Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
"" "Y CYNNWY3IAD. Ii
Y CYNNWY3IAD. Ii Digwyddladau £ Troseddan a Damwelniau 2 Djfodiad Mr. J. Howel Gee i'w oed Y Dayre, Wallkof .n 3 IIIr. GladsbnG ar Arethlall y Pab 3 Fiif Eithyglau .n 4 Newyddion Oymrelg 4 Llythyr Gohebydd Deheudit 5 Barddonlaeth 6 uarcbnadoedcl 6 Goheblaethau 7 HyebyBladau n. n..n n. 8 I
[No title]
DYDD Gwener diweddaf, cymmerodd etholiad; bwrdd ysgol Caerdydd le. Teimlid dyddor- deb anghyffredin yn yr ymdrechfa gan holl boblogaeth y dref a'r gymmydogaeth. Ter- fynodd mewn buddugoliaeth hollol i'r blaid Ryddfrydig ac Angbydffurfiol. Dychwelwyd, chwech o gefnogwyr addysg ansectaraidd, tri: Eglwyswr a dau Babydd. Felly, y mae gan y blaid Ryddfrydig fwyafrif ar y bwrdd.! Cynnyrchodd y canlyniad hwn lawenydd mawr yn mhlith holl Ymneillduwyr a Rhydd- frydwyr y dref.
[No title]
Dydd Sul diweddaf, traddododd Deon STANLEY bregeth nodedig yn eglwys Mr. FREMANTLE, yn Bryanston square, Llundain. Pwnge y Deon oedd abertb, a dywedodd yn eglur iawn ei fod ef yn credu fod gan leygwyr gymmaint o hawl i offrymu aberth Cristion- ogol y Cymmun Sanctaidd ag sydd gan y clerigwyr. Cynnyrchodd y mynegiad hwn o'i eiddo syndod nid bychan yn mhlith y gwrandawyr. Disgwylir y bydd i'r Chureli Herald a'r Church Tims wneyd ymosodiadau llymion arno am hyn.
[No title]
? V Ymddengys fod Cynghrair St. Sebastian— amcan yr hwn ydyw adferu gallu tymmorol y Pab trwy rym arfau-mor weithgar yn awr, ag erioed. Cerir ef yn mlaen gan y Jesuit- iaid, yr offeiriaid, a'u cefnogwyr. Arferant bob ymdrech o fewn eu gallu i ddylanwadu ar y bobl a'u llywodraethwyr i ymuno a hwynt, ac i barotoi erbyn yr ymdrechfa. Nid; ydyw Dr. MANNING yn ceisio celu amcanion y Cynghrair, ac ymddengys ei fod er's llawer o amser wedi meddwl am rhyw beth o'r fath. Ychydig flynyddoedd yn ol efe a anerchodd ei gyd-esgobion fel hyn:—"Da i ni ydyw bod yma yn Lloegr. Eich gwaith chwi, Wir Barchedig Dadau, ydyw darostwng a gorch- fygu, plygu a thori ewyllys cenedl ymherodr- ol." Yn nechreu y flwyddyn ddiweddaf efe a anerchodd gyfarfod a gynnaliwyd yn Willis's Room, ar ran y cynghrair yn y geirlau canlynol: Yn awr, pan y mae cenhedloedd Ewrop wedi gwrthryfela ac wedi diorseddu ficer Iesu Grist, y mae un ffordd i benderfynu yr anhawsder-ffordd, yr wyf yn ofni, y rhaid i ni ei mabwysiadu—a hono ydyw y fflangell ddychrynllyd o ryfel ar y Cyfandir. Nid wyf yn gweled pa fodd y gellir gochelyd hyn. Y mae cenhedloedd Ewrop wedi eu tynghedu i weinyddu barn ar eu gilydd, dichon y saif Cynghrair St. Sebastian, yn gwisgo eu hen ddillad llwydion a thlodaidd, unwaith etto yn ymyl gorsedd Pio NONO, yn nghanol gwawr- iad yr adferiad hwnw." 0 fewn y tri mis diweddaf, eyfeiriodd y newyddiadur Pabaidd, a elwir Weekly Register, yr hwn sydd yn ddangosiad ffyddlawn o syniadau ei olygwyr &'i gefnogwyr, at yrflrestriad gwirfoddoliaid yn yr Iwerddon, a dywedodd:—"Os byth y bydd Pio NONO, neu ei olynydd, yn galw am gymmhorth arfog yn erbyn ysbeilwyr yr E- gobaeth Sanctaidd, ni bydd yr Iwerddon ar ol mewn ufudd-dod i'r alwad." Nid oes un ammheuaeth nad ydyw y Jesuitiaid a'u cefn- ogwyr yn ddigon lliosog ac yn ddigon rhyfyg-' us i gyffroi Pabyddion Ewrop i fyned i ryfel etto, fel y gwyddom yn awr, ar sail tystiolaeth y Tywyeog BISMARO, eu bod wedi gwneyd yn fynych yn eim hamser ni; a'n doethineb ydy w, arfer pob moddion rhagocheliadol o fewn ein cyrhaedd er attal y cyfryw drychineb. Y mae Rhufain yn cario allan ei gwladlywiaeth yn mhob gwlad lie y mae yn meddu awdur- dod. Nid oes dim terfyn ar ei dichellion a'i gweithgarwch. Fel y dangosodd Mr. GLAD- STONE, yn ei bamphled diweddar, nid ydyw yn amcanu at ddim llai nag uchafiaeth eyff- redinol. Ceisir cyrhaedd hyn yn ddigel gan Bab, yr hwn sydd wedi condemnio pob math o ryddid gwladol a chrefyddol. Yn ei gy- hoeddiad diweddar haera y dylai swyddogion egtwysig fod yn rhydd oddi wrth awdurdod wladol, ac y mae yn condemnio pawb a'u dwg hwynt o flaen llysoedd gwladol. Egymmuna I bawb a attaliant gyhoeddiad ei ddedfrydau, neu a wnant c'lim i'w hattal rhag cael eu cario allan, a hereticiaid o bob math, a phawb a wrthodant ufuddhau iddo ef. Dydd Mercher diweddaf, cynnaliodd Cynghrair Sant Sebastian ei phedwerydd cyfarfod blyn- yddol. Llywyddid gau Syr GEOROE BOWYER. Cadwyd y gweithrediadau yn ddirgelaidd. I
[No title]
Mewn araeth a draddodwyd ganddo wrth I agor ysgol berthynol i Fwrdd Ysgol Llundain ) yn Bethnal Green, dywedodd y Proffeswr FAWCETT fod Bwrdd Ysgol yn mhob tref fawr, ac y gellid cyfrif fod 78 y cant o boblogaeth drefol Lloegr a Chymru dan Fyrddau Ysgol i a deddfau Ileol gorfodaeth; ond pan y trown at ddosbarthiadau lleol, gwelwn nad oes dim I un mewn cant yn-meddu Bwrdd Ysgol; a lie nid oes un Bwidd, nid oes un moddion i orfodi rhieni i anfon eu plant i ysgolion. N is gall hyn lai na gwneyd niwed t'r trefydd, canys un o amgylchiadau hynotaf yr oes hon ydyw yr awydd anghyffredia a ddangosir gan bobl- ogaeth y wlad i ymfudo i'r trefydd; ac felly, os goddefir i anwybodaeth ffynu yn y dos- barthiadau gwledig, ni erys yn y man lie y gwreiddiodd, ond ymleda fel dylanwad niw- eidiol yn mhell ac yn agos, a theimlir y dylanwad gan yr holl drefydd He y gwneir y fath ymdrechion mawrion i ledaenu addysg. Cyfeiriodd !mewn iaith gref a digofus at y gwrthwynebiad a ddangosir gan glerigwyr Eglwys Loegr i Fyrddau Ysgol, a dywedodd eu bod drwy hyn yn cryfhau ochr eu gwrth- wynebwyr.
[No title]
Dydd Gwener diweddaf cynnaliodd perch- enogion gweithydd glo Deheudir Cymru a Sir Fynwy gyfarfod yn y Gwestty Brenhinol yn Ngbaerdydd. Yr oedd nifer dda o'r perchen- ogion yn bresennol. Llywyddid gan Mr. FOTHERGILL, A. S. Parhaodd y gynnadledd am agos i dair awr, yn ystod yr hon y gwnaed amryw o awgrymiadau. Nid oedd neb yn ffafriol i wneyd gostyngiad pellach ar hyn o bryd.. Cymmerodd dadl ddifrifol le ar y cwestiwn pa un a gloid yr holl lowyr allan; ond ni ddaethant i un penderfyniad arno. Penderfynwyd fod i gyfarfod cytfredinol o'r holl aelodau gael ei gynnal yr wythnos hon. 4 k
[No title]
Y mae Dr. NEWMAN newydd gyhoeddi pamphled mewn ffordd o attebiad i bamphled; Mr. GLADSTONE. Ereifodefynawrynhen ddyn—yn ddeuddeg a thrigain mlwydd oed- y mae ei feddwl mor fywiog a nerthol ag erioed. Cynnwysa ei bamphled 130 o du- dalenau, ac y mae yn atteb cyhuddiadau Mr. GLADSTONE yn erbyn y Babaeth mewn dull boneddigaidd, ond hynod o wanaidd. Nod- weddir ei attebiad ar y prif bwngc mewn dadl gan gryn lawer o gyfrwysdra. Yn lie eu cyfarfod yn deg, y mae yn eu gochelyd, ac yn cilio yn bwyllog o'i ffordd. Nid ydyw yn debyg y rhydd ei bamphled foddlonrwydd i'r! U ch-Babyddion. Nid oes ond ychydig iawn o gydymdeimlad rhyngddynt hwy ag ef. Barnant nad ydyw yn myned yn ddigon pell yn ei syniadau fel Pabydd; le, ofna rhai o honyntnad ydyw yn Babydd ffyddlawn. Haer- ant ei fod yn Brydeiniwr rhy dda i fod yn Babydd da. Modd bynag, nid ydyw yn debyg y gwna ei bamphled un lies i'r aclios a amddiffynir ganddo. Nid ydyw ond yn unig I yn dangos ei wendid.
[No title]
Prydnawn ddydd Iau y 14eg o'r mis hwn, cyrhaeddodd Brenin ALPHONSO i Madrid, a chafoad y derbyniad mwyaf brwdfrydig. Yr oedd banerau a rubanau yn crogi o'r holl ffenestri o orsaf y ffordd haiarn i'r Palas, ac yn arddangos y llawenydd mwyaf. Ni wel- wyd erioed y fath dorfeydd aruthrol oedd yn cyrchu yno o bob parth o'r wlad i weled yr olygfa. Cerddai minteioedd o filwyr yn ol ac yn mlaen trwy'r heolydd. Am ddeuddeg o'r glochi-aeth gorymdaith fawreddog o swydd- ogion milwraidd uchel o Swyddfa Rhyfel i gyfarfod ei Fawrhydi yn yr orsaf, lle'r oedd y clerigwyr, swyddogion y ddinas, ac amryw o ddirprwyaethau wedi ymgynnull. Dywed gohebydd y Daily News fod y cyfarfod yn un digyffelyb o ysblenydd. Pan oedd y tren yn dyfod i mewn i'r orsaf, taniwyd y mag- nelau, a rhoddwyd banllefau uchel a hirfaith o gymmeradwyaeth. Yn fuan ar ol hyny, esgynodd y Brenin ar gefn ei geffyl, ac efe a aeth trwy'r hoelydd i'r Palas. Yn y nos, goleuwyd y ffenestri yn y modd mwyaf ysblenydd. Dydd Mawrth diweddaf aeth y brenin i Saragossa, ar ei daith i ymuno a byddin y gogledd. Gwneir ymdrechion egniol, meddir, i waredu Pamphlona, ac yr oedd mil- wyr i gael eu banfon ymaith gyda'r amcan hwnw ddydd Sadwrn diweddaf. Mynega telegram o Madrid na bydd i'r brenin newydd ymyryd mewn un modd & materion crefyddol. Ystyrir nad ydyw rhyddid crefyddol mewn un perygl yn Yspaen tra y pery SENOR CAN- OVAS DEL CASTILLO mewn awdurdod. Dydd Sadwrn diweddafllawnododd y Brenin ieuangc ddeddf yn pennodi cyflogau yr offeiriaid Pabaidd, ac ar yr un pryd dywedodd y bendant ei fod yn ddiffuant yn dymuno, tra yn rhoddi parch a chynnaliaeth i'r offeiriaid Pabaidd, gadw rhyddid crefyddol fel yr oedd yn hanfodi yn y rhan fwyaf o'r goxleld gwar- eiddiedig.
[No title]
Yn heddlys Caerdydd ddydd Llun, cyhudd- wyd morwr Italaiddo'r enw LUIGI CASAMIGLIA o geisio trywanu yr heddgeidwad ROGERS y nos Sadwrn blaenorol, tra yn cyflawni ei ddyledswyddau. Dywedai ROGERS fod un o dafarnwyr Mary-street wedi anfon am dano i ddyfod yno i gymmeryd dyn i'r ddalfa am dori gwydr y ffenestr. Efe a wnaeth hyny; ond pan ar y ffordd i orsaf yr heddgeidwaid gyda'i garcharor, wele y carcharor presennol -yr Italiad—yn dyfod o'r tu ol iddynt yn Caroline-street, ac yn gosod ei law ar ysgwydd y carcharor cyntaf, gan wneuthur ymdrech i'w waredu o'i afaelion. Dywedodd yntau wrtho am fyned ymaith, a thynu^ei law oddi ar ysgwydd y dyn; a thybiodd ei fod wedi myned. Yn hyny, yr oedd yn camgymmeryd, pa fodd bynag, o blegid pan tua banner y ffordd i'r orsaf, clywai leisiau o'r tu ol yn gwaeddi "Gwyliwch, blisman, y mae yna! dramorwr o'r tu ol i chwi gyda chylleU yn ei law." Edrychodd yntau drach ei gefn, a chanfu yr Italiad o'i ol gyda chyllell morwr anferth yn ei law. Wynebodd ef, gan barhau i ddal gafael yn ei garcharor &'i law aswy; a gwnaeth y tramorwr ymgais i'w drywanu, yr hyn a ochelodd efe drwy neidio o'r neilliu. Yna efe a dynodd ei bastwn allan, gan barhau o hyd i ddal ei afael yn dyn yn ei ddyn. RhuthrOdd yr Italiad ato eilwaitb, ond rhoddodd ef ddyrnod iddo yn ei ben a'i bastwn, t diangodd heb ei glwyfo y waith hon dracbefa. Cyn pen ychydig eiliadau daeth! yr estron mileinig ato y drydedd waith; a chan ei fod yn canfod ei hun mewn enbyd- rwydd, efe a ollyngodd ei garcharor yn rhydd er mwyn bod yn fwy abl i gyfarfod ei ymos- odydd. Gwnaeth yr Italiad ymgais deg i'w drywanu, ond derbyniodd ef y ddyrnod ar ei lamp; a'r fath ydoedd nerth y ddyrnod, modd bynag, fel yr aeth y gyllell yn mron' drwy y llusern. Tarawodd yntau ef ar ei fraich a i bastwn nes oedd y gyllell yn syrthio oi law, a rhuthrodd atto. Yr un adeg, wele Mr. THOMAS WILLIAMO, swyddog marawl yn dyfod i'r lie, a gafaelodd yntau hsfyd yn yr anwarddyn o'r Ital o'r tu ol, a chymmerwyl ef ganddynt i'r orsaf. Rhoddodd yr ynadon y ganmoliaeth uchaf i'r swyddog am ei ddewr- der, ac i Mr. WILLIAMS hefyd am y rhan a gymmerodd yntau yn yr helynt, a chaniata- odd y faingc ddeg swllt o wobr iddo. Yr unig beth oedd gan y carcharor i'w ddyweyd mewn hunan-amddiffyniad ydoedd ei fod yn feddw ar y pryd, ac y gallai ei fod wedi gwneyd defnydd o'i gyllell; ond nad oedd yn gwybod dim pa beth a wnaethai. Traddod- wyd ef i sefyll ei %rawf-yn y frawdlys chwar- terol. ——————.
[No title]
Nos Wener diweddaf, anerchodd Mr. TREVELYAN, A. S., etholwyr Selkirk. Wrth gyfeirio at ymddiswyddiad Mr. GLADSTONE oddi wrth arweinyddiaeth y blaid Ryddfrydig, gofidiai yn dJwys o herwydd colli ei dalentau ysblenydd, a thalodd deyrnged uchel^'w was- anaeth cyhoeddus pwysig. Teimlai nad doeth oedd trafod y cwestiwn personol gyda golwgar ei olynydd, a gobeithiai Ife (Mr. TREVELYAN) eijaod yn anamserol. Ni wyddai pa fodd y dewisid yr olynydd hwnw; ond yr oedd efe yn sicr y cefnogid ef yn galonog, a hyderai yn unfrydol, os byddai yn feddiannol nid yn unig ar gymmhwysderau deallawl ond cym- mhwysderau moesol hefyd; ac wedi profi yn ystod ei yrfa ei fod yn deilwng o bob ymddir- ied fel arweinydd. Yn mhresennoldeb y cyfryw ddyn, cleddid pob aDghyttundeb per- sonol yn siriol gan bob un teilwng o'r enw cynnrychiolydd etholwyr Rhyddfrydig. A
[No title]
Y mae Esgob Pabaidd Salford wedi es- gymmuno Mr. HENRY PETRE; ac er fod yr olygfa yn un eithaf at nymunol, nis gallwn ddyweyd eitl bod yn cydymdeimlo ond yeh, cli, a Mr. PETRE, sefyllfa yr hwn sydd yn hollol anniffynadwy. Cyfaddefa ei fod yn parhau i lynu wrth y grefydd y magwyd ef ynddi, ond rhydd ar ddeall ei fod wedi ei daraw A syn- dod gan Ddedfrydau Llys y Pab. Ond ni bu erioed amser yn hanes Pabyddiaeth pan y goddefai i'w haelodau fwynhm rbyJdid barn bersonol. Ni chaniataai ffyddlondeb i eg- wyddor sylfaenol ei gyfundeb i Esgob Salford wneyd dim heb law troi Mr. HENRY PETRE allan o hono. Sylwa y Times fod tynged Mr. PETRE yn taflu "goleuni dinystriol" ar sefyllfa y l'hai y mae efe wedi eu gadael ar ei ol. Y mae pob lleygwr, a ddrwgdybir o goleddu yr ammheuaeth lleiaf yn ei feddwl, pa un a ydyw Eglwys Rhufain yn meddu hawl i wneyd deffiniadau o ffydd-hyny yw, i gy- hoeddi athrawiaethau y rhaid eu credu-i gael eu holi gan ei offeiriad; ac os na all efe atteb yn foddhaol, i gael ei esgymmuno. Marwolaeth dragwyddol, a phoen dragwydd- ol, a fydd nid yn unig i'r hwn a ammheua gymmaint ag un gair o eiddo y Pab, a draetn- wyd yn y ffurf a'r dull a fabwysiadwyd yn 1854, ond hyd yn oed i'r hwn a dybia ei bod yn bossibl i unrhyw air a draethwyd fally beidio bod rhag llaw yn rhwymedig ar tfydcl a chydwybod pob lleygwr. Dyledswydd pob lleygwr ydyw peidio gwneyd ymchwihad, peidio darllen, peidio "chwilio yr Ysgryth- yrau"—yn ol esampl ardderchog peidio siorhau terfynau rheswm a ffydd, poidlo gwybod o gwbl beth y mae efe yn ei gred,a. a beth nad yw yn ei gredu." Ond Did oes dIm newydd yn hyn oil. Dyna fu Eiefyllfa Y IleYg- wyr bob amser yn Eglwys Rhufain. Nid ydych i feddwl yma," oedd, ac ydyw, yr ar. ysgrifen Bydd yn ysgrife»edig uch. ben el phyrth. Betb, er eampl, ydyw y,ffalth gyda golwg ar leygwyr Italy, Ffra.ngc, iC YraeDt Nid ydynt yn gwybod dim am dduwmydd- iaeth na llenyddiaeth y Beibl; a byddai ar- nynt gywilydd cyfaddef eu bod yn teimlo dyddordeb ynddynt neu yn gydnabyddus a hwynt.