Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

MR. GLADSTONE --ADREF.

News
Cite
Share

MR. GLADSTONE ADREF. Y MAE gohebydd o Benarlag yn ysgrifenu i'r Wrex- ham Guardian am ddydd Sadwrn diweddaf, ar Mr. Gladstone adref, fel y canlyn:— "Y mae llawer wedi ei ddyweyd a'i yagrifenu yn ddiweddar ynghylch y Gwir Anrhydeddua W. E. Gladstone, o berthynas i'w gynnyrohion llenyddol diweddar, ei waith yn ymddiawyddo o arweinydd- iaeth y blaid Ryddfrydig, a pha gwrs gwleidyddol y mae yn debyg o gymmeryd rhag Haw. Y mae eich darllenwyr wedi clywed fod y boneddwr an- rhydeddua wedi gwneyd i ffwrdd a phrydlea ei dJ yn Llondain; ao iddo adael y brifddiDas ddydd Gwener diweddaf. Cyrhaeddodd Mr. Gladstone i Benarlag ddydd Sadwrn; ae mewn modd mor dawel fel nad oedd nemawr iawn o breawylwyr y pentref yn gwybod dim am ei ddyfodiad ar y pryd. Aeth y boneddwr anrhydeddua i'r eglwys ddydd Sul, ae yr oedd pawb yn tybied ei fod yn edrych yn lied wael. Nid ydyw blynyddoedd wedi tueddu i chwanegu dim at ysgafnder eamrau gwisgi a pher- son syth y Oyn-brif Weinidog; y mae yn gwargamu ychydig—nid llawer, yn ddiau, ond i an nad oedd wedi gweled y boneddwr anrhydeddus er's deng mlynedd, wrth wneyd cymmhariaeth A'r peth yr oedd y pryd hwnw, y mae i'w ganfod yn amlwg. Y mae Mr. Gladstone yn godwr boreu, ao y mae yn myned o gwmpaa yr hyn fydd ganddo i'w wneyd yn hynod o drefnus; ao felly, y mae yn gallu myned trwy gryn lawer o waith neu bleser, nea y ddau, a hyny mewn modd eysurus iawn. Y mae pobl sir Fflint, hyny ydyw, y mae nifer mawr o honynt, yn credn md yw y blaid Ryddfrydig wedi ymddwyn yn garedig tuag at Mr. Gladstone, y rhai a wasan aethodd efe am dymmor mor faitb, ao fel y tybiant hwy, mor dda; ao y maent yn ei ganmawl am ym. ddiswyddo o'r arweinyddiaeth. l'crchir a cherir y boneddwr aurhydeddus yn fawr gau ei gymmydog ion, ac y mae yntau yn hoff o ymddiddan yn awr ac eilwaitk a gweithwyr y lie. Hyny o ymarferiad eorphorol a gymmera, y mae yn etol, ei gyfyngu yn gyffredin o fewn y grounds sydd yn amgylchu y Castell-er fod ei etifeddiaeth yn ei alluogi i faroh- ogaeth am ryw ddeuddeng awr dros ei dir ei hun yn sir Fftint. Y mae tua hanner dwsin o lofeydd ar yr etifeddiaeth, a phob un yn dwya eIw da iddo; ao yn ystod y pythefnoa diweddaf, cyfodwyd tua 1,400 mwy o dynelli nag arferol yn nglofa y Pre- mier. Yr hyn a gyfodir ar gyfartaledd bob dydd o r pwll hwn ydyw tri chant a banner o dynelli. Ao y mae y gwaith hwn a'r gweithiau ereill yn llesol iawn i'r gymmydogaeth, yn gystal ag i berchenog yr etifeddiaeth. Mynegir yn MhenarIâg fod yr etifeddiaeth a adawyd yn adiweddar i Mr. Glad- stone yn werth 15,000p. yn y flwyddyn, a bod y boneddwr anrhydeddus a'i oruchwyliwr yn debyg o wneyd eyfnewidiadau, trwy ba rai y disgwylir y bydd i'w gwerth chwanegu o 3,000p. i 4,000p. yn y flwyddyn. Y mae Mr. Gladstone yn ymgadw yn hynod o neillduedig o fewn muriau y Castell, ond yn achlyaurol y mae yn gwncyd ei ymddangosiad mewn cyngherddau, darlithiau, &o., a roddir yn narUenfa PenarUg; ao y mae rhai o aelodau ei deulu yn cynnorthwyo ynddynt yn awr ao eilwaith, as yn cael eu mawr hoffi gan bobl yr ardal. Y mae pawb yn y gymmydogaeth hon yn mawr obeithio y bydd i Mr. Gladstone gael byw yu hir i fwynhau yr anrhydedd a'r cyfoeth y mae wedi eu hennill mor deilwng, ac y bydd i fiynyddoedd olaf ei fywyd gaol eu trenlio yn mhell oddi wrth gyffroadau a gofalon y Wladwriaeth a chyfrifoldeb gwleidyddol."

MANION 0 LEYN.I

[No title]

! LLANBEDR PONTSTEPHAN. I

Y BRIFYSGOL I GYMRU.

DINBYCH. I

I GLYNDYFRDWY.

[No title]

AGORIAD Y NEUADD I I GOFFADWRIAETHOL.…