Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Jmtna D'v dfddhu.

News
Cite
Share

Jmtna D'v dfddhu. Nos SADWRN. WltTH gwrs, prif destyn yr ymddiddau yn Llundain yr wythnos ddiweddaf oedd, pwy a gair i lanw "cadair Moses" y blaid Ryddfrydig yn Nby y Cyffredin; neu, mewn geiriau ereill, yn arweinydd y Ktiyd Ifryilwyr. Credaf fod grartd o gamgymmer- iad yn trynu yn mysg rhai pobi ar y pwngc hwn. Tybia. rbai mai eiaieu olynydd i Mr. Gladstone fol arweinydd cyffrediuol y blaid y sydd eisieu un i fod yn brif weinidog pe y digwyddai i Dizzy dori i lawr. Nid dyna sydd genym ei eisieu a hyny am y rheswm da fod genym yn barod un mewn golwg sydd yn cael ei gydnabod fel y cymmhwysaf i gym- meryd yr arweinyddiaeth gyffredinol, ao i fod yn Brif Weinidog pan gyfyd haul Rhyddfrydiaeth yn uweh i'r lan. Yr wyf yn cyfeirio at Arglwydd Granville. Efe, yn ol pob arwyddion, fydd olyn- ydd Mr. Gladstone. Ond yn Nhy yr Arglwyddi y mae efe yn eistedd pendefig yw Granville, ao ni chaniateir iddo symmud gwefus yn y Ty Isaf; a'r cweatiwn yw, Pwy a geir yn flaenor yno! Ardal- ydd Hartington, neu Mr. Forster. Ond pa un olr ddau ? Teimlad y cyflfredin, gellid tybio, yw mai y blaenaf. Efe yw y tebycaf o gael y nifer liosOcaf o'r blaid i woithio dano. Mr. Forster ydyw y gallu- o:af; ond y mae efe wedi pechu yn anfaddeuol" yn erbyn adran gref a dylanwadol yn y fyddin Ryddfrydig, sef yr Ymneillduwyr, ar gwestiwn addysg; a gormod o beth a fyddai disgwyl i ni ar hyn o bryd ymblygu iddo yn awr, beth bynag. Addefir na chafodd y Babaeth erioed ddyrnod. iadan caletach na'r rhai a roddir iddi gan Mr. Glad- stone yn ei erthygl ar areitbiau yr hen Bio Nono yn y rhifyn diweddaf o'r Quarterly. Dymodiau eelyd, diarbed, a didrugaredd ydynt. Dynoetha ynfyd- rwydd yr atbrawiaeth am anffaeledigrwydd yr "henlanga" bwhwmanlIyd yny modd mwyaf digSl. Anffaeledigrwydd yn siarad y fath ffwlbri! Ficer anfaeledig Crist ar y ddaear yn ymollwng i draethu y fath yabwrial gwirionffol 1 Nid oes y fath un i'w gael; a phe buasai, ni buasai mor ynfyd. Ond y mae y pab Pius y ix. wedi gwneyd hyny; ac nid oes neb wedi ceisio gwadu nad ei areitbiau ef ydynt; yn wir, fel ei areithiau dilys ef y cyhoeddir hwy, a ohawsant eu darllen ganddo cyn eu eyhoeddi. Dy- wed Mr. Gladstone nad yw yn amgen na dynyn bychan eyffredin, wadi ymbesgi ar fawl ynfydion Dechreu yr wythnos, bu yr Annibynwyr yn agor eu neuadd fawreddog yn Fariugdon street, er cof am y ddwy fil dewrion hyny "nad oedd y byd yu deilwng o honynt," a drowyd allan o'r Eglwys Wladol yn y flwyddyn 1662. Costiodd yr adeilad rhyw ddeuddeng mil a thrigain o bunnau (72,000p.), as o'r swm hwn y mae dwy a tbrigain (62,000p.) wedi eu talu. Bwriedir gwneyd y deng mil gweddill i fyny yn ddioed. Heb law bod yn golfadwriaeth am y "ddwy fil," bwriedir i'r neuadd newydd fod yn rhyw "ganolbwynt o undeb" i'r enwad Cyn. nulleidfaol, o leiaf, yn y brifddinas, a'r wlad yn gyffredinol; ae os nad ydys yn oamgymmeryd, yn yr adeilad hon y oynnelir cyfarfodydd blynyddol yr "Undeb Cynnulleidfaol" sydd newydd ei ffurfio yn y brifddinas. Blwyddyn i heddyw-mor gyflym y mae yr am" ser yn rhedeg !-yr ymddangosodd manifesto byth" gofiadwy Mr. Gladstone at ei etholwyr yn Green- wich, ao yr anfonodd Mr. Arthur Peel ei gylch- lythyrau at yr aelodau Rhyddfrydig i'w hysbysu fod y senedd i gael ei dadgorphori allan o law. A phwy fedr ddisgrifio y oyffro y taflwyd yr holl deyrnas i'w ganol cyn banner dydd ? Wedi yr holl siarad a'r taeru, o'r ddau tu, bid aiwr, y mae erbyn hyn yn sicr y caiff yr Arohesgob Manning, os bydd byw ac iach, hetan goch cardinal, ar ol y Pasc, beth bynag fydd ei gwerth. Dylai ei ohael bellach, pe na bae un rheswm dros ei rhoddi J iddo amgcn na siomedigaethau mynych a gafodd. Creadur main, tal, teneu, llym ei edrychiad; pa sawl gwaith y llusgwyd ef drwy gorbyllau siomiant am yr hetan hon ? Os oes gwreichionen o anrhyd- odd yn aros yu mynwes yr "hen langc" o'r Vati- can os nad yw ei gydwybod wedi ei adael yn gyt. angwbl i gymmeryd ei siawns-efe a rydd un iawn i'r "brawd ffyddlawn" o Westminster. Ond, dyna, nid yw yn ddim o'n busnes i siarad oyd- rhyngddynt; boed rhyngddynt hwy &'u haohos. Ni effeithiai na'i hetan, na'i hosanau cochion, bwysau pluen arnom ni, Brotestaniaid. Yr wythnos hon, terfynwyd un o'r achosion cyf- reithiol hynotaf a fu dan ystyriaeth llys barn erioed, hwyraoh, sef y Great City Libel Case. Rhyw flwydd- yn nen ddwy yn ol, gwnaeth Mr. Sampson, y golyg. ydd a ysgrifenai yr erthyglau a berthynent i farch- nad yr arian yn ninas Llundain i'r Times ymosod- iad ofnadwy ar anturiaeth fwnawl a ddygid yn mlaen yn rhywle yn nghanol eitbafion gorllewin, barthau Unol Daleithiau yr America. Daeth dyn o'r enw Mr. Rubery i'r wlad hon rhyw bedair blyn- odd yn ol i tfurtio owmpeini i gario y gwaith yn mlaen yn y rhandir bellonig hono. úwaith di- emwnt, a gemau o amrywiol fathau, meddid, yd- oedd ao o herwydd hyny, un ag ydoedd yn dra ennillfawr. Yr oedd cyflawnder o emau, meddid, i'w cael, o'r bron am ddim ond eu casglu ar wyneb y tir. Daeth i ghistiau Mr. Sampson, pa fodd bynag, nad oedd y cyfan ond swindle ddiegwyddor; ac am y gemau a'r perlau, a'r meini gwerthfawr oeddynt i'w cael ar hyd wyneb y tir am ddim ond 8U casglu, yr oeddynt oll wedi ea prynu yn Llun- dain a Paris, a'u cymmeryd drosodd i'r itaueich Americanaidd, fol abwyd i hyd-ddenu ao i dwyllo y cyhoedd. Dynoethodd Mr. Sampson hyn yn y modd mwyaf digel yn y Times; ond wrth wneyd hyny, cyssylltodd enw Mr. Rubery a'r twyll, gan ei gyhuddo ef o fod yn gwybod am y "perlau pryn." Yr oedd hyn yn enllib unioDgyrchol ar gymmeriad y gwr; ac nid dyma yr unig athrodiaeth a. pha un y cablwyd ef. Yn yr ysgrifau athrodgar, gelwid ef yn fflrleidr (pirate) hefyd, ar y soil ei fod ef ao ereill wedi ffitio Hong allan yn San Francisco i ym- ladd o blaid y Deheu yn adeg y rhyfel cartrefol yn America, pryd y aawsant eu dal a'u dedfrydu i udeug mlynedd o garchar, 110 i dalu dirwy o ddeng IIlilo ddoleri. Ond rhyddhawyd hwy, a chawsant bardwn, ar gais y Gwir Anrhydeddus John Bright. Dyma'r fl'eithiau, fel y oyhoeddwyd hwy yn y Times. Trodd y gyfraith yn yr achos presennol o blaid Mr. Kubery; a cbafodd bum cant o buunau o iawn, a chyflawnhawyd Mr. Rubery—nad oedd efe yn ad- Oabyddus o'r twyll, er yr addeiir fod rhywrai neu gilYd(I wedi ni.,io twyllo y wlad, gan mai "perlau pryu" oeddyiut, wedi eu gosod yno. Yr (6dd y arwn Grant hefyd yn dal cyssylltiad ft'r helynt. ef yn blaid yn y cwmni; ond gadawodd af, a chld proli mai ofe oedd wedi dylauwadu ar Samp- 80111 ledeg y concern i lawr." Amcenid proli hyn trwy dystio ei fod wedi dyweyd ei fod ganddo ef o dan ei fawd, ac y gallai gael ganddo ganmawl neu gondemnio unrhyw,anturiaeth. Ceisio profl hefyd ei fod'wedi rhoddi symiau mawrion o arian i Mr. Sampson am gyflawoi y cyfryw weithredoedd. Ond rhyddhawyd y Barwn oddi wrth bob bai ynIJn a'r acbos; ac yr ydym yn deall fod y Times wedi dad- gan ei anghymmeradwyaeth o'r ffeitbiau drwy dori pob cyssylltiad 4 Mr. Sampson. Yn ol barn clybiau y ddinas hon, y mae araeth Mr. Bright wedi ei gwneyd yn ammhossibl i Mr. Forster gael ei ddewis gan y rbai mwyaf Rhydd- frydig o aelodau y senedd fel arweinydd yn NhJ y Cyffredin. Y mae ei gondemniad o'r Eglwys Sef- ydledig, a'i sylwadau arni, yn eglur ddangos mai dyna fydd un o'r prif gwestiynau nesaf, er gwaethaf pawb a phobpeth. Dywedir fod Mr. Gladstone wedi ysgrifenu llyth- yr at aelod pwysig o'r senedd, yn yr hwn y mae yn dadgan ei farn mai yr Ardalydd Hartington ydyw y cymmhwysaf i fod yn olynydd iddo fel arweinydd yn NhJ y Cyffredin.

DYFFRYN NANTLLE.I

CLOCAENOG, GER RHUTHYN.

BEDDGELERT.

[No title]