Hide Articles List

13 articles on this Page

,Y CYNNWYSIAD. j - I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

I ni yn y wlad hon, y nodwedd fwyaf ddyddorol yn ngwladlywiaeth yr Unol Dal- eithiau ar hyn o bryd ydyw y penderfyniad cryf a ddangosir gan y bobl i gadw rhyddid perffaith mewn cyssylltiad â addysg genedl- aethol. Y mae yr Uch-Babyddion, y lhai oeddynt yn gwallgof freuddwydio y caent eu ffordd eu hunain yn y Byd Newidi, wedi eu bargyhoeddi erbyn hyn na chymmer y golellni ei orbhfygu gan y tywyllwch. Yn ol yr arwyddion presennol, ni thelir un flyrling o a; ian y cyhoedd at gynnal addysg sectaidd. Awgrymodd yr Arlywydd yn ei genndvyri flynyddol ddiweddaf fod i welliant gael ei wneyd yn y Cyfansoddiad i'r pwrpas hwnw; ac y mae Mr. BLAINE eisces wedi cynnyg y tyfryw welliant yn ei eiriau ei hun yn N hy y Cynnrychiolwyr. Y mae y gwelliant yn gwahardd pob talaeth i wneuthur unrhyw gyfreithiau yn mherthynas i sefydliad ci efydd, neu i attal rhyddid crefyddol. Ond nid yw hyn yn cynnwys ond yr hyn sydd eisces yn y Cyfansoddiad.- Ond y mae yn dadblygu yr egwyddor hon yn mhallach trwy ddarjaru na chaiff unrhyw arian a godir trwy divthi mewn unrhyw dalaetb at gynnal ysgol 01 cyhoeddue, neu a geir i'w cynnal o unrhyw drysorfa neu diroedd cyhceldus, fod byth dan reolaeth unrhyw sect givfyddol, ac na chaiff unrhyw arian neu diroedd a ddefnyddir at addysg gyhoeddus earhanu rhwng sectau neu enwadau crefyddol. Y mae ysgolion y Tal- eithiau, gydag ychydig eithriadau, yn rhydd- ion; ac yn cael eu cynnal trwy drethi neu waddoliad. Y mae y wHedd a gndwyd rai blynyddoedd yn ol, "Y Tircedd Cyhceddua at gynnal addysg," yn dyuodi flynnoxjell y gwaddoliad hwn. Mewn gwirionedd, y mae Llywi diaeth yr Undeb wedi anrhegu Llyw- odraethau y Taleithiau a rhoddion mawrion o diroedd cyboeddus i'r pwrpas hwn. Dy- wedir fod y gwaddoliad hwn mewn rhai o'r Taleithiau wedi dechreu cael ei ddefnyddio at ddybenion sectaidd, yn enwedig gan Eg- lwys Rhufain, ac ymddengys yn awr yn debygol fod y teimlad hwn yn erbyn y defn- yddiad hwn o eiddo y cyhoedd wedi gwneyd mwy o niwed i'r Democratiaid yn yr ethol- iadau Hydref diweddaf na di-n arall. Modd bynag, y maent wedi penderfynu gwnpvd eu goreu yn erbyn y gwelliant* sydd yn diogelu addysg ddyddiol rhag rheolaeth enwadol. «

[No title]