Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

OLYNYDD MR. GLADSTONE.

News
Cite
Share

OLYNYDD MR. GLADSTONE. Y CWESTIWN pwysicaf ar hyn o bryd, a'r hwn sydd yn tynu fwyaf o sylw yn mhlith y Rbyddfrydwyr ydyw, Pwy a ddewisir i arwain y blaid Ryddfrydig yn lie Mr. GLADSTONE 1 Mewn llawer o gylcboedd, addefir mai i Ar- glwydd GRANVILLE y cynnygir arweinyddiaeth yr holl blaid, ao mai efe ydyw olynydd natur- iol Mr. GLADSTONE: ond yr oedd efe yn ar- weinvdd y Rhyddfrydwyr yn Nhy y Cyffredin, ac yn ben y blaid hefyd; ond teimlir yn gy- fFredinol yn awr fod ein hamgylchiadau pre- tennol yn ein gorfodi i ranu y swyddi hyn. Cesglir oddi wrth lythyr Mr. GLADSTONE at Arglwydd GRANVILLE, yn yr hwn yr hys- bysodd ei benderfyniad i ymneillduo, mai ei syniad yntau hefyd yw mai ei arglwydd- iaeth ydyw y cymmhwysaf i fod yn brif ar- weinydd. Mae Arglwydd GRANVILLE yn ddyn pwyll- og, galluog, a siriol ei dymmher, yn beudefig poblogaidd a dylanwadol, ac wedi cael profiad helaeth yn y swydd, ac hefyd fel un o swydd- ogion y goron; a gellir chwanegu hefyd fod y blaid yn gyffredinol yn meddu llawer o ymddiried ynddo. Ac y mae yn dra thebyg ei fod mor debyg i lanw y swydd a neb y gellir ar hyn o bryd ei weled yn y golwg. Ond, yn .Nhy yr Arglwyddi y mae ei arglwyddiaeth; ac felly nis gall efe ein gwas- I anaethu yn Nhy y Cyffredin-Ile y mae pre- sennoldeb arweinydd yn fwy angenrheidiol. Y boneddigion a enwyd fel y rhai cym- mhwysaf i'r swydd ydynt yr Ardalydd HAR- TINGTON, Mr. W. E. FORSTER, Mr. LOWE, Mr. GOSCHEN, neu Syr WILLIAM HARCOURT; ond bydd y cwestiwn yn cael ei ystyried, a'r dewisiad yn cael ei wneyd yn rheolaidd mewn cyfarfod a elwir gan Mr. ADAM, chwip y blaid yn y senedd ddiweddaf, y mae yn debyg, ar y 4ydd o'r mis nesaf, pan y cymmerir hawliau y gwahanol foneddigion dan ystyr- iaeth. Yn ol y Daily Telegraplt, Arglwydd HAR- TINGTON ydyw y dyn goreu i'r swydd o ar. i weinydd Ty y Cyffredin. Ond barnai golyg-i wyr y Daily News, yehydig ddyddiau yn ol, nad oedd yn debyg y cyttunai corph mawr Y: Rhyddfrydwyr a'r dewisiad j yn gymmaint a bod ei hawliau yn gynnwysedig yn benaf yn ei safie a'i gyssylltiadau cymdeithasol. Y mae efe yn banu o deulu enwog CAVENDISH; ac yn ot pob tebygolrwydd, cefnogid ef gan yr hen deuluoedd Whigaidd—a'r dosbarth hwnw o'r blaid Ryddfrydig sydd yn milwrio dan hen faner "Rhyddid Gwladol a Chrefyddol." i styriai golygyddion y Daily News na buasa i yn iiu diivl ei dduwis i'r swydd oni buasai IIIU y pethau a enwyd. Gall siarad yn ddigon call-ond nid yn nerthot nac yu ctleithioJ. Nid ydyw yu meddu ond galluoedd yniresyrn- ¡liol cauolig iawn; ac uid ydyw, meddir erioed wedi dangos ei fod vn meddu cym- mhwysderau moesol na meddyliol ag sydd yn debyg o ennill nifer mawr o ganlyuwyr., Mr. FORSTER oedd hoff ddyn y Daily News hyd yr wythnos ddiweddaf :-ond y mae wedi gollwng Mr. FORSTER, gan feio ar yr Ym- neillduwyr a Chynghrair Addysg Birmingham, o herwydd eu gwrthwynebiad iddo, a dadlellll. hawliau Arglwydd HARTINGTON. Addefir fod Mr. LOWE yn meddu ar allnoedd meddyliol cryfion, a medr nodedig i siarad; ond y mse yn ddiffygiol o'r farn, yr hynawsedd, a'r ddoethineb angenrheidiol i wneyd arweinydd llwyddiannns. Teilynga Mr. GOSCHEN barch ac ymddiried mawr fel gwleidyddwr, ac y mae hefyd wedi ennill iddo ei hun y cymmeriad o fod yn weinyddwr medrus; ond bernir nad ydyw efe yn ddigon cryf i'r lie." Gyda golwg ar Syr WILLIAM HARCOURT, nid ydyw ef yn meddu ond ycbydig iawn o gymmhwysderau i'r awydd. Y mae yn ddigon galluog, mae'n wir; ond y mae mor falch a firoen-uchel, ae y mae ei syniadau mor amwys, hannerog, ac ansefydlog, fel nad oes gan neb ymddiried ynddo:—a phe y dewisid ef i'r swydd, ni chai ond ychydig iawn o ganlynwyr; Y mae ei areithiau diweddar hefyd wedi pellhu y blaid Ryddfrydig oddi wrtho. Y dyddiau diweddaf y mae y Daily News yn dadleu hawliau Mr. FORSTER etto. Pe y penderfynid ar ein harweinydd, yn ol syniadau y wasg Doryaidd, Mr. FORSTER yn ddiau fyddai y dyn. Er esampl-11 Nid oes un gwleidyddwr gonestach," medd y Globe, "yn Nhy y Cyffredin. Mewn cyssylltiad ag addysg, dangosodd y gallai beidio cymmeryd uu sylw o ddadwrdd y eyhoedd, a gwneyd cyfiawnder a. phob ochr i'rcwestiwn mawr; ae ar lawer o achlysuron ereill, rhoddodd brawf o fedr a sefydlogrwydd." I'r un pwrpas y mae newyddiaduron ereill y blaid Doryaidd yn ysgrifenu; ac nid ydym yn synu fodawdwr Deddf Addysg, a chynnrychiolydd Toryaid Bradford, yn wrtbddrych y ganmoliaeth hon. Nid oes un ammheuaeth nad ydyw efe, mewn rhai ystyriaethau, yn meddu ar fwy o gym- mhwysderau iddi na neb o'r rhai a enwyd. Er nad ydyw yn siaradwr hyawdl, y mae yn gyffredin yn siarad yn nerthol, ac i'r pwrpas; ae nid oes derfyn ar ei ddiwydrwydd. Er nad ydyw ei wybodaeth wleidyddol, a'i brofiad fel swyddog, yn deilwng i'w cymmharu a'r eiddo Mr. GLADSTONE, etto y mae yn helaeth, ac yn awgrymiadol; ac y mae efe yn meddu Ilawer o grafiaer a cbymmhwysderau ereill i gario mesurau drwy y senedd, fel y dangosodd yn ddiweddar gyda chyfraith y Balot. Y mae yn lied boblogaidd hefyd yn Nhy y Cyffredin, ond yn fwy felly yn mhlith y Toryaid na'i blaid ei hun. Y mae yn deg, yn ystwyth, a boneddigaidd, fel y dylai fod, at ei wrthwyn- ebwyr-ond yn Ilai felly, hyd yn oed yn ei areithiau seneddol, tuag at ei gyfeillion. Nid ydyw yn meddu ond ychydig o allu i'w hargy- hoeddi, a'u cymmodi hwy £ t'i olygiadau ei hun, nac i'w parswadio i gydweithredu dan am- gylchiadau" anfanteisiol-yr hyn, mewn ar- weinydd, sydd yn ddiffyg pwysig iawn. Ond y mae ynddo dditfyg arall Ilawer mwy pwysi?, yr hwn sydd yn debyg o fod yn rhwystr an- orfod ar ffordd ei ddewisiad:—gwrthododd wrandaw ar ein cwynion yn erbyn rhai o ddarpariaethau y Ddeddf Addysg, a dangos-- odd yn eglur ei fod yn meddu mwy o gyd- ymdeimlad a'r Eglwyswyr. Darpariaethau y Ddeddf Addysg a'i ysbryd uchelfrydig ef, yn benaf, a ddygodd y blaid Ryddfrydig i'w sefyllfa bresennol; a bydd yn dra anbawdd cymmeradwyo ei bennodiad ef i'r swydd o arweinydd lies yr edifarha, ac y dug ffrwythau addas i edifeirweh." Edrycha yr Eglwyswyr arno gyda fiafr, fel y dengys y dyfyniad canlysiol o araeth a draddodwyd yn y Gynnadledd a gynnaliwyd yn Birmingham, perthynol i Gymdeithas Amddiffynol yr Eg- lwys, ychydig ddyddiau yn ol:- Yr oedd y b6l ganddynt yn awr wrth eu traed, ae yn ot pob tebygolrwydd hi a fyddai ganddynt felly am beth ainser; ond gallent hwythau, hefyd, fel ereill, ddyfod i brofedigaeth a helbu], ae antur- iai efe eu cynghori gyda golwg ar y cwestiwn hwn yngbylch sefydliadau eglwysig i beidio bod yn frys- iog i wrtbod y cynnorthwy y teimlai efe yn bur hyderus a gynnygid iddynt gan ddynion fel Mr. Forster, Mr. Goschen, a'r Due o Argyll. Ar gyfer hyn, dyma benderfyniad pwyllgor gweithredol Cynghrair Addysg Birmingham, yr hwn a gynnaliwyd yn yr un dref ddydd lau diweddaf, i ystyried sefyllfa y blaid Rydd- frydig yn ngwyneb ymddiswyddiad Mr. GLADSTONE, yn yr hwn yr oedd boneddigion o Lundain, Bristol, BoltoD, Manchester, Sheffield, &e. Cyttunasant ar y penderfyniad canlynol Penderfynwyd fod y pwyllgor hwn o'r fai-n fod sefyllfa annhrefnus bresennol y blaid Itydd- frydig yn ddyledus i raddau helaeth i'r wladlyw- iaeth a ddilynwyd gan y Llywodraeth ddiweddar yngtyn fig addysg; ac y mae y pwyllgor hwn yn dadgan ei argyhoeddiad na bydd uurhyw undeb o'r blaid yn y wlad yn botsibl dan unrliyw weinydll a ynirwyma i barium yr 11n wladlyw- iauth yn v dyfodol; ye bon sydd wedi cefuogi mauteisiou euwadol yn erbyn addysg geuedlaeth- ol, a'r hon y pr6fwyd ei bod yu anghymmeradwy gau y mwyafrif o'r etholwyr Rhyddfrydig." Yn marn yr Eglwysw,yr, Mr. FORSTER ydyw y dyn:—ond ni fyn Rhyddfrydwyr trwyadi y Cynghrair mo hono heb brawf boddhaol o'i fod wedi newid ei syniadau ar addysg. Nid oes un gwahaniaeth barn yn mhlith; cydweinidogion diweddar Mr. GLADSTONE am eu dyledswydd dan yr amgylchiadau presen- nol. Cynnaliasant gyfarfod i ystyried ei lythyr at Arglwydd GRANVILLE, a derbynias- ant ef fel ei benderfyniad hollol: a daethant i'r penderfyniad mai nid eu dyledswydd hwy, dan yr amgylchiadau presennol, ydyw enwi arweinydd newydd, ond mai iawn a phriodol oedd iddynt ymgynghori a'r blaid. Y mae dadganiad wedi ei lawjmdi gan ddosbarth o'r blaid Radicalaidd yn y Gogledd, ae yn awr yn cael ei ledaenu yn Llundain, gyda'r amcan o hysbysu prif ddynion y blaid Ryddfrydig ar ba delerau yn unig y gallant gynnorthwyo i ffurfio plaid wrthwynebol gref. Ni dderbynia unrhyw gyfuuiad Rhyddfrydig newydd eu cefnogaeth, oddi eithr i'r arwein- ydd a'r blaid ymrwymo i roddi yr etholfraint i bawb sydd yn cadw. tai yn y siroedd, i ad- drefnu yr eisteddleoedd, i ddwyn mesur da i mewn gyda golwg ar ddal tir, ac i ddadsefydlu a dadwaddoli yr Eglwys Sofydledig, ynghyd a'r mesurau a gefnogir gan Gynghrair Addysg Birmingham, a Cbymdeithas Diwygiad Ethol- iadol. Ymddengys na foddlonant hwy i gyd- weithredu ag unrbyw blaid heb ei bod yn berffaith Ryddfrydig; ac y bydd yn well gan- ddynt weithredu yu annibynol na chefnogi unrhyw fesurau hannerog a difudd; a chred- aut yr argyhoeddir y wlad yn fuan mai hwy sydd iawn. Dydd Iau diweddaf, pasiodd pwyllgor gweinyddol Cyradeithas Rhyddhad Crefydd y penderfyniad canlypol:- Gan y gelwir ar aelodau Rhyddfrydig Tk y Cyffiedin i ddewis arweinydd fel olynydd i Mr. GLADSTONE, teimla y pwyllgor mai eu dyledswydd ydyw dadgan eu gobaith difrifol na bydd i'w eyfeillion seueddol roddi un gefnogaeth i unrhyw appwyntiad a gynnwysa barhld y wladlywiaeth a ddilynwyd gan y Llywodraeth ddiweddar wrth ymwneyd &'r cwestiwn o addysg genedlaethol, neu unrhyw ddeddfwriaeth arail wrthwynebol i egwyddorion cydraddoldeb crefyddol." Yn ngwyneb y syniadau gwahanol uchod, y mae rhai yn tybied mai i ddwylaw dau neu dri yr ymddiriedir yr arweinyddiaeth. Ond ein barn ni yw mai yr Ardalydd HARTINGTON a ddewisir.

MR. BRIGHT, YN BIRMINGHAM.

IGWEITJIFEYDD GLO Y DEHEUDIR.

Y GOGLEDD.

CAERDYDD, AC ADDYSG -ANSECTAIDD.