Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
0....-.-Y OYNNWYSIAD. I
0. Y OYNNWYSIAD. I l DigwyddllldaU 1 y Biifysgol i Gymru «• 1 Treseddtn a Damwelniau 2 Aoh Reredos Exer. 2 Mr, Gladstone adref 2 Mr. Jehn Bright, A.S. yn Birmingham. 3 Prlf Erthygl&u Newyddlon Oymrelg 4 Y Ddynea Wallgof OM 6 Barddonlaeth m 6 Marchnadoodd 6 Goheblaethau OM HysbysUdau «• •••
[No title]
DRWG genym ddeall fod pethau wedi myned i sefyllfa ddifrifol iawn yn ngweithydd glo a haiarn Sir Fynwy a Deheudir Cymru. Dydd Gwener diweddaf, cynnaliodd Cymdeithas y Meistriaid gyfarfod yn Nghaerdydd, pan y penderfynasant gloi eu holl weithwyr allan ar y dydd cyntaf o Chwefror, oddi eithr i'r „lowyr ail ddechreu cyn hyny am y goatyng- iad o dde-Y y cant. Dywedir fod y glowyr yn benderfynol o wrthsefyll y gostyngiad; a chan fod penderfyniad y meistriaid yn effeithio o leiaf ar gan mil o weithwyr, y mae yr ym- drechfa yn debyg o fod yn un o'r rhai mwyaf dinystriol a ddigwyddodd erioed yn y dosbarth. Y mae caledi mawr yn ffynu elsoes yn mhlith y crweithwyr a'u teuluoeddj ac os pery y sefyll allan yn hir etto, y mae yn rhwym o gynnyddu yn ddychrynllyd. Modd bynag, ni a hyderwn y trefnir rhyw lwybr i'r pleidiau i ddyfod i gyttundeb.
[No title]
—■ Yr ydym yn deall fod Rhuthyn wedi der- byn gorchymyn gorfodol i ethol bwrdd ysgol yn y fwrdeisdref hono. Disgwylir yn hyderus y llwyddir i'w ethol heb etholiad, a thrwy I hyny yr arbedir y gôst a'r drafferth o yra- I drechfa. Ni a obeithiwn y gofala Ymneill- duwyr Rhuthyn am eu hawliau ar yr achlysur presennol, ao na byddant mewn un modd ar ol Ymneillduwyr lleoedd ereill yn Nghymru. Od cymmer ymdrechfa le, credwn yr ymladd- ant mor ddewr a ffyddlawn a neb dros eu hymgeiswyr.
[No title]
Dymunem longyfarch trigolion Dolgellau a'r gymmydogaeth ar yr ymdrech anghyfiredin a wnaed ganddynt i godi yr arian angenrheid- iol er sicrhau yr Y sgol W-addoledig ienethod i'w tref. Y mae y swm o 2,000p. yn eisieu, ac y mae eisoes dros 1,5001). wedi eu tanys- orifio. Nid oes un ammheuaeth na oheir y gweddili yn fuan. Bydd yr ysgol gynnygiedig yn fantais nid bechan, nid yn unig i Ddolgellau a'r gymmydogaeth, ond i sir Feirionydd yn gyffredinol.
[No title]
Yn niwedd yr wythnos ddiweddaf, a de- chreu yr wythnos hon, cymmerodd dadl tra dyddorol a phwysig le yn Senedd Ffraingc ar Fesur Cyfansoddiadol M. DE VENTAVON. Y mae y mesur hwn yn cadarnhau y Maeslyw- vdd MAC MAHON mewn awdurdod; yn sef- ydlu cyfrifoldeb y Weinyddiaeth i'r Senedd, yn creu ail Dy tebyg i'n Ty yr Arglwyddi ni, yn rhoddi hawl i'r Maeslywydd MACMAHON i ddadgorphori y Senedd, ac yn darparu fod i'r ddau Dy yn niwedd y Seithoulwyddiaeth benderfynu pa gwrii a ddilynant. Teimlid dyddordeb mawr yn y ddadl, ac yr oedd y Ty yn llawn. Dywedodd M. DE VENTAVON, yr hwn a agorodd y ddadl, ei bod yn ammhossibl sefydlu ffaiflywodraeth bennodol, o herwydd yr ymraniadau yn mhlith y pleidiau; a chredai na wnai dadgorphoriad ond yn unig parhau yr ymraniadau hyny. Gan hyny, nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond boddloni ar y sefyllfa ddarbodol bresennol ar bethau. Dangosid anghymmeradwyaeth hollol o'r ar- aeth hon yn mhob rhan o'r Ty. Cynnygiodd M. CARAYON LATOUR na byddai i'r Senedd basio yr ail-ddarlleniad o'r mesur, ao ymos- ododd yn ffyrnig ar y Weriniaeth a'r Ymher odraeth, gan annog fod i'r Frenhiniaeth gael ei hadferu. Cynnyrchodd yr araeth cryn gyffro yn y Ty, ae amlygid anghymmeradwy- aeth ffyrnig gan yr Ymherodrwyr a'r Gwerin- wyr. Modd bynag, pasiwyd y mesur trwy fwyafrif o 547 yn erbyn 146. Cefnogodd y blaid Aswy Gymmedrol yr ail ddarlleniad, nid o herwydd eu bod yn cymmeradwyo y mesur fel y mae, ond o herwydd eu bod yn ewyllysio gorfodi y Senedd i ddewis rhwng gweriniaeth a dadgorphoriad.
[No title]
Mynega telegram a dderbyniwyd o Bel- grade fod pob lie i gredu yn awr y terfynir yr anghyttundeb rhwng Twrci a Montenegro yn heddychol, gan fod y tri Gallu Gogleddol wedi gofyn fod i Weinidog Tramor Twrci ymddiswyddo, mewn trefn i ochelyd tywallt gwaed. Hysbysa telegram o Vienna fod Ewssia ao Awstria wedi gwrthdystio yn benderfynol wrth Lywodraeth Twrci yn mherthynas i achos Padgoaitza, a bod Ger- many a Ffraingc o'r un golygiadau a hwynt ar y mater. Er ei bod yn debygol y terfynir yr anghyttundeb heb ryfel dioed, creda gwleidyddion Awstria fod gwrthdarawiad yn rhwym o gymmeryd lie cyn hir rhwng Twrci a Montenegro; ae am hyny, barna Awstria ei bod yn angenrheidiol cryfhau ei galluoedd fel ag i fod yn barod i gyfarfod ag unrhyw wedd a gymmerir gan y cwestiwn Dwyr- einiol.
[No title]
Yn ol gohebydd y Wrexham Guardian yn Mhenarlag, dywed y bobl sydd yn byw yn y gymmydogaeth gyfagos i balas Mr. GLADSTONE fod y cyn-Brif Weinidog ei hun yn dyweyd fod y blaid Ryddfrydig wedi ymddwyn. yn wael iawn tuag ato. Chwanega y gohebydd fod Mr. GLADSTONE yn godwr boreu, ac y mae yn myned trwy lawer iawn o waith, ac yn cadw o fewn tir ei gastell' er y gallai, pe yr ewyllysiai, farehogaeth deuddeg milldir dros ei dir ei hun. Dywedir yn Mhenarlag fod ei etifeddiaeth a adawyd yn ddiweddar i Mr. GLADSTONE yn werth 15,000p. yny flwyddyn, a bod y boneddwr anrhydeddus a'i oruclrvyl- wyr yn debyg o wneuthur cyttundebau trwy ba rai y disgwylir y ehwanegir o dair i bedair mil o bunnau at ei gwerth blynyddol. Y mae hanner dwsin o weithydd glô ar yr etifeddiaeth, a phob un yn cael ei weithio yn ennillgar. Hoffir y boneddwr anrhydeddus yn fawr gan ei gymmydogion.
[No title]
lw Nos Sadwrn diweddaf cyrhaeddodd y Uadfridog GARIBALDI i Civita Vecchia. Caf- odd dderbyniad tra brwdfrydig, ac arweiniwyd ef gan orymdaith fawr wrth oleuni ffaglau. Dydd Sul cyrhaeddodd i Rufain. Cafodd dder- byniad mwy brwdfrydig fyth yn y ddinas hono. Dywed gohebydd y Daily News 0i bod yn ymddangos fod Bhufain oil wedi dyfod allan I i'w gyfarfod, a llnsgodd y bobl ei gerbyd trwy'r heolydd. Anfonodd y brenin nifer o foneddigion i longyfarch y cadfridog yn ei enw; ac heb law hyny, anfonodd wahoddiad personol iddo. Dydd Llun cymmerodi. ei eisteddle fel un o gynnrychiolwyr Rhufain yn senedd Italy. Mor fawr oedd y dorf o'r tu allan fel y bu ei gerbyd bedair awr yn cyrhaedd y Ty. Oddi mewn cafodd y der- byniad mwyaf brwdfrydig a roddwyd i un I dyn erioed.
[No title]
Ychydig ddyddiau yn ol, anfonwyd llythyr at Mr. ADAM, y "chwip" Eyddfrydig, wedi ei lawnodi gan nifer mawr o aelodau Rhydd- frydig, yn eifyn arno alw cyfarfod o'r! aelodau Rhyddfrydig i ddewis arweiinydd yn y Ty hwnw. Cynnelir y cyfarfod yni Ystafelloedd Willis ddydd Mercher, y 3yddol Chwefror. Dywed y Daily Newsnad oes un ammheuaeth nad un o weithredoedd cyntaf y cyfarfod fydd cydnabod Arglwydd GRANVILLE fel pen y blaid Ryddfrydia-sefyllfa nad yd- yw yn barnu yn iawn iddo ei chymmeryd heb y cyfryw gydnabyddiaeth ffarflol-yn I gystal a'i harweinydd yn Nhy yr Arglwyddi. Deallir nad ydyw aelodau y Weinyddiaeth i ddiweddar yn bwriadu cymmeryd un rhan yn y dewisiad. Dichon y bydd Mr. BRIGHT yn eithriad, gan fod ei sefyllfa neillduol ef yn ei alluogi i siarad gyda mwy o ryddid nag y teimla rhai o'i gydweinidogion yn iawn ei arfer. Y syniad mwyaf cyffredin ydyw mai Arglwydd HARTINGTON a ddewisir i fod yn arweinydd i'r blaid yn Nhy y Cyffredin. Teimla yr Anghydffui fwyr yn gyffredinol wrthwynebiad cryf i Mr. FORSTER, o herwydd ei wladlywiaeth ar y cwestiwn o addysg. Dywed gohebydd y Mercury yn Llundain ei bod yn sicr mai Arglwydd HARTINGTON fydd yr arweinydd newydd. Deallir fod Arglwydd GRANVILLE yn ei ddewis ef o flaen Mr. FOESTER. Dealla y Sun fod Mr. GLADSTONE wedi hysbysu aelod enwog o'r blaid Rydd- frydig ei fod ef yn meddwl fod Arglwydd HARTINGTON yn hollol gymmhwys i fod yn olynydd iddo ef fel arweinydd.
[No title]
Y mae Ymherawdwr China, TOUNG-TCHI, yrhwnaauwydyn 1856, a'r hwn a briodwyd yn Hydref, 1872, wedi marw. Dy wedirjmai ei olynydd ydyw tywysog dim ond pum mlwydd oed; ac os felly, llywodraethir y wlad am dymmor maith etto gan raglaw.
[No title]
Yn Senedd Germany, dydd Llun diweddaf, pasiwyd Afesur Priodasau Gwladol gan 207 o bleidleisiau yn erbyn 72. Y mae y mesur hwn yn dwyn gweinyddiad priodasau yn mron yn hollol i'r un sefyllfa ag y mae yn y wlad hon. Gall y neb a ewyllysio briodi mewn swyddfa wladc], heb wasanaeth crefyddol o gwbl. Y mae y mesur wedi rhoddi dyrnod chwanegol i'r offeiriadaeth.
[No title]
—————— Y mae yr adroddiadau diweddaf yn mherthynas i iechyd y Tywysog LEOPOLD yn fwy ffafriol. Nid ydyw yr arwyddion mwyaf, pery-lus wedi dychwelyd, ao y mae ei U chelder Brenhinol yn cryfhau ychydig. Gan fod ei gwsg wedi gwellhau, disgwylir y pery i gryfhau, ac yr adferir ef yn hollol.
[No title]
Y mae siars Esgob Durham, yr hon y methodd ei thraddodi o herwydd afiechyd, yn awr wedi ei lledaenu yn mhlith clerigwyr yr esgobaeth hono mewn ffurf argraphedig. Y mae Dr. BARING yn siarad yn gryf iawn ar y pwngc o Ddefodaeth, ac yn koni fod holl ffurfwasanaeth Eglwys Loegr yn condemnio yr holl gyfundrefn offeiriadol fel un gyfeil- iornus, beryglus, ac anghyfiawn.
[No title]
Dydd Sadwrn diweddaf, bu farw Canon KINGSLEY, yn Eversley. Dioddefodd gystudd trwm am amser maith. Appwyntiwyd ef yn Ganon Cater yn fuan ar ol rhoddi i fyny Gad- air Hanesiaeth Ddiweddar yn Mhrifysgol Caergrawnt, Yr oedd yn ysgrifenydd galluog, ac yn awdwr amryw lyfrau gwerthfawr. Ei oed oedd 56ain mlwydd.
[No title]
Boreu ddydd Llun diweddaf, bu farw Ar- I glwyddes CAERNARFON. Nid oedd ond 41ain mlwydd oed, a gadawodd bed war o blant ar ei hoi—yr hynaf yn ddim ond naw mlwydd oed, a'r ieuengaf yn faban ychydig ddyddiau. α
[No title]
Y mae dadganiad, wedi ei lawnodi gan ddosbarth o'r blaid Radicalaidd yn y Gogledd, yn awr yn oael ei ledaenu yn Llundain, gyda'r amcan o hysbysu i brif ddynion y blaid Rydd- frydig ar ba delerau yn unig y cynnorthwyant i ffurfio .plaid wrthwynebol gref. Ni dder- bynia unrhyw gyfuniad Rhyddfrydig newydd eu cefnogaeth, oddi eithr i'r arweiuydd a'r blaid ymrwymo i roddi yr etholfraint i bawb sydd yn cadw tai yn y siroedd, i ad-ddosbarthu yr eisteddleoedd, i ddwyn mesur da i mewn gyda golwg ar ddlil tir, ac i ddadsefjdlu a dadwaddoli yr Bglwys, ynghyd a'r; mesurau-a gefnogir gan Gynghrair Addysg Birmingham a Chymdeithas Diwygiad Etholiadol. Ni foddlonant i gydweithredu ag unrhyw blaid heb ei bod yn berffaith Byddfrydig. jg[Gwell ganddynt weithredu yn annifeynol na chefnogi unrhyw fesurau hannerog a difudd; a chred- ant yr argyhoeddir y wlad yn fuan mai hwy sydd iawn.
[No title]
Y mae gohebydd yn St. Andrews, Ysgot- land, yn telegraphio fel y canlyn:— 14ty mae y tywydd yn ystod y denddeg awr diweddaf wedi newid yn fawr, ao yr ydym etto yn nghanol yatorm o eira, yr hon sydd yn debyg o fod yn un dost iawn. Y mae er's rhai dyddiau yu rhewi yn galed, ond ddoe tywyllodd y ffurfafen, ac yn y prydnawn deohrenodd fwrw eira, a diagya- odd cawodydd trymion o hono yn awr ao eilwaith, yn cael eu canlyn gan awel gref o gyfeiriad do. haaol."
[No title]
Pasiodd Pwyllgor yr Anghydffurfwyr ya Crewe benderfyniad unfrydol ar y cwestiwn o arweinydd y blaid Ryddfrydig. Amlyg- asant anghymmeradwyaeth hollol o Mr. FORSTER. Ni fynent mo hono ar un cyfrif. Ystyrient fod ei wladlywiaeth. ar addysg yn ei wneyd yn gyfryw nas gallent ar un cyfrif ei dderbyn. Nid yr Anghydffurfwyr yn unig sydd yn ei erbyn; ond y mae y bendefigaeth yn ei erbyn, a'r holl blaid Whigaidd yn ei erbyn. Gan hyny, nid oes un gobaith y dewisir ef.
!MASNACH Y GLO YN Y DEHEUDIR,
MASNACH Y GLO YN Y DEHEUDIR, Nid oes yr ammheuaeth leiaf, medd un new- yddiadur, na bydd y "cload allan" yn ngweith- feydd glo y Deheubarth yn cael ei roddi mewn grym ddydd Llun nesaf. Ymddengys y meistriaid a'r dynion fel p9 yn parotoi ar gyfer ymdrechfa faith a chwerw. Dychwelodd Arglwydd Aberdar adref i'r Dyffryn nos Fawrth -diweddaf, ac yr ydym yn deall fod tebygolrwydd. cryf y bydd iddo, hyd yn oed pe yn gwrthod ymgymmeryd a'r cyfrifoldeb o fod yn gylafareddwr yn ystyr briodol y gair, wneyd ei oreu, er hyny, i gyf- ryngu rhwng y meistriaid a'r gweithwyr; ac os mewn un lmodd yn bossibl, rhwystro i'r "cload allan" gymmeryd lie ddydd Llun. Ein gweddi ddifrifolaf yw am i'r amcan can- moladwy hwn gael ei gario allan. Ond cyn y gall efe ystyried y cwestiwn o gwbl mewn ystyr gyfryngol neu gylafareddol, y mae un peth o'r pwysigrwydd mwyaf i'w benderfynu, medd y South Wales Daily News am ddydd Mercher diweddaf, sef, pa sicrwydd a all y pleidiau-y meistriaid a'r dynion-ei roddi y bydd iddynt ymostwng i ddyfarniad ei ar- glwyddiaeth pe yn ymgymmeryd a bod yn gylafareddwr. Gwelir rhesymoldeb hyn ar unwaith. Tybier, ar y naill law, fod Ar- glwydd Aberdar yn penderfynu fod sefyllfa y fasnach ar hyn o bryd yn gyfryw ag y dylai y dynion yinfoddloni i'r gostyngiad o ddeg punt y cant yn eu cyflogau; neu, ar y llaw aral), tybier mai ei benderfyniad fyddai nad oes dim, o du y meistriaid, yn galw am y cyfryw ostyngiad, a fyddai y dynion neu y meistriaid yn foddlawn ymostwng i'w ddyf- arniad pe yr elai yn eu herbyn, a pha sicr- rwydd a allant hwy ei roddi o hyny 1 Am y gweithwyr, dywedwa yn ddibetrus ein bod yn cwbl gredu oddi wrth eu bymddygiadau blaenorol yr ymostyngent hwy yn dawel i r dyfarniad pe digwyddai iddo fod yn eu herbyn: ac ni a goeliwn fod y meistriaid hefyd feddiannol ar ddigon o foneddigeiddrwjrd i wneyd yr un peth. Gellid bed yn sacijo barthed i'r dynion, canys hyn a. gelslwyd ganddynt hwy o'r dechreu. Pa fodd bynag, cyn y gall Arglwydd Aberdfir ymgymmeryd a bod yn gylafareddwr rhwng y pleidiau, dylai ar bob cyfrif gael y slcrwydd mwyaf pendant sydd yn bossibl yr ymostyngid i'w benderfyniadau. Y mae yr awyrgylch tra yr ydym yn ys- orifenu yn ymddangos yn erchyll o ddu.