a wnaed yn eu ffermydd pan yn ymadael. Cawn hefyd yn ddiau gan y Rhyddfrydwyr-neu y Toriaid, fe allai-fenthyg pum miliwn, neu ddeg, neu ragor, o arian am 16g isel i gynnorthwyo am- aethwyr Cymru i brynu eu ffermydd ar am- modau rhesymol. A chawn, gyda hyny, ddarnau bychain o dir i'r gweithwyr; ac ymwared hefyd i'r miloedd sydd drwy y wlad wedi adeiladu eu tai ar brydlesoedd. Y WLAD biau'r tiroedd oU, ac y mae genym hawl i ammodau llawer iawn I ysgafnach gyda golwg arnynt. Y mae yn eglur oddi wrth araeth Arglwydd SALISBURY yn Scarborough, yr wythnos cyn y ddiweddaf, fod crec' bychan yn llestr ei arglwyddiaeth-fod Cynghrair Tirol Cymru, a'r Symmudiad Gwrth- ddegymol, fe allai, yn barod wedi ei argyhoeddi fod newyn am dir' (, land Ititnger), fel y dy- wedodd, wedi meddiannu cenhedloedd Celtaidd y deyrnas; a hanner awgrymodd fod yn rhaid gwneyd rhywbeth i'w cyfarfod. Parhaed yr Ysgotiaid, a'r Oymry, gyda'r Gwyddelod-tair cangen 'Geltaidd' y deyrnas-i argyhoeddi a goleuo y wlad ar y cwestiynau hyn, nes mynu— ïe, meddwn, nes mynu gwaredigaeth o ryw gyf- eiriad neu gilydd, er pob gwrthwynebiadau. Oymmerwyd y gweddill o amser y senedd- dymmor i fyny, yn benaf, mewn dadleu a phleid- leisio arian y deyrnas at wahanol amcanion yn mhwyllgor y cyflenwad. Oafodd yr amcan. gyfrifon hyn sylw neillduol y flwyddyn ddi weddaf, a chafwyd dadleuon pwysig, yn mha rai y condemniwyd y gwastraff ofnadwy sydd yn cymmeryd lie ar arian y cyhoedd mewn cyflogau a threuliau eraill perthynol i'r gwahanol swydd- feydd cyhoedaas, Pasiwyd amryw fesurau eraill, a gwrtht; Iwyd amryw-yn mysg pa rai y mae'n ddrv. ■< genym weled Mesur Cau y Tafarnau ar y Sabbath yn Lloegr. Yna ym- wahanwyd hyd Chwefror nesaf. Y R IWERDDON. I Cafodd flwyddyn o brofiad chwerw trwy gael ei llywodraethu dan y 'Ddeddf Orfodol;' ond aflwyddodd y weinyddiaeth i gyrhaedd ei ham- can drwyddi. Nis gallodd gynnhyrfu y Gwydd. elod i wrthryfel o un tu, ac nis gallodd ddistewi, dychrynu, na rhoddi attalfa ar weithrediadau gymmaint ag un o ganghenau y Cynghrair Cen- edlaethol Cynnaliasant nifer liosog o gyfarfodydd cy- hoeddus, a defnyddiasant y wasg yn ddibrin er gwneuthur eu cwynion yn hysbys, ac er dadleu ac amddiffyn eu hachos a'u hawliau. Y mae yn wir i gannoedd o honynt gael eu carcharu yn ystod y flwyddyn dan y ddeddf ormesol ac ang- hyfiawn hon; ac yn eu plith amryw o'u prif aelodau seneddol, ac amryw o offeiriaid Pabaidd, a gwleidyddwyr blaenllaw. A chyda hyn, y mae nifer liosog o achosion yn bresennol yn aros i gael eu profi, ac yn eu plith achwynion yn erbyn amryw o aelodau seneddol—y rhai, yn ddiau, a garcherir hyd eithaf y gyfraith' gan Mr. BALFOUR, a'i frodyr. Er hyn i gyd, methiant hollol yw y Ddeddf Orfodol wedi bod yn yr Iwerddon yn ystod y flwyddyn; ac y mae yn eglur fod ar Mr. BAL- FOUR, a'i ewythr, ofn y canlyniadau, er mor hyderus yr ymddangosant o flaen y cyhoedd. Y CYFNEWIDIADAU YN Y SENEDD. Yn ystod y flwyddyn, ni buont nac yn lliosog na phwysig. Oymmerodd tua 30 o etholiadau le; ond gadawant y pleidiau gwleidyddol, o ran eu rhifedi cymmharol yn y senedd, yr un fath ag oeddynt ar ddechreu y flwyddyn hon, gyda chwanegiad o ddwy bleidlais i'r Rhyddfrydwyr. Collodd Cymru, yn ystod y flwyddyn, ddau aelod tra gwerthfawr trwy farwolaeth; sef, Mr. HENRY RICHARD, yr aelod dros fwrdeisdrefi Merthyr ac Aberd&r, a Mr. F. A. YEO, yr ael. od dros orllewinbarth Morganwg. Er mai Rhyddfrydwyr a etholwyd yn eu lie, teimlir fod bwlch mawr iawn wedi ei wneuthur yn rhengoedd y fyddin fach Ryddfrydig yn Nhy y Cyffredin drwy farwolaeth y Rhyddfrydwyr pybyr a enwyd. TRAMOR. Ofnid yn fynych, y flwyddyn ddiweddaf, fod j cymmylau duon rhyfel yn ymgasglu uwch ben rhai rhanau o Gyfandir Ewrop; ond yn ffodus, cawsant eu gwasgaru cyn i'r storm dori allan. GERMANY.—Nid oedd pethau yn ymddangos, ar un adeg, mor ddymunol ag y dymunid rhwng y wlad hono a Ffraingc; ond symmudwyd yr annealltwriaeth. Collodd yr Almaen ddau ymherawdwr yn vstod y flwyddyn. Bu farw yr Ymherawdwr WILLIAM ar y 9fed o Fawrth; a dilynwyd ef i'r orsedd gan ei fab FREDERICK- mab-yn-nghyfraith ein brenhines ni. Ond rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd yntau ar y 15fed o fis Mehefin, ar ol teyrnasu ond ychydig o fisoedd, er gofid a galar i laweroedd y tu allan i'w wlad, yn gystal ag i'w ddeiliaid. Yr oedd yn Wr a berchid yn fawr; a disgwylid y caffai Germany lywodraethwr pwyllog a goleuedig ynddo. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei fab WILLIAM; yr hwn, hyd yn hyn, sydd heb gael amser na chyfleusdra i roddi ond ychydig o brofion o'i gyrcmhwysder i'r swydd. Ond y mae yn debyg o dtOiallan yn llawn gwell na'r o f nau oedd am dano. Y mae ganddo yn y Tywysog BISMARO un o wleidyddwyr blaenat Ewrop fel cynghorwr. FFRAINGC.-Nid ydyw pethau wedi bod mor dawel ag y gallesid dymuno yno yn ystod y flwyddyn; er fod y Weriniaeth yn ymddangos fel yn gwreiddio yn ddyfnach, ddyfnach. yn nheimlad y bobl, ac yn ennill nerth chwanegol y naill flwyddyn ar ol y llall. Y Cadfridog BOULANGER ydyw ei fflangell yn awr. Trwy ei uchelgais, a'i awydd cryf i ymyraeth a chyfan- soddiad y wlad hono, yn ogystal ag a'i hachosion milwraidd, y mae efe yn peri peth gofid ac an. esmwythder mewn rhai cylchoedd. Ond amser a ddengys pa beth fydd y canlyniadau. ITALY.—Y mae y Pab, LEO XIII., wedi bod yn dadgan ei farn ar faterion gwleidyddol mewn modd tra annerbyniol i'r ilywodraeth a'i deiliaid. Yn ddiwediar, dangosodd yn eglur ei fod yn awyddus, pe y gwyddai pa fodd, i adsefydlu ei awdurdod gwladol yno; a thrwy hyny ym. yraeth i raddau mawr a gorchwylion llywodr- aethau y byd. Ond nid oes y tebygolrwydd lleiaf y bydd iddo gyrhaedd ei amcan, hyd yn oed yn Italy ei hun-ae y mae yn anobeithiol iddo bellach allu gwenwyno rhyddid ac anni- byniaeth trigolion gwledydd eraill. SERVIA.- Y mae brenin a senedd y wlad wedi treulio rhan helaeth o'r flwyddyn mewn ad-drefnu y cyfansoddiad gwladol. Yn wir, y maent wedi mabwysiadu cyfansoddiad newydd i raddau helaeth. AFFRICA.-Helbulus ydyw y flwyddyn wedi bod mewn amryw ranau o'r eyfandir mawr hwn. Y mae amryw ryfeloedd ar raddfa fechan wedi cymmeryd lie—dadguddiedigaeth- au pwysig wedi eu gwneuthur mewn perthynas i eangder a chreulondeb y gaethfasnach a ddygir yn mlaen mewn rhai rhanau o'r wlad hono; a sicrwydd wedi ei gael fod ein cydwlad- wr anturiaethus ac enwog, Mr. H. M. STANLEY, yn fyw, ac yn parhau i weithio allan amcanion ei ymweliad ft chanolbarth y wlad. KWSSIA. Gwnaed ymdreeh egnyol yn ystod y flwyddyn gan y Count TOLSTOI, ei gweinidog car- trefol,, gyda chymmeradwyaeth yr ymherawdwr ei I iun, i wneyd cyfnewidiadaa pwysig yn nghyfansodd- iad y wlad hono drwy roddi mwy o awdurdod i'r bobl yn Uywodraethiad eu hachosion eu hunain. Dangosodd cynghor yr ymherodraeth, yr hwn a wneir i fyny braidd yn hollol o bendefigion (nobles) yr ymherodraeth, wrthwynebiad cryf, yn ol arfer y dosbarth hwn, i'r eyfnewidiadau a'r gwelliantau a gynnygid. Er hyuy, ystyrir fod cam pwysig yn yr iawn gyfeiriad wedi cael ei roddi, ac y bydd raid i hyn gymmeryd lie hyd yn oed yn,,Kwssia, a hyny yn fuan. INDIA. Y mae cynnadledd fawr a phwysig o wleidyddwyr brodorol yr ymherodraeth fawr hon wedi cael ei chynnal yu Allahabad yn ystod dyddiau diweddaf y flwyddyn, er cymmeryd i ystyriaeth faterion pwysig perthynol i lywodraethiad eu gwlad. Yr oedd yn bresennol yn y gvnnadledd o ddeuddeg l bymtheng mil (12,000 i 15,000) o gynnrychiolwyr o wahanol ranau India. Cynnelid hi, nid mewn gwrth- wynebiad i'r llywodraeth Brydeinig, ond yn hytracn yn ffafr ein Uywodraethiad ni o'r wlad. Yr amcanion mawr oedd ceisio mwy o allu ac awdurdod gyda'u hawliau eu hun-gallu i ddadblygu sefvdliadau lleol yn helaethach, a sicrhau i'r elfen frodorol ei lie, ei rhan, a'i dylanwad priodol yn holl gynghorau cy- hoeddus yr ymherodraeth fawr hono. YR UNOL DALAETHAU. Cymmerodd etholiad cyffredinot le yno, gyda'r amcan o ddewis, Arlywydd ar y Talaethau; a bu y frwydr yn un galed, a threùd yn trafr y Gwerinwyr. Coil odd yr hen Arlywydd v swydd; ac y mae y Cadfridog HARRISON wedi ei ethol am y pedair blynedd dyfodol. Belli fydd dy- lanwad y fuddugoliaeth hon o eiddo y ijwerinwyr ar y Democratiaid ar y cwestiwn pwysig• o Kasw* Rydd, nis gwvr neb ar hyn o bryd er fod lie i (Inl na bydd mor "ffafriol a phe y dewisasid yr hen M- Iywydd am dymmor etto.. CAMLAS PANAMA.-Y mae yr anturiaeth fawr- anturiaeth fwyai yr oes-o wneyd camlas ar dra, a y cyfandir n?wro F6r y Werydd i'r Mr Taweiogdr?y guldir Panama, mewn perygl o gael ei rhoddi l fyny, J